Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan >

Rhaglen Band Eang Cymru


Lansiwyd Rhaglen Band Eang Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2002 fel rhaglen flaenllaw, gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn para dros bum mlynedd.

 

Nod y Rhaglen oedd i ategu rhagolwg economaidd cadarnhaol i Gymru trwy fynd i'r afael â 'methiant y farchnad' fel y nodwyd yn yr adroddiad 'Ubiquitous Broadband Infrastructure for Wales' a gomisiynwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru yn 2001.
 

Strategaeth Rhaglen BEC

Cynhaliodd Uned Band Eang Cymru Adolygiad Strategol o'r Rhaglen yn ystod haf 2004.  Cafodd argymhellion [PDF - 34Kb] yr adolygiad, a gyflwynwyd i Bwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 22ain o Fedi 2004 eu cymeradwyo'n unfrydol.
 
Mae'r strategaeth hon yn ceisio gosod targedau pellach ar gyfer 2005 – 2007 sy'n ymestynnol o ran cynnydd ac uchelgais.
 

Mentrau Rhaglen

Mae rhaglen Llywodraeth y Cynulliad – Rhaglen Band Eang Cymru – wedi dechrau nifer o fentrau sy'n mynd i'r afael â phynciau ar ochr y cyflenwad ac ar ochr y galw.
 

Newyddion am y Rhaglen BEC

Newyddion a datganiadau i'r wiasg sy'n ymwneud a rhaglen band eang Cymru.

 

Adroddiadau Datblygiad BEC

Mae'r adroddiadau yma yn amlinellu datblygiad rhaglen band eang Cymru.