Marchnad Band Eang Awstria 2005
Gwlad yng nghanol Ewrop yw Awstria. Mae'n fynyddig gan mwyaf
yn y de a'r gorllewin (yr Alpau) ac yn dir gwastad a llethrau braf
yn y gogledd a'r dwyrain. Mae ei phoblogaeth o 5.4 miliwn yn byw
mewn 2.5 miliwn o gartrefi, a cheir ynddi 126 o drigolion am bob
cilometr sgwar
Yn 2004, ei GDP-y-pen oedd $36,244, y deuddegfed uchaf yn y
byd yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae hynny'n cymharu â
$69,737 yn Luxembourg, y GDP uchaf-y-pen yn y byd. Pedwaredd ar
ddeg, â GDP o $35,548, oedd Prydain.
Mae'r rheolau ar y sector telathrebu yn Awstria wedi'u llacio
ers 1998. Fe'i rheoleiddir gan Rundfunk und Telekom
Regulierungs-GmbH (RTR-GmbH), a sefydlwyd gan Ddeddf Telathrebu
Awstria ar 1 Ebrill 2001. 'Gweithredydd cydgyfeirio' yw'r RTR-GmbH
ac mae'n gangen weithredol o awdurdod cyfathrebu Awstria, sef
Kommunikationsbehörde Austria (KommAustria), a'r
Telekom-Control-Commission (TKK).
Mae Llywodraeth Awstria wedi'i beirniadu droeon am beidio â
bod â strategaeth band-eang genedlaethol, a phryder arbennig yw'r
ffaith nad oes fawr o fand eang ar gael yn ardaloedd gwledig y
wlad. Gan fod 7,000 o'r 17,245 o bentrefi gwledig yn Awstria heb
fand eang ddechrau 2004, yn ôl y llywodraeth, cafodd y Weinyddiaeth
Ffederal dros Gludiant, Arloesi a Thechnoleg (BMVIT) y dasg o
gynyddu ymlediad band eang, ac ysgogi'r galw amdano.
Ym mis Mai 2003, cyhoeddodd BMVIT ganllaw o'r enw 'Menter Band
Eang 2003' a amlinellai'r cynllun i ddarparu isadeiledd band-eang
bron i'r wlad i gyd erbyn diwedd 2007. Ei darged swyddogol oedd
cynyddu argaeledd band eang, o 80% o gartrefi yn 2004 i 98% o
gartrefi, erbyn 2007. Nod BMVIT yw cyflawni hynny drwy roi cymorth
uniongyrchol i ddarparu isadeiledd band eang, a hynny yn yr
ardaloedd gwledig gan mwyaf. Yn wreiddiol, penderfynodd y
llywodraeth y byddai'n darparu EUR10 miliwn at y diben hwnnw, ond
yn ddiweddarach fe ddyblodd hi'r ffigur. Bwriedir i daleithiau
ffederal Awstria gyfrannu symiau cyfatebol at y cyllid hwnnw.
I ysgogi'r manteisio ar wasanaethau band eang, cynigiwyd
cymhorthdal treth o Fai 2003 tan ddiwedd 2004 i gysylltiadau
tro-cyntaf â gwasanaethau band eang. Yr oedd modd i'r defnyddwyr
hawlio lwfans treth o hyd at EUR50 ar gyfer gosod a gweithredu band
eang, ynghyd â hyd at EUR40 pellach tuag at y taliad misol
cyntaf.
Nid yw'r prif weithredydd telathrebu, Telekom Austria, ond
wedi'i breifateiddio'n rhannol; mae Gweriniaeth Awstria'n berchen
ar gyfran o 30.2% o'r cwmni drwy'r cwmni daliannol ÖIAG. Gwerthodd
cyfranddaliwr mawr arall, Telecom Italia, ei gyfran o 14.8% o
Telekom Austria ym mis Ionawr 2004.
Yn ôlyr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (yr ITU), yr oedd gan
Awstria dros 6Mbps am bob un o'i thrigolion yn 2004. Dyna'r lled
band unfed ar ddeg mwyaf am bob pen o'r boblogaeth. Denmarc oedd
â'r mwyaf, sef rhyw 35Mbps y pen, a Phrydain oedd â'r lled band
pedwerydd uchaf, sef rhyw 13Mbps y pen.
O ran defnyddio TGCh, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael
oddi wrth yr OECD yn dangos bod cyfrifiadur personol yn 59% o'r
cartrefi yn Awstria yn 2004, a bod gan 45% o'r holl gartrefi
fynediad i'r rhyngrwyd. Mae'r ffigurau hynny'n unol â chyfartaledd
yr OECD. (ffigur 1)

Ffigur 1 – Treiddiad cyfrifiaduron
personol preswyl a'r rhyngrwyd i gartrefi, OECD Science, Technology
and Industry: Scoreboard 2005
Ddiwedd Mehefin 2005, cyfrifwyd bod rhyw 1.2 miliwn o linellau
band-eang yn Awstria, sef twf o ryw 200,000 o gysylltiadau, neu
23.8%, dros hanner cyntaf 2005. (ffigur 2)

Ffigur 2 – Cyfanswm y tanysgrifio i
fand eang fesul gwlad, OECD, Mehefin 2005
Mae'r twf hwnnw yn y farchnad yn cymharu'n ffafriol â'r twf o
15.2% a gafwyd ledled yr OECD a'r twf o 16% ledled y byd yn ystod
yr un cyfnod, ac yn dangos bod gan Awstria beth ffordd i fynd eto
cyn i fand eang gyrraedd pob rhan o'r farchnad. (ffigur 6)

Ffigur 3 – Treiddiad band eang
fesul poblogaeth, DSL Forum a Point Topic, Mehefin
2005
Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yn gosod Awstria yn y pymthegfed
safle yn yr OECD o ran treiddiad band eang am bob pen o'r
boblogaeth gan fod y manteisio arno'n 12.5% ym mis Mehefin 2005.
Mae hynny ychydig bach ar y blaen i'r ffigurau ar gyfer yr OECD
cyfan lle cafwyd treiddiad, ar gyfartaledd, o 11.8% o'r boblogaeth.
Gan yr Iseldiroedd, sydd â threiddiad band-eang o 22.5% o'r
boblogaeth, y mae'r lefelau uchaf yn Ewrop, a chan Dde Korea y
mae'r treiddiad uchaf yn y byd, sef 25.5% o'r boblogaeth. (ffigur
4)

Ffigur 4 – Treiddiad band eang
fesul poblogaeth, OECD Broadband Statistics, Mehefin
2005
Mae treiddiad band eang i 31% o gartrefi ym mis Mehefin 2005
yn gosod Awstria y tu allan i'r deg gwlad uchaf yn y byd. Mae'r
ffigur hwnnw'n is o lawer na'r ffigur am dreiddiad i gartrefi yn Ne
Korea, yr uchaf yn y byd, sef rhyw 81% o gartrefi ar y pryd. Yn yr
Iseldiroedd y ceir y treiddiad uchaf i gartrefi yn Ewrop, sef 50%.
Mae hyn yn dangos bod Awstria ymhell ar ôl y gwledydd mwyaf
blaenllaw o ran treiddiad band eang. (ffigur 5)

Ffigur 5 – Treiddiad band eang ar
sail nifer y cartrefi, World Broadband Statistics Q2 2005, Point
Topic, Mehefin 2005
O ran y farchnad fusnes, mae rhyw 100,000 o fusnesau yn
Awstria, a mentrau bach a chanolig eu maint yw 98%, o leiaf,
ohonynt. Mae'r ffigurau diweddaraf yn 2004 yn dangos bod mynediad
i'r rhyngrwyd gan 94% o'r holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o
weithwyr amser-llawn. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 55% o'r
holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o weithwyr amser-llawn yn
defnyddio cysylltiad band eang. Mae'r ffigurau hynny'n unol â
chyfartaledd yr OECD. (ffigur 7)

Ffigur 6 – Twf band eang yn ystod
hanner cyntaf 2005 a threiddiad band eang fesul poblogaeth, OECD
Broadband Statistics, Mehefin 2005
O ran cyrhaeddiad isadeiledd band eang, mae Telekom Austria
wedi honni i'w wasanaethau DSL fod ar gael i 87% o'r holl gartrefi
yn Awstria ym mis Medi 2005. Mae'n honni hefyd y bydd cyrhaeddiad
wedi cyrraedd 90% erbyn diwedd 2005. Yn y cyfamser, mae isadeiledd
cebl yn mynd heibio i ryw 50% o'r holl gartrefi yn Awstria, ond nid
yw'n glir faint o'r llinellau sydd wedi'u huwchraddio i gymryd
modem cebl. Yn y prif drefi a dinasoedd, yn bennaf, y mae'r
rhwydweithiau cebl. (ffigur 8)

Ffigur 7 – Treiddiad y rhyngrwyd a
band eang i fusnesau, OECD Science, Technology and Industry:
Scoreboard 2005
Y dechnoleg drechaf ym Mehefin 2005 oedd DSL, gan ei bod yn
cyfrif am ryw 57% o'r holl gysylltiadau band-eang; yr oedd cebl yn
cyfrif am 42% o'r holl gysylltiadau. Mae DSL yn tra-arglwyddiaethu
fwy a mwy gan iddi ddangos cynnydd o 27% dros hanner cyntaf 2005
o'i gymharu â'r twf o 15% o gysylltiadau cebl. (ffigur 9)

Ffigur 8 – Amcangyfrif o
gyrhaeddiad band eang, Analysys Consulting Cyfyngedig, Medi
2005
O ran technolegau eraill, mae FTTx ar gael yn y brifddinas,
Vienna, drwy rwydwaith cyfleustod mwyaf Awstria, Weinstrom. Yn
ystod Chwefror 2004, cafwyd gwybod bod dinas Vienna wrthi'n cynnal
astudiaeth o'i 'dyfodol o ran band eang'. Yr oedd hynny'n cynnwys y
posibilrwydd o ddefnyddio isadeiledd ffibr i ddarparu gwasanaethau
band-eang a theledu i bob cartref yn y ddinas. Nid yw canlyniadau'r
astudiaeth honno'n hysbys hyd yn hyn.
At hynny, cafodd rhwydwaith band-eang diwifr cyntaf Awstria ei
lansio yn ystod Medi 2005 gan ddefnyddio technoleg sy'n seiliedig
ar safon WiMAX. Mae disgwyl i'r cwmni sy'n gyfrifol am y rhwydwaith
hwnnw, WiMAX Telecom, raddol ledu'r gwasanaeth i rannau eraill o'r
wlad ac, yn arbennig, i'r ardaloedd gwledig sy'n dal i ddioddef o
ddiffyg cyrhaeddiad band eang. I'r llywodraeth, mae FWA yn
dechnoleg y gellir ei defnyddio i estyn cyrhaeddiad band eang yn yr
ardaloedd gwledig hynny yn Awstria lle nad yw DSL wedi'i rhoi ar
waith.
Yn ystod 2004 fe lansiodd Linz AG wasanaeth band eang gan
ddefnyddio technoleg llinell bŵer, a honnodd y cwmni fod 3,400 o
ddefnyddwyr ohoni ym mis Rhagfyr 2004.
Am fod y sector cebl yn eithaf mawr (mae dros 80 o weithredwyr
cebl, a'r mwyafrif ohonynt yn gweithredu rhwydweithiau rhanbarthol
bach) ac am fod rhagor o gystadlu o du gweithredwyr LLU, cyfran
gymharol fach o'r holl farchnad gyfanwerthu sydd gan y prif
weithredydd, Telekom Austria, sef 49% o'r holl gysylltiadau ym
Mehefin 2005. Dyma un o'r cyfrannau isaf yng Ngorllewin Ewrop o'r
farchnad gan brif weithredydd. Cymharol isel yw cyfran Telekom
Austria o'r farchnad fân-werthu, sef 39%. (ffigur 11)

Ffigur 9 – Marchnadoedd band-eang
Gorllewin Ewrop fesul math o dechnoleg, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Mehefin 2005
Y chwaraewr band-eang ail fwyaf, a'r gweithredydd cebl mwyaf o
lawer, yw UPC Telekabel. Ym Mehefin 2005 yr oedd ganddo gyfran o
25% o'r holl farchnad fân-werthu. Mae UPC yn gobeithio cynnig
gwasanaethau cyflymach, treialu gwasanaethau â chyflymderau hyd at
30Mbps dros gebl rhwng Ebrill a Gorffennaf 2005, ac ymestyn FTTx
mewn detholiad o ardaloedd. Bydd y symudiadau hyn i gynnig
cyflymderau uwch yn helpu UPC i gynnig gwasanaeth bwndeledig. Yn
ogystal â chynnig bwndeli chwarae-triphlyg, mae UPC hefyd yn cynnig
gwasanaethau ffôn sefydlog-symudol a band eang gyda bwndel ffôn
symudol. Mae UPC wedi gwahaniaethu ei gynhyrchion, yn bennaf drwy
gynnig gwasanaethau cyfradd-sefydlog, tra bo'i brif gystadleuwyr
wedi canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar
gyfaint.
Cyflwynodd Awstria ddadfwndelu dolenni lleol ym mis Mehefin
2000. Serch ei gyflwyno'n gynnar, mae gan LLU gyfran lai o'r
farchnad DSL nag mewn llawer gwlad arall yng Ngorllewin Ewrop.
Cyfrifodd Analysys Research fod 97,119 o ddolenni lleol, sef 14%
o'r farchnad DSL, wedi'u dadfwndelu erbyn diwedd Mehefin 2005.
(ffigur 10)

Ffigur 10 – Llinellau DSL
dadfwndeledig, fel canran o gyfanswm llinellau DSL, Analysys
Consulting Cyfyngedig, Mehefin 2005
Y mwyaf o'r gweithredwyr LLU yw Tele2UTA, a ffurfiwyd drwy i
Tele2 brynu UTA Telekom ym mis Hydref 2004. Yr oedd ganddo gyfran o
3.5% o'r holl farchnad band-eang ym mis Mehefin 2005. Mae Tele2UTA
wedi dweud y bydd yn buddsoddi EUR9 miliwn i estyn ei gyrhaeddiad
LLU i ryw 50% o'r boblogaeth.
Gan fod band eang ar gael ledled y prif ddinasoedd, mae'r
gweithredwyr wedi dechrau symud eu canolbwynt yn y meysydd hyn i
ddarparu gwasanaethau newydd ac amrywiol.
Er enghraifft, mae gan inode gynnig sefydlog-symudol ar y cyd
â'r gweithredydd ffonau symudol Hutchinson/3. Mae darparwr y
gwasanaeth hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau SDSL. Mae rhai
o'r rheiny'n cynnig cyflymderau cysylltu uchel iawn, gan gynnwys
gwasanaeth 18.4Mbps sy'n defnyddio aml-barau o gopr. Disgwylir i
inode lansio gwasanaeth IPTV yn ystod 2006 yn sgil graddol
gyflwyno'r rhwydwaith ADSL2+.
Y gweithredwyr eraill sydd wrthi'n cynyddu eu cyfran o'r
sector LLU, yn enwedig yn y farchnad fusnes, yw Colt, eTel ac
EUnet.
O ran cynnwys, fe lansiodd Telekom Austria wasanaeth VoD ganol
2003, ac fe gyhoeddodd ym Mehefin 2005 y byddai'n lansio gwasanaeth
IPTV yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae Telekom Austria hefyd wedi
cyhoeddi y caiff gwasanaeth llais band-eang ei lansio fel rhan o
gynnig chwarae-triphlyg, a'i fod yn bwriadu cynnig gwasanaethau
llais band-eang i gwsmeriaid y gweithredwyr cebl.
O ran y math o wasanaeth, aeth Telekom Austria ati ym Medi
2002 i gyflwyno cynhyrchion sy'n seiliedig ar amser a chyfaint, gan
arwain proses o ymwrthod â chysylltiadau na fesurir mohonynt. Yn
2005, mae'r mwyafrif o'r tanysgrifiadau'n seiliedig ar gyfaint, a
hynny er bod tanysgrifiadau na fesurir mohonynt ar gael yn y
farchnad.
O ran prisiau, cost y pecynnau band eang 'cenhedlaeth-gyntaf'
sylfaenol yw rhyw EUR30-40 y mis yn Awstria, pris sydd ychydig bach
yn ddrutach nag mewn llawer marchnad arall yng Ngorllewin Ewrop.
Cost gwasanaethau tebyg ym Mhrydain a Ffrainc, lle mae'r GDP-y-pen
a'r lefelau treiddio'n debyg i'r rhai a geir yn Awstria, yw rhyw
EUR25-30 y mis.
Gan nad yw'r ddau chwaraewr DSL mwyaf yn cynnig gwasanaethau
band eang 'ail-genhedlaeth' ar hyn o bryd, prin yw argaeledd y
gwasanaethau hynny ac nid oes fawr o gystadleuaeth yn y maes. Cost
gwasanaeth 4Mbps yw EUR50-60 y mis tra bo cysylltiad 10-16Mbps yn
costio rhyw EUR70-90. Mae'r prisiau hyn gryn dipyn yn ddrutach na
chost gwasanaethau band eang 'ail-genhedlaeth' yn Ffrainc a
Phrydain. Yno, maent fel rheol yn costio rhyw EUR30-40 y mis, ond
gallant gostio cyn lleied ag EUR14.90 mewn rhai rhannau o
Ffrainc.
I gloi, mae daearyddiaeth fynyddig Awstria wedi creu rhwystr
ar ffordd cyflwyno isadeiledd band eang ledled y wlad. Er arafed
ymateb y llywodraeth, mae ei strategaeth band-eang yn helpu i
gynyddu ymlediad band eang drwy ddarparu cyllid ar gyfer isadeiledd
mewn ardaloedd gwledig.
Yn 2005, mae marchnad band-eang Awstria'n fwyfwy cystadleuol
wrth i amrywiaeth o gyflenwyr gynnig mwy a mwy o wahanol
wasanaethau dros amrywiaeth o dechnolegau.
Eto i gyd, mae'r ffigurau cyfartalog am dreiddiad, a'r twf
mawr, yn dangos bod y farchnad band eang ymhell o gyrraedd pob rhan
o'r wlad ac ymhell o gyrraedd lefelau tele-ddwysedd (cyfrifodd
Analysys Research fod 56 o linellau am bob 100 o bobl yn Awstria yn
2004).
O ganlyniad, y disgwyl yw i'r farchnad band-eang ddal i dyfu
yn sgil cyflwyno gwasanaethau sy'n cynnig mwy a mwy o led band a
darparu tanysgrifiadau sefydlog-symudol cydgyfeiriedig a chynigion
gwasanaeth chwarae-triphlyg.
Allweddeiriau
Chwilio
Band eang
Awstria
WiMAX
LLU
Adroddiad ar y wlad
Marchnad
Ewrop
Graffiau
Ffigur 1 – Treiddiad cyfrifiaduron personol
preswyl a'r rhyngrwyd i gartrefi, OECD Science, Technology and
Industry: Scoreboard 2005
Ffigur 2 – Cyfanswm y tanysgrifio i fand eang
fesul gwlad, OECD, Mehefin 2005
Ffigur 3 – Treiddiad band eang fesul poblogaeth,
DSL Forum a Point Topic, Mehefin 2005
Ffigur 4 – Treiddiad band eang fesul poblogaeth,
OECD Broadband Statistics, Mehefin 2005
Ffigur 5 – Treiddiad band eang ar sail nifer y
cartrefi, World Broadband Statistics Q2 2005, Point Topic, Mehefin
2005
Ffigur 6 – Twf band eang yn ystod hanner cyntaf
2005 a threiddiad band eang fesul poblogaeth, OECD Broadband
Statistics, Mehefin 2005
Ffigur 7 – Treiddiad y rhyngrwyd a band eang i
fusnesau, OECD Science, Technology and Industry: Scoreboard
2005
Ffigur 8 – Amcangyfrif o gyrhaeddiad band eang,
Analysys Consulting Cyfyngedig, Medi 2005
Ffigur 9 – Marchnadoedd band-eang Gorllewin Ewrop
fesul math o dechnoleg, Analysys Consulting Cyfyngedig, Mehefin
2005
Ffigur 10 – Llinellau DSL dadfwndeledig, fel
canran o gyfanswm llinellau DSL, Analysys Consulting Cyfyngedig,
Mehefin 2005
Ffigur 11 – Cyfrannau cyfanwerthu a mân-werthu y
prif weithredyddion yng Ngorllewin Ewrop, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Mehefin 2005