Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan > Adroddiadau & Erthyglau Eraill > Adroddiadau Datblygiad >

Adolygiad Cynnydd BEC (Q2): Ebrill - Mehefin 2005


 
Neidio i:
 
 

 
Dyma'r ail Adolygiad Cynnydd Rhaglen BBW ers i strategaeth Rhaglen Band Eang Cymru gael ei lansio ar gyfer 2005 – 2007.
 
Nod y ddogfen yma yw cynnig adolygiad cryno o'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at bob un o'r ddau ar bymtheg o dargedau strategol. Os oes modd, mae'r cynnydd yn cael ei fesur yn erbyn 'meincnodau' y cytunwyd arnyn nhw o'r blaen.
 
O ran hwylustod, mae'r tabl dros y tudalen yn crynhoi'r prif gerrig milltir y caiff llwyddiant y rhaglen ei fesur yn eu herbyn. Mae'r golofn statws yn dangos i ba raddau y mae'r rhaglen wedi gwneud cynnydd tuag at gyrraedd pob targed.
 
Ar ddiwedd ail chwarter 2005, mae'r rhaglen o fewn y 'goddefiannau' y cytunwyd arnyn nhw ac mae'r mwyafrif o'r projectau yn cyd-fynd â'r amserlenni a gyhoeddwyd ar gyfer cyrraedd y targedau. Os oes yna arwyddion rhybuddio cynnar ynghylch llithriant yn erbyn y cerrig milltir allweddol (gweler tudalen 6), mae nodyn wedi'i gynnwys yng nghorff yr adroddiad yma.
 

Trosolwg

 
Rhwng Ebrill a Mehefin 2005, cafodd adnoddau ychwanegol eu sicrhau i helpu'r egin Swyddfa Rheoli Rhaglenni (PMO). Nod hyn oedd sicrhau bod y rhaglen yn cael ei rheoli yn unol â'r safonau sydd wedi'u hamlinellu gan y Swyddfa Llywodraethu a Masnach (OGC) yn Managing Successful Programmes (MSP) a chydymffurfio ag egwyddorion rheoli projectau Prince2.
 
O fewn yr un amserlen, cafodd Prif Swyddog Technoleg (CTO) Rhaglen Band Eang Cymru (BBW) ei benodi. Mae'n gyfrifol am roi cymorth a chyngor technegol i reolwyr Rhaglen a Phrojectau BBW a datblygu'r fanyleb dechnegol ar gyfer dylunio atebion projectau, gweithredu a phrofi derbynioldeb.
 
Cafodd canfyddiadau 'archwiliad iechyd' o Swyddfa Rheoli Rhaglenni BBW, a wnaed gan dîm Merlin yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, eu cyflwyno i Reolwr Rhaglen BBW i'w hadolygu ac i weithredu arnynt. Nid yw canfyddiadau asesiad strategol y rhaglen (Adolygiad Porth 0), gan archwilwyr a benodwyd gan OGC, yn hysbys hyd yn hyn.
 
Ar ddiwedd y cyfnod, cyhoeddwyd y byddai'r uwch swyddog cyfrifol (SRO) ar gyfer Rhaglen Band Eang Cymru yn ymgymryd – o fis Medi 2005 ymlaen – â'r brif rôl wrth sefydlu adran newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (e-Gymru).

 
Targed
 
Erbyn diwedd 2005 bydd Rhaglen Band Eang Cymru yn gwneud y canlynol:
 
 
Statws RAG
(Ch2 2005)
 
1
Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth gyntaf yng Nghymru'n gymaint o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU
Gwyrdd
2
Sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gallu cael gwybodaeth, sy'n eu galluogi i benderfynu ar yr hyn y gallai band eang ei olygu iddynt hwy
Gwyrdd
3
Gosod contract fel y gall cartrefi, busnesau a safleoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru gael mynediad i seilwaith band eang cenhedlaeth gyntaf
Gwyrdd
4
Rhoi o leiaf fil o Grantiau Cynllun Cymorth Busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint ac i'r Sector Gwirfoddol yng Nghymru
Gwyrdd
5
Creu cronfa i helpu i ddarparu band eang yn safleoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru
Melyn
6
Datblygu polisi Cymreig cytunedig ar gyfer crynhoi galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang
Gwyrdd
7
Dangos i'r diwydiant telathrebu faint y galw a geir am seilwaith band eang ail genhedlaeth yng Nghymru
Melyn
 
Cyf.
 
Yn ystod 2006 bydd Rhaglen Band Eang Cymru yn gwneud y canlynol:
 
 
Statws RAG
(Ch2 2005)
 
8
Ariannu dau Gynghorwr ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru i helpu i roi strategaethau band eang lleol ar waith (hyd fis Mawrth 2006)
Gwyrdd
9
Ariannu rhwydwaith band eang cadarn sy'n cysylltu pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gefnogi cymwysiadau sy'n hollbwysig i'r amcan ac yn ychwanegu gwerth (hyd fis Gorffennaf 2006)
Gwyrdd
10
Cyhoeddi a gweithredu'r polisi a gytunwyd mewn cysylltiad â chydgasglu galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang
Gwyrdd
11
Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth gyntaf yng Nghymru'n gyfartal o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU
Gwyrdd
 
Cyf.
 
Erbyn Mawrth 2007 bydd Rhaglen Band Eang Cymru yn gwneud y canlynol:
 
 
Statws RAG
(Ch2 2005)
 
12
Ceisio cefnogi o leiaf 50 o brosiectau lleol ledled Cymru
Gwyrdd
13
Sicrhau bod seilwaith band eang ail genhedlaeth ar gael i o leiaf 50% o'r busnesau yng Nghymru
Gwyrdd
14
Ceisio sicrhau bod cysylltiadau band eang cyflymder ffibr mewn parciau / lleoliadau busnes a ddynodir ymlaen llaw yn cael eu darparu am brisiau fforddiadwy
Gwyrdd
15
Ceisio sicrhau mynediad i seilwaith cyfanwerthol cystadleuol dros rannau helaeth o Gymru
Gwyrdd
16
Rhoi strategaeth gytunedig ar waith i ddarparu cysylltiad uniongyrchol o Gymru i'r brif ryngrwyd ryngwladol
Gwyrdd
17
Creu mwy o ymwybyddiaeth ryngwladol o fanteision Rhaglen Band Eang Cymru i hyrwyddo enw da Cymru fel man i fusnesau ymsefydlu a thyfu
Gwyrdd
 
Bu Arsyllfa Band Eang Cymru (BBWO) yn adolygu'r cynnydd a wnaed yn ystod yr ail chwarter mewn perthynas â phob un o'r 17 o dargedau strategol – fel y'u cyhoeddwyd yn Strategaeth Rhaglen Band Eang Cymru 2005-2007. Mae canfyddiadau allweddol yr adolygiad wedi'u rhestru dros y tudalen.

 

Targed Strategol 1

 
"Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth gyntaf yng Nghymru'n gymaint o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU"
 
Ar ddiwedd ail chwarter 2005, mae lefelau treiddiad band eang yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
 
Cafodd yr arolwg marchnad diweddaraf o dreiddiad y farchnad band eang yn y DU ei gomisiynu gan Ofcom. Cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi ym mis Mai 2005[1].
 
Gwlad y Farchnad
Treiddiad y Rhyngrwyd
(Yr holl oedolion)
Treiddiad Band Eang
(Yr holl oedolion)
 
 
 
Lloegr
56%
22%
DU
56%
21%
Cymru
50%
19%
Yr Alban
53%
19%
Gogledd Iwerddon
55%
17%
 
Mae'r canfyddiadau (fel y'u gwelir uchod) yn dangos bod y niferoedd sydd wedi hawlio'r rhyngrwyd yng Nghymru (50%) gryn dipyn yn is na chyfartaledd y DU (56%). Mae Ofcom yn awgrymu y gallai hyn ddeillio o'r ffaith bod yna gyfran fwy o grwpiau oedran hŷn ac aelwydydd sydd ag incwm is. Gan fod llai na'r cyfartaledd yn defnyddio'r rhyngrwyd, nid yw'n syndod bod cyfran yr oedolion oedd â thanysgrifiad band eang yng Nghymru (19%) yn is na'r DU (21%).
  
Ym mis Mehefin 2005[2], cyfanswm y cysylltiadau band eang yn y DU oedd 8.1 miliwn; gyda DSL yn 70%[3] a chebl yn 28%[4]. Yng Nghymru, cadarnhaodd BT Wholesale[5] fod y gyfran a oedd yn hawlio ADSL ar 1 Mehefin 2005 yng Nghymru (19.8%) yn is na chyfartaledd y DU (21.1%).
 
Er mwyn i Darged Strategol 1 BBW gael ei gyrraedd erbyn diwedd Rhagfyr 2005, mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai Uned BBW:
 
a) Gwneud ymchwil i enwi nodweddion unigryw y farchnad sydd wedi arwain at ymateb is na'r cyfartaledd i'r rhyngrwyd a band eang yng Nghymru
b) Cadarnhau'r mesurau i ysgogi'r galw sydd wedi'u cymryd i roi sylw i'r materion isorweddol sydd wedi'u nodi
c) Mynd ati bob chwarter i fesur lefelau treiddiad band eang a'r rhyngrwyd yn y DU ac yng Nghymru
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Am fod y data am y farchnad a/neu ddata o arolygon yng Nghymru yn brin o'i chymharu â'r DU, mae'n amhosibl darogan i ba raddau y mae BBW am gyrraedd y targed o sicrhau a chynnal lefelau treiddio a fydd yn gyfartal i'r rhai a geir ar draws y DU. Oherwydd hynny, mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai cynllun adfer gael ei ddatblygu a'i roi ar waith.
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005
 

Targed Strategol 2

 
"Sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gallu cael gwybodaeth, sy'n eu galluogi i benderfynu ar yr hyn y gallai band eang ei olygu iddynt hwy"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Yn ystod ail chwarter 2005, rhoddodd Uned Band Eang Cymru raglen integredig o gysylltiadau cyhoeddus a marchnata ar waith.  Mae'r gweithgareddau a gynhaliwyd yn cynnwys:
 
  • Cysylltiadau â'r cyfryngau (dosbarthu datganiadau i'r wasg) i ategu Projectau unigol BBW.
 
  • Hysbysebu – yn y wasg leol a chenedlaethol, radio lleol, strydoedd (posteri 48 dalen) a hysbysfyrddau gorsafoedd trenau a bysiau – a hwnnw wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth o fand eang a rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru – sef Rhaglen Band Eang Cymru.
 
  • Baneri hysbysebu – wedi'u gosod ar wefannau trydydd partïon, gan gynnwys MSN, Hotmail, Google a gwefannau awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a phartneriaid eraill BBW – a'r rheiny wedi'u dylunio i annog defnyddwyr posibl band eang y genhedlaeth gyntaf i gofrestru eu hanghenion drwy Gynllun Brocera Band Eang.
 
  • Hysbysebu drwy'r post – 10,000 o aelwydydd o fewn cyrraedd i'r 35 o gyfnewidfeydd ffôn sy'n anhyfyw o safbwynt masnachol yng Nghymru – wedi'i ddylunio i annog defnyddwyr posibl band eang y genhedlaeth gyntaf i gofrestru eu hanghenion drwy Gynllun Brocera Band Eang.
 
  • Sioe Deithiol BBW 'Byddwch yn Graff: Band Eang Amdani' – a fu'n ategu digwyddiadau lleol a rhanbarthol gan gynnwys digwyddiadau cymunedol LBV yng nghanolfannau siopa Abertawe a Chasnewydd a'r 'Parti yn y Parc' (Abertawe) – gan alluogi ymwelwyr i weld arddangosiadau band eang a dysgu oddi wrth Dasglu Band Eang Cymru am y manteision sydd ar gael,.
 
  • Llyfrynnau technoleg band eang, a gynhyrchwyd yn Ch1. Cafodd y rhain eu cylchredeg i Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Cymreig y Senedd Ewropeaidd; eu dosbarthu i 200 o swyddfeydd ar draws Ewrop ar ffurf PDF; a'u dosbarthu – drwy Dasglu Band Eang Cymru – i grwpiau eraill a dargedwyd. Mae'r llyfrynnau wedi'u dylunio i roi gwybod i ddarllenwyr am nodweddion, a manteision gwahanol fathau o dechnoleg band eang.
 
  • Cynllun 'Profi cyn Prynu' BBW, sydd ar gael mewn Canolfannau TGCh yn ardal pob un o'r awdurdodau lleol. Bu'r rhain yn dangos manteision ac anfanteision y gwahanol dechnolegau band eang i fusnesau (MBCh) – ar gyfer cymwysiadau penodol – cyn iddyn nhw wneud penderfyniad i brynu. 
 
Roedd llwyddiant ymgyrch farchnata uniongyrchol BBW yn cael ei fesur yn nhermau faint o bobl a fyddai'n cofrestru gyda'r Cynllun Brocera Band Eang[6] www.bbwo.org.uk. Cafodd ymateb ei sicrhau gan 2% o'r trigolion yn yr ardal ddaearyddol benodol a dargedwyd.
 
Roedd gweithgareddau eraill ym maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn cael eu mesur gan Uned BBW yn nhermau nifer yr 'ymweliadau' a'r 'trawiadau' ar y gwefannau. Mae'r data sydd wedi'i gasglu bob mis ers Ionawr 2005 i'w weld dros y tudalen (ar gyfartaledd, 3340 o ymwelwyr unigryw y mis – uniongyrchol ac anuniongyrchol – ar draws yr holl wefannau).
 
Ar ddiwedd Mehefin 2005, adroddodd y rhaglen fod cyfanswm y trawiadau a'r ymweliadau â'r  gwefannau yn 367,000 a 32,676 yn y drefn honno. Er bod y ffigurau'n drawiadol, heb gytuno ar dargedau ymlaen llaw a diffinio'r derminoleg sydd i'w defnyddio yn glir, nid yw'n amlwg pa mor ystyrlon yw'r data yma o ran mesur y cynnydd yn erbyn y Targedau Strategol sydd wedi'u cyhoeddi gan BBW. 
 
Ymwelwyr Unigryw y Mis[7]
 
2005
 
 
 
 
 
 
Ion
Chwe
Maw
Ebr
Mai
Meh
Ymweliadau anuniongyrchol (clicio drwodd)
1142
322
902
999
485
TBC
695
384
1206
1077
646
TBC
1377
1026
1213
1164
1147
TBC
175
413
486
1091
750
3062
 
Cyfanswm
 
 
3389
 
2145
 
3807
 
4331
 
3028
 
TBC
Tabl 1 - Mae'r ffigurau'n dangos cyfanswm yr ymweliadau ar draws y gwefannau Cymraeg a Saesneg
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi nad yw'r mesurau presennol, a'r fformat adrodd sydd wedi'i fabwysiadu gan Uned BBW, yn caniatáu i'r Arsyllfa gymharu'r cynnydd â chynllun marchnata 2005. Gan hynny, does dim modd dweud bod amcanion yr ymgyrchoedd a'r deilliannau a ddymunwyd wedi'u cyrraedd nac i ba raddau y mae'r gweithgareddau wedi cyfrannu at gyrraedd Targed Strategol 2 BBW. 
 
Er mwyn i Darged Strategol 2 BBW gael ei gyrraedd erbyn diwedd Rhagfyr 2005, mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai Uned BBW ddarparu rhagor o dystiolaeth am y canlynol:
 
a) Gweithgareddau ledled Cymru sydd wedi'u targedu ar grwpiau allweddol, hynny yw gweithgareddau sydd wedi'u dylunio i addysgu'r holl ddefnyddwyr posibl a rhoi gwybod iddyn nhw – pob grŵp cymdeithasol a demograffig, pob sector busnes / pob band gweithwyr a phob corff yn y sector cyhoeddus – am fanteision tanysgrifio i fand eang
b) Deilliannau wedi'u mesur (e.e. archwilio newidiadau ymddygiad drwy raglen o ymchwilio a gwerthuso) sy'n dangos i ba raddau y mae'r gweithgareddau wedi cyfrannu at gyrraedd y targed yma
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Am nad oes fawr o dystiolaeth ar gael (wedi'i seilio ar fesurau sydd wedi'u cyhoeddi), mae'n amhosibl dweud bod Cymru'n mynd i sicrhau y bydd pawb yng Nghymru wedi cael gweld gwybodaeth yn y cyfnod a allai ganiatáu iddyn nhw wneud penderfyniad ar yr hyn y gallai band eang ei olygu iddyn nhw.
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005
 

Targed Strategol 3

 

"Gosod contract fel y gall cartrefi, busnesau a safleoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru gael mynediad i seilwaith band eang cenhedlaeth gyntaf"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Nod project Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS) yw gwella cystadleurwydd rhanbarthau sydd o dan anfantais drwy sicrhau bod band eang y genhedlaeth gyntaf ar gael yn ehangach.
 
Mae bwrdd y project yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu'r cynnydd yn erbyn cynllun y project a chynlluniau'r cyfnodau. Mae'r risgiau a welwyd yn y project wedi'u rheoli'n llwyddiannus. Roedd y gweithgareddau a gyflawnwyd o fewn lefelau goddefiant y rhaglen a'r project.
 
Mae'r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn cynnwys:
 
  • Bod y Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi cadarnhau bod yr ymateb i gwestiynau 'Hysbysu Cymorth Gwladol' wedi dod i law cyn diwedd y chwarter cyntaf a bod cwestiynau dilynol wedi'u hateb o fewn diwrnod ar ôl dod i law.
  • Bod yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) wedi'i roi (OJEU a buy4wales.co.uk) ym mis Ebrill 2005 i roi gwybod am y project i'r farchnad ac i ganiatáu amser i ddarpar gynigwyr ymchwilio i atebion posibl.
  • Bod ceisiadau am ragor o wybodaeth (wedi'u seilio ar y PIN) wedi dod i law oddi wrth 39 o gyrff (cyn y dyddiad cau ar 6 Mai 2005).
  • Bod Holiadur Rhag-ymgymhwyso (PQQ) a Datganiad o'r Gofynion a Gwahoddiad i Negodi wedi'u paratoi ac wedi'u cymeradwyo.
  • Bod hysbyseb yn yr OJEU wedi'i gosod ar 13 Mehefin 2005. Dechreuodd hon broses gaffael y project.
·         Tynnu sylw'r 10,000 o aelwydydd yn ardaloedd y 35 o gyfnewidfeydd sy'n fasnachol 'anhyfyw' ar draws Cymru at Gynllun Brocera Band Eang drwy wybodaeth uniongyrchol drwy'r post ar ddiwedd mis Mehefin2005[8].
  • Nodi mannau du posibl ar gyfer band eang y tu allan i ardaloedd y cyfnewidfeydd 'anhyfyw'.
  • Dosbarthu datganiadau'r wasg i'r cyfryngau – gan gynnwys gwybodaeth am y PIN; y cyhoeddiad bod y CE wedi cymeradwyo'r project ar 1 Mehefin 2005 a bod hysbyseb wedi'i gosod yn OJEU ar 13 Mehefin 2005.
  • Bod sylw cadarnhaol a helaeth i broject RIBS wedi'i greu yn y wasg.
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer cyrraedd Targed Strategol 3 BBW. Mae'r garreg filltir nesaf o bwys – cadarnhau'r rhestr fer o gynigwyr sydd wedi'u gwahodd i ymateb i'r Gwahoddiad i Dendro (ITT) – i fod i gael ei chyrraedd yn y trydydd chwarter (Ch3). 
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Mae'r project yn cyd-fynd â'r amserlen i ddyfarnu contract ar gyfer cyflenwi band eang i'r 'mannau du' sydd wedi'u nodi ledled Cymru.
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005

Targed Strategol 4

 

"Rhoi o leiaf fil o Grantiau Cynllun Cymorth Busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint ac i'r Sector Gwirfoddol yng Nghymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Erbyn diwedd mis Mehefin 2005, roedd Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) wedi cael 986 o geisiadau oddi wrth fusnesau a chyrff yn y sector gwirfoddol ledled Cymru yr oedd arnyn nhw eisiau cymorth i sicrhau cysylltiad band eang. 
 
O'r cyfanswm hwnnw, cafodd 736 o geisiadau eu cymeradwyo o dan Gynllun Cymorth Band Eang Busnes BBW sydd wedi'i ymestyn ac wedi'i ehangu. 
 
Technoleg (Ateb)
 
Ceisiadau a ddaeth i law
Ceisiadau a gymeradwywyd
Cebl
8
5
Prydlesu llinell
30
20
Lloeren
42
34
Diwifr
65
51
ADSL
840
624
Eraill
13
2
 
CYFANSWM
 
 
986
 
736
 
Rhanbarth Fforwm Economaidd
 
Ceisiadau a ddaeth i law
Ceisiadau a gymeradwywyd
Y Canolbarth
88
67
Y Gogledd
354
261
Y De-ddwyrain
346
266
Y Gorllewin
204
142
Lloegr
1
0
 
CYFANSWM
 
 
993
 
736
 
Ceisiadau ar gyfer cysylltedd band eang ADSL oedd y mwyafrif; a cheisiadau ar gyfer rhanbarth economaidd y Canolbarth oedd y gyfran leiaf.
 
 
Mae'r project yn gwneud yn well na'r amserlen a disgwylir iddo sicrhau mwy na'r nifer o grantiau sy'n angenrheidiol i gyrraedd Targed Strategol 4 BBW.
 
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005
 
Targed Strategol 5

 

"Creu cronfa i helpu i ddarparu band eang yn safleoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Bu'n rhaid i Uned BBW dynnu'r cais ERDF i gefnogi Cynllun Cymorth Grant Cysylltedd (CoGS) yn ôl ym mis Mawrth 2005, a hynny oherwydd materion Cymorth Gwladol a materion hysbysu.
 
Yn ystod ail chwarter 2005, mae Uned BBW wedi cydweithio'n agos â'r DTI, cyfreithwyr ac arbenigwyr eraill i sicrhau bod datblygiadau mewn mannau eraill yn y DU yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn ystod y gwaith manwl sy'n cael ei wneud i baratoi cynllun CoGS i'w hysbysu i'r Comisiwn Ewropeaidd (CE). Y nod yw lleihau'r cyfnodau amser y bydd eu hangen er mwyn cwblhau'r broses hysbysu yn llwyddiannus.
 
 
Nid yw'r CE wedi cyhoeddi penderfyniad hyd yn hyn mewn perthynas â phroject tebyg a hysbyswyd gan Weithrediaeth yr Alban. Er hynny, rhagwelir y daw'r Comisiwn i'r casgliad nad yw'r project yn yr Alban yn gyfystyr â Chymorth Gwladol. Byddai hynny'n dylanwadu'n gadarnhaol ar y cyfeiriad a gymerir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â CoGS a chyrraedd Targed Strategol 5 BBW.
 
Statws y Rhaglen: RAG = Melyn
Bydd angen datrys y materion ynglŷn â Chymorth Gwladol a hysbysu cyn y gall y cynllun gael ei redeg.
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005

 

Targed Strategol 6

 

 "Datblygu polisi Cymreig cytunedig ar gyfer crynhoi galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang"

Adolygiad Cynnydd

 
Mae project Agregu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn anelu at sicrhau cysylltedd lled band uchel a gwasanaethau perthynol sy'n cynnig y 'gwerth gorau', a hynny drwy agregu'r galw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
 
Mae bwrdd y project, a gafodd ei sefydlu yn 2004, yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu'r cynnydd. Mae gweithgor polisi a gweithgor technegol wedi'u sefydlu yn ddiweddar i sicrhau bod gofynion y budd-ddeiliaid a'r defnyddwyr yn cael eu cymryd i ystyriaeth drwy gydol y cyfnodau datblygu polisi.
 
Mae'r cerrig milltir allweddol sydd wedi'u cyrraedd yn ystod cyfnod yr adolygiad presennol yn cynnwys:
 
  • Bod y budd-ddeiliaid wedi'u cynnwys a bod gweithgorau traws-sector wedi'u sefydlu
  • Bod Cornwell Consultants wedi'u contractio (ddiwedd mis Mehefin) i helpu'r budd-ddeiliaid i bennu'r anghenion presennol a'r gofynion at y dyfodol, i'w hymgorffori yn achos busnes y PSBA
  • Bod papur ar y dewisiadau technegol wedi'i gylchredeg ac wedi'i adolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y project yn rhoi sylw i'r gofynion parhaus
  • Bod perchnogion rhwydweithiau yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys iechyd ac addysg) wedi ail-alinio dyddiadau caffael allweddol er mwyn ategu allbynnau posibl y PSBA
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd Targed Strategol 6 BBW.
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005

 

Targed Strategol 7

 

"Dangos i'r diwydiant telathrebu faint y galw a geir am seilwaith band eang ail genhedlaeth yng Nghymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Cafodd Cynllun Brocera Band Eang (www.bbwo.org.uk) ei 'lansio'n feddal' drwy ddatganiad i'r wasg ym mis Mawrth 2005. Nod y Cynllun yw casglu tystiolaeth am alw am fand eang y genhedlaeth gyntaf a'r ail genhedlaeth ar draws Cymru sydd heb gael ei ddiwallu.
 
Yn ystod cyfnod yr adolygiad cyfredol, mae'r Cynllun wedi'i hybu drwy gyfrwng 'Llythyrau at Olygyddion', erthyglau a baneri hysbysebu ar-lein. Hefyd, cafodd taflenni eu postio i aelwydydd mewn 'mannau du' hysbys ar ddiwedd mis Mehefin 2005, gan anelu at annog darpar ddefnyddwyr band eang i gofrestru eu galw am fand eang y genhedlaeth gyntaf gartref (gweler Targed Strategol 3 BBW).
 
O ganlyniad i hyn, mae'r mwyafrif sydd wedi cofrestru yn dod o ardaloedd yr Awdurdodau Lleol sydd â'r nifer fwyaf o gyfnewidfeydd sy'n anhyfyw o safbwynt masnachol (Powys, Gwynedd a Sir Benfro) a hynny ymhlith darpar ddefnyddwyr band eang y mae arnyn nhw eisiau band eang rhwng 512kbps a 2Mbps (sef band eang y genhedlaeth gyntaf).
 
Y band eang y mae ei angen
Preswyl
Busnes (Gartref)
Busnes
Gwirfoddol
Cyfanswm
(Mehefin 05)
Anhysbys
6%
2%
0%
0%
8%
Y Genhedlaeth Gyntaf
56%
9%
6%
2%
73%
Yr Ail Genhedlaeth
11%
4%
2%
0%
17%
Cyfanswm[9]
73%
15%
8%
2%
100%
 
Mae lefel y gwaith hybu sydd wedi'i wneud ledled Cymru (ymgyrchoedd ymhlith busnesau a defnyddwyr) wedi bod yn annigonol i gyrraedd y nifer o ffurflenni cofrestru wedi'u llenwi[10] a nodwyd yn y targed o blith darpar ddefnyddwyr band eang y mae arnyn nhw angen cysylltiad o fwy na 2Mbps. Mae'r mater yma wedi'i waethygu gan y problemau technegol ysbeidiol sydd wedi codi gyda gwefan Arsyllfa Band Eang Cymru. Methodd bron hanner y bobl a ymatebodd i'r daflen gyntaf drwy'r post am y genhedlaeth gyntaf â chofrestru eu manylion ar y cynnig cyntaf ac, er eu bod wedi'u hannog i roi cynnig arall arni, mae llawer wedi dewis peidio â gwneud.
 
Er mwyn i Darged Strategol 7 BBW gael ei gyrraedd, mae'n hanfodol:
 
a) Bod yr Arsyllfa yn rhoi ateb ar waith a fydd yn rhoi sylw i broblemau technegol y wefan
b) Bod Uned BBW yn 'uwchraddio' yr ymgyrch farchnata er mwyn annog y grwpiau sydd wedi'u targedu (yr holl ddefnyddwyr, busnesau a chyrff gwirfoddol) i gofrestru eu galw am gysylltedd >2Mbps
 
Nodir y gallai datblygiadau yn y farchnad[11] fwrw cysgod dros ganfyddiadau cychwynnol y Cynllun Brocera Band Eang – sydd i'w cyhoeddi yn ystod Ch4.  
Statws y Rhaglen: RAG = Melyn
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2005

Targed Strategol 8

 

"Ariannu dau Gynghorwr ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru i helpu i roi strategaethau band eang lleol ar waith (hyd fis Mawrth 2006)"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Mae Uned Band Eang Cymru wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i sicrhau bod adnoddau ar gael yn lleol i'w gwneud yn haws i fanteision band eang gael eu gwireddu.
 
Doedd dim adborth ar gael am y gwaith a gafodd ei wneud gyda'r awdurdodau lleol yn ystod cyfnod yr adolygiad cyfredol. Os oes modd, fe gaiff manylion am y strategaethau band eang lleol a'r cynlluniau gweithredu eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf ar y cynnydd.
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd Targed Strategol 8 BBW.
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Mae'r cynghorwyr yn eu swyddi ac mae'r ffrwd arian wedi'i dyrannu hyd at fis Mawrth 2006.
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2006
 
 

Targed Strategol 9

 
"Ariannu rhwydwaith band eang cadarn sy'n cysylltu pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gefnogi cymwysiadau sy'n holl-bwysig i'r amcan ac yn ychwanegu gwerth (hyd fis Gorffennaf 2006)"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Mae'r rhwydwaith band eang sy'n cysylltu pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn cael ei ddefnyddio eisoes. Mae'n cael ei ddefnyddio i ateb anghenion cyfathrebu data pob awdurdod lleol ac mae'n cario holl draffig y rhyngrwyd ar ran yr ISP (y Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd).
 
Mae angen rhagor o dystiolaeth i ddangos i ba raddau y mae'r rhwydwaith yn cael ei ddefnyddio i gynnal cymwysiadau sy'n holl-bwysig ar gyfer swyddogaethau'r awdurdodau yn ogystal â thraffig corfforaethol safonol.
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd Targed Strategol 8 BBW.
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Gorffennaf 2006

 

Targed Strategol 10

 

"Cyhoeddi a gweithredu'r polisi a gytunwyd mewn cysylltiad â chydgasglu galw'r sector cyhoeddus am seilwaith band eang"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Gweler Targed Strategol 6 BBW.
 
Mae Targed Strategol 10 BBW yn rhan annatod o broject PSBA. Gan fod Uned BBW yn gweithio fesul rhan yn y project yma, does dim cynnydd i sôn amdano yng nghyfnod yr adolygiad yma.
 
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2006
 

Targed Strategol 11

 
"Sicrhau bod y defnydd o fand eang cenhedlaeth gyntaf yng Nghymru'n gyfartal o leiaf â'r cyfartaledd yn y DU"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Gweler y cynllun adfer a argymhellwyd i helpu i sicrhau bod Targed Strategol 1 BBW yn cael ei gyrraedd.
 
Yng ngoleuni datblygiadau yn y farchnad, mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai'r rhaglen ystyried diwygio Targed Strategol 11 BBW i gynnwys hawlio band eang yr ail genhedlaeth
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Rhagfyr 2006
 
Targed Strategol 12
 
"Ceisio cefnogi o leiaf 50 o brosiectau lleol ledled Cymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Oherwydd fformat presennol yr adroddiadau, does dim modd nodi projectau sydd wedi'u cefnogi gan BBW drwy gyfrwng Tasglu BBW. Gan fod nifer aelodau'r Tasglu wedi gostwng, mae'r Arsyllfa wedi argymell bod gwybodaeth fanwl yn cael ei chofnodi yn ddyddiol (drwy ddefnyddio fformat templed sylfaenol) a hynny yn ystod cyfarfodydd gyda rheolwyr projectau lleol a rhanbarthol ac ar ôl y cyfarfodydd hynny.
 
Yn ystod cyfnod yr adolygiad cyfredol (erbyn mis Ebrill 2005), roedd Rhan 2 RIBS – project BBW y bwriedir iddo gynnig cymorth ariannol i brojectau lleol a rhanbarthol ledled Cymru – i fod i gael ei hysbysu i'r Comisiwn Ewropeaidd (EC) fel Cymorth Gwladol. At ei gilydd mae ar y projectau sy'n cael eu hysbysu angen cyfnod o rhwng 4 a 6 mis i gael eu cymeradwyo.
 
Deellir bod yr hysbysu wedi'i ohirio hyd nes i Darged Strategol 3 BBW (Rhan 1 RIBS) gael ei gyrraedd, gan nad oes modd i'r ffrwd arian gael ei dyrannu nes i gost lawn mynd i'r afael â 'mannau du' band eang y genhedlaeth gyntaf yng Nghymru gael ei chadarnhau.
 
Roedd y cynnydd yn ystod y cyfnod yn ymwneud yn bennaf â pharatoi, adolygu ac argymell y dewisiadau i'w hystyried gan fwrdd y project.  Mae yna bryderon o hyd ynghylch natur, rhychwant, manteision a buddiolwyr y cynllun.
 
Mae cynllun cyfredol y rhaglen, a baratowyd gan Uned BBW, yn awgrymu y bydd tîm y project yn datblygu cynllun busnes i gefnogi gwaith i ddatblygu'r cynllun grantiau angenrheidiol; yn cadarnhau bod arian ar gael; yn creu'r fframwaith a'r meini prawf allweddol ar gyfer llwyddiant; yn hybu ceisiadau priodol gan hyrwyddwyr band eang lleol a rhanbarthol a / neu gonsortia o gyflenwyr; yn adolygu ac yn cymeradwyo'r ceisiadau llwyddiannus ac yn sicrhau bod y projectau a gefnogir yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol rhwng Ionawr 2006 a Mawrth 2007.
 
Mae'r Arsyllfa yn gofidio na fydd yn ymarferol rhoi Rhan 2 RIBS ar waith o fewn y cyfnod amser cyfyngedig sydd ar gael.
 
Argymhellir y dylai mwy o bwyslais gael ei roi ar ddatblygu cynllun adfer a'i roi ar waith – a hwnnw wedi'i seilio ar weithgareddau Tasglu Band Eang Cymru – er mwyn sicrhau bod Targed Strategol 12 BBW yn gallu cael ei gyrraedd.
 
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007

Targed Strategol 13

 

"Sicrhau bod seilwaith band eang ail genhedlaeth ar gael i o leiaf 50% o'r busnesau yng Nghymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Ar hyn o bryd, does dim cynllun gweithredu yn Rhaglen BBW i gyrraedd y targed yma, gan fod Uned BBW yn rhag-weld y caiff y targed ei gyrraedd drwy lwyddo i roi'r project cyflymder ffibr ar waith (gweler Targed Strategol 14 BBW).
 
Erbyn diwedd cyfnod yr adolygiad cyfredol, roedd seilwaith band eang yr ail genhedlaeth ar gael yn y DU oherwydd cynnydd mewn cystadleuaeth[12] yn y farchnad band eang. Yng Nghymru, mae cysylltedd cyflymach ar gael yn ardaloedd y fasnachfraint gebl ac yn agos at gyfnewidfeydd sydd wedi'u 'dadfwndelu' yng Nghaerdydd a Wrecsam.
 
O ganlyniad i'r datblygiadau hyn, mae'r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi cynnig, drwy strategaeth i2010, y dylai 50% o'r holl aelwydydd allu cyrchu o leiaf 10Mbps erbyn 2010. 
 
Bydd y targed yma yn her mewn ardaloedd lled-drefol ac ardaloedd gwledig lle mae cyfran arwyddocaol o'r holl aelwydydd a busnesau wedi'u lleoli'n rhy bell o'r gyfnewidfa ffôn leol i gyrchu cysylltedd cyflym o'r fath. Yn yr un modd, bydd yr heriau ffisegol a thechnolegol yn cael eu gwaethygu mewn ardaloedd lle nad oes poblogaeth ddwys, lle nad yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyflymach  yn atyniadol o safbwynt masnachol i ddadfwndelwyr dolenni lleol (LLUBs).
 
Yng Nghymru, y disgwyl yw y bydd yr heriau yn arwyddocaol, oherwydd hyd y 'dolenni lleol' ar gyfartaledd a nifer y cyfnewidfeydd bach.
 
Fe allai Cymru wynebu bygythiad newydd o 'fwlch digidol' rhwng y rhai sy'n gallu cyrchu 'band eang yr ail genhedlaeth' – am eu bod yn byw ac yn gweithio o fewn ardal masnachfraint gebl a / neu yn byw ac yn gweithio yn agos i'w cyfnewidfa ffôn leol – a'r rhai sy'n methu ei gyrchu.     
 
Mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai cynllun y rhaglen gael ei hadolygu er mwyn sicrhau bod y bygythiadau (a'r cyfleoedd) posibl sy'n cael eu creu gan y datblygiadau presennol yn y farchnad yn cael eu nodi ac, os yw'n briodol, y dylai cynllun adfer gael ei ddatblygu a'i roi ar waith. 
 
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007
 

Targed Strategol 14

 
"Ceisio sicrhau bod cysylltiadau band eang cyflymder ffibr mewn parciau / lleoliadau busnes a ddynodir ymlaen llaw yn cael eu darparu am brisiau fforddiadwy"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Mae'r project cyflymder ffibr wedi'i ddylunio i helpu i oresgyn materion pellter, masnacholdeb a diffyg seilwaith cyfanwerthu cystadleuol.
 
Mae tîm project BBW wedi parhau i gydweithio â thîm trafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad a thîm eiddo y WDA i ddatblygu'r project. Cafodd y cais am arian cyfatebol Amcan 1 ei gyflwyno ym mis Ebrill a chafodd yr achos busnes amlinellol, sy'n cydymffurfio â gofynion OGC, ei gyflwyno i Dîm Rheoli Gweithredol Llywodraeth y Cynulliad  a'r WDA ym mis Mai 2005.
 
Mae gohirio wrth adolygu'r achos busnes a chytuno arno, a gohirio yn y fethodoleg ariannu a chaffael yn ystod mis Mehefin, ar y cyd â chwestiynau oddi wrth y CE ynghylch Cymorth Gwladol (wedi'u mynegi gan DG Cystadleuaeth drwy gyfrwng y DTI ym mis Chwefror 2005), wedi creu effaith negyddol ar amserlenni tîm y project.
 
Mae'r Arsyllfa'n amcangyfrif bod digon o amser ar gael o hyd i adennill yr amser a gollwyd a chyrraedd Targed Strategol 14 BBW erbyn y dyddiad cau.
           
Statws y Rhaglen: RAG = Melyn
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007
 

Targed Strategol 15

 
"Ceisio sicrhau mynediad i seilwaith cyfanwerthol cystadleuol dros rannau helaeth o Gymru"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Ar hyn o bryd, does dim cynllun gweithredu yn Rhaglen BBW i gyrraedd y targed yma gan fod Uned BBW yn rhag-weld y caiff y targed ei gyrraedd drwy lwyddo i roi'r project cyflymder ffibr ar waith (gweler Targed Strategol 14 BBW).
 
Mae'r Arsyllfa'n amcangyfrif bod digon o amser ar gael o hyd i adennill yr amser a gollwyd a chyrraedd Targed Strategol 15 BBW erbyn y dyddiad cau.
           
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007

Targed Strategol 16

 
"Rhoi strategaeth gytunedig ar waith i ddarparu cysylltiad uniongyrchol o Gymru i'r brif ryngrwyd ryngwladol"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Mae Uned BBW yn parhau i wneud ymchwil er mwyn darganfod anghenion a hynny gyda golwg ar gyflwyno papur am y dewisiadau ynghyd ag achos busnes cyn diwedd Rhagfyr 2005.
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd Targed Strategol 16 BBW.
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Am nad oes fawr o fesurau na gwybodaeth gyffredinol ar gael ar hyn o bryd, does dim modd dweud pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyrraedd y targed yma.
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007
 

Targed Strategol 17

 
"Creu mwy o ymwybyddiaeth ryngwladol o fanteision Rhaglen Band Eang Cymru i hyrwyddo enw da Cymru fel man i fusnesau ymsefydlu a thyfu"
 

Adolygiad Cynnydd

 
Ar sail adolygiad o gynllun Rhaglen BBW, does dim cynllun gweithredu wedi'i ddylunio yn unswydd i gyrraedd y targed yma.
 
Mae'r Arsyllfa'n nodi bod Rhaglen BBW yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd Targed Strategol 17 BBW.
Statws y Rhaglen: RAG = Gwyrdd
Am nad oes fawr o fesurau na gwybodaeth gyffredinol ar gael ar hyn o bryd, does dim modd dweud pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyrraedd y targed yma.
Dyddiad Cau y Targed: Mawrth 2007
 
 
 
Yn sgil lansio Strategaeth Rhaglen Band Eang Cymru 2005-2007 ym mis Ionawr,
mae'r mwyafrif o'r projectau o fewn y goddefiant ac yn cyd-fynd â'r amserlen i gyrraedd y targedau strategol o fewn yr amserlenni sydd wedi'u cyhoeddi.  Melyn yw'r statws RAG mwyaf brys ac mae hyn yn golygu mai MELYN yw statws y Rhaglen yn gyffredinol.
 
 
Statws y Targed
Faint sydd o bob Statws
Cyfeirnod y Targed
Gwyrdd
15
1, 2, 3, 4, 6, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17
 
Melyn
  2
5, 7
 
 
Coch
  0
d/g
 
 
Cyfanswm
17
 
 
 
Lle mae'r dystiolaeth o gynnydd rheolwyr projectau yn gyfyngedig a / neu lle cafwyd diffyg canolbwyntio ar y deilliannau sydd i'w sicrhau, mae'r Arsyllfa wedi ceisio nodi hynny yng nghorff yr adroddiad.
 
Mae'r Arsyllfa'n argymell y dylai rheolwyr y rhaglen a rheolwyr projectau ddod o hyd i fesurau cadarn y gellir mesur eu cyraeddiadau yn eu herbyn. Hefyd, dylai cynlluniau adfer perthnasol, gan gynnwys y camau adfer sydd i'w cymryd a chan bwy, gael eu nodi a'u rhoi ar waith yn ôl yr angen.
 
Bydd y cynnydd a gaiff ei wneud yn erbyn pob un o dargedau strategol BBW yn cael ei fonitro dros gyfnod yr adolygiad nesaf ac, os oes modd, caiff y deilliannau a gyflawnir eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf.

 

Y fethodoleg

 
Wrth adolygu'n rheolaidd y gwaith a wnaed o'i gymharu â'r targedau, defnyddir cyfres o feincnodau allweddol unwaith y chwarter er mwyn gofalu y gwneir y gwaith monitro mewn modd cyson. Dibynnir i raddau helaeth ar i'r wybodaeth berthnasol gael ei darparu i Arsyllfa Band Eang Cymru. Cesglir gwybodaeth allweddol o adroddiadau misol Rhaglen Band Eang Cymru, a ddarperir i'r Arsyllfa yn rheolaidd (yn fisol).
 
Mewn nifer o achosion mae angen sefydlu dulliau gwaith i gasglu data perthnasol ar gyfer yr adolygiad. Bydd yr Arsyllfa'n tanlinellu'r gofynion parhaus ynglŷn ag ymchwil i gasglu data a fydd yn helpu i bwyso a mesur y deilliannau a gaiff eu sicrhau drwy Raglen BBW.
 
Lle'r oedd ar gael, defnyddiwyd gwybodaeth gan drydydd partïon fel tystiolaeth ategol, ac i egluro'r camau a gymerwyd tuag at y targedau.
 
Crynodeb o Dargedau BBW (2002-2007)
Cyf
Targed
Statws
Sylw
1. 
Bydd tua 30% yn fwy o wasanaethau band eang daearol fforddiadwy ar gael yng Nghymru, a bydd 310,000 o gartrefi ychwanegol a 67,000 o linellau busnes ychwanegol yn gallu cael mynediad i fand eang
Wedi'i wneud (Haf 04)
 
Wedi'i uwchraddio i darged 1
2. 
Bydd band eang ar gael yn eang ledled Cymru am brisiau sy'n agos i rai DSL.
Wedi'i wneud (Haf 04)
Heb fod yn cael ei fesur mwyach
3. 
Datblygir 50-100 o fentrau lleol neu ranbarthol, gan wneud defnydd o allu creadigol cymunedau a busnesau i sicrhau'r dulliau o ddarparu band eang sy'n fwyaf addas i'w hamgylchiadau penodol.
Yn cyd-fynd â'r targed (Mawrth 07)
Wedi'i uwchraddio i darged 12
4. 
Bydd modd cysylltu â band eang drwy ffibr a/neu ddulliau eraill yn y rhan fwyaf o barciau/lleoliadau busnes.
Yn cyd-fynd â'r targed (Mawrth 07)
Wedi'i uwchraddio i darged 14
5. 
Bydd tua 1200 o safleoedd sector cyhoeddus ychwanegol yn gallu cysylltu â band eang.
Wedi'i wneud (Haf 04)
Heb fod yn cael ei fesur mwyach
6. 
Bydd cysylltiadau cyflym ar gael am brisiau fforddiadwy rhwng Cymru a chanolbwynt Rhyngrwyd rhyngwladol.
Rhagor o ymchwil wedi'i gynllunio gan BBW
Wedi'i uwchraddio i darged 16
7. 
Mwy o ymwybyddiaeth o fand eang a'r manteision a geir ohono, a fydd yn hybu dyfeisgarwch ac entrepreneuriaeth ledled Cymru.
Yn cyd-fynd â'r targed (Mawrth 07)
Wedi'i uwchraddio i darged 2
8. 
Mwy o ymwybyddiaeth ryngwladol o Raglen Band Eang Cymru, a fydd yn hyrwyddo enw da Cymru fel man i fusnesau ymsefydlu a thyfu.
Yn cyd-fynd â'r targed (Mawrth 07)
Wedi'i uwchraddio i darged 17
 
Cafodd targedau Rhaglen BBW ar gyfer 2002 – 2007 eu hadolygu yn ystod 2004 ac, yn sgil hynny, cawsant eu disodli gan y 17 o dargedau strategol a gyhoeddwyd yn y ddogfen Strategaeth Rhaglen BBW a lansiwyd ym mis Ionawr 2005.

[1] Ofcom Communications Market Update (All Adults) Mai 2005
[2] UK Broadband Connections June 2005, Ofcom
[3] O'r 5.7 miliwn o gysylltiadau band eang DSL yn y DU, mae BT Wholesale yn cadarnhau bod 4.4% (250,000 o linellau) yng Nghymru
[4] Nid yw NTL yn datgelu data marchnad ar gyfer Cymru o'i chymharu â'r DU 
[5] Data'r farchnad Mis Mehefin 2005, BT Wholesale
[6] Cafodd y Cynllun Brocera Band Eang ei lansio ym mis Mawrth 2005. Dechreuodd Rhan 1 y gweithgarwch marchnataf ym mis Mehefin 2005. Oherwydd negodi parhaus gyda darparwyr band eang posibl, dydy'r Arsyllfa ddim yn datgelu union nifer y rhai sydd wedi cofrestru.
[7]Cymerir bod y data sydd wedi'i goladu gan Uned BBW yn dangos nifer yr ymwelwyr unigryw â phob gwefan yn fisol ac oherwydd hynny all y ffigurau misol ddim cael eu hadio na'u cyfuno i roi canlyniad chwarterol. Cymerir hefyd mai dim ond 'ymweliadau unionyrchol' a all gael eu priodoli i waith marchnata gan BBW, hynny yw ymwelwyr sy'n cael eu gyrru i'r wefan o ganlyniad i hybu'r URL perthnasol drwy waith cysylltiadau cyhoeddus a / neu farchnata.
[8] Cynllun Cyfathrebu BBW ar gyfer y Cynllun Brocera Band Eang a ddyluniwyd i sicrhau bod 5000 yn cofrestru'n ddilys drwy ymgyrch mewn Rhannau (Mawrth: Lansio, Mai: Rhan 1, Mehefin: Rhan 2, Gorffennaf: Rhan 3).
[9] Nid yw'r ffigurau'n adio yn grwn bob tro oherwydd y 'talgrynnu ar hap' sy'n cael ei wneud er mwyn sicrhau gwell rheolaeth dros yr wybodaeth sy'n cael ei datgelu.
[10] Roedd Cynllun Cyfathrebu BBW ar gyfer y Cynllun Brocera Band Eang yn cynnwys targed o gofrestru 2,500 (ar draws marchnad wedi'i phwysoli ymhlith busnes a defnyddwyr) rhwng Ebrill a Mehefin 2005
[11] Yn Ch2, dechreuodd NTL gynnig band eang cebl 3Mbps yn ardal Masnachfraint y De – yn y Cymoedd ac ar hyd coridor yr M4; dechreuodd Bulldog, dadfwndelwr dolenni lleol (LLU), gynnig band eang ADSL hyd at 8Mbps yng Nghaerdydd a Wrecsam; a chadarnhaodd BT Wholesale y byddan nhw'n cyflwyno 8Mbps ledled y DU ym mis Tachwedd 2005. I ddechrau, caiff band eang yr ail genhedlaeth ei gyfyngu i safleoedd sydd wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith cebl a / neu'r safleoedd hynny sydd wedi'u lleoli'n ddigon agos i'r gyfnewidfa ffôn leol. Bydd y bwriad i gyflwyno band eang ADSL2+ yn helpu i ymestyn y cyfleoedd; eto i gyd mae cyfyngiadau'r dechnoleg yn golygu y bydd cyflymderau band eang yn is i'r darpar ddefnyddwyr sy'n byw bellaf o'r gyfnewidfa.    
 
[12]Mae'r gostyngiadau arwyddocaol yn y costau sy'n cael eu codi gan BT Wholesale wedi bod yn anogaeth i ddadfwndelwyr dolenni lleol (LLUBs) ddod i fannau trefol yn y DU. I gyd-fynd â'r cystadlu yma gwelwyd datblygiadau dramatig yn y dechnoleg, megis bod BT Wholesale wedi cyhoeddi eu bod am gyflwyno band eang 8Mbps ledled y DU o fis Tachwedd 2005 ymlaen a threialu band eang 18Mbps dros ADSL2+.