Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan > Adroddiadau & Erthyglau Eraill > Marchnad gwlad >

Marchnad Band Eang Y Deyrnas Unedig 2006

 
 
Dadlwytho'r Fersiwn PDF (PDF - 970KB)

 
Yn ynys-genedl yng ngogledd-orllewin Ewrop, mae tirwedd y DU, gan fwyaf, yn fryniau garw a mynyddoedd isel, gyda gwastadeddau bryniog ac eang yn y dwyrain a'r de-ddwyrain a chyfran uchel o arfordir yn ôl ardal. Mae'r DU yn cynnwys pedair cenedl: Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae iddi boblogaeth o 60 miliwn o bobl sy'n byw mewn 25 miliwn o gartrefi a dwysedd poblogaeth o 244 o drigolion i bob cilomedr sgwâr.
 
Poblogaeth
Dwysedd Poblogaeth
Cymru
2.9m
142in/km2
Yr Alban
5.0m
65in/km2
Lloegr
50m
383in/km2
Gogledd Iwerddon
1.7m
125in/km2
DU
59.8m
244in/km2
Tabl 1 – Poblogaeth a dwysedd poblogaeth cenhedloedd y DU, 2005
 
 
CMC y pen o $36,599 oedd y trydydd uchaf ar ddeg yn y byd yn 2005 yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae hyn yn cymharu â Lwcsembwrg ar $75,130, sydd â'r CMC y pen uchaf yn y byd[1]. Saif CMC y pen yng Nghymru ar 79% o gyfartaledd y DU, sy'n gyfwerth â rhyw $28,950[2].
 

Rheoleiddio

 
Rhyddfrydolwyd y sector telegyfathrebu ym 1982 a chaiff ei reoleiddio gan Y Swyddfa Gyfathrebiadau (Ofcom), a sefydlwyd ym mis Rhagfyr i gymryd lle pum corff rheoleiddio: sef y Comisiwn Teledu Annibynnol (ITC), y Comisiwn Safonau Darlledu (BSC), yr Awdurdod Radio, yr Awdurdod Cyfathrebiadau Radio (RCA) a'r Swyddfa Telegyfathrebiadau (Oftel).
 
Mae Ofcom wedi awgrymu mai "ei nod yw bod wedi annog datblygu amgylchedd lle mae llawer mwy o gystadlu ac arloesi mewn rhwydweithiau a gwasanaethau band eang" erbyn diwedd 2007/8[3].
 

Ymagwedd y Llywodraeth

 
Mae'r llywodraeth yn cydnabod bod gan y rhyngrwyd botensial enfawr ar gyfer addysg, adloniant a busnes, ac mae am i bawb allu cael mynediad ati a'i defnyddio'n hyderus[4]. Ym mis Chwefror 2001, cyhoeddodd y llywodraeth ei pholisi band eang, sef UK online: the broadband future, sy'n nodi'r prif resymau dros farn y llywodraeth bod band eang yn bwysig: i annog defnyddwyr i gysylltu â'r rhyngrwyd yn amlach ac am gyfnodau hirach; ac i rymuso defnyddwyr newydd a gwasanaethau busnes. Awgrymodd y byddai'r newidiadau hyn yn chwarae rhan bwysig mewn cystadleugarwch genedlaethol. Nod swyddogol y llywodraeth, a amlinellwyd yn ei pholisi, oedd "i'r DU feddu ar y farchnad band eang helaethaf a mwyaf cystadleuol yn y G7 erbyn 2005[5]". Bu'r llywodraeth yn ymwneud yn llai uniongyrchol â chyflwyno band eang na rhai o'r prif wledydd sy'n defnyddio band eang, fel Siapan a Chorea ac wedi dibynnu, yn hytrach, ar rymoedd y farchnad ac ymyriadau gan y rheoleiddiwr i gyrraedd y targed hwn. Nododd y dylai strategaeth gadarn ac effeithlon ddibynnu'n bennaf ar ddeinameg y farchnad i gynyddu nifer y cartrefi a'r cwmnïau sy'n defnyddio band eang. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod sail resymegol eglur am gyfranogiad y llywodraeth mewn ymdrin â'r ymraniad digidol a lleihau allgáu cymdeithasol lle bydd y farchnad yn methu[6].
 
Er mwyn bodloni'r targed hwn, sefydlwyd grŵp ymgynghorol annibynnol, sef Grŵp Rhanddeiliaid Band Eang (BSG). Mae'r grŵp yn gweithredu'n ganolbwynt i randdeiliaid ymdrin â materion byrdymor a hirdymor sy'n ymwneud â chyflwyno gwasanaethau band eang a'r nifer sy'n eu defnyddio. Mae'n cynnwys y prif chwaraewyr yng nghadwyn werth band eang o'r sectorau cyhoeddus a phreifat.
 

Mentrau

 
I ymdrin â'r heriau sy'n eu hwynebu, cyhoeddodd y llywodraeth Gronfa Band Eang y DU, sy'n werth £30 miliwn, yn hwyr yn 2001. Wedi'i sefydlu drwy'r AMD(yr Adran Masnach a Diwydiant), ei diben oedd helpu i ddatblygu cynlluniau arloesol a oedd yn ymwneud â band eang i fodloni gofynion lleol, i sicrhau y rhoddwyd mynediad at wasanaethau band eang fforddiadwy i gymaint o bobl a busnesau ledled y DU â phosibl. Lledaenwyd y gronfa i'r 12 Awdurdod Datblygu Rhanbarthol (ADRh)/Gweinyddiaethau Datganoledig yn y DU[7].
 
Yn ogystal â hyn, er mwyn agregu'r galw am fand eang yn y sector cyhoeddus, ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, sefydlwyd y Rhaglen Agregu Band Eang (RhABE). Mae RhABEyn fenter ar y cyd rhwng yr AMD ac ADRh. Mae agregu galw yn cynnig marchnad fwy deniadol i ddarparwyr isadeiledd ac yn hwyluso bargeinion sy'n cynnig mwy o werth am arian, sydd yn ei dro o fudd i'r sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus drwy adeiladu mwy o isadeiledd. Nodau cyhoeddedig RhABEoedd:
 
  • Cynyddu argaeledd band eang;
  • Uchafu gwerth am arian wrth i'r sector cyhoeddus brynu cysylltedd band eang drwy agregu gofynion band eang y sector cyhoeddus.
 

Cymru

Dyfarnwyd cyfran o £2.67 miliwn o Gronfa Band Eang y DU i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nodwyd e-weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru yn Cymru ArLein / Online for a Better Wales. Mae i strategaeth band eang Cymru ddau ganolbwynt: sef symbylu galw ac annog cyflenwad. Mae iddi sail resymegol economaidd a chymdeithasol, gan wella busnesau ar y naill law a gwasanaethau i gwsmeriaid, defnyddwyr a dinasyddion ar y llall.
 
Lansiwyd rhaglen 'banerlong' pum mlynedd, sef Rhaglen Band Eang Cymru sy'n werth sawl miliwn o bunnoedd, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2002.Nod y rhaglen yw ategu rhagolwg economaidd cadarnhaol i Gymru drwy ymdrin â 'diffyg yn y farchnad' - fel a nodwyd yn yr adroddiad 'Ubiquitous Broadband Infrastructure for Wales' a gomisiynwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru yn 2001. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datblygu cyfres o ymyriadau a dargedwyd gyda'r nod o ymdrin â diffyg yn y farchnad a chynyddu cyfradd cyflwyno band eang. Cefnogir y gwaith hwn gan Grŵp Rhanddeiliaid Band Eang Cymru, a monitrir ei gweithgareddau gan Arsyllfa Band Eang Cymru. Un o nodau gwreiddiol y rhaglen oedd cyflawni cyrhaeddiad o 95% o ran gwasanaethau band eang yng Nghymru, erbyn Gorffennaf 2007. Fodd bynnag, rhagorwyd ar y targed hwn eisoes ac, fel y cyfryw, mae'r ffocws erbyn hyn wedi symud at gyflawni cyrhaeddiad o 100%.
 
Mae Rhaglen Band Eang Cymru yn cynnwys prosiectau sy'n canolbwyntio ar alw a chyflenwad, gan fod y ddau yn gysylltiedig yn annatod:
 
Symbylu galw/marchnata – Ymgyrch tair blynedd Cymru-gyfan a dargedwyd at fusnesau, defnyddwyr a ffurfwyr barn. Ei phrif nod yw cyflawni newid sylweddol yng Nghymru o ran y canfyddiadau a'r ymagweddau at fand eang a, thrwy hynny, cynyddu'r nifer sy'n defnyddio band eang ac annog defnydd mwy effeithiol ar y dechnoleg yn y cartref ac mewn busnesau. Mae'r ymgyrch yn cynnwys: marchnata uniongyrchol, hysbysebu yn y wasg leol a chenedlaethol yn ogystal ag ar y radio, ac ymchwil i'r farchnad gan gynnwys arolygon i ddeall nodweddion y farchnad Gymreig, ac anghenion ac ymagweddau penodol dinasyddion a chymunedau tuag at fand eang, yn well.
 
Cynllun Cymhorthdal Band Eang Lloeren i Fentrau Bach a Chanolig- Ar y cychwyn canolbwyntiodd y cynllun hwn, a lansiwyd ym Medi 2002, ar roi cymhorthdal o hyd at £1,500 i MBChau dderbyn band eang drwy loeren yn ddarostyngedig i gyfres benodol o amodau. Daeth y cynllun hwn yn gynllun technoleg niwtral ym mis Chwefror 2004 ac fe'i estynnwyd i gynnwys y sectorau gwirfoddol ac elusennol hefyd.
 
Cynllun Profi cyn Prynu - Grymuswyd rhwydwaith o 24 o Ganolfannau Cymorth TGCh ledled Cymru â lloerenni a, lle'r oedd ar gael, gwasanaethau band eang LlDD (Llinell Danysgrifio Digidol) daearol i gynnig cyfleusterau profi cyn prynu band eang i fusnesau.
 
Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (CBEARh) – Prosiect Amcan 1 yw CBEARh a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o ddod â mynediad band eang fforddiadwy i'r 35 cyfnewidfa yng Nghymru sydd i'w galluogi o hyd.  Yn ogystal, bydd yn ymdrin â mannau ledled Cymru lle ceir diffyg o ran band eang i ddatrys effeithlonrwydd cost a rhoi mynediad at fand eang yn effeithiol i'r ardaloedd hyn.  Mae'r prosiect cyffredinol yn un technoleg niwtral, a bydd yn achosi bod band eang ar gael yn ehangach. Dyluniwyd y prosiect yn benodol i gynnig mynediad at wasanaethau band eang 'y genhedlaeth gyntaf', ar gost sy'n gymharol ag ardaloedd trefol Cymru. Crëwyd gwefan broceriaeth band eang (www.bbwo.org.uk/broadband-3161) sy'n galluogi cwmnïau, sefydliadau sector cyhoeddus ac unigolion i gofrestru eu diddordeb mewn defnyddio band eang i leoli'r mannau lle ceir diffyg band eang yng Nghymru.
 
Prosiect Agregu Band Eang Sector Cyhoeddus - Mae'r prosiect hwn yn ceisio sefydlu'r ffordd fwyaf cost effeithiol o gael cysylltedd band eang i'r sector cyhoeddus ledled Cymru. Bydd yn ystyried manteision strategol, gweithredol ac economaidd, gan ganolbwyntio'n benodol ar allu i ryngweithredu a chydweithio. Sefydlwyd nifer o weithgorau â llywodraeth leol, iechyd, y sectorau addysg uwch a bellach, ac eraill, i gynorthwyo wrth ddatblygu'r achos busnes a nodi'r ateb mwyaf priodol o ran agregu band eang.
 
Rhwydwaith Dysgu Gydol Oes – Mae'r Rhwydwaith Dysgu Gydol Oes yn rhwydwaith lled band uchel ledled Cymru a gynlluniwyd i ymdrin â gofynion cysylltedd band eang agregedig sefydliadau sector cyhoeddus. Nod y prosiect yw cyflwyno cysylltedd band eang i ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu ledled Cymru. Ei ddiben oedd cyflawni'r 'gwerth gorau am arian' trwy sail resymegol a ffocws ar fuddsoddi mewn isadeiledd, gan wella argaeledd band eang i Gymru; gyrru datblygiad economaidd; cynyddu cystadleugarwch ac ymdrin â'r ymraniad digidol.Mae i'r prosiect hwn yr uchelgais eithaf o gysylltu pob ysgol gynradd a chanolfan dysgu ar gyfradd isaf o 2Mbps a phob ysgol uwchradd a llyfrgell ar gyfradd o 8Mbps. Gall Awdurdodau Lleol ddefnyddio'r Rhwydwaith Dysgu Gydol Oes i gefnogi eu traffig electronig eu hunain hefyd.
 
Cyflymder Ffibr – Nod y fenter Cyflymder Ffibr yw cynnig band eang cyflymder uchel i 14 o barciau busnes ar draws gogledd Cymru. Disgwylir i'r rhwydwaith hwn allu cefnogi lleiafswm o 10Mbps o gysyllteddcymesur ac y gellir ei raddio yn ôl cyflymderau gigabit yn y dyfodol, i fod yn fwy cystadleuol o ran pris na'r cynigion band eang masnachol presennol.
 
Datblygu Band Eang Ail Genhedlaeth (DBEAG) – Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â dau o nodau penodol Rhaglen Band Eang Cymru: yn gyntaf, i sicrhau argaeledd isadeiledd band eang 'ail genhedlaeth' i o leiaf 50% o'r busnesau yng Nghymru ac, yn ail, i weithredu strategaeth a gytunwyd o ran darparu cysylltiad rhyngrwyd uniongyrchol o Gymru i'r rhwydwaith craidd byd-eang.  Ystyrir bod band eang 'ail genhedlaeth' rhwng 2Mbps a 10Mbps. Cynlluniwyd y cynllun broceriaeth band eang i fesur y galw am wasanaethau band eang 'ail genhedlaeth' yng Nghymru a threfnir bod y deallusrwydd a gesglir drwy'r cynllun ar gael i'r sector preifat, i annog darparu gwasanaethau band eang 'ail genhedlaeth' ledled Cymru. Caiff ymateb y farchnad i'r canfyddiadau hyn ei monitro'n agos, ac asesir manteision posibl cysylltiad uniongyrchol rhwng Cymru â'r rhyngrwyd graidd.
 
 
Lloegr
 
ActNow Cornwall - Prosiect rhanbarthol sy'n defnyddio cyllid Ewropeaidd Amcan 1 i ddarparu  band eang i ardal o boblogaeth wasgaredig a dwysedd isel. Mae'r prosiect £12.5 miliwn wedi elwa ar £5.25 miliwn o gyllid strwythurol Ewropeaidd Amcan Un. Cynhelir y prosiect gan Awdurdod Datblygu Rhanbarthol De-Orllewin Lloegr, Cyngor Sir Cernyw, Menter Cernyw, Cysylltiadau Busnes, Coleg Cernyw a BT[8]. Nodau'r prosiect oedd dod â band eang i 12 o gymunedau yng Nghernyw a chofrestru 3,300 o fusnesau i fand eang erbyn Ebrill 2005. Rhagorwyd ar y nodau hyn o bell ffordd, gan fod gan bob un o'r 101 o gyfnewidfeydd yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili fynediad at fand eang erbyn hyn, sy'n cynnwys 99% o fusnesau. Yn ogystal â hyn, mae gan 8,000 o fusnesau gysylltiadau band eang erbyn hyn; mwy na dwywaith y targed gwreiddiol. Amcangyfrifir y crëwyd bron i 3,300 o swyddi o ganlyniad i'r prosiect, a bod CMC Cernyw wedi elwa o fwy na £77 miliwn[9].
 
Prosiect Band Eang Hampshire – Prosiect a arweinir gan y Cyngor Sir a Chyngor Dinas Caer-wynt, a lansiodd gynllun grant i helpu busnesau lleol gyda chost band eang. Cynhwysai'r rhaglen dair blynedd farchnata defnyddio band eang i gynyddu'r defnydd ohono mewn busnesau ac yn y cartref. Yn ogystal â darparu grantiau i fusnesau a oedd yn cysylltu â band eang am y tro cyntaf, mae'r rhaglen o weithgareddau am ddim yn cynnwys sesiynau cyngor, cynnig 'arian yn ôl' i ddefnyddwyr cartref, digwyddiadau, llinell gymorth am ddim a chyfleoedd dysgu[10]
 
Cyswllt Busnes Humber - Ariannwyd y Cynllun Cefnogi Busnes gan Yorkshire Forward a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Nod y fenter oedd annog busnesau lleol i gofrestru ar gyfer band eang. Caniatâi'r fenter i fusnesau hawlio hyd at 50 y cant o gost gwasanaethau band eang yn ôl am y flwyddyn gyntaf, hyd at uchafswm o £3,000. Erbyn hyn, mae cyllid ar gyfer y cynllun wedi dod i ben[11].
 
RABBIT - Cefnogodd Cronfa Band Eang y DU Ragbrawf Cynhwysiad Band Eang Ardaloedd Anghysbell (RABBIT).Sefydlwyd y prosiect hwn i hyrwyddo defnyddio band eang i fusnesau a sefydliadau bach mewn ardaloedd anghysbell, i roi prawf ar ddulliau amgen o ddarparu rhyngrwyd band eang i fusnesau bach mewn ardaloedd anghysbell, ac i werthuso effeithiolrwydd yr atebion sydd ar gael. Er mwyn cynorthwyo busnesau bach i gysylltu â band eang, cynigiwyd cymorth ariannol o £300 i £800 am flwyddyn gyntaf tanysgrifiad band eang. Rhannwyd prosiect RABBIT fel prosiect ar y cyd rhwng sawl Awdurdod Datblygu Rhanbarthol a Gweinyddiaeth Datganoledig[12].
 
Prosiect 'Demand Broadband' Awdurdod Datblygu Dwyrain Lloegr -Diben y prosiect hwn oedd addysgu trigolion a pherchnogion busnes am bwysigrwydd band eang, a thrwy hynny darbwyllo darparwyr telegyfathrebu i ystyried cyflenwi marchnadoedd lle gellir dangos bod galw am fand eang.  Crëwyd gwefan broceriaeth band eang (www.enterprise-link.co.uk/bbb-register) i roi gwybodaeth am fand eang, ac i ganiatáu i gwmnïau, sefydliadau sector cyhoeddus, cymunedau ac unigolion gofrestru eu diddordeb mewn defnyddio band eang[13].
 
Broadband4Devon - Prosiect partneriaeth sector preifat a sector cyhoeddus gwerth £12.5 miliwn, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2003, â'r nod o helpu 5,500 o gwmnïau yn Nyfnaint i fanteisio'n llawn ar y chwyldro e-fusnes. Ei nod hefyd oedd defnyddio technoleg band eang cyflym i greu neu ddiogelu mwy na 1,600 o swyddi yn Nyfnaint. Mae'r prosiect tair blynedd hwn yn cynnig i fusnesau yn yr ardal Amcan 2 ddewis o becynnaucymorthdaledig sy'n amrywio o gysylltu'n unig i ddatrysiadau busnes integredig i ddatrysiadau cyflawn a rwydweithiwyd.  Hyd yn hyn, mae mwy na 6,000 o fusnesau wedi elwa ar y prosiect ac, ym mis Mai 2005, amcangyfrifodd gwerthusiad annibynnol o Broadband4Devon fod yr effaith ar y cyfraniad net at Ddyfnaint, gan gynnwys gwerthiannau, busnesau a adleolwyd, arbedion cost a chynhyrchedd, yn werth mwy na £7 miliwn[14].
 
Yr Alban
 
Nod allweddol strategaeth band eang Gweithrediaeth yr Alban, sef "Connecting Scotland: our broadband future", yw "trefnu bod cysylltiadau band eang fforddiadwy a threiddiol ar gael i ddinasyddion a busnesau ledled yr Alban". Nod arall y strategaeth, a lansiwyd ym mis Awst 2001, yw hyrwyddo datblygiad economaidd ac atal ymraniad digidol rhag agor rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig. Materion allweddol a amlygwyd yn yr Alban yw mynediad, cost a galw, yn ogystal â'r angen i godi ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n defnyddio band eang[15].
 
Gweithrediaeth yr Alban sy'n gyfrifol am weithredu'r rhaglenni amrywiol i annog darparu a defnyddio band eang. Maent yn cynnig cymorth cyllid o gyfran £4.4m yr Alban o Gronfa Band Eang y DU a'r £24m a ddyranwd ar gyfer menter band eang newydd y Weithrediaeth. Cynhelir y gweithgareddau ar y cyd ag asiantaethau menter y Weithrediaeth, Scottish Enterprisea Highlands and Islands Enterprise[16].
 
Prosiect ATLAS – Prosiect a gynhelir gan Weithrediaeth yr Alban sy'n canolbwyntio ar gost gwasanaethau band eang yn ogystal â dewis cwsmeriaid ac argaeledd.
 
Cyfnod cyntaf Prosiect ATLAS oedd sefydlu Cyfnewidfa Masnachu Telathrebu (TTE) rithwir yn yr Alban a gefnogir gan gysylltiad yn ôl â Llundain. Mae TTE yn farchnad rithwir am gysylltedd band eangcyfanwerthol. Agorodd ym mis Ionawr 2003, ac mae'n cynnig lled band gallu uchel i fusnesau ar gyfraddau cystadleuol. Mae TTE yn wefan lle gall gweithredwyr telathrebu byd-eang nodi eu prisiau am wasanaethau sydd ar gael yn yr Alban, ac mae ar agor i unrhyw weithredwr telathrebu neu ISP (Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd). Bydd defnyddwyr y TTE yn gallu manteisio ar fwy o dryloywder ac ansawdd gwasanaeth wrth brynu lled band, yn ogystal â'r tebygolrwydd o gael prisiau is trwy farchnad gystadleuol.
 
Bydd ail gyfnod y prosiect yn lledaenu manteision ATLAS yn ehangach, drwy adeiladu canolbwyntiau anghysbell mewn chwech o barciau busnes Scottish Enterprise, gyda chysylltiadau yn ôl â'r prif ganolbwynt ATLAS yng Nghaeredin. Bydd ATLAS yn darparu'r isadeiledd ffibr goddefol y mae ei angen i gyflwyno gwasanaethau band eang a thelathrebu datblygedig i barciau busnes. Scottish Enterprise fydd yn berchen ar yr isadeiledd hwn, ac fe'i weithredir ar ei ran gan gwmni rheoli. Yna, rhoddir mynediad ar brydles i ddarparwyr gwasanaeth ar sail agored ac anwahaniaethol. Ni fydd Scottish Enterprise ei hun yn darparu unrhyw wasanaethau adwerthu i ddefnyddwyr terfynol. Seilir y rhwydwaith ar dechnoleg cenhedlaeth nesaf i sicrhau cyd-fynd â datblygiadau'r dyfodol. Trefnir cwblhau lleoli'r rhwydweithiau hyn yn y parciau busnes yn gynnar yn 2006[17].
 
Prosiectau Braenaru Band Eang - lansiwyd dau brosiect ym mis Rhagfyr 2004 yn Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban ac yn Ne'r Alban i agregu galw'r sector cyhoeddus am isadeiledd band eang. Bydd y prosiect £70m i gysylltu ysgolion, llyfrgelloedd ac adeiladau cyngor eraill â gwasanaethau band eang cyflym yn darparu gwasanaethau i fwy nag 800 o safleoedd. Cysylltir y safleoedd gan ddefnyddio cymysgedd o isadeiledd ffibr, di-wifrac isadeiledd ar sail copr. Ym mis Mehefin 2006 dewisodd tîm caffael gais Thus, sef gweithredwr telathrebu o'r Alban, o flaen BT am y prosiect[18].
 
Prosiectau symbylu galw:
 
Gwefan Neutral Broadband – Gwefan (www.scottish-enterprise.com/broadband) a lansiwyd i godi ymwybyddiaeth o fanteision band eang ac i gynnig cyngor a gwybodaeth annibynnol ar fand eang i fusnesau. Mae'r wefan yn cynnwys seminarau ar-lein, cyfleuster chwilio gweithredwyr, ac offeryn hunanasesu i ddangos sut y gall busnesau elwa ar fand eang[19].
 
Rhwydwaith canolfannau arddangos lleol - Rhwydwaith o ganolfannau arddangos band eang sy'n canolbwyntio ar fuddion band eang i fusnesau, ac argaeledd eang y gwasanaeth trwy loeren. Hyrwyddodd gweithdai band eang arddangosiadau ymarferol rhyngweithiol aswyddogaethol i helpu busnesau i werthfawrogi 'celfyddyd y posibl' band eang gydag enghreifftiau o fanteision gwirioneddol i fusnesau. Roedd Uned Dysgu Band Eang symudol hefyd ar ffurf bws â chanddo loeren a gyflwynai ymwybyddiaeth ac addysg band eang symudol i'r gymuned ehangach gan ddefnyddio'r rhaglen a deunyddiau addysgu a ddatblygwyd ar gyfer y canolfannau sefydlog[20].
 
Mentrau symbylu cyflenwad a threialon technoleg:
 
Cynllun Cymhelliant Band Eang Busnes - Nod y cynllun hwn oedd annog busnesau i ddefnyddio cysylltiad band eang trwy gynnig grantiau a oedd ar gael ledled yr Alban tan fis Mawrth 2004. Roedd grantiau gwerth £300 ar gael i fusnesau osod gwasanaethau band eang fel llinell ffôn, cebl neu ddi-wifr sefydlog. I fusnesau mewn ardaloedd lle nad oedd y gwasanaethau hyn yn debygol o fod ar gael yn y dyfodol agos, cynigiwyd grantiau gwerth £1,200 i helpu â chost gosod a rheoli cysylltiad band eang trwy loeren, neu ddatrysiad pwrpasol.Rhoddodd y cynllun gwreiddiol £2.2 miliwn i fwy na 3,000 o fusnesau yn yr Alban er mwyn gosod band eang. O ganlyniad i'r llwyddiant hwn, estynnwyd y cynllun am flwyddyn ychwanegol ar ôl i £1 miliwn arall gael ei gynnig[21].
 
Profion Llinellau Pŵer – Cynhaliwyd dau arbrawf technegol ar dechnoleg llinellau pŵer band eang yn Crieff a Campbeltown mewn partneriaeth â Scottish Southern Electric (SSE). O ganlyniad, lansiodd SSE wasanaethau masnachol yn Stonehaven i roi prawf ar yr achos dros ddefnyddio band eang llinellau pŵer. Fodd bynnag, ers hynny mae SSE yn peidio â chofrestru cwsmeriaid llinellau pŵer newydd, ac ymddengys fod y dechnoleg yn annhebygol o gael ei gweld ar y farchnad dorfol oherwydd materion sy'n ymwneud ag ymyrraeth radio[22].
 
Prosiect Arddangosiad Rhwydwaith Cymunedol – Sefydlwyd y prosiect hwn gan Highlands & Islands Enterprise i gynnig band eang mewn cymunedau nad oedd technolegau band eang yn eu cyrraedd eisoes. Sefydlwyd rhwydweithiau di-wifr mewn 6 chymuned i ddangos technolegau band eang di-wifr ac i brofi'r broses o gyflwyno i'r cymunedau mwyaf anghysbell ledled Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban. Yn ogystal â chysylltu defnyddwyr terfynol â band eang, mae'r prosiect yn cynnig profiad bywyd go iawn ar sut i oresgyn heriau logistaidd, technegol, trefniadaethol a chyfreithiol a achosir gan y model hwn[23].
 
Gwasanaeth Band Eang Gwledig Ffiniau'r Alban - Prosiect peilot a ddyluniwyd i brofi ymagweddau arloesol at gyflwyno gwasanaethau band eang mewn ardaloedd sy'n cael eu tanwasanaethu. Dewiswyd ardal Ffiniau'r Alban yn lleoliad i'r peilot hwn gan mai dyma'r ardal â'r argaeledd isaf o ran band eang yn yr Alban ar y pryd. Un o amcanion allweddol y prosiect oedd y byddai'n parhau i ddarparu gwasanaethau band eang i ddefnyddwyr terfynol ar sail hunangynhaliol, y tu hwnt i'r cyfnod peilot. Defnyddiwyd technoleg ddi-wifr i gyflwyno mynediad at wasanaethau band eang lle nad yw technolegau eraill yn fasnachol neu'n dechnegol ymarferol. Nid yw Scottish Enterprise Borders yn darparu gwasanaeth band eang yn uniongyrchol i'r cyhoedd, ond sefydlwyd is-gwmni ganddo, sef SBRB Cyf, i ymddwyn yn ddarparwr cyfanwerthol gwasanaethau i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd. Wedi proses helaeth a thrylwyr a gynhaliwyd o dan weithdrefnau tendro OJEC yr Undeb Ewropeaidd dewiswyd THUS, sef gweithredwr o'r Alban, i gyflwyno'r contract ar ran SBRB Cyf[24].
 
Gogledd Iwerddon
Lansiodd Gweinidog yr Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi (DETI) weledigaeth newydd ar gyfer telathrebu yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2003 o'r enw "Broadband Northern Ireland – Fully Connected". Y weledigaeth hon yw cael Gogledd Iwerddon sydd wedi'i chysylltu'n llawn, gyda mynediad teg at wasanaethau band eang cost effeithiol i bawb. Gosododd y llywodraeth y targedau canlynol ar gyfer Gogledd Iwerddon:
 
  • Bod y rhanbarth sy'n arwain y ffordd yn y DU o ran band eang;
  • Bod y rhanbarth gyntaf yn y DU i gyflawni cyrhaeddiad o 100% o ran gwasanaethau band eang;
  • 100% o fynediad at fand eang â lleiafswm o 512kbps i bob cartref a busnes erbyn diwedd 2005;
  • 12% o gartrefi ac 20% o fusnesau'n derbyn band eang erbyn diwedd 2005;
  • 100% o fand eang ar 2Mbps am brisiau cystadleuol erbyn diwedd 2006[25].
 
Sicrhaodd Gogledd Iwerddon £1.46m fel ei rhan hithau o Gronfa Band Eang £30m y DU. Mae mentrau Band Eang yn cynnwys:
 
The Broadband SME Programme - Roedd y rhaglen hon yn annog MBCh i gysylltu â band eang er mwyn eu helpu i gael y manteision a gynigir gan gysylltedd band eang. Roedd cymorth ariannol gwerth hyd at 40% o'r gost, hyd at gyfanswm o £5,000, ar gael i fusnesau cymwys.
 
Electronic Libraries for Northern Ireland (ELFNI) – Prosiect menter cyllid preifat gwerth £36.5m â'r bwriad o ddod â gwasanaethau gwybodaeth electronig i'r holl lyfrgelloedd cyhoeddus bron yng Ngogledd Iwerddon. Cyflwynwyd hyn ar draws y 126 o lyfrgelloedd cyhoeddus a'r system llyfrgelloedd ysgolion cyn pen 15 mis, gyda statws cwbl weithredol yn cael ei gyflawni erbyn y dyddiad targed, sef Awst 2003. Nod y prosiect hwn oedd "cyflwyno gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus gymdeithasol-gynhwysol, cost effeithiol, effeithlon a modern i gymuned Gogledd Iwerddon[26]".
 
C2k (Classroom 2000) - Prosiect £200miliwn i ddarparu gwasanaethau addysgiadol i ysgolion trwy isadeiledd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Darparodd y prosiect systemau e-bost ac anfon negeseuon, gwasanaethau cynadledda ar-lein, cyfleusterau gwe gyhoeddi a gwe-letya i bob un o'r 350,000 o ddisgyblion ac athrawon yn ysgolion Gogledd Iwerddon sy'n derbyn cymorth grant.Bydd pob athro a disgybl wedi'u cysylltu â'r Rhyngrwyd o'i ysgol, ac o'i ddiwrnod/diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd, bydd gan bob plentyn ei gyfeiriad/chyfeiriad e-bost diogel ei hun. Fel rhan o'r prosiect, bydd gan bob un o 1,200 o ysgolion cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig Gogledd Iwerddon gysylltiadau band eang erbyn diwedd 2006[27].

Mae prosiectau eraill a gefnogir o dan Gronfa Band Eang y DU yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys:
 
  • Rhagbrawf gwasanaethau di-wifr band eang yn ardal De Antrim;
  • Datblygu sianel darlledu masnach deg a busnes rithwir ym Melffast;
  • Rhagbrawf di-wifr rhwydwaith band eang radio yn Dundrum;
  • Astudiaeth dichonolrwydd i rwydwaith ffibr optegol ynnyfrffyrdd Iwerddon;
  • Rhagbrawf canolbwynt mynediad at ATM gwledig yn Fermanagh;
  • Rhagbrawf arloesol I-Burst ym Mharc Gwyddoniaeth Gogledd Iwerddon;
  • Astudiaethau dichonolrwydd i ddarpariaeth, defnydd a galw am fand eang yn ardal 19 o gynghorau[28].
 
Nid rhestr gynhwysfawr yw'r mentrau a'r prosiectau a drafodir uchod, a gellir cael mwy o wybodaeth o'r ffynonellau canlynol: 
www.bbwo.org.uk/initiatives,www.connectingsw.net, www.broadband.wales.gov.uk, Broadband in the Devolved Administrations, November 2003.
 

Gweithredwr Cyfredol

 
O ran preifateiddio'r farchnad delegyfathrebiadau, daeth y gweithredwr cyfredol, sef BT, yn gwmni cyfyngedig cyhoeddus ym 1984. Preifateiddiwyd BT yn llawn ym 1993, pan werthodd llywodraeth y DU weddill ei chyfran yn y cwmni.

Lled Band Rhyngwladol

 
O ran lled band rhyngwladol, yn 2004, y DU oedd y pedwerydd uchaf yn y byd o ran lefel lled band am bob preswyliwr, yn ôl yr Undeb Telegyfathrebu Rhyngwladol (UTRh), gyda mwy na 13Mbps y person. Yn Nenmarc y cafwyd y lefel uchaf, sef rhyw 35Mbps y person, o flaen Yr Iseldiroedd ar 20Mbps a Sweden ar 17Mbps[29].
 
Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru gysylltedd band eang Haen Ryngwladol 1. Fodd bynnag, bydd prosiect o fewn uned eGymru Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwerthuso a oes angen cysylltiad band eang Rhyngwladol i sicrhau ffyniant economaidd i Gymru ac i fodloni gofynion datblygiad band eang at y dyfodol. 
 

Isadeiledd

 

Isadeiledd Meingefn

 
Cafwyd cryn fuddsoddiad mewn isadeiledd meingefn yn ystod y degawd diwethaf gan arwain at nifer o weithredwyr meingefn rhyngwladol, gan gynnwys Thus, Cable & Wireless a Telindus, sy'n berchen ar rwydweithiau helaeth. Mae gan y gweithredwyr cebl NTL a Telewest rwydwaith meingefn sylweddol hefyd. Er gwaethaf hyn, BT yw'r gweithredwr rhwydwaith pwysicaf o hyd, gyda rhwydwaith sy'n cyrraedd holl brif drefi a dinasoedd y DU[30].
 

Isadeiledd Mynediad Lleol

 
Dominyddir isadeiledd mynediad lleol gan BT, a oedd yn berchen ar 33.9 miliwn o'r 41.7 miliwn o linellau mynediad lleol ar ddiwedd 2005. Y prif gystadleuwyr yw NTL a Telewest. Yn ninas Hull, y gweithredwr cyfredol yw Kingston Communications. Yn y dyfodol agos, bydd defnydd cynyddol ar ddadfwndelu dolenni lleol yn darparu mwy o gystadleuaeth o ran isadeiledd mynediad lleol[31].
 
Yn dilyn ail gyfnod Adolygiad Strategol Ofcom o Delegyfathrebiadau, lansiodd BT adran newydd o'r enw Openreach ym mis Ionawr 2006. Diben Openreach yw sicrhau bod gan y diwydiant telegyfathrebu cyfan fynediad teg a chyfartal at y rhwydweithiau mynediad lleol a chysylltu'n ôl.
 

 
Cyhoeddodd BT ei brosiect uwchraddio rhwydwaith, a enwyd yn rhwydwaith yr unfed ganrif ar hugain (21CN), yn ystod 2003. Bydd y prosiect hwn gwerth £10 biliwn yn gweld BT yn sefydlu rhwydwaith band eang datblygedig ar sail systemau deallus, Protocol Rhyngrwyd (IP), Protocol Sefydlu Sesiwn (SIP) a Chyfnewid Label Aml-Brotocol (MPLS). Yr ardaloedd cyntaf i'w symud i'r rhwydwaith fydd Caerdydd, Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru, lle symudir 350,000 o gwsmeriaid, gan gychwyn ym mis Tachwedd 2006[32].
 
Cyhoeddodd Cable & Wireless gynlluniau hefyd, ym mis Ebrill April 2005, am ei RhGN ei hun. Bwriad y gweithredwr yw gwario £190 miliwn dros dair blynedd ar adeiladu'r rhwydwaith newydd[33].
 
Lansiodd Ofcom gorff diwydiant a fydd yn canolbwyntio ar y trefniadau technegol a masnachol ar gyfer datblygu RhGN. Ar y cychwyn, bydd y corff newydd, sef NGN UK, yn helpu cwmnïau i ddatblygu fframwaith technegol a masnachol effeithiol ar gyfer rhyngysylltu rhwng RhGN[34].
 
 
 
Cymru
Yr Alban
Lloegr
Gogledd Iwerddon
Cyfanswm y DU
Poblogaeth Wledig
22%
16%
13%
35%
12%
Pobl Hŷn
(65 oed neu'n hŷn)
18%
16%
16%
14%
16%
Incwm Cartref o dan £11,500
43%
32%
26%
29%
27%
Tabl2 – Proffil o grwpiau economaidd-gymdeithasol cenhedloedd y DU, Swyddfa Ystadegau Gwladol a 'Dangosydd Trefol' Business Geographic, 2001
 
Mae lefelau uchel o boblogaeth wledig, trigolion hŷn a chartrefi incwm isel oll yn rhwystrau i TGCh sylfaenol ac, yn y pen draw, lefelau cyrhaeddiad band eang. Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oll boblogaethau gwledig uwch na Lloegr, gyda phoblogaeth wledig hynod o uchel yng Nghymru ac Iwerddon, ar 22% a 35% o'u poblogaethau yn y drefn honno.
 
Mae yng Nghymru lefelau arbennig o uchel o gartrefi ag incwm o dan £11,500 o'i chymharu â'r gwledydd eraill hefyd, ar 43% o'r holl gartrefi, a nifer uchel o bobl sydd dros 65 oed o'i chymharu â chyfanswm y DU. Fel y cyfryw, gan Gymru y mae'r rhwystrau economaidd-gymdeithasol mwyaf i'w goresgyn o blith pedair gwlad y DU o ran defnyddio band eang.
 

TGCh

 
Yn nhermau defnyddio TGCh, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod gan 65% o gartrefi gyfrifiadur personol yn 2005[35].Hefyd, roedd gan 56% o gartrefi fynediad at y rhyngrwyd ar ddiwedd 2005. Mae'r ffigurau hyn yn cyd-fynd ag OECD, ar gyfer treiddiad cyfrifiaduron personol a'r rhyngrwyd. Yng Ngwlad yr Iâ y ceir lefelau uchaf Ewrop o ran treiddiad cyfrifiaduron personol, ar 86% o gartrefi, a threiddiad rhyngrwyd, ar 81% o gartrefi[36].
 
Residential PC and internet penetration
 
Ffigur 1 - Treiddiad cyfrifiaduron personol preswyl a'r rhyngrwyd i gartrefi, Gwyddoniaeth, Technoleg a Diwydiant OECD: Sgorfwrdd 2005
 
 
Mewn ymdrech i gynyddu nifer y cartrefi â chanddynt gyfrifiadur personol, cyflwynodd y llywodraeth Fenter Cyfrifiaduron Cartref ym 1999. Galluogodd y cynllun i gyflogwyr ddarparu gliniaduron neu gyfrifiaduron personol gwerth hyd at £2,500 i weithwyr yn rhydd o dreth incwm ac Yswiriant Gwladol. I bob pwrpas, mae'r cyflogwr yn benthyg cyfrifiadur i'r gweithiwr am gyfnod o 36 mis, gyda thaliadau'n cael eu tynnu o dâl misol y gweithiwr. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2006, cyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad i ddod â'r eithriad treth am brynu cyfrifiaduron personol i ben[37].
 
Yn ôl y llywodraeth, nid cost yw'r unig rwystr i ddefnyddio TGCh. Nid oes gan rai unigolion y sgiliau i ddefnyddio cyfrifiaduron er y byddant, o bosibl, am fynd ar-lein, ac nid yw eraill yn gweld bod y rhyngrwyd yn berthnasol i'w hanghenion. Fodd bynnag, mae rhagbrofion â'r nod o gau'r ymraniad digidol mewn ardaloedd dan anfantais yn awgrymu bod y canfyddiadau hyn yn newid pan gyflwynir technoleg TGCh i fywydau. Fel y cyfryw, mae'r llywodraeth wedi ymroi i'w gwneud yn haws i bawb gael mynediad, p'un ai'n unigol neu drwy gyfleusterau cymunedol, a thrwy nifer o ddyfeisiau (Cyfrifiaduron, Teledu Digidol, ffonau, dyfeisiau symudol, ac ati.)[38].
 
 

PC and internet take-up by nation

 
Ffigur 2 - Nifer sy'n defnyddio cyfrifiaduron personol a'r rhyngrwyd fesul gwlad, Astudiaeth Olrhain Cyfathrebiadau Ofcom, Ch2/Ch3 2005
 
 
Ar lefel ranbarthol, yn ôl ffigurau Ofcom, mae treiddiad cyfrifiaduron personol a'r rhyngrwyd yn uwch yn Lloegr nag yng ngwledydd eraill y DU. Efallai y bydd y nifer is sy'n defnyddio cyfrifiaduron personol a'r rhyngrwyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhwystro tyfiant band eang yn yr ardaloedd hyn[39].

Band Eang

 
 
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2005, cyfrifwyd bod rhyw 9.5 miliwn o linellau band eang. Mae hyn yn cynrychioli twf o ryw 3.3 miliwn o gysylltiadau, neu 52.5% yn ystod 2005[40]. Roedd cysylltiadau band eang i'w cyfrif am 65.1% o'r holl gysylltiadau rhyngrwyd ar ddiwedd 2005[41].

Total broadband subscriptions by country

 
Ffigur 3 - Cyfanswm treiddiad band eang fesul gwlad, OECD, Rhagfyr 2005
 
 
Mae twf y farchnad yn cymharu'n ffafriol â'r twf o 33% a adroddwyd ar draws yr OECD[42] a'r twf o 37% yn fyd-eang[43] am yr un cyfnod; sy'n awgrymu bod y farchnad gryn bellter o gyrraedd pwynt dirlawnder o hyd.
 

Broadband growth over 2005 and broadband penetration by population

 
Ffigur 4 - Twf band eang yn ystod 2005 a threiddiad band eang yn ôl poblogaeth, Ystadegau Band Eang OECD, Rhagfyr 2005
 
Mae Analysys Research yn rhagweld y bydd rhyw 12.3 miliwn o gysylltiadau band eang erbyn diwedd 2006. Byddai hyn yn gyfwerth â chyfradd treiddiad poblogaeth o ryw 20.5 o gysylltiadau am bob 100 o drigolion.

Tan yn ddiweddar, mae cyfraddau mabwysiadu band eang wedi llusgo y tu ôl i wledydd eraill am y rhesymau canlynol:
 
  • Argaeledd isel technolegau band eang;
  • Prisiau uchel mynediad at fand eang o'u cymharu â phecynnau deialu band cul;
  • Treiddiad uchel mynediad deialu band cul cyn argaeledd band eang;
  • Cystadleuaeth gref gan gyfryngau amgen sefydledig, fel teledu digidol;
  • Diffyg ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio band eang;
  • Diffyg cynnwys a chymwysiadau penodol i fand eang[44].
 
Fodd bynnag, ymdriniwyd â llawer o'r materion hyn ac, o ganlyniad, gwelwyd twf cryf yn y farchnad gan alluogi'r DU i symud i sefyllfa iachach o ran mabwysiadu band eang o'i chymharu â gwledydd eraill yn yr OECD.

Broadband penetration by population

 
Ffigur5 - Treiddiad band eang yn ôl poblogaeth, Ystadegau Band Eang OECD, Rhagfyr 2005
 
 
Mae ffigurau'r OECD yn rhoi'r DU yn y trydydd safle ar ddeg yn yr OECD o ran treiddiad band eang am bob aelod o'r boblogaeth; gyda 15.9% yn ei ddefnyddio ym mis Rhagfyr 2005. Mae'r ffigur hwn yn rhoi'r DU o flaen yr OECD yn ei gyfanrwydd, oedd â threiddiad cyfartalog o 13.6% o'r boblogaeth. Gan Wlad yr Iâ, â threiddiad band eang o 26.7% o'r boblogaeth, yr oedd treiddiad uchaf y byd, gan arwain Corea (25.4%) a'r Iseldiroedd (25.3%). Y treiddiad band eang isaf yn yr OECD oedd yng Ngwlad Groeg, ar 1.4 cysylltiad band eang am bob 100 o drigolion[45].
 
Broadband penetration by households (top ten countries)
Ffigur 6 - Treiddiad band eang yn ôl cartrefi (y ddeg gwlad uchaf), Ystadegau Band Eang Byd Ch4 2005, Point Topic, Rhagfyr 2005
 
 
O ran treiddiad band eang am bob cartref, roedd gan ryw 38% o gartrefi gysylltiad band eang ym mis Rhagfyr 2005; mae hyn yn gosod y DU y tu allan i'r deg gwlad uchaf yn y byd. Mae hyn lawer yn is na'r treiddiad i gartrefi yng Nghorea, sef yr uchaf yn y byd, a safai ar ryw 78.5% o gartrefi yr adeg honno. Cafwyd y lefelau treiddiad i gartrefi uchaf yn Ewrop ym Monaco ar 69% o'r holl gartrefi, tra bod yr Iseldiroedd a Denmarc hefyd yn sgorio'n uchel gyda 58% a 54% yn y drefn honno[46].

 
O ran y farchnad fusnes, mae rhyw 4 miliwn o fusnesau yn y DU; gyda mentrau o faint bach a chanolig (MBCh) yn cyfrif am fwy na 99% ohonynt. Mae'r ffigurau diweddaraf yn 2004 yn dangos bod gan 87% o'r holl fentrau sydd â 10 gweithiwr amser llawn neu fwy fynediad at y rhyngrwyd. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 44% o bob menter â chanddynt 10 gweithiwr amser llawn neu fwy yn defnyddio cysylltiad band eang. Mae'r ddau ffigur ychydig islaw cyfartaledd yr OECD[47].
Internet and broadband penetration of businesses
 
 
Ffigur 7 - Treiddiad y rhyngrwyd a band eang i fusnesau, Gwyddoniaeth, Technoleg a Diwydiant OECD: Sgorfwrdd 2005
 
 
Mae'r gweithredwr band eang Bulldog wedi lansio cyfres newydd o gynhyrchion wedi'u hanelu at Fentrau Bach a Chanolig (MBCh). Anelir y pecynnau MBCh at fusnesau â chanddynt hyd at bum deg aelod o staff. Dangosodd ymchwil a wnaed gan Bulldog y teimlai 45% o fusnesau y gallent dyfu'n gyflymach pe bai ganddynt fynediad at y dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu gywir ar y pris cywir a chyda'r gefnogaeth gywir[48].

Cyrhaeddiad band eang

 
O ran isadeiledd band eang, mae ffigurau BT yn dangos y gwasanaethir 99.9% o gartrefi a busnesau'r DU erbyn hyn gan gyfnewidfeydd a alluogwyd ar gyfer ADSL ac y gall mwy na 99.8% o'r holl ddefnyddwyr terfynol sydd wedi'u cysylltu dderbyn gwasanaethau band eang ADSL. Fel y cyfryw, amcangyfrifir y gall 99.7% o holl gartrefi a busnesau'r DU dderbyn gwasanaethau band eang ADSL. Yn ôl NTL Incorporated mae ei rwydwaith yn mynd heibio i fwy na 12 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU (mae rhwydweithiau NTL a Telewest yn mynd heibio i ryw 4.7 miliwn). Erbyn hyn, uwchraddiwyd bron yr holl rwydweithiau hyn ar gyfer gwasanaethau band eang ac, fel y cyfryw, mae gwasanaethau cebl ar gael i ryw 50% o gartrefi'r DU ac 85% o fusnesau'r DU.
Estimated broadband coverage
 
Ffigur 8 - Amcangyfrif o gyrhaeddiad band eang, Analysys Research, Medi 2005
 
 
Ar lefel ranbarthol, mae cyrhaeddiad band eang yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dal i fyny gyda chyrhaeddiad am y DU gyfan. Erbyn hyn, gall pob cenedl frolio cyrhaeddiad band eang o fwy na 99% o gartrefi ac, ym mis Ionawr 2006, cyhoeddodd llywodraeth Gogledd Iwerddon mai hi oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyrraedd cyrhaeddiad band eang o 100%[49].
 
Fodd bynnag, er bod cyfanswm cyrhaeddiad band eang yn holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU wedi cyrraedd lefelau y gellir eu cymharu â'r DU gyfan, mae cyrhaeddiad technolegau ac eithrio LlDD yn amrywio'n sylweddol. Mae cyrhaeddiad isadeiledd cebl yn arbennig o isel yng Nghymru (25%) a Gogledd Iwerddon (33%) o'u cymharu â rhai rhanbarthau yn Lloegr, fel Gorllewin Canolbarth Lloegr (63%) a Llundain (55%).
 
 
LlDD
Cebl
MDS
Cyfanswm
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Dwyrain Lloegr
Llundain
Gogledd-Ddwyrain Lloegr
Gogledd-Orllewin Lloegr
Gogledd Iwerddon
Yr Alban
De-Ddwyrain Lloegr
De-Orllewin Lloegr
Cymru
Gorllewin Canolbarth Lloegr
Swydd Efrog a Glannau Humber
Cyfanswm
 
Tabl 3 - Cyfran y cartrefi a gynhwysir gan dechnolegau band eang yn ôl rhanbarth daearyddol, Ch3 2005, Adroddiad Ovum ar Statws Band Eang yn y DU, Ionawr 2006

Technoleg

 

Cyfran o'r farchnad

 
O ran gwasanaethau band eang, ym mis Rhagfyr 2005, y brif dechnoleg oedd LlDD; sy'n cyfrif am 61% o gyfanswm y cysylltiadau band eang. Mae cebl yn cyfrif am y cyfan bron o'r gyfran sy'n weddill, gyda chyfran o 27% o gyfanswm y cysylltiadau band eang[50].
Western European broadband market by technology type
Ffigur 9 - Marchnad fand eang Gorllewin Ewrop yn ôl math o dechnoleg, Analysys Research, Rhagfyr 2005
 

LlDD

 
Cyflwynwyd y gwasanaethau ADSL cyntaf ym mis Gorffennaf 2000, rhyw flwyddyn yn ddiweddarach na'r gwasanaeth band eang cebl cyntaf. Er gwaethaf dechrau'n hwyr, mae LlDD wedi dod y brif dechnoleg yn y farchnad wedi i nifer y cysylltiadau LlDD yn y farchnad oddiweddyd cebl yn ystod 2003.
 
Yn nodweddiadol, mae cysylltiadau ADSL yn y DU wedi darparu uchafswm cyflymderau i fyny o 2Mbps. Fodd bynnag, cychwynnodd BT ragbrofion masnachol ar gysylltiadau ADSL 8Mbps ym mis Tachwedd 2005 gyda'r bwriad o uwchraddio'i holl gysylltiadau ADSL i 8Mbps gyda gwasanaeth 'ADSL Max' newydd yn ystod gwanwyn 2006. Fodd bynnag, dim ond cwsmeriaid yn agos i'r gyfnewidfa fydd yn gallu derbyn y cyflymder uchaf o 8Mbps a gynigir gan y gwasanaeth ADSL Max newydd; amcangyfrifir bod 42% o linellau BT yn cefnogi cyflymderau 6Mbps tra bod 78% o linellau yn gallu cynnig cysylltiadau 4Mbps[51].
 
O ran SDSL, gohiriodd BT ei broses o'i gyflwyno ym mis Awst 2005, gan gyfaddef nad oes gan nifer fawr o'i gyfnewidfeydd a alluogwyd ar gyfer SDSL unrhyw danysgrifwyr SDSL. Mae BT wedi galluogi 750 o gyfnewidfeydd ar gyfer SDSL, ond roedd wedi bwriadu galluogi 800 o'i gyfnewidfeydd i gyflwyno SDSL. O'r 750 o gyfnewidfeydd a alluogwyd i gyflwyno SDSL, mae 19 ohonynt yng Nghymru, 36 yn yr Alban a 24 yng Ngogledd Iwerddon[52].
 
 
Cyflwynwyd dadfwndelu dolenni lleol ym mis Ionawr 2001 mewn ymdrech i gyflwyno mwy o gystadleuaeth isadeiledd i'r farchnad. Fodd bynnag, mae DDLl wedi cychwyn yn araf iawn o'i gymharu â marchnadoedd eraill yng Ngorllewin Ewrop. Mae gostyngiadau i'r pris yn hwyr yn 2004 ac ynghanol 2005 wedi rhoi hwb i DDLl, sydd wedi arwain at nifer o weithredwyr yn cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno DDLl yn eang. Daeth hwb arall o ymrwymiad BT i sefydlogi prisiau ei gynhyrchion llif-bit tan y ceir 1.5 miliwn o linellau a ddadfwndelwyd i sicrhau y cynhelir ymylon ar gyfer dadfwndelwyr[53].
 
 
O ran rheoleiddio, datgelodd Ofcom swydd newydd y Beirniad Telathrebu Annibynnol ym mis Gorffennaf 2004. Sefydlwyd y swydd i hwyluso gweithredu'r prosesau angenrheidiol sy'n galluogi i gystadleuwyr gael mynediad at ddolen leol y darparwr cyfredol yn gyflym, ac i annog datrysiad a gyfryngir i anghydfodau gweithredu ar lefel ymarferol[54].
Unbundled DSL lines as a percentage of total DSL lines
Ffigur 10 - Llinellau LlDD dadfwndeledig fel canran o gyfanswm llinellau LlDD, ECTA, Rhagfyr 2005
 
 
Mae ffigurau gan ECTA yn dangos y dadfwndelwyd 192,000 o ddolenni lleol erbyn diwedd mis Rhagfyr 2005. Mae hyn yn cynrychioli 2.7% o'r farchnad LlDD; un o'r cyfrannau DDLl o'r farchnad DDLl isaf yng Ngorllewin Ewrop[55].
 
Er ei fod yn cynyddu cystadleuaeth a gwahaniaethiad cynhyrchion yn yr ardaloedd lle caiff ei ddefnyddio, mae tystiolaeth i awgrymu bod DDLl yn creu 'ymraniad digidol' newydd mewn marchnadoedd band eang lle caiff ei ddefnyddio'r eang. Yn Ffrainc, sydd â'r gyfran DDLl o'r farchnad uchaf yn Ewrop, mae cyrhaeddiad DDLl erbyn hyn wedi cyrraedd 50% o'r boblogaeth, ond mae twf cyrhaeddiad pellach wedi arafu wrth i weithredwyr ganolbwyntio ar yr ardaloedd trefol mwy proffidiol. Yn ôl y rheoleiddiwr Ffrengig, sef ARCEP, roedd y mwyafrif o safleoedd a ddadfwndelwyd yn lleol ar gyfer rhwydweithiau cyhoeddus a lansiwyd gan lywodraethau lleol. Fel y cyfryw, bydd yn bwysig monitro cynnydd DDLl yn y DU er mwyn sicrhau nad yw 'ymraniad digidol' newydd yn ymddangos[56].
 

Gweithredwyr DDLl

 
Mae prisiau DDLl sy'n gostwng wedi arwain at nifer o weithredwyr yn cychwyn neu'n cyhoeddi cynlluniau i ddadfwndelu rhai o gyfnewidfeydd BT.
 
Mae Bulldog wedi dadfwndelu mwy na 400 o gyfnewidfeydd ledled y DU ac mae'n disgwyl cynyddu hyn i bron i 600 erbyn diwedd Awst 2006. Ar ôl cynnal rhagbrofion, bydd Bulldog yn lansio gwasanaethau ADSL2+ ledled ei rwydwaith yn ystod 2006. Disgwylir i'r gwasanaethau gynnig cyflymderau lawrlwytho o hyd at 16Mbps.
 
Mae'r gweithredwr Teledu-Talu BSkyB hefyd yn dod i'r amlwg fel un o brif chwaraewyr y farchnad band eang. Bydd y ffaith iddo brynu'r gweithredwr band eang Easynet ym mis Hydref 2005 yn ei alluogi i gynnig gwasanaethau chwarae triphlyg. Mae UKOnline (ISP Easynet) yn honni bod ganddynt rwydwaith sy'n cyrraedd 4.4 miliwn o gartrefi ledled y DU a chychwynnodd gynnig gwasanaethau 22Mbps i'r cartrefi hyn gan ddefnyddio technoleg ADSL2+ ym mis Tachwedd 2005. Cyhoeddodd Sky y caiff gwasanaeth band eang brand Sky ei lansio yn ail hanner 2006, ac mae ganddo gynlluniau i ddadfwndelu oddeutu 379 o gyfnewidfeydd BT erbyn diwedd Mehefin 2006. Byddai hyn yn golygu y byddai rhyw 7.5m (30 y cant) o gartrefi'r DU wedi'u cysylltu â chyfnewidfa Sky a ddadfwnedlwyd. Mae'r gweithredwr am gynyddu cyrhaeddiad fel y gall 70 y cant o gartrefi'r DU gael mynediad at ei wasanaeth band eang erbyn diwedd 2007.
 
Mae'r ISP Be o Sweden wedi cychwyn dadfwndelu cyfnewidfeydd yn y DU ac mae'n bwriadu gosod ei offer mewn mwy na 450 o gyfnewidfeydd BT. Mae Be yn cynnig gwasanaethau 24Mbps ar ei rwydwaith gan ddefnyddio technoleg ADSL2+.
 
Ym mis Ionawr 2006, cyhoeddodd AOL y byddai'n buddsoddi £50 miliwn mewn dadfwndelu 300 o gyfnewidfeydd yn y DU, gan roi mynediad ato i ryw 20% o'r boblogaeth. Os bydd y cyfnod cyntaf hwn yn llwyddiannus, mae AOL yna'n bwriadu buddsoddi £70m arall i  ddadfwndelu 1,000 o gyfnewidfeydd eraill.
 
Mae'r Carphone Warehouse wedi cyhoeddi cynlluniau i ddadfwndelu 1,018 o gyfnewidfeydd ledled y DU erbyn diwedd Gorffennaf 2006. Ym mis Ebrill 2006 cyhoeddodd y byddai'n cynnig band eang 8Mbps 'am ddim' i ddefnyddwyr terfynol sy'n byw yn ardaloedd ei gyfnewidfeydd. I fanteisio ar y cyfle, rhaid i gwsmeriaid danysgrifio i wasanaeth ffôn llinell sefydlog Talk Talk Carphone Warehouse am bris o £9.99 y mis. Bydd cost fisol o £11.00 am rentu llinell hefyd yn gymwys, gan wneud cyfanswm cost rhentu llinell, galwadau a band eang yn £20.99 y mis.
 
Yn ogystal â hyn, mae Wanadoo (sydd bellach wedi'u hail-frandio fel Orange) eisoes wedi dadfwndelu 200 o gyfnewidfeydd BT, a chynllunnir 500 arall erbyn diwedd y flwyddyn, ac roedd Tiscali wedi dadfwndelu 241 o gyfnewidfeydd erbyn canol Mawrth 2006, ac roedd Pipex wedi cyhoeddi cynlluniau i ddadfwndelu 100 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd y flwyddyn.
 
Mae gweithredwyr DDLl eraill â chanddynt gyrhaeddiad mwy cyfyngedig yn cynnwys Homechoice, Edge Telecom, Zen Internet a Node4.
Dominyddir y sector cebl gan NTL a Telewest, sydd wedi bod yr unig ddarparwyr gwasanaethau modem cebl. Lansiwyd y gwasanaethau cyntaf ym mis Ebrill 1999, gan roi mantais gynnar i gebl dros LlDD. Fodd bynnag, golygai absenoldeb dewis arall cystadleuol gan dechnolegau eraill nad oedd prisiau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn ddeniadol.
 
Yn ddiweddar, cyfnerthwyd y sector cebl ar ôl y cadarnhawyd ym mis Hydref 2005 y byddai'r ddau weithredwr yn uno, gan greu ail chwaraewr mwyaf y DU yn y farchnad delegyfathrebu. Mae'r endid unedig wedi cychwyn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau lled band uwch. Ym mis Awst 2005, cyhoeddodd NTL mai 10Mbps fyddai ei gyflymder safonol cyn pen 18 mis. Yn ogystal  â hyn, byddai'r rhagbrawf a gynllunnir ar gyfer VDSL2 yn galluogi'r gweithredwr i gynnig gwasanaethau â chyflymderau lawrlwytho o hyd at 50Mbps a chyflymderau llwytho i fyny o hyd at 25Mbps[57].
 
Er gwaethaf perchen ar isadeiledd gweddol helaeth, nid yw'r sector cebl yn destun rheoliadau DDLl. Fodd bynnag, mae gan NTL bartneriaethau cyfanwerthu ag AOL, Tesco.net ac Wanadoo.
 

MDS

 
Cynigir gwasanaethau Mynediad Di-wifr Sefydloggan nifer fach o weithredwyr, i gwsmeriaid busnes yn bennaf. Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod rhyw 4,000 o gysylltiadau MDS ar ddiwedd 2005, sy'n cyfrif am lai na 0.1% o gyfanswm y cysylltiadau band eang.
 
Efallai y bydd ymddangosiad WiMAX yn gweld hyn yn cynyddu. Fodd bynnag, oherwydd aeddfedrwydd y farchnad llinell-wifr, mae'n annhebygol o gael effaith sylweddol. Roedd yr unig wasanaeth WiMAX masnachol ar y farchnad ar ddiwedd 2005 yn cael ei gynnig gan Telabria. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael yng Nghaint yn unig, yn cynnig cysylltiadau cymesur hyd at 10Mbps.
 
Mae chwaraewr WiMAX arall, sef Pipex, wedi cyhoeddi cynlluniau i gyrraedd sawl dinas bwysig erbyn 2008.Bydd y rhan fwyaf o'r fenter newydd, sef Pipex Wireless, ym mherchnogaeth Pipex ond â chefnogaeth gan Intel, gyda buddsoddiad o $25 miliwn. Delir y drwydded WiMAX arall gan PCWW sydd heb gyhoeddi cynlluniau i gyflwyno gwasanaeth hyd yn hyn.
 
O ran mannau poeth di-wifr cyhoeddus, mae'r DU yn un o wledydd mwyaf blaenllaw'r byd. Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod tua 9,000 o fannau poeth mynediad cyhoeddus ar ddiwedd 2005. Mae ABEC yn amcangyfrif y lleolir mwy na 500 o'r rhain yng Nghymru.

Ffibr

 
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fentrau i ddarparu cysylltiadau ffibr preswyl. Fodd bynnag, mae nifer o weithredwyr yn darparu cysylltiadau ffibr i fusnesau. Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod rhyw 44,000 o gysylltiadau ar ddiwedd 2005.
 
Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod rhyw 3,000 o gysylltiadau band eang lloeren ar ddiwedd 2005.
 

Gweithredwyr

 
 
O ran gweithredwyr, ar hyn o bryd dominyddir marchnad delegyfathrebu'r DU gan ddau brif chwaraewr: BT (LlDD) a'r grŵp NTL/Telewest unedig (Cebl). BT sydd flaenaf yn y farchnad LlDD yn sgil y ffaith mai ychydig iawn o gystadleuaeth a geir hyd yn hyn gan weithredwyr DDLl; roedd llinellau BT yn cyfrif am 96.5% o'r holl linellau LlDD cyfanwerthu ym mis Rhagfyr 2005. Mae hyn yn gyfartal â 71% o'r holl gysylltiadau band eang cyfanwerthu. Roedd cysylltiadau NTL yn cyfrif am 16.6% o'r holl linellau cyfanwerthu ac roedd cysylltiadau Telewest yn cyfrif am 10.2% o'r holl linellau cyfanwerthu ar ddiwedd 2005[58]. Mae hwn yn rhoi i'r grŵp unedig gyfran o 27% o'r farchnad gyfanwerthu.
Wholesale and retail shares of Western European incumbent operators
 
Ffigur 11 - Cyfrannau cyfanwerthu ac adwerthu prif weithredwyr Gorllewin Ewrop, Analysys Research, Rhagfyr 2005
 
 
Wrth i weithredwyr DDLl gynyddu eu cyrhaeddiad, disgwylir y bydd cyfran BT o'r farchnad LlDD gyfanwerthu yn erydu rhywfaint yn y dyfodol agos.
 
 

Y farchnad adwerthu

 
Mae mwy na 300 o Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd adwerthu yn y DU, sy'n uchel iawn o'i gymharu â marchnadoedd eraill yng Ngorllewin Ewrop. Mae'r lefel uchel hon o gystadleuaeth adwerthu wedi arwain i BT fod â'r gyfran weithredol isaf o'r farchnad adwerthu LlDD yng Ngorllewin Ewrop; ym mis Rhagfyr 2005, roedd tanysgrifiadau i BT yn cyfrif am 32% yn unig o'r farchnad adwerthu LlDD. Mae hyn yn gyfwerth â 24% o gyfanswm y farchnad adwerthu band eang[59].

 


Gwasanaethau

 

Rhentu Llinellau Cyfanwerthu

 
Cyflwynwyd cynnyrch rhentu llinellau cyfanwerthu i'r farchnad ym mis Gorffennaf 2002 ar ôl i Oftel gynnig y fath wasanaeth er mwyn cyflwyno cystadleuaeth barhaus yn y farchnad teleffoni sefydlog. Gostyngodd BT ei gostau RhLlC yn dilyn dyfarniad gan Ofcom ym mis Tachwedd 2005. Gostyngwyd cynnyrch RhLlC preswyl BT i £8.39 o £8.74 a gostyngwyd ei gynnyrch RhLlC busnes i £9.17 o £9.95. Yn ôl Analysys Research, roedd 2.3 miliwn o gysylltiadau RhLlC ar ddiwedd 2005.
 
Er mwyn brwydro yn erbyn bygythiad ffonau symudol yn disodli ffonau sefydlog, mae BT wedi lansio set law newydd sy'n gallu gweithredu'n ddyfais llinell sefydlog ac yn ddyfais symudol. Lansiwyd y gwasanaeth newydd, sef BT Fusion, ynghanol 2005 ac mae'n defnyddio rhwydwaith di-wifr cyrhaeddiad byr i gysylltu â'r rhwydwaith llinell sefydlog trwy orsaf sylfaen yn y cartref neu'r busnes. Ym mis Chwefror 2006, cyhoeddodd BT fod ganddo 13,000 o gwsmeriaid a oedd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
 
Nid oes unrhyw wasanaethau NDSL adwerthu ar y farchnad hyd yn hyn. Fodd bynnag, gyda chartrefi ffôn-symudol-yn-unig yn cyfrif am 8% o bob cartref, efallai y bydd gofyn am y fath wasanaethau i symbylu'r nifer sy'n defnyddio band eang yn y sector hwn[60]. Gyda mwy o gartrefi ffôn-symudol-yn-unig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon nag yn Lloegr, mae'r mater yn bwysicach i'r cenhedloedd bach nag i'r DU yn ei chyfanrwydd.
 
Bach iawn o groes-berchnogaeth a geir yn y DU rhwng prif weithredwyr llinell sefydlog a ffonau symudol, yn wir, BT yw'r unig weithredwr cyfredol yng Ngorllewin Ewrop heb drwydded ffonau symudol. Mae hyn yn caniatáu i weithredwyr ffonau symudol brisio'n ymosodol heb ofni canibaleiddio cyllid llinellau sefydlog. Efallai y bydd manteision cost 3G eto'n creu rhyfel prisio ymysg gweithredwyr ffonau symudol, a allai arwain at gyfradd uwch o ffonau symudol yn disodli ffonau sefydlog. Fodd bynnag, mae BT yn dibynnu ar BT Fusion i frwydro'n ôl yn erbyn bygythiad ffonau symudol yn disodli ffonau sefydlog trwy ddargyfeirio galwadau ffonau symudol yn ôl i'r rhwydwaith sefydlog[61].
 
 
 
 
Wrth i gystadleuaeth prisiau ddwysáu yn y farchnad band eang, mae gweithredwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o'r angen i wahaniaethu eu gwasanaethau er mwyn denu cwsmeriaid ac i yrru ARPU (refeniw cyfartalog gan bob defnyddiwr). Mae'r lledau band uwch y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio ADSL2+ wedi caniatáu i weithredwyr gynnig gwahaniaethiad trwy wasanaethau cyflymach, ond mae'r ffocws yn symud tuag at wahaniaethu trwy gyflwyno cynnwys, yn enwedig drwy IPTV a VOD.
 
Llofnododd BT gytundeb cynnwys â'r rhaglennydd i blant, Cartoon Network, fel rhan o'i baratoad i lansio BT Vision,gwasanaeth Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV), yn ail hanner 2006. Mae cytundebau busnes y mae gan BT yn eu lle eisoes yn cynnwys BBC Worldwide, Paramount, Warner Music Group, Endemol a National Geographic.
 
Mae Homechoice wedi adeiladu sylfaen gwsmeriaid o 45,000 yn ardal Llundain am ei wasanaeth IPTV. Mae'r gweithredwr am ehangu ei ôl-troed trwy DDLl, ac mae'n gobeithio cyrraedd 10 miliwn o gartrefi erbyn diwedd 2006.
 
Tra bod gweithredwyr eraill yn lansio gwasanaethau IPTV, mae Kingston Communications wedi cyhoeddi y bydd yn diddymu ei wasanaeth IPTV, a lansiwyd yn 2000, yn gynnar ym mis Ebrill 2006 yn sgil lefelau gwael o fabwysiadu. Mae nifer y tanysgrifwyr wedi cwympo o uchafbwynt o ryw 10,000 i 4,000 yn unig tua diwedd 2005.
 
 
Lansiodd BT wasanaeth VoIP preswyl tua diwedd 2003 o'r enw BT Broadband Talk. Mae'r gwasanaeth wedi ei gynnwys gyda chysylltiad band eang BT ac mae pecynnau ar gael o £2.99 gan ddarparwyr eraill. Ym mis Ionawr 2006, lansiwyd gwasanaeth VoIP i MBCh o'r enw BT Business Broadband Voice, ac mae pecynnau ar gael o £5 y mis. Ym mis Chwefror 2006, honnodd BT fod ganddo 300,000 o gwsmeriaid VoIP adwerthu[62].
 
Yn ogystal â hyn, lansiodd Wanadoo wasanaeth VoIP am £4 y mis ym Mawrth 2005 a lansiodd Tesco wasanaeth VoIP ym mis Ionawr 2006.
 
 
Mae NTL a Telewest ill dau wedi lansio gwasanaethau VOD. Disgwylir y bydd gwasanaeth NTL ar gael i'w holl danysgrifwyr teledu digidol erbyn diwedd Medi 2006. Mae Telewest eisoes wedi cyflwyno VOD, gyda'i holl danysgrifwyr digidol yn cael y gwasanaeth "Teleport"[63].
 
Cyflwynodd y darlledydd teledu talu BSkyB Sky wasanaeth VoD drwy fand eang. Mae gan y gwasanaeth lyfrgell gychwynnol o 200 o deitlau, y mae BSkyB yn bwriadu ei hehangu i fwy na 1000, tra gall defnyddwyr hefyd lawrlwytho uchafbwyntiau gemau chwaraeon. Mae Sky trwy fand eang ar gael am ddim i danysgrifwyr Sky Digital. Yn ddiweddarach ym mis Chwefror, adroddodd Sky fod 52 000 o gwsmeriaid wedi cofrestru am y gwasanaeth yn ystod y tair wythnos gyntaf, tra lawrlwythwyd 70 000 o ffilmiau yn ystod yr un cyfnod.
 
Lansiodd AOL wasanaeth fideo ar alw (VoD) i gyfrifiaduron personol. Mae gwasanaeth AOL Film Downloads yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig lawrlwytho ffilmiau llawn i'w cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau'n cychwyn ar £2.99 y ffilm. Gellir cadw ffilmiau am hyd at saith niwrnod, er bod y cyfnod hwn yn lleihau i 24 awr ar ôl cychwyn gwylio'r ffilm. 
 

Chwarae triphlyg

 
Mae'r farchnad chwarae triphlyg wedi datblygu'n hwyr o'i chymharu â llawer o Ewrop. NTL yw'r prif weithredwr ym maes chwarae triphlyg. Yn ôl ffigurau NTL, roedd treiddiad chwarae triphlyg i gwsmeriaid ar-y-we wedi cyrraedd 29% ar ddiwedd 2005. Yn ogystal â hyn, roedd gan Telewest dreiddiad chwarae triphlyg o 37% o'i gwsmeriaid. Felly, roedd gan y grŵp unedig newydd ryw 1.3 miliwn o danysgrifwyr chwarae triphlyg ar ddiwedd 2005.
 
Mae cystadleuaeth yn y maes hwn yn dod i'r amlwg oddi wrth BT, Orange/Wanadoo a BSkyB, y disgwylir iddynt oll lansio'u pecynnau eu hunain tua diwedd 2006. Bydd pryniant BSkyB o'r Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd band eang Easynet yn caniatáu iddo gynnig gwasanaethau band eang a theleffoni i'w danysgrifwyr teledu talu. Gyda rhyw 7.8 miliwn o danysgrifwyr teledu, portffolio cynnwys cryf a brand cryf, mae mewn sefyllfa lle gall ddod yn chwaraewr chwarae triphlyg pwysig yn gyflym iawn.
 
Ymddengys bod France Telecom, sef rhiant-gwmni Orange a Wanadoo, ar fin mynd i'r farchnad chwarae triphlyg ar ôl cyflwyno pecyn yn Ffrainc. Caiff ei wasanaethau a gydgyfeiriwyd eu lansio o dan frand Orange.
 
Bu BT yn edrych ar ffyrdd o wahaniaethu ei hun ym marchnad band eang y DU yn hytrach na pharhau'n ddarparwr mynediad at y rhyngrwyd yn unig. Ym mis Tachwedd 2004, creodd y gweithredwr adran newydd o'r enw BT Entertainment o fewn ei adain adwerthu i ganolbwyntio ar yrru gwasanaethau band eang gwerth ychwanegol.  Mae cytundeb â Microsoft, ym mis Mehefin 2005, i ddefnyddio llwyfan meddalwedd IPTV y cwmni i gyflwyno gwasanaethau darlledu wedi dod â BT gam yn nes at ddod yn ddarparwr chwarae triphlyg.
 
Mewn ymgais i gadw ei safle fel un o'r prif chwaraewyr, mae NTL yn edrych ar estyn ei gynnig bwndeledig. Gwrthodwyd cais ganddo am yr MVNO (Gweithredwr Rhwydweithiau Rhithwir Symudol) Virgin Mobile ym mis Rhagfyr 2005. Fodd bynnag, disgwylir y bydd bargen yn cael ei chytuno yn ystod 2006 a fyddai'n galluogi i'r gweithredwr cebl estyn ei gynnig chwarae triphlyg i becyn chwarae pedwarplyg a fyddai'n cynnwys gwasanaeth ffôn symudol.
 

Prisio

 

Rheoleiddio prisio

 
Cyhoeddodd Oftel ac Ofcom benderfyniad ar y cyd am y farchnad mynediad band eang cyfanwerthu ym mis Rhagfyr 2003. Ei ganfyddiad oedd bod y farchnad band eang gyfanwerthu genedlaethol yn wahanol i'r farchnad mynediad rhyngrwyd deialu a bod gan BT PSF (Pŵer Sylweddol yn y Farchnad). O ganlyniad i hyn, cynigiodd y rheoleiddwyr osod rhwymedigaethau rheoleiddiol ar BT, gan gynnwys gofyniad i ddarparu mynediad rhwydwaith ar gais rhesymol. Cynigiodd y rheoleiddwyr hefyd ei gwneud yn ofynnol i BT gynnig cynhyrchion mynediad cyfanwerthu Datastream i Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd adwerthu ar sail eu bod yn rhatach wrth eu hadwerthu (h.y. pennir prisiau mynediad ar sail prisiau defnyddiwr terfynol neu adwerthu'r gwasanaethau terfynol cyfatebol. Mae'r disgownt oddi ar y prisiau adwerthu fel arfer yn cael ei bennu fel canran benodedig o'r pris adwerthu)[64]. Cynigiodd Ofcom y dylid torri cost mudo gyfanwerthol o gynhyrchion cyfanwerthu IPStream BT o £50 i £11 y defnyddiwr ym mis Ebrill 2004. Gweithredwyd y newid hwn yn wirfoddol gan BT.
 
Yn ogystal â hyn, cyhoeddodd Ofcom ei brisiau DDLl ym mis Rhagfyr 2004. Cyfarwyddodd y dylid gosod prisiau am gysylltiad mynediad a rennir a rhentu blynyddol ar £34.86 a £15.60 yn y drefn honno. Mae'r rhain yn ostyngiadau o ryw 70% o'u cymharu â phrisiau BT cyn yr adolygiad. Argymhellodd Ofcom hefyd y dylid gosod cost cysylltiad trosglwyddedig a ddadfwndelwyd yn llawn a chysylltiad newydd ar £34.86 a £168.38 yn y drefn honno, sy'n ostyngiadau o 60% a 30% ar lefel y prisiau blaenorol. Daeth y gostyngiadau pris hyn i rym ar ddechrau 2005. Ym mis Tachwedd 2005, gosododd Ofcom derfyn uchaf pris o £81.69 y flwyddyn ar gyfer rhentu dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn[65].
 

Prisio gwasanaethau

 
O ran prisio, mae cost pecynnau band eang 'cenhedlaeth gyntaf' wedi gostwng yn sylweddol ers lansio gwasanaethau yn 2001, gan ostwng o bris uchaf o ryw EUR67 y mis am wasanaeth 0.5Mbps yn 2001, i ryw EUR20 y mis am wasanaeth 0.5Mbps.  Er bod prisiau wedi gostwng yn gyson ers lansio'r gwasanaethau cyntaf, y duedd ddiweddar yn y farchnad fu i brisiau aros yn sefydlog wrth i led band y gwasanaethau gynyddu. Fel y cyfryw, cost gwasanaeth 2Mbps yn 2005 oedd rhyw EUR27 y mis. O ganlyniad i hynny, mae prisiau 2005 yn debyg i farchnadoedd eraill yn Ewrop; yn yr Iseldiroedd a Ffrainc, pris gwasanaethau tebyg yw rhyw EUR25-30 y mis.
 
Nid oedd gwasanaethau band eang 'ail genhedlaeth'[1]preswyl ar gael yn eang yn y farchnad ar ddiwedd 2005. Fodd bynnag, roedd BT wedi cychwyn rhagbrofion masnachol ar ei wasanaeth 'Max' ADSL 8Mbps a oedd i'w lansio yn gynnar yn 2006. Ym mis Rhagfyr 2005, roedd gwasanaethau 8-10Mbps ar gael mewn rhai rhannau o'r wlad, trwy rwydweithiau DDLl a chebl, gan gostio tua EUR30-55 y mis. Mae'r prisiau hyn yn debyg i wasanaethau cymharol yn Ffrainc, sy'n costio rhyw EUR30-40. Fodd bynnag, mae gwasanaethau 'ail genhedlaeth' ar gael am gyn lleied â EUR15 y mis yn ardaloedd rhaid cyfnewidfeydd dadfwndeledig yn Ffrainc[66].
 

Casgliadau

 
Ar ôl cychwyn yn araf, mae marchnad band eang y DU yn dod yn farchnad band eang gynyddol ddatblygedig o'i chymharu â rhai o brif genhedloedd Gorllewin Ewrop (fel Ffrainc a'r Almaen). Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i oresgyn nifer o rwystrau i dwf band eang;
 
  • mae cyrhaeddiad band eang wedi cynyddu ac erbyn hyn mae'n fwy estynedig nag mewn unrhyw wlad yn y G7 ac yng Ngorllewin Ewrop, gydag argaeledd band eang erbyn hyn ond ychydig yn brin o gyrraedd pobman;
  • mae mwy o gystadleuaeth yn y farchnad band eang wedi lleihau'r gwahaniaeth rhwng pris gwasanaethau band eang a phris gwasanaethau deialu;
  • mae mentrau marchnata wedi cynyddu ymwybyddiaeth o'r manteision y gellir eu cael trwy ddefnyddio band eang; ac
  • mae cynnwys penodol i fand eang yn cynyddu drwy lansio gwasanaethau VoIP, VOD ac IPTV.
 
Mae lefelau ymdreiddiad band eang yn uwch na chyfartaledd OECD ar 15.9 cysylltiad am bob 100 o drigolion ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn gyfwerth â rhyw 38 o gysylltiadau am bob 100 o gartrefi, sydd rywfaint yn brin o gyrraedd lefelau tele-ddwysedd; mae Analysys Research yn amcangyfrif bod 90 o linellau sefydlog i bob 100 o gartrefi ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn awgrymu bod digon o le ar gyfer twf band eang pellach yn y farchnad.
 
Mae ymyrraeth y Llywodraeth wedi helpu i yrru'r farchnad band eang trwy gefnogi a symbylu cylch rhinweddol cyflenwad a galw. Bu hyn yn arbennig o amlwg yn y mentrau a reolir gan y Gweinyddiaethau Datganoledig a'r Awdurdodau Datblygu Rhanbarthol. Fodd bynnag, cyflawnwyd llawer o'r cynnydd trwy rymoedd y farchnad, gan fod chwaraewyr allweddol y farchnad delathrebu oll wedi gwneud band eang yn ganolog i'w strategaethau.
 
Ar lefel ranbarthol, mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oll rwystrau mwy i'w goresgyn na Lloegr. Mae ymdreiddiad TGCh sylfaenol yn is yn y cenhedloedd hyn nag yn Lloegr, ac mae ganddynt rwystrau economaidd-gymdeithasol mwy hefyd, fel CMC is y pen a phoblogaethau gwledig mwy.
 
Mae dyfodiad Rhwydwaith Cenhedlaeth Nesaf BT a'r defnydd cynyddol ar DDLl yn debygol o gyflwyno mwy o wahaniaethu rhwng cynhyrchion i'r farchnad, yn ogystal â chreu mwy o gwmpas ar gyfer gwasanaethau cydgyfeiriedig a dulliau mwy datblygedig o gyflwyno gwasanaeth yn y dyfodol agos. Dangosir y newid mewn ffocws tuag at led band uwch a chyflwyno cynnwys gan y defnydd o ADSL2+ gan weithredwyr DDLl, cyflwyno gwasanaethau ADSL Max a lansio neu lansio arfaethedig gwasanaethau VOD ac IPTV.
 
Bydd y ffaith i BSkyB brynu'r gweithredwr DDLl Easynet yn cyflymu cyfraddau cyflwyno chwarae triphlyg gweithredwyr wrth iddynt geisio brwydro yn erbyn bygythiad y cystadleuydd newydd hwn. Yn ogystal â hyn, gallai uno'r ddau weithredwr cebl, NTL a Telewest, a phryniant arfaethedig Virgin Mobile gan NTL weld chwaraewr pedwarplyg yn ymddangos, gan gynyddu gwahaniaethu rhwng cynhyrchion y farchnad ymhellach.
 
Yn 2005, gyda chyfraddau uchel o ran argaeledd band eang a nifer sy'n defnyddio ffonau symudol, ac ymdreiddiad band eang uwch na chyfartalog, mae marchnad delathrebu'r DU yn dod yn gynyddol ddatblygedig. Mae nifer o weithredwyr sy'n darparu ystod o wasanaethau gyda ffocws cynyddol ar led band uwch a chyflwyno cynnwys.


 
Cyfeiriadau

[1] Y Gronfa Ariannol Ryngwladol, World Economic Outlook Database, Ebrill 2006
[2] Western Mail, Building better future? Not quite, 15 Mehefin 2005
[3] Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Cysylltu'r DU: y Strategaeth Ddigidol, Mawrth 2005
[4] BREAD, Second report on the multi-technological analysis of the 'broadband for all' concept, focus on the listing of multitechnological key issues and practical roadmaps on how to tackle these issues, Awst 2005
[5] Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Broadband Internet Access, Gorffennaf 2002
[6] Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Cysylltu'r DU: y Strategaeth Ddigidol, Mawrth 2005
[7] DTI, Review of the UK Broadband Fund, Ionawr 2005
[8]Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin, Rural Broadband Eleventh Report of Session 2002–03,Gorffennaf 2003
[9] Gwefan ActNow Cornwall. Ar gael ar www.actnowcornwall.co.uk
[10] Gwefan SEEOnline. Ar gael ar www.seeonline.net
[11] Gwefan Business Link Humber. Ar gael ar www.blhumber.co.uk
[12] Gwefan RABBITT Broadband. Ar gael ar www.rabbit-broadband.org.uk
[13]Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin, Rural Broadband Eleventh Report of Session 2002–03, Gorffennaf 2003
[14] Broadband4Devon website. Ar gael ar www.broadband4devon.org.uk
[15] Connecting Scotland: our broadband future, Awst 2001.
[16] BSG, Broadband in the Devolved Administrations Appendix 8, Tachwedd 2003
[17] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scottish-enterprise.com
[18] The Register, Thus pips BT to £70m Scottish broadband project, 30 Mehefin 2006
[19] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scottish-enterprise.com
[20] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scotland.gov.uk
[21] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scotland.gov.uk
[22] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scottish-enterprise.com
[23] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scottish-enterprise.com
[24] Gwefan Scottish Enterprise. Ar gael ar www.scottish-enterprise.com
[25] Yr Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi, Broadband Northern Ireland – Fully Connected, Hydref 2003
[26] Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon, The Private Finance Initiative: Electronic Libraries for Northern Ireland (ELFNI), Tachwedd 2005
[27] Yr Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi, Broadband Northern Ireland – Fully Connected, Hydref 2003
[28] Yr Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi, Broadband Northern Ireland – Fully Connected, Hydref 2003
[29] Yr Undeb Telegyfathrebu Rhyngwladol, World Telecommunications Indicators, Rhagfyr 2005
[30] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[31] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[32] Gwefan BT 21CN. Ar gael ar www.btplc.com/21CN/index.htm
[33] Light Reading, C&W Plans Its Own 21CN, 20 Ebrill 2005
[35] Content Village, eContent in Belgium, Awst 2004
[36] OECD, ICT database and Eurostat, Community Survey on ICT usage in households and by individuals, Mai 2005
[37] Guardian Unlimited, Thousands to miss out on PC scheme, 26 Mawrth 2006
[38] Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Cysylltu'r DU: y Strategaeth Ddigidol, Mawrth 2005
[39] Ofcom, The Communications Market: Nations and Regions, Ebrill 2006
[40] Analysys Research, Penetration of broadband technologies, Mai 2006
[41] ONS, Internet Connectivity, Mawrth 2006
[42] OECD, OECD Broadband Statistics, Rhagfyr 2005, Ebrill 2006
[43] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005, Mawrth 2006
[44] Ovum and Beacon, The BEACON Broadband Knowledge Base Report, Medi 2005
[45] OECD, OECD Broadband Statistics, Rhagfyr 2005, Ebrill 2006
[46] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005, Mawrth 2006
[47] OECD, ICT database and Eurostat, Community Survey on ICT usage in enterprises, Mai 2005
[48] Bulldog, 'Caught in a Trap' UK SMEs in Communications Limbo, Mawrth2006
[49] BBC, Broadband coverage 'now NI wide', 16 Ionawr 2006
[50] Analysys Research, Penetration of broadband technologies, Mawrth 2006
[51] Datganiad i'r Wasg gan BT, BT beefs up broadband across the UK, 2 Mawrth 2006
[52] The Broadband Resource. Ar gael ar www.samknows.com 
[53] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[54] Gwefan OTA. Ar gael ar www.offta.org.uk
[55] ECTA, Broadband Scorecard Q4 2005, Mai 2006  
[56] ABEC, Adroddiad Meincnodi Band Eang Ch1 2006, Mehefin 2006
[57] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[58] Analysys Research, Market shares, 2006
[60] Ofcom, The Communications Market: Nations and Regions, Ebrill 2006
[61] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[62] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[63] NTL, Year end 2005 Results, Chwefror 2006
[64] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006
[65] Analysys Research, Country Report: UK, Ebrill 2006     
[66] Analysys Research, Broadband Pricing Study, Rhagfyr 200