Adolygiad Cynnydd Rhaglen BBW 2005 Ionawr -
Rhagfyr Rhifyn 1.0
Neidio I:
Cafodd Rhaglen Band Eang Cymru
Llywodraeth y Cynulliad ei lansio ym mis Gorffennaf 2002. Nod y
rhaglen oedd gwella argaeledd a fforddiadwyedd band eang a'r
niferoedd sy'n ei ddefnyddio ledled Cymru.
O'r wyth targed gwreiddiol, cadarnhaodd adolygiad strategol yn
ystod 2004 fod pedwar wedi'u cyrraedd yn barod. Byddai eraill yn
cael eu cyrraedd cyn 2007 a barnwyd bod eraill yn llai perthnasol
oherwydd y datblygiadau ym marchnad telathrebu. O ganlyniad i'r
canfyddiadau yma, cafodd strategaeth band eang newydd i Gymru ei
datblygu. Cafodd y strategaeth ar gyfer 2005-2007 ei lansio ym mis
Ionawr 2005.
Ar ddiwedd 2005, cynhaliodd Arsyllfa Band Eang Cymru
(BBWO) adolygiad annibynnol ar y cynnydd a oedd wedi'i wneud yn
erbyn saith o'r ddau ar bymtheg o dargedau a oedd i fod i gael eu
cwblhau. Cadarnhaodd yr adolygiad fod materion yn y Comisiwn
Ewropeaidd (CE) sy'n ymwneud â Chymorth Gwladol yn parhau i
effeithio ar gyflawni rhai projectau. Er hynny, mae'r rhaglen o
fewn y 'goddefiannau' y cytunwyd arnyn nhw ac yn cyd-fynd â'r
amserlen ar gyfer cyrraedd y mwyafrif o'r targedau a gyhoeddwyd yn
Strategaeth Rhaglen Band Eang Cymru 2005-2007.
Nodyn:
Mae Rhaglen Band Eang Cymru (BBW) yn cael ei reoli yn unol â'r
safonau a amlinellwyd gan Swyddfa Llywodraethu a Masnach (OGC) yn
Managing Successful Programmes (MSP). Mae holl brojectau BBW yn
cydymffurfio â'r egwyddorion rheoli projectau a amlinellwyd gan OGC
yn Prince2.
Er hwylustod, mae'r tabl isod yn crynhoi'r cerrig milltir
allweddol y mae llwyddiant Rhaglen Band Eang Cymru yn cael ei fesur
yn eu herbyn.
|
Targed
|
Erbyn diwedd 2005 bydd Rhaglen Band
Eang Cymru yn gwneud y canlynol:
|
|
1
|
Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth
gyntaf yng Nghymru'n gymaint o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU
|
|
2
|
Sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gallu cael
gwybodaeth sy'n eu galluogi i benderfynu ar yr hyn y gallai band
eang ei olygu iddynt hwy
|
|
3
|
Gosod contract fel y gall cartrefi, busnesau a
safleoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru gael mynediad i seilwaith
band eang cenhedlaeth gyntaf
|
|
4
|
Rhoi o leiaf fil o Grantiau Cynllun Cymorth
Busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint ac i'r sector gwirfoddol
yng Nghymru
|
|
5
|
Creu cronfa i helpu i ddarparu band eang yn
safleoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru
|
|
6
|
Datblygu polisi Cymreig cytunedig ar gyfer
crynhoi galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang
|
|
7
|
Dangos i'r diwydiant telathrebu faint y galw a
geir am seilwaith band eang ail genhedlaeth yng Nghymru
|
|
Cyf.
|
Yn ystod 2006 bydd Rhaglen Band Eang
Cymru yn gwneud y canlynol:
|
|
8
|
Ariannu dau Gynghorwr ym mhob Awdurdod Lleol
yng Nghymru i helpu i roi strategaethau band eang lleol ar waith
(hyd fis Mawrth 2006)
|
|
9
|
Ariannu rhwydwaith band eang cadarn sy'n
cysylltu pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gefnogi
cymwysiadau sy'n hollbwysig i'r amcan ac yn ychwanegu gwerth (hyd
fis Gorffennaf 2006)
|
|
10
|
Cyhoeddi a gweithredu'r polisi a gytunwyd mewn
cysylltiad â chydgasglu galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band
eang
|
|
11
|
Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth
gyntaf yng Nghymru'n gyfartal o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU
|
|
Cyf.
|
Erbyn Mawrth 2007 bydd Rhaglen Band
Eang Cymru yn gwneud y canlynol:
|
|
12
|
Ceisio cefnogi o leiaf 50 o brosiectau lleol
ledled Cymru
|
|
13
|
Sicrhau bod seilwaith band eang ail genhedlaeth
ar gael i o leiaf 50% o'r busnesau yng Nghymru
|
|
14
|
Ceisio sicrhau bod cysylltiadau band eang
cyflymder ffibr mewn parciau / lleoliadau busnes a ddynodir ymlaen
llaw yn cael eu darparu am brisiau fforddiadwy
|
|
15
|
Ceisio sicrhau mynediad i seilwaith
cyfanwerthol cystadleuol dros rannau helaeth o Gymru
|
|
16
|
Rhoi strategaeth gytunedig ar waith i ddarparu
cysylltiad uniongyrchol o Gymru i'r brif ryngrwyd ryngwladol
|
|
17
|
Creu mwy o ymwybyddiaeth ryngwladol o
fanteision Rhaglen Band Eang Cymru i hyrwyddo enw da Cymru fel man
i fusnesau ymsefydlu a thyfu
|
Nod y ddogfen yma yw rhoi adolygiad cryno ar y cynnydd sydd
wedi'i wneud tuag at gyrraedd y saith cyntaf o'r ddau ar bymtheg o
dargedau strategol yma.
Amlinellir isod ganfyddiadau allweddol adolygiad cynnydd
Arsyllfa Band Eang Cymru (BBWO).
Targed Strategol 1
"Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth gyntaf yng
Nghymru'n gymaint o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU"
Parhau i argoeli'n dda o ran datblygiadau wnaeth y farchnad
band eang yn ystod cyfnod yr adolygiad; gyda thwf arwyddocaol yn
adlewyrchu'r twf ym mhoblogrwydd, fforddiadwyedd ac argaeledd
band eang ledled Cymru. O'r amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth
sydd ar gael, mae BBWO yn amcangyfrif bod y 'bwlch' rhwng lefel y
defnyddio yng Nghymru ac yng ngweddill y DU wedi culhau; i lawr o
fwy na thri phwynt canran yn 2004 i lai na dau bwynt canran yn
hanner olaf 2005.
- Mae dadansoddwyr y farchnad yn amcangyfrif bod 9.8 miliwn
o
gysylltiadau band eang yn y DU ar ddiwedd 2005; mai band eang xDSL
oedd 6.7 miliwn o'r cysylltiadau ac mai band eang modem oedd y rhan
fwyaf o'r gweddill.
- O ran y nifer sy'n defnyddio gwasanaeth, mae 9.8 miliwn o
gysylltiadau band eang yn y DU yn hafal i 39% o gartrefi a
busnesau'r DU yn cyrchu'r rhyngrwyd drwy gysylltiad band eang, neu
16 o gysylltiadau band eang am bob 100 o bobl (sef 16% o boblogaeth
y DU).
- Er nad oes ffigurau manwl ar gael am fis Rhagfyr 2005, nid yw'
debyg y bydd fawr o newid yn safle'r gwledydd unigol o'u cymharu â
Mehefin 2005. Bryd hynny, yn ôl yr OECD roedd y DU yn bumed o
safbwynt maint y farchnad (ar ôl yr Unol Daleithiau, Japan, De
Corea a'r Almaen). O ran treiddiad band eang, roedd y DU yn y bumed
safle o blith y 30 o wledydd yn yr OECD.
- Amcangyfrif BBWO yw bod llai na 500,000 o gysylltiadau band
eang yng Nghymru ar ddiwedd 2005; mai band eang xDSL oedd hyd at
350,000 o'r cysylltiadau ac mai band eang modem oedd y rhan fwyaf
o'r gweddill.
- O ran y nifer sy'n defnyddio gwasanaeth, mae 500,000 o
gysylltiadau band eang yng Nghymru yn hafal i 35% o gartrefi a
busnesau yn cyrchu'r rhyngrwyd drwy gysylltiad band eang neu 16 o
gysylltiadau band eang am bob 100 o bobl (sef 16% o boblogaeth
Cymru).
- O gymharu hyn â'r data sydd wedi'i gyhoeddi am drydydd chwarter
2005, mae BBWO yn amcangyfrif bod 15 o gysylltiadau band eang am
bob 100 o drigolion (sef 15% o'r boblogaeth) yng Nghymru[1] ac yn y
DU[2].
Yn ôl y cyfrifiadau yma, mae'r nifer sy'n defnyddio band eang
yng Nghymru yn cyd-fynd â chyfartaledd y DU. Mae'r cyfrifiadau ar
gyfer Cymru wedi'u dilysu gan arolwg
[3] a gomisiynwyd gan yr Uned Band
Eang Cymru yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- bod PC cartref gan 71% o'r holl ymatebwyr ar gyfartaledd
- bod cysylltiad â'r rhyngrwyd gartref gan 63% o'r holl ymatebwyr
ar gyfartaledd
- bod cysylltiad â'r rhyngrwyd gartref gan 32%[4] o'r holl ymatebwyr
ar gyfartaledd drwy gysylltiad band eang[5]
Defnyddio PC, Rhyngrwyd a Band Eang Fesul Awdurdod Lleol
Ffigur 1 Arolwg Preswyl a
gomisiynwyd gan BBW Llywodraeth y Cynulliad, ORC International, mis
Hydref 2005
Datgelodd yr arolwg mai Bro Morgannwg oedd â'r gyfran uchaf o
aelwydydd band eang ac mai Ynys Môn oedd â'r gyfran isaf.
Mae'n bosibl bod yr anghysondeb yn lefelau'r defnyddio yn
gysylltiedig â pha mor hir y mae band eang marchnad dorfol wedi bod
ar gael yn ardal pob un o'r Awdurdodau Lleol. Yn yr un modd, fe
allai'r anghysondeb ddeillio o broffil cymdeithasol a demograffig
yr awdurdod lleol yn nhermau oedran, incwm a statws cyflogaeth. Mae
dadansoddiad cychwynnol ar ganfyddiadau allweddol yr arolwg yn
awgrymu bod y ddau esboniad yn rhy syml. Gall fod angen rhagor o
ymchwil er mwyn deall yn well y cymhellion a'r rhwystrau sydd ar
waith yn y penderfyniad i ddefnyddio band eang.
Yn y cyfamser, gan fod mwy na 95% o'r holl safleoedd yn gallu
cyrchu band eang y genhedlaeth gyntaf ers canol 2005, fe fydd yn
ddiddorol parhau i fonitro lefelau'r treiddiad yng Nghymru a'r
DU.
Targed Strategol 2
"Sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gallu cael
gwybodaeth sy'n eu galluogi i benderfynu ar yr hyn y gallai band
eang ei olygu iddynt hwy"
Adolygiad Cynnydd
Drwy gydol 2005, roedd rhaglen cysylltiadau cyhoeddus a
marchnata ar waith gan Raglen Band Eang Cymru, a honno'n anelu at
helpu i gyrraedd targedau strategol 1, 2, a 3. Cafodd y
gweithgareddau eu dylunio yn unswydd i wneud y canlynol:
a)Codi ymwybyddiaeth o fand eang ac o Raglen Band Eang Cymru
Llywodraeth y Cynulliad.
b)Dangos i grwpiau targed y nodweddion a'r manteision sydd i'w
cael o ddefnyddio band eang.
c) Annog defnyddwyr posibl band eang mewn ardaloedd anodd i
gofrestru eu gofynion drwy'r Cynllun Brocera Band Eang
(www.bbwo.org.uk).
Roedd prif weithgareddau BBW yn ystod y flwyddyn yn
cynnwys:
- Cysylltiadau â'r cyfryngau i ategu projectau unigol BBW.
- Hysbysebu yn y wasg leol a chenedlaethol gan gynnwys y radio
lleol, ar y stryd (posteri 48 dalen), hysbysfyrddau gorsafoedd
rheilffordd a bysiau.
- Pecyn drwy'r post 10,000 o aelwydydd o fewn cyrraedd i'r 35 o
gyfnewidfeydd ffôn sy'n anhyfyw yn fasnachol yng Nghymru a 650,000
o gartrefi eraill ac 16,000 o fusnesau mewn 100,000 o ardaloedd cod
post wedi'u targedu ledled Cymru.
- Sioe deithiol 'Byddwch yn Graff Band Eang Amdani' wedi cefnogi
digwyddiadau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.
- Dosbarthu llyfrynnau technoleg band eang i grwpiau targed
ledled Cymru.
- Dosbarthu DVDs i danlinellu manteision band eang (i ddefnyddwyr
a busnesau) i bartneriaid ledled Cymru.
- Dosbarthu pecynnau ysgol, a ddatblygwyd gyda'r Grid
Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (NGfL), i ysgolion cynradd ledled
Cymru
- 'Tasglu' tîm o arbenigwyr band eang a gynigiodd gyngor i
unigolion a chymunedau ledled Cymru.
- Cynllun 'Profi Cyn Prynu' wedi cefnogi busnesau a chanolfannau
TGCh yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru
Roedd y llwyddiant yn cael ei fesur yn erbyn yr amcanion y
cytunwyd arnyn nhw ymlaen llaw. Er enghraifft, cofnododd
adroddiadau diwedd ymgyrch:
a) Cyfradd yr ymateb i hysbysebion a gweithgareddau
marchnata uniongyrchol gan gynnwys nifer y 'cliciau drwodd' a'r
'ymwelwyr unigryw' â gwefannau, y nifer a gofrestrodd ar y Cynllun
Brocera Band Eang a nifer yr ymholiadau a gafodd eu rheoli gan
Arsyllfa Band Eang Cymru.
b)Nifer y cyfweliadau yn y cyfryngau, nifer y penawdau
cadarnhaol a grëwyd a faint o fodfeddi mewn colofnau a gafwyd yn y
wasg a dargedwyd.
c)Nifer yr ymholiadau gan ymwelwyr a reolwyd a'r
arddangosiadau band eang a roddwyd ym mhob digwyddiad.
Targed Strategol 3
"Gosod contract fel y gall cartrefi, busnesau a
safleoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru gael mynediad i seilwaith
band eang cenhedlaeth gyntaf"
Adolygiad Cynnydd
Cafodd project Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS)
ei sefydlu er mwyn cyrraedd targed strategol 3. Mae'r project
wedi'i ddylunio i wella cystadleurwydd rhanbarthau difreintiedig
yng Nghymru drwy wella'r cyfle i gael band eang mewn ardaloedd
anodd.
Mae'r ardaloedd anodd lle nad yw'r defnyddwyr posibl yn gallu
cyrchu gwasanaeth band eang yn cynnwys ardaloedd 35 o gyfnewidfeydd
ffôn sy'n fasnachol anhyfyw ym marn y darparwyr telathrebu. Mae
ardaloedd anodd eraill wedi'u nodi gan dîm project RIBS drwy
ddefnyddio'r Cynllun Brocera Band Eang ar-lein (
www.bbwo.org.uk) a sefydlwyd mewn
partneriaeth ag Arsyllfa Band Eang Cymru ym Mhrifysgol
Caerdydd.
Rhoddwyd gwybod i'r farchnad am fenter RIBS ar lefel Cymru
gyfan ym mis Ebrill 2005. Cafodd yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen
Llaw (PIN) ei gyhoeddi drwy
www.buy4wales.co.uk a Chyfnodolyn Swyddogol yr
Undeb Ewropeaidd (OJEU). Daeth ceisiadau am ragor o wybodaeth i law
oddi wrth 39 o gyrff a rhoddodd tîm project RIBS yr wybodaeth
berthnasol i ganiatáu amser i'r darpar gynigwyr ymchwilio i atebion
posibl.
Ar 1 Mehefin 2005, cafodd project RIBS ei gymeradwyo gan y
Comisiwn Ewropeaidd (CE) fel Cymorth Gwladol cydnaws. Dechreuodd y
broses gaffael yn fuan wedyn drwy osod hysbyseb yn yr OJEU ar 13
Mehefin 2005. Y dyddiad cau i'r tendrau gael eu cyflwyno oedd 30
Medi 2005.
Am fod y broses negodi yn un gymhleth, rhagwelir y caiff
contract ei ddyfarnu ym mis Mawrth 2006.
Does dim disgwyl y bydd yr oedi yn effeithio ar yr amserlen ar
gyfer cyflwyno band eang yn y safleoedd sydd heb wasanaeth yn ystod
2006.
Targed Strategol 4
"Rhoi o leiaf fil o Grantiau Cynllun Cymorth
Busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint ac i'r sector gwirfoddol
yng Nghymru"
Adolygiad Cynnydd
Fel rhan o Raglen Band Eang Cymru, lansiodd y WDA Gynllun
Cymorthdaliadau Lloeren Band Eang i Fentrau Bach a Chanolog (MBCh)
ym mis Medi 2002. Nod y cynllun oedd helpu busnesau i fanteisio ar
fand eang gan nad oedd band eang fforddiadwy y farchnad dorfol ar
gael ond i 36% o'r wlad ar y pryd. Cafodd cais llwyddiannus ei
wneud am y cymhorthdal, o hyd at £1500 i bob busnes, gan 250 o
gwmnïau.
Ym mis Mawrth 2004, yn sgil adolygiad, cafodd Cynllun Cymorth
Band Eang gwell ac estynedig ei lansio.
Roedd y Cynllun newydd yn cynnwys:
- Pob technoleg band eang (ADSL, Diwifr, Cebl, Llinellau wedi'u
prydlesu yn ogystal â Lloeren).
- Cyrff yn y sector gwirfoddol (yn ogystal ag MBCh).
- Cymorth o hyd at £3000 neu 50% o gostau'r flwyddyn gyntaf (p'un
bynnag oedd y lleiaf) i helpu'r cyrff cymwys i gyrchu band
eang.
Oherwydd llwyddiant y Cynllun, cafodd y targed strategol a
gyhoeddwyd yn Strategaeth Rhaglen Band Eang Cymru ar gyfer
2005-2007 ei gyrraedd ym mis Gorffennaf 2005. Erbyn diwedd y
flwyddyn 2005, roedd dros 1200 o geisiadau grant wedi'u cymeradwyo
ac wedi'u prosesu.
Yng ngoleuni newid cyflym yn amodau'r farchnad twf arwyddocaol
yn argaeledd band eang ADSL a phwysau i ostwng pob pris band eang
penderfynwyd y byddai Cynllun Cymorth Busnes Band Eang yn cau yn
ystod chwarter cyntaf 2006; gan brosesu taliadau grantiau tan 31
Mawrth 2007.
O bersbectif y Comisiwn Ewropeaidd (CE) ar Gymorth Gwladol,
roedd y Cynllun yn gweithredu ar sail 'de minimis'.
Targed Strategol 5
"Creu cronfa i helpu i ddarparu band eang yn
safleoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru"
Adolygiad Cynnydd
Chafodd y Cynllun Cymorth Grant Cysylltedd (CoGS) i helpu i
wella darpariaeth band eang i safleoedd y sector cyhoeddus ledled
Cymru mo'i ddatblygu yn ystod 2005.
Cafodd y targed ei dynnu'n ôl am nad oedd modd cyflwyno'r
Cynllun o fewn amserlen ariannol y project a hynny oherwydd
cyfyngiadau'r CE ar brojectau band eang o safbwynt Cymorth
Gwladol.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i chwilio am welliannau
i sicrhau bod cysylltedd band eang uchel yn cael ei gaffael a'i
ddefnyddio mewn ffordd effeithiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
a hynny drwy broject Agregu Band Eang y Sector Cyhoeddus
(PSBA).
Targed Strategol 6
"Datblygu polisi Cymreig cytunedig ar gyfer
crynhoi galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang"
Adolygiad Cynnydd
Bernir bod project Agregu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)
yn fodd allweddol i ganiatáu i'r nodau yn nogfen Llywodraeth y
Cynulliad Creu'r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru
gael eu cyrraedd. Mae'r ddogfen yn nodi'r weledigaeth ar gyfer y
gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ddogfen berthynol
Cyflawni'r Cysylltiadau: Gwireddu'r Weledigaeth yn nodi'r
cynllun gweithredu 5-mlynedd i fwrw ymlaen â'r newidiadau sydd
wedi'u rhag-weld o ran sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu
cyflwyno.
Mae'r PSBA yn ceisio darganfod y ffordd fwyaf effeithiol i
gaffael rhwydweithiau band eang. Mae'n anelu at sicrhau'r
cysylltedd band eang uchel a'r gwasanaethau perthynol sy'n cynnig y
'gwerth gorau', a hynny drwy agregu'r galw ar draws y sector
cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn hwyluso gwaith i sicrhau
gwasanaethau cyhoeddus mwy di-dor, gan gynnig cyfle i gydgomisiynu
gwasanaethau, rhannu gwasanaethau cymorth ar draws nifer o
asiantaethau a datblygu dulliau gweithredu arloesol.
Mae bwrdd y project wedi cyfarfod yn rheolaidd i adolygu'r
cynnydd ac mae gweithgor polisi a gweithgor technegol wedi sicrhau
bod gofynion y budd-ddeiliaid ac anghenion y defnyddwyr yn cael eu
cymryd i ystyriaeth drwy gydol y cyfnod datblygu polisi. Mae'r tîm
wedi ystyried y manteision strategol, gweithredol ac ariannol; gan
hoelio sylw yn benodol ar y gallu i gydweithredu a
chydweithio.
Mae'r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn ystod cyfnod
yr adolygiad yn cynnwys:
- Sicrhau bod y budd-ddeiliaid wedi'u cynnwys a sefydlu
gweithgorau traws-sector.
- Contractio ymgynghorwyr (diwedd mis Mehefin) i helpu'r
budd-ddeiliaid i benderfynu ar yr anghenion cyfredol a'r gofynion
at y dyfodol sydd i'w hymgorffori yn achos busnes y PSBA.
- Cylchredeg papur ar y dewisiadau technegol a'i adolygu'n gyson
i sicrhau bod sylw'n cael ei roi i'r gofynion.
- Bod perchnogion rhwydweithiau'r sector cyhoeddus (gan gynnwys
iechyd ac addysg) wedi ad-drefnu dyddiadau caffael allweddol i
ategu allbwn posibl y PSBA.
Cyn diwedd 2005, cafodd papur ei gyflwyno i'w gymeradwyo yng
nghyfarfod y Cabinet ar 23 Ionawr 2006. Roedd y papur yn
amlinellu'r polisi arfaethedig. Mae cofnodion a phapurau'r cyfarfod
(yn gyflawn neu beidio) i fod i gael eu cyhoeddi ar wefan
Llywodraeth y Cynulliad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6
Mawrth 2006.
Targed Strategol 7
"Dangos i'r diwydiant telathrebu faint y galw a
geir am seilwaith band eang ail genhedlaeth yng Nghymru"
Adolygiad Cynnydd
Chafodd y targed yma mo'i gyrraedd yn ystod cyfnod yr
adolygiad. Caiff canfyddiadau allweddol astudiaeth sydd wedi'i
chomisiynu, ac sydd i fod i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol ym mis
Mai 2006, eu defnyddio i fwydo gwaith i ddatblygu'r polisi yn y
maes yma.
Dau ffactor arweiniodd at y penderfyniad i gomisiynu'r
astudiaeth:
- Bu gweithgareddau hybu y tîm marchnata yn targedu unigolion,
busnesau a chyrff yn y sector gwirfoddol yn ardaloedd anodd y
cyfnewidfeydd sy'n anhyfyw yn fasnachol ac ardaloedd anodd posibl
eraill, hynny yw ardaloedd lle mae'n bosibl na fydd modd cyrchu
band eang y genhedlaeth gyntaf. Oherwydd hyn, methodd y Cynllun
Brocera Band Eang (www.bbwo.org.uk)
a sefydlwyd mewn partneriaeth ag Arsyllfa Band Eang Cymru (BBWO) â
chasglu tystiolaeth gadarn ynglŷn â'r galw am fand eang ar
gyflymder uwch oedd heb ei ddiwallu.
- Trefnwyd bod band eang yr ail genhedlaeth ar gael mewn
ardaloedd daearyddol yng Nghymru a oedd wedi'u targedu. Er
enghraifft, gallai defnyddwyr band eang gyrchu:
- hyd at 3Mbps yn ardal Masnachfraint Cebl NTL yn y De, hynny yw
yn y Cymoedd ac ar hyd coridor yr M4 (dechreuodd NTL gyflwyno'i
wasanaeth 10Mbps yn gynnar yn 2006 a chyhoeddi treial
100Mbps).
- hyd at 8Mbps o gyfnewidfeydd ffôn wedi'u targedu yng Nghaerdydd
a Wrecsam, hynny yw cyfnewidfeydd a oedd wedi'u 'dadfwndelu' gan
Bulldog (y dadfwndelwr dolenni lleol sy'n perthyn i Cable &
Wireless).
- hyd at 8Mbps o gyfnewidfeydd ffôn wedi'u targedu yn ardal
Caerdydd, hynny wy cyfnewidfeydd a ddewiswyd gan BT ar gyfer treial
masnachol (mae BT Wholesale wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno'r
gwasanaeth ledled y DU yng Ngwanwyn 2006).
Bydd yr Achos Busnes Amlinellol:
- yn asesu'r ddarpariaeth a'r galw presennol ar gyfer yr ail
genhedlaeth yng Nghymru.
- yn asesu'r ddarpariaeth arfaethedig a'r galw tebygol am fand
eang yr ail genhedlaeth ar draws Cymru hyd at a chan gynnwys
2010.
- yn dangos manteision darparu band eang yr ail genhedlaeth i
Gymru mewn ystyr ansoddol a meintiol (a hynny drwy gymharu â'r
datganiad gwrth-ffeithiol bod band eang y genhedlaeth gyntaf ar
gael i 100% o'r boblogaeth).
- ar sail yr uchod, yn gwneud argymhellion am yr angen i'r sector
cyhoeddus ymyrryd ym marchnad band eang yr ail genhedlaeth ac
amlinellu'r arenillion a ddaw o fuddsoddi yng Nghymru mewn unrhyw
ymyriad a gynigir.
Mae targed strategol 3, RIBS, yn cyd-fynd â'r amserlen i'w
gyflawni erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd ac mae astudiaeth wedi'i
chomisiynu i helpu i gyrraedd targed strategol 7 (y galw am fand
eang yr ail genhedlaeth). Cafodd targed strategol 5 ei dynnu'n ôl
yn ystod cyfnod yr adolygiad.
[1] Mae'r cyfrifiad wedi'i seilio ar 450,000 o
gysylltiadau band eang yng Nghymru, mis Medi 2005
[2] Mae'r cyfrifiad wedi'i seilio ar 9 miliwn o
gysylltiadau band eang yn y DU, mis Medi 2005
[3] Arolwg preswyl yr ORC CATI, 5500 o gyfweliadau, mis
Hydref 2005
[4] Diffinnir band eang fel cyflymderau cysylltu
o 512kbps ac yn well
[5] Roedd gan 39% o'r holl ymatebwyr gysylltiad band
eang gartref o 128kbps neu'n well, mis Hydref 2005