Marchnad Band Eang yr
Almaen 2005
Dadlwytho'r fersiwn PDF (PDF - 989KB)
Gwlad yng nghanol Ewrop, a chanddi arfordir ar y Môr Baltig a
Môr y Gogledd yw'r Almaen. Mae ganddi dir isel yn y gogledd,
bryniau yn y canol a mynyddoedd yn y de. Mae ganddi boblogaeth o 83
miliwn o bobl, y fwyaf yn Ewrop, sy'n byw ar 39 miliwn o aelwydydd
a dwysedd poblogaeth o 236 o drigolion am bob cilometr sgwâr. Mae
lefel y trefoli yn gymharol uchel, sef 87.5%.
Y cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), sef $33,922, oedd y
deunawfed uchaf yn y byd yn 2005 yn ôl y Gronfa Ariannol
Ryngwladol. Mae hyn yn cymharu â Lwcsembwrg, ar $75,130, sydd â'r
CMC uchaf yn y byd, a'r DU yn y trydydd safle ar ddeg, gyda
$36,599[1]. Roedd CMC y pen yng Nghymru tua 79% o ffigur y DU, sy'n
gyfystyr â rhyw $28,915[2].
Cafodd y sector telathrebu ei ryddfrydoli'n llwyr ym mis
Ionawr 1998 ac mae'n cael ei reoleiddio gan y Bundesnetzagentur
(BNetzA) neu'r Asiantaeth Rhwydweithiau Ffederalaidd, a oedd, cyn
Awst 2005, yn cael ei hadnabod fel y Regulierrungsbehörde fur
Telekommunikation und Post (RegTP).
Un o brif nodau'r rheoleiddiwr o ran y farchnad
band
eang yw ceisio rhoi sylw i gydbwysed grym gweithredwr
gwreiddiol cryf a dominyddol.
Lansiodd y llywodraeth ei strategaeth ar gyfer cymdeithas
wybodaeth, Cymdeithas Wybodaeth yr Almaen 2006, ym mis Rhagfyr
2003. Mae amcanion penodol y strategaeth ar gyfer y rhyngrwyd a
band eang yn cynnwys:
- Cynyddu nifer defnyddwyr y rhyngrwyd i 75% o'r boblogaeth erbyn
2005 (yn ôl Nielsen NetRatings roedd rhyw 60% o'r boblogaeth yn
defnyddio'r rhyngrwyd ym mis Mawrth 2006[3])
- Cynyddu'r cysylltiadau band eang i ryw 7 miliwn erbyn 2004 (yn
ôl yr OECD roedd 6.9 miliwn o gysylltiadau band eang yn yr Almaen
ar ddiwedd 2004)
- Sicrhau mai band eang fyddai'r brif ffordd o gyrchu'r rhyngrwyd
erbyn 2005 (yn unol â rhaglen yr UE, eEurope 2005)
- Cynyddu nifer y llinellau band eang i fwy nag 20 miliwn erbyn
2010
- Cynyddu treiddiad band eang i fwy na 50% o'r aelwydydd erbyn
2010
Mae canfyddiadau allweddol astudiaeth Deutschland Online 3 yn
awgrymu y bydd: "gwell seilwaith band eang yn holl-bwysig ar gyfer
cystadleurwydd byd-eang yr Almaen" [4].
Menter D21 –Yn dyddio o 1999,
nod y bartneriaeth gyhoeddus/breifat yma oedd helpu a hybu
datblygiad cymdeithas wybodaeth. Fel rhan o'r fenter ehangach, mae
yna fenter band eang sy'n hybu cydweithio â llywodraethau'r
taleithiau a rhyngddyn nhw, sy'n casglu ac yn dadansoddi profiad o
wledydd eraill, ac sy'n integreiddio'r diwydiant deunyddiau a
chymwysiadau yn gryfach yn y broses datblygu a chyd-drefnu. Er
enghraifft, mae'r fenter yn creu astudiaeth ar strategaethau band
eang, yn paratoi dogfennau polisi, yn cynnal gweithdai a
chyfarfodydd ar y lefel uchaf, yn cymryd rhan yng ngweithgareddau
taleithiau ffederalaidd yr Almaen ac mewn amryw byd o ddigwyddiadau
band eang rhyngwladol
[5].
Breitbandatlas – Map rhyngweithiolsy'n
dangos hyd a lled y gwahanol dechnolegau band eang yn yr Almaen, ac
sy'n tanlinellu'r ardaloedd lle ceir cystadlu rhwng y technolegau
sy'n cyrchu band eang a'r ardaloedd lle nad oes band eang ar gael o
gwbl.
Ymhellach, er mwyn rhoi hwb i ddefnyddio band eang ymhlith
mentrau bach a chanolig (MBCh), mae'r llywodraeth wedi cynnal
ymgyrch hysbysrwydd, wedi cynnig gwasanaethau ymgynghori di-dâl ar
ddefnyddio band eang ac wedi creu gwobrau am brojectau band eang
arloesol.
O ran preifateiddio'r farchnad delathrebu, cafod y gweithredwr
gwreiddiol, Deutsche Telekom, ei breifateiddio gan y llywodraeth ym
1996. Mae Gweriniaeth Ffederalaidd yr Almaen wedi cadw cyfran o 15%
yn y gweithredwr gwreiddiol ac mae tua 22% yn perthyn i fanc y
wladwriaeth, KfW. Roedd y Weriniaeth Ffederalaidd wedi cyhoeddi o'r
blaen y byddai'n gwerthu ei chyfrannau erbyn 2006 ond hyd yn hyn
does dim tystiolaeth i awgrymu bod hynny wedi digwydd[6].
O ran y lled band rhyngwladol, yr Almaen oedd â'r nawfed lefel
uchaf am bob trigolyn yn y byd yn 2004, yn ôl yr Undeb Telathrebu
Rhyngwladol (ITU), gyda mwy na 6.9Mbps y person. Denmarc oedd â'r
lefel uchaf, sef tua 35Mbps y person ac roedd y DU yn bedwerydd
uchaf, gyda lled band o ryw 13Mbps y person[7].
O safbwynt rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy'n atal twf
band eang, mae gan yr Almaen hanes o ddiweithdra uchel a galw
domestig gwan. Mae'r rhwystr sy'n dod yn sgil diweithdra uchel yn
arbennig o amlwg o gymharu'r Almaen â'r economïau mawr eraill. Yn
ôl yr OECD, roedd y gyfradd ddiweithdra safonedig yn 9.5% ym mis
Rhagfyr 2005, sef bron unwaith a hanner cyfartaledd yr OECD o 6.4%,
a'r uchaf ymhlith grŵp gwledydd yr G7[8]. Mae hyn yn rhwystro TGCh
sylfaenol a band eang rhag treiddio'n ehangach.
Yn nhermau'r sbardunau cymdeithasol, mae 92% o'r arbenigwyr o
asiantaethau'r llywodraeth a holwyd yn astudiaeth Deutschland
Online 3 yn credu bod gan bobl sydd ar-lein fantais bendant yn eu
bywydau cymdeithasol a phroffesiynol dros y rhai nad ydyn nhw
ar-lein[9].
Yr Almaen sydd â'r farchnad fewnol fwyaf yn Ewrop, gyda rhyw
24.5 miliwn o gysylltiadau, a chyfradd dreiddio o ryw 27% o'r
boblogaeth
[10].

Ffigur 1 – Treiddiad cyfrifiaduron
personol (PC) a'r rhyngrwyd, OECD Science, Technology and Industry:
Scoreboard 2005
O ran defnyddio TGCh, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael
yn dangos bod gan 69% o aelwydydd gyfrifiadur personol yn 2005.
Ymhellach, roedd gan 60% o'r holl aelwydydd fynediad i'r rhyngrwyd
ar ddiwedd 2005. Mae'r ffigurau yma'n well na chyfartaledd yr OECD,
yn achos treiddiad cyfrifiaduron personola'r rhyngrwyd i aelwydydd.
Gan Wlad yr Iâ y mae'r lefelau uchaf yn Ewrop o gyfrifiaduron
personol, sef 86% o'r aelwydydd, ac o'r rhyngrwyd, sef 81% o'r
aelwydydd[11].
Mae marchnad band eang yr Almaen yn wahanol i farchnadoedd
eraill Ewrop, a hynny am fod Deutsche Telekom wedi rhedeg DSL dros
safon ISDN (Rhwydwaith Digidol Gwasanaethau Integredig) er mwyn
diogelu eu busnes ISDN mawr a llwyddiannus. Oherwydd hyn, roedd
rhaid cael ISDN ar gyfer cysylltiadau ADSL. Er hynny, mae'r bwndelu
yma wedi dod i ben wedyn ac mae nifer y llinellau ISDN wedi dechrau
gostwng.
O ran maint y farchnad, ar ddiwedd mis Rhagfyr 2005, cyfrifwyd
bod tua 10.7 miliwn o linellau band eang. Mae hynny'n dwf o ryw 3.8
miliwn o gysylltiadau, neu 55.1%, yn ystod 2005[12].

Ffigur 2 – Cyfanswm y
tanysgrifiadau band eang fesul gwlad, OECD Broadband Statistics,
Rhagfyr 2005
Mae twf y farchnad yn cymharu'n ffafriol â'r twf o 33% a
gofnodwyd ar draws yr OECD[13] a'r twf o 37% ledled y byd[14] ar
gyfer yr un cyfnod; mae'n awgrymu bod gan farchnad band eang yr
Almaen beth ffordd i fynd eto cyn cyrraedd ei llawn dwf.
Ffigur 3 – Twf band eang yn ystod
2005 a threiddiad band eang yn ôl y boblogaeth, OECD Broadband
Statistics, Rhagfyr 2005
MaeAnalysys Research yn darogan y bydd rhyw 14.4 miliwn o
gysylltiadau band eang erbyn diwedd 2006. Byddai hynny'n gyfystyr â
chyfradd dreiddio o rwy 17.3 o gysylltiadau am bob 100 o drigolion
yn y boblogaeth.

Ffigur 4 – Treiddiad band eang yn
ôl y boblogaeth, OECD Broadband Statistics, Rhagfyr
2005
Yn ôl ffigurau'r OECD, mae'r Almaen yn y deunawfed safle yn yr
OECD yn nhermau treiddiad band eang am bob pen o'r boblogaeth; gyda
13.0% yn hawlio gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2005. Mae'r ffigur yma'n
gosod yr Almaen ychydig y tu ôl i'r OECD yn ei grynswth, lle'r oedd
y treiddiad cyfartalog wedi cyrraedd 13.6% o'r boblogaeth. Gwlad yr
Iâ, lle mae band eang wedi treiddio i 26.7% o'r boblogaeth, oedd
â'r treiddiad uchaf yn y byd, ar y blaen i Gorea (25.4%) a'r
Iseldiroedd (25.3%). Roedd y DU yn drydydd ar deg, gyda 15.9 o
gysylltiadau am bob 100 o drigolion, a Groeg oedd â'r treiddiad
band eang isaf yn yr OECD, gydag 1.4 o gysylltiadau band eang am
bob 100 o drigolion[15].

Ffigur 5 – Treiddiad band eang yn
ôl aelwydydd (y deg gwlad uchaf), World Broadband Statistics Q4
2005, Point Topic, Rhagfyr 2005
O ran treiddiad band eang fesul aelwyd, roedd gan ryw 27% o'r
aelwydydd gysylltiad band eang ym mis Rhagfyr 2005[16]; mae hynny'n
gosod yr Almaen y tu allan i'r deg gwlad uchaf yn y byd. Mae hyn yn
llawer is na threiddiad aelwydydd Corea, yr uchaf yn y byd, a oedd
tua 78.5% o'r aelwydydd bryd hynny. Ym Monaco yr oedd y lefelau
treiddiad uchaf yn Ewrop, sef 69% o'r holl aelwydydd, ac roedd yr
Iseldiroedd a Denmarc yn sgorio'n uchel hefyd, gyda 58% a 54% yn y
drefn honno. Mae treiddiad band eang fesul aelwyd yn y DU hefyd ar
y blaen i'r Almaen, gan fod cysylltiad band eang gan ryw 38% o holl
aelwydydd y DU[17].
Mae BITKOM, Cymdeithas Technoleg Gwybodaeth, Telathrebu a
Chyfryngau Newydd yr Almaen, yn darogan y bydd treiddiad band eang
ymhlith aelwydydd yn codi i 34% yn 2007[18].
O ran y farchnad fusnes, mae mwy na 3.3 miliwn o fusnesau yn
yr Almaen, a mentrau bach a chanolig eu maint yw dros 99% ohonynt.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn 2004 yn dangos bod mynediad i'r
rhyngrwyd gan 94% o'r holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o weithwyr
amser-llawn. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 54% o'r holl
fentrau a oedd â 10 a rhagor o weithwyr amser-llawn yn defnyddio
cysylltiad band eang. Mae'r ddau ffigur ychydig ar y blaen i
gyfartaledd yr OECD
[19].

Ffigur 6 – Treiddiad y rhyngrwyd a
band eang ymhlith busnesau, OECD Science, Technology and Industry:
Scoreboard 2005
Mae llywodraeth yr Almaen yn awyddus i roi hwb i ddefnyddio
TGCh a band eang ymhlith busnesau a, fel rhan o strategaeth
Cymdeithas Wybodaeth yr Almaen 2006, mae wedi pennu amcan o
gynyddu'r defnydd helaeth ar e-Fusnes i 40% o'r MBCh erbyn
2008.
O ran seilwaith band eang, mae ffigurau gan Ovum yn dangos y
gallai 91% o boblogaeth yr Almaen gyrchu gwasanaeth band eang ym
mis Medi 2005[20]. Mae hyn yn dangos mai ychydig o dwf sydd wedi
bod yn y cyflenwad yn ddiweddar, gan fod band eang ar gael i ryw
90% o'r boblogaeth mor gynnar â 2003. Er gwaethaf hyn, mae'r
Llywodraeth ffederalaidd wedi dweud ei bod yn credu bod cyflenwad
band eang ar gael yn helaeth ac felly nad yw'n rhag-weld y bydd yn
defnyddio arian cyhoeddus er mwyn cynyddu'r cyflenwad.
Ffigur 7 – Amcangyfrif o'r cyflenwad band eang,
Analysys Research, Medi 2005
Mae menter sy'n anelu at gynyddu cyflenwad band eang wedi'i
lansio gan Eco, cymdeithas gofrestredig mentrau rhyngrwyd yr
Almaen. Nod y fenter yw dileu pob man gwan band eang (sef ardaloedd
lle nad oes gwasanaethau ar gael) ledled y wlad, gan roi pwyslais
penodol ar hybu cysylltiad band eang mewn ardaloedd lle nad yw'n
fasnachol hyfyw darparu cynhyrchion DSL. Y prif ffocws yw defnyddio
technolegau band eang amgen i sicrhau bod band eang ar gael i
ddefnyddwyr a busnesau.
Dechreuodd y fenter â sioe deithiol ymgyrch hysbysrwydd
ynghylch gwahanol gyflenwyr band eang yn yr ardaloedd sydd heb
ddigon o gyflenwad. Dechreuodd honno yn haf 2005 a bydd yn rhedeg
tan ail chwarter 2006. Pan fydd ymwybyddiaeth wedi'i chodi, yr ail
gam fydd addasu'r atebion ar gyfer anghenion yr ardaloedd. Bwriad
Eco yn y pen draw yw dod â'r holl gyfranwyr allweddol ynghyd –
trefi, cynghorau, ISPs, busnes a chwsmeriaid – yn y fenter er mwyn
dileu pob man gwan band eang drwy hybu llwyfannau i gyrchu band
eang sy'n niwtral o ran eu technoleg
[21].
Ar ben hynny, mae'r gweithredwr gwreiddiol, Deutsche Telekom,
wedi bod yn treialu
WiMAX
gan fwriadu ymestyn eu cyflenwad er mwyn darparu gwasanaethau band
eang yng nghefn gwlad. Oherwydd hynny, mae'n debyg y bydd cyflenwad
band eang yn nesáu at 100% yn y dyfodol agos.
O ran gwasanaethau band eang, ym mis Rhagfyr 2005, DSL oedd y
dechnoleg amlycaf o bell ffordd; sef rhyw 98% o gyfanswm y
gwasanaethau band eang.
Ceblyw'r
rhan fwyf o'r cysylltiadau eraill, sef cyfran o ryw 2% o gyfanswm y
cysylltiadau band eang
[22].

Ffigur 8 – Marchnad band eang
gorllewin Ewrop yn ôl y math o dechnoleg, Analysys Research,
Rhagfyr 2005
DSL
Ar ôl mwynhau lled-fonopoli dros eu llinellau eu hunain am
beth amser, daeth cystadleuaeth i Deutsche Telekom i'r amlwg ym mis
Ebrill 2004 pan gafodd cynnyrch cyfanwerthol ei orfodi arnyn nhw,
gan ganiatáu i ISPs manwerthol ailwerthu llinellau'r gweithredwr
gwreiddiol. Er gwaethaf llwyddiant diweddar ailwerthu, does dim
cynlluniau i gyflwyno cynnyrch didlif yn y farchnad ac mae
ansicrwydd ynghylch rheoleiddio'r farchnad gyfanwerthol yn golygu
nad yw'n debyg y bydd cynnyrch didlif yn cael ei lansio yn y
dyfodol agos[23].
O ran y cyflenwad DSL, gall mwy na 90% o'r aelwydydd gyrchu
gwasanaethau band eang drwy gyfrwng DSL. Mae'r amodau ar gyfer DSL
yn arbennig o ffafriol yn yr Almaen am fod y dolenni lleol yn mesur
1.5-2km ar gyfartaledd. Ar y llaw arall, dim ond 17% o aelwydydd y
DU a 19% o aelwydydd Cymru sydd â dolen leol sy'n mesur 2km neu
lai. Ar ben hynny, mae rhyw 95-98% o'r holl linellau yn gydnaws â
DSL[24].
Mae Deutsche Telekom wedi bod yn treialu ADSL2+ a VDSL2yn
ystod 2005. Disgwylir gweld gwasanaethau ADSL2+ yn cael eu lansio
ym mis Mai 2006. Ymhellach, mae'r gweithredwr gwreiddiol yn ymrwymo
EUR3 biliwn ar gyfer adeiladau FTTN (Ffibre-at-y-Nod) yn hanner
cant o ddinasoedd mwyaf yr Almaen, sy'n golygu y bydd rhaid i
Deutsche Telekom gwtogi'r dolenni lleol a gosod DSLAMs yn agosach
at y defnyddwyr. Mae Deutsche Telekom yn credu y bydd yn cysylltu
tua 2.9 miliwn o aelwydydd â'r rhwydwaith newydd erbyn canol 2006,
ac y bydd hanner cant o ddinasoedd wedi'u cysylltu ac yn rhedeg
gwasanaethau VDSL2 50Mbps yn 2007[25]. Mae rhoi'r rhwydwaith VDSL
newydd ar waith wedi creu rhai problemau rheoleiddio; dadl y
gweithredwr gwreiddiol yw y dylai'r rhwydwaith newydd fod yn esempt
rhag y rheoleiddio presennol, gan fod y gwasanaethau y bydd yn eu
darparu yn gyfystyr â marchnad newydd.
Mae'r posibilrwydd y bydd y gweithredwr gwreiddiol yn cynnig
gwasanaethau VDSL heb orfod cynnig cynnyrch cyfanwerthol i
weithredwyr eraill wedi peri i rai o'r cystadleuwyr gynnig cyfrannu
at gost y seilwaith newydd yn dâl am gael cynnig eu gwasanaethau
VDSL eu hunain dros y rhwydwaith newydd. Er hynny, mae'r Comisiwn
Ewropeaidd wedi dadlau nad oes sail dros honni bod yna farchnad ar
wahân ar gyfer VDSL a bod ADSL2+ yn caniatáu gwasanaethau tebyg,
sy'n golygu ei bod yn debyg y bydd rhaid i Deutsche Telekom
ddarparu cynnyrch cyfanwerthol ar gyfer eu cystadleuwyr.
Dadfwndelu dolenni lleol (LLU), sydd ar gael ers 1998, yw'r
prif fath o gystadleuaeth sy'n wynebu'r gweithredwr gwreiddiol. Er
hynny, mae'r cystadleuwyr wedi hoelio sylw ar y farchnad busnes,
heb wneud fawr o argraff ar y farchnad breswyl. Mae hyn yn arwain
at brisiau cymharol uchel o farchnad mor fawr.
Cafwyd gostyngiad ym mis Mehefin 2004 yng nghost dolenni
lleol, a hynny ar ôl i'r Comisiwn Ewropeaid ymyrryd er mwyn
cynyddu'r cystadlu. Roedd y gostyngiad yn y pris wedi cymryd pedair
blynedd i ddod i'r amlwg ers i Deutsche Telekom gael eu cyfarwyddo
i ostwng prisiau a dim ond o drwch blewyn y llwyddwyd i osgoi achos
ffurfiol. Gwelwyd rhagor o ostyngiadau ym mhrisiau dadfwndelu llawn
ym mis Ebrill 2005, gan roi hwb i'r farchnad LLU breswyl.

Ffigur 9 – Llinellau DSL wedi'u
dadfwndelu fel canran o gyfanswm y llinellau DSL, ECTA, Rhagfyr
2005
Mae ffigurau
ECTA yn dangos bod 2.5 miliwn o ddolenni
lleol wedi'u dadfwndelu erbyn diwedd Rhagfyr 2005. Mae hynny'n 24%
o'r farchnad DSL; un o'r cyfrannau uchaf sydd gan LLU yn y farchnad
DSL yng ngorllewin Ewrop, a chynnydd o'r 920,000 o linellau a oedd
wedi'i dadfwndelu a'r gyfran o 14% a oedd ar gael ar ddiwedd
Rhagfyr 2004
[26].
Ers i'r rheoleiddiwr weithredu ynglŷn ag LLU yn 2002, mae'r
nifer cynyddol o weithredwyr wedi peri cynnydd yn y cystadlu a
gostyngiad o dipyn i beth yng nghyfran Deutsche Telekom o'r
farchnad.
Mae Arcor, yr ail fwyaf o'r gweithredwyr ym maes llinellau
gosod, sydd â miliwn a rhagor o gysylltiadau ar hyd llinellau DSL
wedi'u dadfwndelu, yn cynnig band eang wedi'i ddadfwndelu mewn 300
o ddinasoedd ac erbyn diwedd 2006 maen nhw'n bwriadu ymestyn i 45%
o'r boblogaeth[27]. Yn y cyfamser, mae QSC wedi dadfwndelu
cyfnewidfeydd mewn 110 o ddinasoedd ac maen nhw'n parhau i ymestyn,
er eu bod yn canolbwyntio ar y farchnad fusnes yn bennaf ar ôl
lleihau eu presenoldeb yn y farchnad breswyl.
Ymhellach, mae Tiscali wedi dechrau dadfwndelu yn ardal
Frankfurt ac maen nhw'n bwriadu buddsoddi EUR60-70 miliwn mewn LLU
er mwyn cyrraedd 50% o'r holl aelwydydd erbyn 2008. Yn y cyfamser,
mae Telefónica Deutschland wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu ymestyn
eu cylch nhw i 40% o'r holl aelwydydd ac maen nhw'n cyfanwerthu eu
gwasanaethau DSL i ISPs eraill ac mae BT Germany hefyd wedi lansio
gwasanaethau cyfanwerthu DSL[28].
O ran gwasanaethau sydd â lled band uwch, mae United Internet,
Versatel, Arcor, QSC a Telefónica Deutschland i gyd wedi lansio,
neu wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu lansio, gwasanaethau ADSL2+
cyflym yn yr ardaloedd y maen nhw wedi'u dadfwndelu.
Un her i Deutsche Telekom yw mor anodd yw hi i'r gweithredwr
gwreiddiol ddiffinio cyfraddau cenedlaethol cystadleuol, gan eu bod
yn cystadlu yn erbyn gweithredwyr gwahanol mewn ardaloedd gwahanol,
megis HanseNet, sydd â chyfran o fwy na 50% o'r farchnad yn eu tref
eu hunain, sef Hamburg. Ym mis Mehefin 2005, gostyngodd uned
T-Online Deutsche Telekom y gyfradd fisol am eu pecyn DSL gorau ei
werthiant 50% mewn ymateb i'r toriadau yma ym mhrisiau'r
cystadleuwyr.
Mae rhwydwaith cebl yn mynd heibio i ryw 31 miliwn o aelwydydd
(80% o'r holl aelwydydd) ac mae gan 22 miliwn gysylltiad. Er hynny,
mae'r rhan fwyaf o'r rhwydweithiau yma heb eu huwchraddio ar gyfer
band eang cebl ac ar ddiwedd 2005 dim ond 6 miliwn o aelwydydd (15%
o'r holl aelwydydd) a allai gael gwasanaethau band eang dros
rwydwaith cebl[29].
Un flaenoriaeth i'r farchnad band eang yw ysgogi gwaith i
uwchraddio rhwydweithiau cebl ar gyfer band eang drwy
ailstrwythuro'r gweithredwyr cebl. Roedd y rhan fwyaf o'r
rhwydweithiau cebl yn arfer perthyn i DT nad oedden nhw'n cynnig
band eang cebl ond yn hoelio sylw yn hytrach ar DSL ac felly doedd
y rhwydweithiau cebl ddim yn cael eu huwchraddio. Cymhleth iawn yw
strwythur perchnogaeth y rhwydweithiau ceblau ar hyn o bryd, a
hynny oherwydd ymyrraeth annoeth gan y wladwriaeth[30].
Amcangyfrifwyd y byddai uwchraddio'r rhwydweithiau cebl er
mwyn darparu gwasanaethau band eang dau-gyfeiriad yn golygu
buddsoddi tua EUR9 biliwn. Er hynny, fe fyddai ailstrwythuro a
chydgrynhoi perchnogaeth y rhwydwaith cebl yn cynyddu gwerth gwaith
uwchraddio ar raddfa fawr yn y dyfodol.
Mae yna arwyddion bod rhagor o rwydweithiau cebl yn dechrau
cael eu huwchraddio: mae Kabel Deutschland, y gweithredwr cebl
mwyaf, yn bwriadu uwchraddio 90% o'u rhwydwaith nhw ar gyfer
gwasanaethau band eang erbyn diwedd 2008.
Cafodd trwyddedau Mynediad Diwifr Sefydlog (FWA) eu dyfarnu i
12 o weithredwyr ym 1999, ond, fel yn y rhan fwyaf o'r gwledydd
eraill, mae wedi bod yn anodd denu cwsmeriaid a hynny am fod DSL ar
gael yn eang ac mae'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yma wedi mynd i'r
wal.
Lansiodd Deutsche Telekom dreial WiMAX ym mis Gorffennaf 2005
gan fwriadu dod â gwasanaethau band eang i ardaloedd gwledig. Mae
Arcor hefyd wedi lansio gwasanaeth WiMAX ym Merlin, Dusseldorf a
Kaiserslautern.
O ran 'mannau poeth' ar gyfer mynediad cyhoeddus, roedd tua 25
o ddarparwyr yn gweithredu mwy na 6,000 o 'fannau poeth' diwifr
erbyn diwedd 2005.
Mae ambell rwydwaith ffibr bach o amgylch y wlad. Mae un
project o'r fath ar waith yn Schwerte, Nordrhein-Westfalen ac yn
cael ei redeg gan Stadtwerke Schwerte Ruhrpower, y mae 47% ohono'n
perthyn i gyngor Shwerte, 23.5% i ddinas Dortmund a 23.5% i grŵp
RWE Energy.
Ar ben hynny, mae'r gweithredwr lleol NetCologne wedi cyhoeddi
y byddan nhw'n buddsoddi EUR200 miliwn mewn ffibr er mwyn dod â
gwasanaethau FTTH i ddinas Cwlen.
Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod tua 9,500 o
gysylltiadau band eang ffibr ar ddiwedd 2005.
Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod rhyw 28,000 o
gysylltiadau band eang lloeren ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn
ostyngiad o ryw 13,000 o gysylltiadau ers diwedd 2004.
Yr Almaen yw un o'r ychydig farchnadoedd yn Ewrop lle mae
gwasanaethau band eang dros linellau pŵer ar gael yn fasnachol. Er
hynny, cyfyngedig yw nifer y tanysgrifwyr a does dim disgwyl y bydd
y dechnoleg yn creu fawr o effaith ar y farchnad ehangach.
Amcangyfrif Analysys Research oedd bod tua 9,700 o gysylltiadau
band eang dros linellau pŵer ar ddiwedd 2005.
O safbwynt y gweithredwyr, y gweithredwr gwreiddiol, Deutsche
Telekom, sydd wedi dominyddu marchnad telathrebu yr Almaen, er bod
gweithredwyr LLU wedi dechrau cynyddu eu cyfran nhw o'r farchnad.
Llinellau Deutsche Telekom oedd 75% o'r holl linellau DSL
cyfanwerthu ym mis Rhagfyr 2005. Mae hynny'n gyfystyr â 74% o'r
holl gysylltiadau band eang cyfanwerthu. Arcor yw'r ail weithredwr
mwyaf yn y farchnad, ac maen nhw hefyd yn ailwerthu eu gwasanaethau
i ISPs manwerthol. Ym mis Rhagfyr 2005, roedd gan Arcor gyfran o
ryw 9% o gyfanswm y farchnad gyfanwerthu.
Yn ôl Deutsche Telekom, roedd dros 60 o gwmnïau yn cynnig
llinellau DSL yn 2005, naill ai drwy eu hailwerthu neu dros eu
seilwaith eu hunain. Ar ben hynny, mae bron 40 o weithredwyr yn
cynnig gwasanaethau band eang cyflym dros rwydweithiau
cebl[31].
Yn hanesyddol, mae Deutsche Telekom wedi tra-arglwyddiaethu ar
y farchnad DSL fanwerthol. Er hynny, yn sgil cyflwyno ailwerthu ym
mis Ebrill 2004 a buddsoddiadau cynyddol mewn LLU, mae eu cyfran
nhw o'r farchnad yn dechrau gostwng.
Yn ôl Analysys Research, tanysgrifiadau manwerthu Deutsche
Telekom oedd 47% o gyfanswm y cysylltiadau yn y farchnad band eang
ar ddiwedd 2005. Mae hynny'n gyfystyr â chyfran fanwerthol o 49%
o'r farchnad DSL.
Mae'r defnyddio ar wasanaethau band eang mwy soffistigedig,
megis IPTV, VoD, etc, yn cynyddu. Ar gyfer y gwasanaethau
soffistigedig yma, mae angen mwy o led band yn gyffredinol na'r hyn
y mae ei angen ar gyfer cymwysiadau band eang traddodiadol ac felly
mae lled band y cysylltiadau yn cynyddu ar gyfartaledd. Mae
arbenigwyr band eang yn darogan y bydd y cyflymder cysylltu
cyfartalog yn cynyddu o 1Mbps yn 2004 i fwy na 30 Mbps yn 2015. Y
prif gymwysiadau y disgwylir iddyn nhw hybu'r cynnydd yn lled y
band yw VoIP, VoD a gwasanaethau triphlyg wedi'u cyfuno[32].
Tuedd ddiweddar yn y farchnad yw cyflwyno bwndeli sy'n cynnwys
llinell sefydlog a ffôn symudol. Mae'r gweithredwyr QSC a BT Global
Services wedi lansio pecynnau sy'n cynnwys y ddau hyn i'r sector
busnes a'r disgwyl yw y bydd gwasanaethau preswyl ar gael yn 2006.
I fynd i'r afael â'r bygythiad yma, mae Deutsche Telekom wedi
lansio gwasanaeth a all gael ei ddefnyddio dros ffôn ar linell
sefydlog a rhwydwaith symudol. Mae dau ddewis ar gael gyda'r
gwasanaeth yma; defnyddio PSTN safonol ar gyfer y galwadau ar y
llinell sefydlog neu ddefnyddio VoIP drwy gysylltiad WLAN.
Lansiodd Deutsche Telekom wasanaeth VoD ar ddiwedd 2003 a
chynnig ffilmiau am EUR3-4 yr un. Cafodd tua 100,000 o ffilmiau eu
lawrlwytho yn ystod mis Rhagfyr 2005. Mae Deutsche Telekom hefyd yn
cynnig gwasanaeth lawrlwytho cerddoriaeth a gwasanaeth chwarae
gemau ar-lein.
Mae canfyddiadau astudiaeth Deutschland Online 3 yn awgrymu y
bydd canran yr aelwydydd sy'n defnyddio VoD yn cyrraedd 23% yn
2015.
Mae Deutsche Telekom yn bwriadu lansio gwasanaeth IPTV yn ail
hanner 2006. Bwriedir cynnig 100 o sianeli am ddim a sianeli teledu
am dâl hefyd, gan gynnwys pêl-droed byw ar HDTV.
Mae'r Almaen yn llawer mwy datblygedig o ran defnyddio VoIP na
llawer o wledydd gorllewin Ewrop. Roedd tua 50 o gwmnïau yn cynnig
gwasanaethau VoIP i'r farchnad dorfol ar ddiwedd 2005.
Lansiodd AOL wasanaeth VoIP yn Ebrill 2005 gan gynnig galwadau
cenedlaethol heb gyfyngiad am EUR8.99 y mis. Ar ben hynny, lansiodd
Arcor wasanaeth VoIP yn Ebrill 2005 gan gynnig ffôn dros fideo a
galwadau drwy fannau poeth WiFi, ac mae United Internet a
freenet.de yn cynnig gwasanaethau VoIP ers 2004[33]. Mae sawl
gweithredwr cebl wedi lansio gwasanaethau VoIP hefyd.
Mae canfyddiadau astudiaeth Deutschland Online 3 yn awgrymu y
bydd canran yr aelwydydd sy'n defnyddio'u cysylltiad band eang ar
gyfer teleffoni yn codi o 1% yn 2004 i 35% yn 2015.
Mae Deutsche Telekom yn chwilio am dwf ym maes chwarae
triphlyg ac maen nhw wedi targedu miliwn o gwsmeriaid chwarae
triphlyg erbyn diwedd 2007. Gallai cystadleuaeth ddod o du'r
gweithredwr cebl Kabel Deutschland: maen nhw'n bwriadu uwchraddio
90% o'u rhwydwaith nhw ar gyfer gwasanaethau chwarae triphlyg erbyn
diwedd 2008.
Mae canfyddiadau astudiaeth Deutschland Online 3 yn awgrymu y
bydd canran yr aelwydydd sy'n tanysgrifio i becyn chwarae triphlyg
yn codi o 4% yn 2005 i 32% yn 2015.
O ran prisiau, mae cost pecynnau sylfaenol band eang 'y
genhedlaeth gyntaf' wedi gostwng yn arwyddocaol ers 2001, gan
ostwng o bris uchaf o ryw EUR60-70 y mis am wasanaeth 0.7Mbps yn
2001, i ryw EUR20 y mis am wasanaeth 1 neu 2Mbps. O
ganlyniad, mae prisiau 2005 yn debyg i farchnadoedd eraill
gorllewin Ewrop; yn yr Iseldiroedd neu Ffrainc, mae gwasanaethau
tebyg yn costio tua EUR25-30 y mis
[34].
O ran gwasanaethau band eang 'yr ail genhedlaeth'
[1], ym mis Rhagfyr 2005, roedd
gwasanaethau 6Mbps ar gael drwy'r wlad i gyd, ac yn costio tua
EUR25-40 y mis. Mae'r prisiau yma yn debyg i'r DU a Ffrainc sy'n
costio tua EUR30-40. Mewn rhai ardaloedd sydd wedi'u dadfwndelu,
roedd gwasanaethau 16Mbps ar gael drwy dechnoleg ADSL2+ am gost o
ryw EUR60 y mis. Er hynny, mae gwasanaethau'r 'ail genhedlaeth' ar
gael am gyn lleied â EUR15 y mis yn ardaloedd rhai o'r
cyfnewidfeydd sydd wedi'u dadfwndelu yn Ffrainc, sy'n golygu bod yr
Almaen yn gymharol ddrud ar gyfer gwasanaethau cyflym
[35].
O gofio maint y farchnad, nid yw marchnad band eang yr Almaen
wedi'i datblygu'n dda iawn o'i chymharu â marchnadoedd band eang
eraill gorllewin Ewrop. Mae hyn yn deillio yn bennaf o safle
dominyddol y gweithredwr gwreiddiol a fu'n hwyr iawn yn caniatáu
cystadleuaeth drwy ailwerthu eu cynhyrchion cyfanwerthol.
Mae lefelau treiddiad band eang yn debyg i'r cyfartaledd
Ewropeaidd, sef 13 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion
ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn bell o gyrraedd lefelau treiddiad y
rhyngrwyd yn y prif genhedloedd fel Corea a'r Iseldiroedd, sef mwy
na 25 o gysylltiadau am bob 100 o drigolion, sy'n dangos bod digon
o le ar gyfer rhagor o dwf yn y farchnad band eang. Ymhellach,
mae'r ffigurau ar gyfer treiddiad ymhlith aelwydydd, sef 27 o
gysylltiadau band eang am bob 100 o aelwydydd gryn dipyn y tu ôl i
lefelau dwysedd y ffôn; amcangyfrif Analysys Research yw bod yna 89
o linellau ffôn sefydlog am bob 100 o aelwydydd. Mae'r ffigurau
yma, a'r ffaith bod twrf band eang yn dal yn gryf, yn awgrymu nad
yw'r farchnad yn debyg o fod yn gyflawn am beth amser.
Er mwyn i'r farchnad symud yn ei blaen, mae angen i
gystadleuaeth o du technolegau eraill symbylu'r farchnad. Byddai
buddsoddiadau yn y rhwydwaith cebl yn cynyddu'r gystadleuaeth a
hefyd yn sicrhau bod y rhwydweithiau'n gynaliadwy gan y bydd yna
alw am led band uwch yn y dyfodol.Mae gweithredwyr cebl yn
cydgrynhoi ac yn cytuno ar gytundebau ailwerthu, gan greu'r
amgylchedd sy'n angenrheidiol i fuddsoddi ar raddfa fawr yn y
rhwydweithiau y mae eu hangen er mwyn uwchraddio gwasanaethau band
eang.
O ran gwasanaethau, mae canolbwynt y farchnad wedi symud tuag
at ddarparu gwasanaethau chwarae triphlyg ac mae'r gweithredwr
gwreiddiol, gweithredwyr LLU a gweithredwyr cebl i gyd yn chwilio
yn y maes yma am gynnydd yn eu refeniw.
Bydd y datblygiad FTTN/VDSL mawr sydd ar ei hanner gan y
gweithredwr gwreiddiol yn dod â gwasanaethau cyflym iawn i rannau
helaeth o'r wlad, gan ganiatáu mwy o ddefnyddio ar gymwysiadau a
gwasanaethau band eang mwy soffistigedig, gan gynnwys posibilrwydd
chwarae triphlyg wedi'i gyfuno. Er hynny, bydd yr ansicrwydd o ran
rheoleiddio'r rhwydwaith newydd yn creu ansicrwydd ynghylch
buddsoddi at y dyfodol ac mae angen ateb cyflym a boddhaol er mwyn
cadw hyder y gweithredwyr blaenllaw. Bydd canlyniad yr anghydfod o
ddiddordeb i'r cyfan o'r diwydiant telathrebu yn Ewrop gan ei fod
yn debyg o roi awgrym ynglŷn â chyfeiriad y rheoleiddio yn y
dyfodol gan yr UE.
Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae darparwyr gwasanaethau eraill
yn dod â'u brandiau nhw eu hunain i'r sector preswyl ac yn cymryd
cyfran o'r farchnad, a bydd rhagor o gystadlu yn dod wrth i
weithredwyr ffonau symudol symud i'r farchnad band eang. Oherwydd
hynny, mae'r frwydr am gyfran o'r farchnad fanwerthu yn debyg o
barhau. Er hynny, bydd mwy o gystadlu yn cyfyngu ar elw perchnogion
y seilwaith a'r tebyg yw y bydd yna rywfaint o gydgrynhoi yn y
farchnad.
Yn 2005, mae marchnad band eang yr Almaen yn dod yn fwyfwy
aeddfed ac mae gwasanaethau cyflymach a deunyddiau soffistigedig ar
gael yn fwy ac yn fwy, a thwf y cysylltiadau newydd yn dal yn gryf.
Er hynny, os yw'r Almaen am ddod yn un o brif farchnadoedd Ewrop,
mae angen mynd i'r afael â lefelau isel y cystadlu o du technolegau
heblaw DSL.
[1] At
ddibenion yr adran yma, bernir mai gwasanaethau preswyl sydd â
chyflymder i lawr o fwy na 2Mbps, ac sy'n defnyddio technolegau
ADSL neu gebl yw gwasanaethau'r 'ail genhedlaeth'
[1] Y
Gronfa Ariannol Ryngwladol,
World Economic Outlook
Database, Ebrill 2006
[2]
Western Mail,
Building better future? Not quite,
15 Mehefin 2005
[4]
Deutschland Online,
Deutschland Online 3, Mehefin
2006
[6]
Analysys Research,
Country Report: Germany, Mawrth
2006
[7] Yr
Undeb Telathrebu Rhyngwladol,
World Telecommunications
Indicators, Rhagfyr 2005
[8]Datganiad i'r wasg gan yr OECD,
OECD
Standardised Unemployment Rate falls to 6.4% in Rhagfyr 2005,
10 Chwefror 2006
[9]
Deutschland Online,
Deutschland Online 3, Mehefin
2006
[10] Analysys Research,
Country Report:
Germany, Mawrth 2006
[11] OECD, Cronfa ddata ICT ac Eurostat, Community
Survey on ICT usage in households and by individuals,
Mai 2005
[13] OECD, OECD Broadband Statistics, Rhagfyr 2005,
Ebrill 2006
[14] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005,
Mawrth 2006
[15] OECD, OECD Broadband Statistics, Rhagfyr 2005,
Ebrill 2006
[16] Yr Asiantaeth Rhwydweithiau Ffederalaidd,
Annual Report 2005, Chwefror 2006
[17] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005,
Mawrth 2006
[18] BREAD,
Second report on the
multi-technological analysis of the 'broadband for all' concept,
focus on the listing of multitechnological key issues and practical
roadmaps on how to tackle these issues, Awst 2005
[19] OECD, Cronfa ddata ICT ac Eurostat, Community
Survey on ICT usage in enterprises, Mai 2005
[20] Ovum,
International Broadband Market
Comparisons, Ionawr 2006
[21] EuroISPA, Cylchlythyr, Mai-Mehefin 2005
[23] Analysys Research,
Country Report:
Germany, Mawrth 2006
[24] Ovum a Beacon,
The BEACON Broadband Knowledge
Base Report, Medi 2005
[25] Ovum,
Deutsche Telekom opts for VDSL2,
2006
[26] ECTA, Broadband Scorecard Q4 2005, Mai 2006
[27] Wireless Watch, Awst 2006
[28] Analysys Research,
Country Report:
Germany, Mawrth 2006
[29] Yr Asiantaeth Rhwydweithiau Ffederalaidd,
Annual Report 2005, Chwefror 2006
[30] Ovum a Beacon,
The BEACON Broadband Knowledge
Base Report, Medi 2005
[31] Yr Asiantaeth Rhwydweithiau Ffederalaidd,
Annual Report 2005, Chwefror 2006
[32] Deutschland Online,
Deutschland Online
3, Mehefin 2006
[33] Analysys Research,
Country Report:
Germany, Mawrth 2006
[34] Analysys Research,
Broadband Pricing
Study, Rhagfyr 2005
[35] Analysys
Research,
Broadband Pricing Study, Rhagfyr 200