Geirfa
ADSL (Llinell Anghymesur Tanysgrifiwr
Digidol) - technoleg xDSL a ddefnyddir i drosglwyddo data
yn gyflym. Mae'r dechnoleg hon yn troi llinell ffon sy'n cynnwys
par o wifrau copr cordeddog (dolen leol) yn gysylltiad rhyngrwyd
cyflym, nad yw byth yn diffodd, a all gario llais a data ar yn un
pryd. Fe'i elwir yn 'anghymesur' gan fod data'n symud yn gyflymach
i'r naill gyfeiriad na'r llall h.y. caiff data ei drosglwyddo'n
gyflymach o'r gyfnewidfa ffon leol i'r defnyddiwr terfyn neu'r
tanysgrifiwr band eang (llwytho i lawr), nag y caiff o adeilad y
defnyddiwr terfyn i'r gyfnewidfa (llwytho i fyny)
Mae ADSL yn gweithio drwy neilltuo rhan o'r lled band ar
gyfer trafnidiaeth llais a'r rhan arall ar gyfer data. Mae holltwyr
sydd ar ddau ben y llinell yn dileu'r rhannau o'r signal nad oes eu
hangen.
Gall ADSL gefnogi cyfraddau llwytho i lawr hyd at 10Mbps dros
linellau ffon sydd mewn cyflwr da ar bellter llinell hyd at 3.4
milltir (5.4 cilomedr), er bod y cynhyrchion safonol sydd ar gael
heddiw ar farchnad y DU yn llwytho i iawr ar gyfradd o 0.5, 1 neu
2Mbps. Caiff lled band llinell ADSL ei rhannu fel a
ganlyn:
|
0 – 5 kHz
|
Llinell ffon analog
|
|
30 kHz – 130 kHz
|
Sianel band cul i gyfeiriad y rhwydwaith (llwytho i
fyny)
|
|
30 kHz – 1.1 MHz
|
Sianel band eang i gyfeiriad y defnyddiwr terfyn neu'r
tanysgrifiwr (llwytho i lawr)
|
Mae lledd band yn dirywio'n gyflym gyda hyd y llinell, sy'n
golygu y cyfyngir defnyddwyr band eang sydd dros 3.8 milltir (6
cilomedr) o'u cyfnewidfa ffon leol i 1Mbps neu lai.
ADSL 2 - esblygiad o'r dechnoleg ADSL, sy'n
galluogi cyfradd uwch o drosglwyddo data. Gall ddarparu cyflymderau
llwytho i lawr hyd at 12Mbps dros un par copr hyd at filltir (1.6
cilomedr) o'r gyfnewidfa ffon, neu 24Mbps hyd at filltir (1.6
cilomedr) gan ddefnyddio 2 bar copr wedi'u rhwymo a'i gilydd.
ADSL 2+ (ADSL ag ystod band estynedig) -
esblygiad o'r dechnoleg ADSL 2 sy'n galluogi cyfradd uwch o
drosglwyddo data. Gall ddarparu cyflymderau cysylltiad llwytho i
lawr o 26Mbps o fewn 0.6 militir (1 cilomedr) o'r gynewidfa ffon,
gan ostwng i ryw 12.5Mbps ar gyrhaeddiad o 1.1 milltir (1.8
cilomedr). Mae'r lled band uwch yn galluogi defnyddwyr i gael
cymwysiadau lled band uchel lluosog, gan gynnwys teledu band eang,
yn gydamserol. Mae lled band yn dirywio'n gyflym gyda phellter
llinell dros 1.6 milltir (2.5 cilomedr) o'r gyfnewidfa, ac ar
gyrhaeddiad o 2.8 milltir (4.5 cilomedr) nid yw'n cynnig unrhyw
fantais o ran cyflymder ar ADSL. Mae ADSL 2+ yn defnyddio signal o
2.2MHz.
Band eang - term sy'n cael ei ddefnyddio'n
gyffredinol i olygu cysylltiad rhwydwaith o led band uchel sydd
ymlaen bob amser ac sy'n defnyddio un o blith amrywiaeth o
dechnolegau. Mae band eang yn cyfeirio at delathrebu lle mae band
eang o amleddau'n cael ei ddefnyddio i drawsyrru data. Mae'r band
llydan yn caniatau i ddata gael ei anfon ar lawer o amleddau
gwahanol yn y band ar yr un pryd, gan ganiatau i fwy o ddata gael
ei anfon mewn cyfnod penodol o amser.
Band eang y genhedlaeth gyntaf - term sy'n
cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwasanaethau band eang sydd a
chyflymder lawrlwytho anghymesur rhwng 512kbps a 2Mbps a chyflymder
llwytho i fyny rhwng 256kbps a 512kbps.
Band eang yr ail genhedlaeth - term sy'n cael ei
ddefnyddio i ddisgrifio gwasanaethau anghymesur sydd a chyflymder
lawrlwytho rhwng 2Mbps a 10Mbps a chyflymder llwytho i fyny rhwng
512kbps ac 1Mbps yn ogystal a gwasanaethau cymesur sydd a
chyflymder lawrlwytho a llwytho i fyny o 2Mbps neu fwy.
Cebl - mae'r dechnoleg band eang cebl yn
defnyddio'r un rhwydwaith cebl cyfechelog a ffibr hybrid sy'n cario
signal teledu cebl. Mae'r term hybrid yn nodi y defnyddir ffibr i
gario signalau o leoliad gwasanaethu i faestref tra defnyddir cebl
cyfechelog i gario'r signalau teledu a band eang o'r faestref i
adeiladau'r defnyddwyr terfyn. Mae cyfraddau llwytho i lawr hyd at
50Mbps yn bosibl drwy fand eang cebl a disgwylir y bydd
gwasanaethau 10Mbps ar gael yn 2005. Yn y cyfamser, cynigir
gwasanaethau 150kbps i 4Mbps gan weithredwyr cebl yn y DU
heddiw.
Cyflymder ffibr - term sy'n cael ei
ddefnyddio i ddisgrifio gwasanaethau band eang anghymesur sydd a
chyflymder o 10Mbps a throsodd.
Deialu (Band cul) - mae hyn yn cyfeirio at
ddefnyddio llinell ffon a modem i gael mynediad i wasanaeth
rhyngrwyd. Mae modem band cul yn cefnogi cyfradd llwytho i lawr o
56kbps ar y mwyaf, a chyfradd llwytho i fyny o 33.6kbps ar y
mwyaf.
Diwifr - term sy'n disgrifio technolegau band
eang lle trosglwyddir data ar don radio a microdonnau, h.y. nid oes
unrhyw gysylltiadau materol rhwng dyfeisiau'r rhwydwaith. Mae
amrywiaeth o wahanol fathau o fand eang diwifr gan gynnwys FWA,
Wi-Fi a Wi-Max.
Dolen leol - y cysylltiad rhwng cysylltiad
ffon neu ddata tanysgrifiwr unigol a swyddfa ganolog y gweithredwr
telathrebu neu derfynfa leol arall. Cyfeirir ati weithiau fel 'y
filltir olaf'.
DSLAM (Amlblecsydd Mynediad Llinell
Tanysgrifiwr Digidol) - darn o offer a osodir mewn cyfnewidfa
ffôn, sy'n troi llinell ffôn yn
gysylltiad band eang xDSL.
FWA (Mynediad Diwifr Sefydlog) - cyswllt ton
radio neu ficro-don pwynt-i-bwynt a'r cartref neu'r swyddfa o safle
cell neu ganolfan sylfaen. Gellir defnyddio mynediad diwifr
sefydlog ar gyfer ol-dynnu cellol, WANs preifat ac ar gyfer
cysylltedd 'milltir ddiwethaf' ag adeiladau.
Ffibr - mae llinell ffibr optegol yn cynnwys
craidd o silindr gwydr tenau iawn gyda haen gonsentrig o wain wydr
o'i amgylch. Trosglwyddir data ar hyd llinellau ffibr ar ffurf
pylsiau o olau modyledig. Mae'n bosibl y gellir trosglwyddo ystod
band cymaint a 2.5Gbps drwy ffibr.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd ffibr gan weithredwyr telathrebu
cyhoeddus yn eu rhwydweithiau telathrebu craidd ac fe'i werthwyd
fel 'llinellau un pwrpas ar brydles' i gwsmeriaid corfforaethol a
sector cyhoeddus i'w ddefnyddio yn eu rhwydweithiau ardal eang
preifat.
Mae amrywiaeth o wahanol fathau o ffibr band eang (FTTx) gan
gynnwys Ffibr i'r Palmant (FTTC), Ffibr i'r Adeilad (FTTB) a Ffibr
i'r Cartref (FTTH).
ISDN (Rhwydwaith Digidol Gwasanaeth
Integredig) - trawsyrru data yn ddigidol dros linell
ffôn, gan ddefnyddio addasydd yn y ddau ben. Mae'r
gwasanaethau ISDN sydd ar gael yn y DU fel rheol yn cynnig
cyflymder lawrlwytho hyd at 128kbps a chyflymder llwytho i fyny hyd
at 16kbps. Dim ond i safleoedd sydd o fewn 3.4 milltir (5.5
cilometr) i'r gyfnewidfa ffon leol y mae gwasanaethau ISDN ar
gael.
LAN (Rhwydwaith Ardal Leol) - grwp o
gyfrifiaduron a dyfeisiau cysylltiedig yw LAN sy'n rhannu llinell
gyfathrebu neu linell ddiwifr gyffredin ac, yn nodweddiadol, sy'n
rhannu adnoddau un prosesydd neu weinydd mewn ardal ddaearyddol
fach.
Lawrlwytho - pan fydd y defnyddiwr yn derbyn
data oddi ar y prif rwydwaith telathrebu cyhoeddus (e.e. cyrchu
tudalen gwe oddi ar y rhyngrwyd), sef y broses sy'n groes i lwytho
i fyny.
LLU (Dadfwndelu Dolen Leol) - pan fo
gweithredwr yn cyd-leoli offer DSLAM yn y gyfnewidfa ffon, er mwyn
cynnig band eang i ddefnyddwyr terfyn mewn cystadleuaeth i'r
deiliaid.
Mae'r gweithredwr LLU yn pennu pris a chyflymder y cysylltiad
band eang a gynigir dros y llinell ffon wedi'i dadfwndelu.
Lled band - cynhwysedd llinell ffon. Mae'n
pennu maint y data (mewn darnau) y gellir ei drosglwyddo dros
linell fesul eiliad.
Llinell wedi'i phrydlesu - cysylltiad
parhaol, neilltuedig, uniongyrchol sydd wedi'i brydlesu gan y
defnyddiwr oddi wrth ddarparwr telathrebu. Mae llinellau wedi'u
prydlesu yn aml yn cael eu defnyddio gan fusnesau i gysylltu
swyddfeydd sy'n bell oddi wrth ei gilydd yn ddaearyddol.
Lloeren - technoleg band eang sy'n defnyddio
lloeren mewn orbit daearsefydlog. Mae band eang lloeren ar gael ar
ddwy ffurf.
Lloeren un ffordd, lle mae angen deialu i lwytho data i fyny
(o'r defnyddiwr terfyn) a defnyddir lloeren i lwytho data i lawr
(i'r defnyddiwr terfyn).
Lloeren ddwy ffordd, lle defnyddir lloeren i lwytho data i
fyny ac i lawr (i'r defnyddiwr terfyn ac oddi wrtho).
Llwytho i fyny - trawsyrru data o'r
defnyddiwr i'r prif rwydwaith telathrebu cyhoeddus (e.e. anfon
gwybodaeth i wefan ar y rhyngrwyd), sef y broses sy'n groes i
lawrlwytho.
Man poeth - ardal lle mae pwynt mynediad yn
cynnig gwasanaethau rhwydwaith band eang diwifr cyhoeddus i
ddefnyddwyr drwy LAN diwidfr, neu Wi-Fi. Mae mannau poeth wedi'u
lleoli yn aml mewn mannau lle bydd llawer o bobl yn mynd heibio
megis meysydd awyr, gwestai, siopau coffi, llyfrgelloedd a
chanolfannau cynadledda.
Meingefn - y rhan o'r rhwydwaith sy'n trafod y
traffig mawr. Mae'n defnyddio'r llwybrau trawsyrru cyflymaf sydd
gan y rhwydwaith ac mae hefyd yn gallu rhedeg dros y pellteroedd
mwyaf. Mae rhwydweithiau llai yn cael eu cysylltu a'r
meingefn.
Gall meingefn rychwantu ardal ddaearyddol o unrhyw faint, o un
adeilad i gampws cyfan, neu hyd yn oed wlad gyfan.
Milltir olaf - term sy'n cael ei ddefnyddio
ar gyfer unrhyw dechnoleg telathrebu sy'n cario signalau ar hyd y
pellter byr rhwng y prif rwydwaith telathrebu cyhoeddus a'r cartref
neu'r safle busnes, hynny yw, y seilwaith ar lefel y gymdogaeth,
neu'r ddolen leol. Mae pellter gwirioneddol y 'filltir olaf' yn
gallu amrywio.
Ol - gysylltiadau - y cysylltiadau trawsyrru
rhwng safleoedd celloedd a chanolfan switsio gweithredwr y system.
Yn gyffredinol, trawsyrru data o leoliadau anghysbell dros
'feingefn' y rhwydwaith i bwynt lle gall gael ei ddosbarthu dros y
rhwydwaith
S
SDSL (Llinell Tanysgrifiwr Digidol Gymesurol)
- technoleg band eang xDSL sy'n gweitho drwy ddefnyddio'r holl
ystod band sydd ar gael dros y par copr cordeddog (dolen leol), i
gefnogi trosglwyddiad data ar gyfraddau llwytho i fyny ac i lawr
cyfartal. Nid yw SDSL yn neilltuo rhan o'r ystod band ar gyfer
traffig llais ac, o ganlyniad, nid yw'n cefnogi llinell ffon
analog.
V
VDSL (Llinell Tanysgrifiwr Digidol Cyflym
Iawn) - technoleg band eang a all ddarparu cyfraddau
llwytho i Iawr hyd at 52Mbps a chyfraddau IIwytho i fyny hyd at
3Mbps dros ddolenni lleol byrion hyd at 0.5 milltir (0.8 cilomedr).
Gan y gall VDSL drosglwyddo dros bellter byrrach yn unig, mae angen
darparwyr gwasanaeth arno i leoli ceblau ffibr opteg yn y ddolen
leol er mwyn dod yn agosach at y defnyddiwr terfyn. Gellir hefyd
ffurfweddu VDSL i weithredu mewn dull cymesurol, gan gyflwyno mwy
na 10Mbps i'r ddau gyfeiriad hyd at 0.9 milltir (1.4
cilomedr).
VoIP (Protocol Rhyngrwyd Troslais) -
cysylltiad band eang sy'n galluogi defnyddwyr/tanysgrifwyr i anfon
a derbyn galwadau llais dros y rhyngrwyd.
VPN (Rhwydwaith Preifat Rhithwir) -
cysylltiad diogel wedi'i amgryptio rhwng dau bwynt dros y
rhwydwaith telathrebu, sy'n galluogi traffig rhwydwaith preifat i
deithio dros rwydweithiau cyhoeddus heb angen am linell un pwrpas
ar brydles. Mae VPN yn darparu mynediad sicr i swyddfeydd a
thelegymudwyr anghysbell i LAN neu WAN corfforaethol. Gan fod
traffig VPN wedi'i amgryptio, ni ellir ei ddehongli wrth iddo
deithio dros y rhwydwaith.
WAN (Rhwydwaith Ardal Eang) - rhwydwaith
cyfrifiadurol sy'n rhychwantu ardal ddaearyddol gymharol fawr. Yn
nodweddiadol, mae WAN yn cynnwys dau rhwydwaith ardal leol (LAN)
neu fwy wedi'u cysylltu a'i gilydd. Gellir defnyddio WAN i rannu
gwybodaeth ar draws sawl safle. WAN mwyaf y byd yw'r
rhyngrwyd.
Wi-Fi (Cywirdeb Diwifr) - math o rwydweithio
diwifr cyrhaeddiad byr (hyd at 0.1 cilomedr), sy'n cefnogi
cyfraddau llwytho i lawr hyd at 54Mbps. Mae'n galluogi cysylltu dau
gyfrifiadur neu fwy heb fod angen ceblau materol rhyngddynt. Y
safonau Wi-Fi a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw 802.11b a 802.11g.
Defnyddir Wi-Fi mewn sawl rhydwaith diwifr cymunedol ac i ddarparu
ardaloedd a signal diwifr a sefydlir mewn gwestai, siopau coffi,
meysydd awyr ac ati. Gellir defnyddio Wi-Fi hefyd i greu rhwydwaith
diwifr yn y cartref a'r swyddfa.
Wi-Max - technoleg ddiwifr sy'n darparu
isadeiledd band eang ystod band uchel dros bellteroedd hir (hyd at
31 milltir neu 50 cilomedr). Gall Wi-Max ddarparu cyfraddau
llwythio i lawr hyd at 70Mbps a gellir ei ddefnyddio ar gyfer
ardaloedd a signal diwifr, ol-dynnu cellol a hyd yn oed atebion
band eang 'milltir ddiwethaf'. Gellir defnyddio Wi-Max hefyd ar
gyfer cysylltedd menter cyflym i fusnesau.
X
xDSL (Llinell Tanysgrifiwr Digidol x) - teulu
o dechnolegau a ddefnyddir i drosglwyddo data. Mae'r dechnoleg hon
yn troi llinell ffôn sy'n cynnwys par o wifrau copr
cordeddog (dolen leol) yn gysylltiad cyflym nad yw byth yn diffodd.
Mae technolegau xDSL yn cynnwys ADSL, SDSL, VDSL ac ADSL 2+