Ar 31 Mawrth 2007 daeth Rhaglen Band Eang Cymru i ben.
Lansiwyd y rhaglen bum mlynedd yn ôl gan Andrew Davies, AC y
Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd. Wrth i Raglen Band Eang Cymru
ddod i ben bydd Arsyllfa Band eang Cymru yn cau hefyd.
Crewyd Arsyllfa Band Eang Cymru oherwydd gwelwyd yr angen am
gorff annibynnol i fonitro a darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar
dystiolaeth am gynnydd ynghyd â materion eraill er mwyn bodloni
targedau Rhaglen Band Eang Cymru.
Ym mis Medi 2003 fe wnaeth Uned Band Eang Cymru gyflwyno
tender am 'Arsyllfa' (drwy gyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd
sef OJEU). Canlyniad y broses OJEU oedd dyfarnu'r contract i
Ganolfan Arloesi E-Fasnach Prifysgol Caerdydd (eCIC). Cychwynnodd y
contract ar 19 Ebrill 2004 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2007.
Yn ystod y cyfnod hwn casglodd yr Arsyllfa wybodaeth am y byd
telathrebu yng Nghymru ac mewn gwledydd tramor. Y wefan hon oedd y
porth a ddatblygwyd i fanteisio ar y setiau data hyn. Wrth barhau i
roi mynediad at y wefan hon mae'r rhaglen yn cydnabod y gwaith
pwysig a wnaed gan yr Arsyllfa yn ystod y tair blynedd ers ei
sefydlu.
Mae'r elfen o gofrestru "Mannau sy'n cael anhawster i dderbyn
band eang" ar y wefan wedi parhau yn 'fyw' er mwyn i bobl Cymru
fedru parhau i gofrestru eu hanghenion o ran band eang. Serch
hynny, mae gweddill y safle bellach wedi'i harchifo ac mae'r holl
wybodaeth yn parhau o fewn cyrraedd.