Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan

           Croeso i Arsyllfa Band Eang Cymru


Ar 31 Mawrth 2007 daeth Rhaglen Band Eang Cymru i ben. Lansiwyd y rhaglen bum mlynedd yn ôl gan Andrew Davies, AC y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd. Wrth i Raglen Band Eang Cymru ddod i ben bydd Arsyllfa Band eang Cymru yn cau hefyd.
 
Crewyd Arsyllfa Band Eang Cymru oherwydd gwelwyd yr angen am gorff annibynnol i fonitro a darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am gynnydd ynghyd â materion eraill er mwyn bodloni targedau Rhaglen Band Eang Cymru.
 
Ym mis Medi 2003 fe wnaeth Uned Band Eang Cymru gyflwyno tender am 'Arsyllfa' (drwy gyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd sef OJEU). Canlyniad y broses OJEU oedd dyfarnu'r contract i Ganolfan Arloesi E-Fasnach Prifysgol Caerdydd (eCIC). Cychwynnodd y contract ar 19 Ebrill 2004 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2007.
 
Yn ystod y cyfnod hwn casglodd yr Arsyllfa wybodaeth am y byd telathrebu yng Nghymru ac mewn gwledydd tramor. Y wefan hon oedd y porth a ddatblygwyd i fanteisio ar y setiau data hyn. Wrth barhau i roi mynediad at y wefan hon mae'r rhaglen yn cydnabod y gwaith pwysig a wnaed gan yr Arsyllfa yn ystod y tair blynedd ers ei sefydlu.
 
Mae'r elfen o gofrestru "Mannau sy'n cael anhawster i dderbyn band eang" ar y wefan wedi parhau yn 'fyw' er mwyn i bobl Cymru fedru parhau i gofrestru eu hanghenion o ran band eang. Serch hynny, mae gweddill y safle bellach wedi'i harchifo ac mae'r holl wybodaeth yn parhau o fewn cyrraedd.