Carphone Warehouse warned that its entry into the broadband market would continue to weigh on its profits over the coming year as it earmarked an additional investment of up to £15m yesterday to improve its customer service capability.
Over half of the adult population of the UK have access to broadband at home, according to statistics from Ofcom.
Wi-Next, an open-source Wi-Fi company, is to provide broadband access to the Italian region of Alta Langa for the first time as part of Europe’s largest ever wide-area Wi-Fi mesh project.
N'aelaw Archedig Bynciau:
Q: Beth yw man drwg band eang?
A: Mannau drwg band eang yw ardaloedd o fewn
cyfnewidfeydd a alluogwyd sydd yn dal i fod heb fynediad at fand
eang o'r genhedlaeth gyntaf. Ein diffiniad ni o fand eang
cenhedlaeth gyntaf yw 512kbps i lawr a 256kbps i fyny.
Os ydych chi'n gweld cyflymder sy'n arafach na hyn, byddem
hefyd yn eich rhoi chi yn y categori man drwg. Mae sawl rheswm dros
nodi bod rhai ardaloedd yn fannau drwg.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Bod hyd y llinell gopr rhwng y gyfnewidfa ffon a'r safle yn rhy
hir;
- Bod teclyn rhannu llinell (a elwir hefyd yn DACS - Digital
Access Carrier System) ar y llinell - mae angen cysylltu Band Eang
a safle'n uniongyrchol, felly ni fydd yn gweithio drwy'r teclynnau
rhannu llinell hyn;
- Bod ceblau alwminiwm yn y llinell. Efallai yr atgyweiriwyd yn y
llinell sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd,ac efallai y gwnaed y
gwaith gan ddefnyddio darn o gebl alwminiwm. Nid yw band eang yn
teithio drwy gebl alwminiwm.
- Ceblau copr o ansawdd gwael. Efallai bod y ceblau copr wedi
erydu'n wael neu efallai bod ansawdd y copr yn is, felly byddai'n
anodd i fand eang fynd trwy'r cebl.
- Cysylltau gwael yn y llinell. Mae'r cysylltau rhwng ceblau neu
atgyweiriadau hefyd y fannau lle gellir colli signal band
eang.
Q: Sut y galla i edrych i weld beth yw fy
nghyflymder band eang ar hyn o bryd i weld a ydw i mewn man
drwg?
A: Mae yna sawl teclyn i edrych i weld beth yw
cyflymder band eang ar y rhyngrwyd Agorwch beiriant chwilio
(google, msn, Jeeves) a theipio "ADSL speed checker".
Defnyddiwch ba un bynnag sydd orau gennych i edrych i weld beth
yw cyflymder eich llinell. Os gwelwch gyflymder i fyny neu i lawr
sy'n is na'r rhai a adroddir, cysylltwch a ni yn: gwybodaeth@abec.org.uk
Q: Beth mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei
wneud i ddatrys y broblem hon?
A: Mae prosiect Cymorth Band Eang Arloesol
Rhanbarthol (RIBS) yn gweithio gyda'i ddewis contractwr - Grwp BT -
i ddadansoddi pob llinell ffon a safle yng Nghymru.
Rydym wedi meithrin dealltwriaeth dda o nifer y mannau drwg a
byddwn yn mynd i'r afael a'r mannau drwg y mae modd gwneud
rhywbeth yn eu cylch dros gyfnod y contract. Bydd y contract
cyfredol yn para 3 blynedd, a bydd dewis i'w estyn am 2 flynedd
arall.
Rydym wedi gweithio gyda BT, a gyda'n gilydd rydym wedi llunio
map i ddangos yr holl gofrestriadau ar y wefan broceriaeth.
Mae'n bosibl bod llawer o fannau drwg, a gallai hynny olygu na
fydd rhai mannau yn cael band eang am gryn dipyn o amser. Fodd
bynnag, mae ffyrdd eraill o dderbyn gwasanaeth band eang, naill ai
drwy rwydwaith diwifr neu loeren.
I orffen, efallai bod rhai ardaloedd anghysbell iawn lle mae
darparu gwasanaeth band eang yn rhy ddrud. Mae'r amser a'r arian
sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfyngedig, ac efallai
bod rhai ardaloedd na fyddant yn elwa ar y prosiect hwn.
"Yn dal i fethu a chael Band Eang?"
Os ydych chi'n gwybod yn barod eich bod mewn man drwg, gallwch
ein helpu drwy gofrestru'ch manylion ar ein gwefan, sef: www.abec.org.uk/blackspots.
Yn ogystal, efallai yr hoffech ofyn i'ch cymdogion weld a ydyn
nhw'n wynebu'r un trafferthion mewn man drwg, a gallwch ofyn iddyn
nhw gofrestru eu manylion ar y wefan broceriaeth - gorau po fwyaf o
gofrestriadau a gesglir mewn un ardal, o ran yr achos busnes a'r
cyfiawnhad dros wneud y gwaith.
Mae gennym fynediad at lawer o daflenni, posteri, CDiau ayb sydd
ar gael am ddim i bobl ledaenu gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth
a'r galw yn eu hardal. Anfonwch neges e-bost at: broadband@cymru.gsi.gov.uk
os hoffech i ni anfon deunyddiau atoch.
Gall technoleg newydd DSL Max gynyddu'r pellter y gall band eang
deithio o hyd at 1km ymhellach mewn rhai achosion. Os oes
peiriannydd wedi dweud wrthych fod hyd eich llinell yn golygu bod
band eang allan o'ch cyrraedd o fymryn, gallai fod yn werth i chi
geisio ail-archebu band eang. Gofynnwch yn benodol am fand eang DSL
Max am y gallai hyn eich galluogi bellach i dderbyn band eang
gyda'r technolegau mwy newydd.
Os byddwch chi'n derbyn band eang yn llwyddiannus drwy ba fodd
bynnag, byddai'n ddefnyddiol iawn i ni pe gallech roi gwybod i ni
er mwyn i ni allu symud ymlaen i fannau drwg eraill a pharhau i
gynorthwyo ardaloedd eraill yng Nghymru. Fel arall, efallai y
byddwn yn gwastraffu amser yn chwilio am ffyrdd o ddatrys mannau
drwg a ddatryswyd eisoes.