Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan > Adroddiadau & Erthyglau Eraill > Y Adroddiad Meincnod Band Eang >
 

Adroddiad Meincnodi Band Eang Ch2: Ebrill - Mehefin 2006


 

Neidio I:

 

 


                                                                                                                             
 
Dyma'r chweched adroddiad mewn cyfres o adroddiadau meincnodi band eang a gynhyrchwyd i Uned Band Eang Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys y farchnad band eang yng Nghymru, y DU a gweddill y byd; gyda'r data'n seiliedig – lle bo ar gael – ar y sefyllfa hyd ddiwedd Mehefin 2006.
 
Mae amcangyfrifon a gyfrifwyd o ffigurau gweithredwyr yn dangos bod gan 41.5% o gartrefi yng Nghymru gysylltiad band eang ar ddiwedd Mehefin 2006. Mae hyn yn gyfwerth â 19.4 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion ac mae'n unol â ffigurau ar gyfer y DU gyfan.
 
Mae cystadleuaeth yn y sector LLU wedi cynyddu ar ôl i Tiscali ddod yn ail weithredwr LLU i ddod i'r farchnad yng Nghymru, gan ddadfwndelu pedair cyfnewidfa. Yn ogystal, mae Orange, Be Unlimted a The Carphone Warehouse oll wedi clustnodi cyfnewidfeydd yng Nghymru ar gyfer dadfwndelu fel rhan o'u rhaglenni cyflwyno rhwydwaith unigol.
 
O ran argaeledd, erbyn hyn mae'r holl gartrefi yng Nghymru bron yn gallu derbyn rhyw fath o wasanaeth band eang. Fodd bynnag, mae argaeledd gwasanaethau lled band uwch yn parhau'n isel iawn o'i chymharu â rhai o brif genhedloedd band eang y byd. Dim traean o'r holl gartrefi yng Nghymru sy'n gallu derbyn gwasanaeth band eang sy'n cynnig cyfraddau lawrlwytho o 8Mbps ac nid oedd gwasanaethau lled band uwch ar gael o gwbl. Mae gwasanaethau sy'n cynnig lled band hyd at 24Mbps yn debygol o ddod i'r farchnad yn y dyfodol agos wrth i weithredwyr LLU ddod â chynigion ADSL2+ i gyfnewidfeydd a ddadfwndelwyd, er mai dim ond cyfran gymharol fach o gartrefi a fydd yn derbyn y lled band uwch oherwydd cyfyngiadau technolegol.
 
Daw gwasanaethau ADSL2+ lled band uwch ar gael yn eang fel rhan o gyflwyno gwasanaeth 21CN gan BT, ond ni fydd hyn yn gyflawn tan 2011 a dim ond cyfran gymharol fach o gartrefi a fydd yn derbyn y lled band uwch oherwydd cyfyngiadau technolegol.
 
Mae argaeledd gwasanaethau lled band uwch ar fin dod yn fater cynyddol bwysig yn ystod y blynyddoedd nesaf ar ôl i amcangyfrifon ragweld y bydd y galw am led band yn cynyddu'n sylweddol rhwng y ddwy flynedd a'r chwe blynedd nesaf. Mae'r amcangyfrifon hyn yn dangos y gall galw gynyddu i lefelau sydd y tu hwnt i dechnolegau DSL presennol ac efallai y bydd angen ystyried technolegau eraill i gyflwyno band eang o fewn yr amserlen hon.
 
Gellir gweld tystiolaeth bod y galw am led band yn cyrraedd lefelau sydd y tu hwnt i alluoedd DSL yn Ne Corea, sy'n parhau i ddangos arwyddion bod ei farchnad band eang wedi symud i gyfnod nesaf datblygiad. Ar ôl nesáu at bwynt dirlawnder y farchnad ar gyfer cysylltiadau band eang, y duedd ddiweddaraf yw tuag at amnewid cysylltiadau DSL am gysylltiadau cebl a ffibr ag iddynt led band uwch. Er gwaethaf y duedd hon, DSL yw'r dechnoleg ddewisedig o hyd ar raddfa ehangach ac, mewn gwirionedd, mae'n goruchafu'n gynyddol yn fyd-eang.

Argaeledd
 
 

Cyrhaeddiad Band Eang DSL

 
Band Eang ADSL (Anghymesur)
 
Yn ôl BT, mae mwy na 99.5% o'r safleoedd yng Nghymru wedi'u cysylltu â chyfnewidfa sy'n addas ar gyfer DSL. Fodd bynnag, oherwydd materion technegol lleol fel pellter o gyfnewidfa neu rwydweithiau ansawdd gwael, nid yw rhai safleoedd o fewn ardaloedd y cyfnewidfeydd hyn yn addas ar gyfer cyflwyno gwasanaethau band eang, neu dim ond ar gyflymderau isel iawn y gallant gael mynediad at wasanaethau.
1
Ffigur 1 - Amcangyfrif o'r tai a gyrhaeddir gan y cyflymder i lawr isaf, Ch1 2006, Analysys Consulting Limited
 
Yn ôl Analysys Consulting Limited, gall 98% o gartrefi Cymru dderbyn gwasanaeth i lawr 0.5Mbps, gall 95% dderbyn gwasanaeth 1Mbps a gall 92% dderbyn gwasanaeth 2Mbps. Er bod y ffigurau hyn yn agos at y ffigurau cymharol ar gyfer y DU, mae'r gwahaniaeth rhwng argaeledd gwasanaethau band eang yng Nghymru a'r DU yn cynyddu wrth i led band y gwasanaethau hyn gynyddu. Mae gwasanaethau 4Mbps ac yn uwch ar gael i 81% o gartrefi Cymru, o'i chymharu ag 86% o gartrefi'r DU, ac mae gwasanaethau 8Mbps ar gael i 33% o gartrefi Cymru o'i chymharu â 53% o gartrefi'r DU. Nid oedd unrhyw wasanaethau 16Mbps neu'n uwch ar gael yng Nghymru yn Ch1 2006, tra gallai 7% o gartrefi'r DU gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
 
 
2
Ffigur 2 - Amcangyfrif o'r tai a gyrhaeddir gan y cyflymder i fyny isaf, Ch1 2006, Analysys Consulting Limited
 
Mae stori debyg yn gymwys ar gyfer cyflymder i fyny'r gwasanaethau. Mae gwasanaethau â chyflymder i fyny isaf o 0.5Mbps ar gael i 98% o gartrefi Cymru, sy'n agos at yr argaeledd o 100% bron yng nghartrefi'r DU. Mewn cyferbyniad, dim ond 27% o gartrefi Cymru sy'n gallu cael mynediad at wasanaethau â chyflymderau i fyny o 1Mbps, o'i chymharu â 50% ar gyfer y DU.  Yn ogystal, dim ond  26% o gartrefi Cymru sy'n gallu cael mynediad at wasanaethau â chyflymderau i fyny o 2Mbps, o'i chymharu â 48% ar gyfer y DU.
 

Cyfnewidfeydd a Ystyrir yn Fasnachol Anhyfyw 
 
Ar 14 Mawrth dyfarnodd Rhaglen Band Eang Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru gontract i Grŵp BT i ddarparu isadeiledd ar gyfer yr ardaloedd cyfnewid olaf yng Nghymru sydd heb fand eang fel rhan o'r Cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (CBEARh).
 
Cyflwynir band eang mewn dau gam. Mae'r cyfnod cyntaf, a ddechreuodd ym mis Mehefin 2006, yn canolbwyntio ar alluogi'r cyfnewidfeydd nad ydynt wedi'u galluogi ar gyfer band eang sy'n weddill yng Nghymru. Ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, bydd cyfran fach o'r boblogaeth o hyd yn byw mewn ardaloedd cyfnewidfeydd a alluogwyd ond na fyddant yn gallu cael mynediad at fand eang o hyd oherwydd amrywiaeth o faterion technolegol. Yna, bydd ail gyfnod y cyflwyno yn canolbwyntio ar nodi'r mannau gwael hyn ac archwilio ffyrdd o ddod â band eang i'r trigolion hyn.
 
Enw'r Gyfnewidfa
Awdurdod Lleol
Dyddiad Parod i Wasanaethu
Dyddiad Galluogi Gwirioneddol
Gwynfe
Sir Gaerfyrddin
30-Meh-06
30-Meh-06
Llangurig
Powys
30-Meh-06
30-Meh-06
Llanarmon
Wrecsam
30-Meh-06
30-Meh-06
Trewyddel
Sir Benfro
30-Meh-06
30-Meh-06
Llanwddyn
Powys
07-Gorff-06
07-Gorff-06
Penmaen
Abertawe
07-Gorff-06
07-Gorff-06
Cynghordy
Sir Gaerfyrddin
14-Gorff-06
14-Gorff-06
Merthyr Cynog
Powys
21-Gorff-06
14-Gorff-06
Pant-y-dŵr
Powys
21-Gorff-06
21-Gorff-06
Rhandirmwyn
Sir Gaerfyrddin
22-Gorff-06
21-Gorff-06
Angle
Sir Benfro
22-Gorff-06
21-Gorff-06
Capel Curig
Conwy
28-Gorff-06
24-Gorff-06
Castell Caereinion
Powys
28-Gorff-06
28-Gorff-06
Llanfair Llythynwg
Powys
28-Gorff-06
24-Gorff-06
Abergynolwyn
Gwynedd
28-Gorff-06
28-Gorff-06
Whitton
Powys
28-Gorff-06
14-Gorff-06
Ynysgynwraidd
Sir Fynwy
28-Gorff-06
28-Gorff-06
Sain Nicolas
Sir Benfro
28-Gorff-06
28-Gorff-06
Llangunllo
Powys
05-Awst-06
04-Awst-06
Bryneglwys
Sir Ddinbych
05-Awst-06
28-Gorff-06
Cyffylliog
Sir Ddinbych
05-Awst-06
28-Gorff-06
Llandeilo Bertholau
Sir Fynwy
05-Awst-06
28-Gorff-06
Pennal
Gwynedd
11-Awst-06
11-Awst-06
Rhyd-y-main
Gwynedd
11-Awst-06
04-Awst-06
Ganllwyd
Gwynedd
11-Awst-06
04-Awst-06
Glandyfi
Ceredigion
19-Awst-06
11-Awst-06
Bugeildy
Powys
25-Awst-06
28-Gorff-06
Llanefydd
Conwy
01-Medi-06
01-Medi-06
Bont-ddu
Gwynedd
02-Medi-06
01-Medi-06
Hundred House
Powys
08-Medi-06
25-Awst-06
Llanbedr Castell-paen
Powys
22-Medi-06
22-Medi-06
Cross Ash
Sir Fynwy
22-Medi-06
08-Medi-06
Y Rhiw
Gwynedd
22-Medi-06
22-Medi-06
Llanhuadain
Sir Benfro
I'w gadarnhau
 
Rhos
Sir Benfro
I'w gadarnhau
 
Tabl 1 - Amserlen ar gyfer galluogi'r cyfnewidfeydd anhyfyw sy'n weddill yng Nghymru, Gorffennaf 2006, Uned Band Eang Cymru
 
Mae'r amserlen uchod yn dangos y galluogwyd pedwar o'r pymtheg ar hugain o gyfnewidfeydd anhyfyw eisoes ar ddiwedd Mehefin 2006. Fel y cyfryw, galluogwyd 403 o'r 434 o gyfnewidfeydd ffôn yng Nghymru i ddarparu band eang ADSL yr adeg honno. Gwnaed cynnydd cyflym ers hynny ac, adeg cyhoeddi, dim ond dwy gyfnewidfa yng Nghymru oedd yn parhau heb allu cynnig band eang.
 
Yn ogystal, bydd yr holl gyfnewidfeydd a alluogwyd gan y prosiect CBEARh yn gallu cyflwyno gwasanaethau ADSL Max a byddant yn cael eu cynnwys hefyd mewn unrhyw raglenni uwchraddio cenedlaethol yn y dyfodol, fel ADSL 2/2+.
 
Dylai trigolion yng Nghymru sy'n methu â derbyn cysylltiad band eang, hyd yn oed wedi i'w cyfnewidfa ffôn leol gael ei galluogi yn ystod cyfnod cyntaf y cynllun, gofrestru eu manylion gan ddefnyddio ffurflen Mannau Gwael Arsyllfa Band Eang Cymru, y gellir dod o hyd iddi ar www.bbwo.org.uk/not-spots neu www.abec.org.uk/mannaugwael. Defnyddir manylion a ddarperir yn y ffurflenni hyn i leoli'r ardaloedd hynny yng Nghymru lle nad yw band eang ar gael o hyd ac, ar ôl eu nodi, gall gwaith ddechrau i alluogi band eang yn yr ardaloedd hyn.
 
 
Mae ABEC yn amcangyfrif na fu unrhyw newid yn argaeledd gwasanaethau SDSL yng Nghymru yn ystod y chwarter olaf a bod SDSL yn parhau i gynnwys 25% o'r holl safleoedd domestig a 29% o'r holl safleoedd annomestig yng Nghymru. Amcangyfrifir mai cyfartaledd y DU yw 42% o safleoedd, gyda dim ond yr Alban, ar 17%, â chanddi argaeledd SDSL is na Chymru. 
 
3
Ffigur 3 - Argaeledd gwasanaethau gydag isafswm cyflymder i lawr o 512kbps yn ôl gweithredwr isadeiledd, Ch1 2006, Analysys Consulting Limited
 
Nid yw cystadleuaeth isadeiledd mor gryf yng Nghymru ag y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Mae Ffigur 5 yn dangos bod llai o ddarparwyr isadeiledd amgen yng Nghymru nag yn y DU gyfan, gyda dim ond un gweithredwr cebl ac un gweithredwr LLU yn cynnig cystadleuaeth isadeiledd i'r deiliad yn Ch1 2006.
 
Ers hynny, fodd bynnag, mae nifer y gweithredwyr sy'n ymwneud yn weithredol â dadfwndelu dolenni lleol yng Nghymru wedi cychwyn cynyddu; Tiscali yw'r ail weithredwr LLU i ddod i'r farchnad yng Nghymru ar ôl iddo ddadfwndelu 4 cyfnewidfa ym Mangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwmbrân a Llanelli yn ystod mis Mawrth 2006. Yn y cyfamser, y gweithredwr LLU mwyaf yng Nghymru o hyd yw Bulldog ar ôl iddo ddadfwndelu 9 cyfnewidfa yn ardaloedd Caerdydd a Wrecsam ym mis Mai 2005.
 
Bydd gweithredwyr eraill yn dod i'r farchnad yng Nghymru yn ystod y deuddeg mis nesaf ar ôl cyhoeddi eu bwriad i ehangu cyrhaeddiad eu rhwydweithiau i Gymru:
 
  • Bydd Be Un Limited yn dadfwndelu 21 o gyfnewidfeydd rhwng Mawrth a Rhagfyr 2007;
  • Bydd Carphone Warehouse yn dadfwndelu 30 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd Awst 2006;
  • Bydd Orange (Wanadoo gynt) yn dadfwndelu 12 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd Medi 2006.
 

Cyrhaeddiad Band Eang Model Cebl

 
Mae ABEC yn amcangyfrif bod cyrhaeddiad cebl yng Nghymru wedi aros yn gyson er Ch1 2005. Mae gan NTL, sef yr unig weithredwr cebl yn y DU erbyn hyn ar ôl uno â Telewest, rwydwaith sy'n gallu cyrraedd o fewn 500m o rhwng 300,000 a 35,000 o gartrefi yng Nghymru.
 
Mae ffigurau gan Ovum yn awgrymu bod 25.1% o gartrefi yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang trwy fodem cebl.
 

Cyrhaeddiad Band Eang Di-wifr

 
FWA
Cynigir Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA) gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr arbenigol yng Nghymru, fodd bynnag, nid oes ffigurau ar gyfer cyrhaeddiad cyffredinol y gwasanaethau hyn ar gael ar hyn o bryd.
 
Mannau Poeth Wi-Fi  
Mae ABEC yn amcangyfrif bod mwy na 500 o fannau poeth mynediad cyhoeddus yng Nghymru.
 
Ym mis Mai 2006, cyhoeddodd BT y byddai'n cynnwys Dinas Caerdydd â rhwydwaith o fannau poeth Wi-Fi.
 
3G
Nid oedd unrhyw wybodaeth newydd ar gael ar gyfer cyrhaeddiad 3G yn ystod y chwarter.
 

Cyrhaeddiad Band Eang trwy Loeren

 
Mae gwasanaethau band eang lloeren ar gael i fwy na 99% o'r holl safleoedd yng Nghymru.

Cyrhaeddiad yn y DU

4
Ffigur 4 Cyrhaeddiad band eang daearol y DU yn Ch4 2005, Ovum, UK Broadband Status Report, Mawrth2006
 
[Key for above table:
 
1 technology = 1 dechnoleg
2 technologies = 2 dechnoleg
3+ technologies = 3 technoleg neu fwy]
 
 
DSL
Cebl
FWA
Cyfanswm
Dwyrain Canolbarth Lloegr
99.9%
54.8%
20.8%
99.9%
Dwyrain Lloegr
99.9%
49.4%
0.3%
99.9%
Llundain
100%
55.1%
36.6%
100%
Gogledd Ddwyrain Lloegr
99.9%
48.9%
0%
99.9%
Gogledd Orllewin Lloegr
99.9%
54.7%
3.4%
99.9%
Gogledd Iwerddon
99.4%
32.5%
0%
99.5%
Yr Alban
99.5%
42.0%
0%
99.5%
De Ddwyrain Lloegr
99.6%
45.6%
7.4%
99.7%
De Orllewin Lloegr
99.5%
40.2%
12.1%
99.7%
Cymru
99.3%
25.1%
0%[1]
99.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr
99.7%
63.0%
22.2%
99.7%
Swydd Efrog a Glannau Humber
99.9%
42.6%
13.8%
99.9%
Cyfanswm
99.7%
48.2%
11.2%
99.8%
Tabl 2 - Cyfran y cartrefi a gynhwysir gan dechnolegau band eang yn ôl rhanbarth daearyddol, Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 
Yn ôl ffigurau gan Ovum, roedd 99.8% o gartrefi'r DU yn cael eu cynnwys gan dechnolegau band eang ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn cynrychioli twf o ryw 0.1% yn ystod y chwarter blaenorol.
 
 
DSL
Cebl
FWA
Cyfanswm
Trefol
99.9%
62.9%
15.9%
99.9%
Maestrefol
99.8%
36.6%
5.4%
99.9%
Gwledig
99.2%
7.4%
1.0%
99.2%
Tabl 3 – Cyrhaeddiad band eang y farchnad dorfol i Gartrefi'r DU yn ôl math o ardal, Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 
Mae cyrhaeddiad band eang yn ardaloedd gwledig y DU bron â dod yn gyfartal â chyrhaeddiad ar gyfer y DU gyfan. Fodd bynnag, mae cystadleuaeth rhwng darparwyr isadeiledd yn sylweddol is mewn ardaloedd gwledig, sy'n arwain at lai o ddewis ac, yn y pen draw, gostau uwch am wasanaethau yn yr ardaloedd hyn. Mater arwyddocaol arall sy'n wynebu ardaloedd gwledig yw argaeledd isel gwasanaethau â lled band uwch; canlyniad dolenni lleol hirach ar gyfartaledd a chyfyngiadau technoleg DSL.
 

Cyrhaeddiad Band Eang

DSL

 
 
 
 
 

5


 
 
Ffigur 5 - Map o gyrhaeddiad band eang DSL yn y DU yn Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 

Band Eang ADSL (Anghymesur)

Mae gwasanaethau ADSL ar gael i ryw 99.7% o'r holl gartrefi yn y DU.
 

Band Eang SDSL (Cymesur)

Nid adroddwyd unrhyw gynnydd yn argaeledd gwasanaethau SDSL yn ystod y chwarter ac, yn hynny o beth, mae'r cyrhaeddiad amcangyfrifedig yn parhau ychydig islaw 50% o gartrefi'r DU.
 

Band Eang Dolenni Lleol a Ddadfwndelwyd (LLU)

Erbyn hyn, mae nifer o weithredwyr yn ymwneud yn weithredol â dadfwndelu dolenni lleol yn y DU. Mae Tabl 4 yn crynhoi statws galluogi LLU yn y DU, gan gynnwys am bob gweithredwr, nifer y cyfnewidfeydd a alluogwyd, a nifer y cyfnewidfeydd a fydd yn cael eu galluogi yng Nghymru a'r DU gyfan.
 
Gweithredwr
Cyfnewidfeydd yn y DU
Cyfnewidfeydd yng Nghymru
Galluogwyd
I Ddod
Galluogwyd
I Ddod
Be
180
769
0
21
Bulldog
626
0
9
0
Carphone Warehouse
0
1045
0
52
Easynet
416
75
0
0
Homechoice
145
0
0
0
Edge Telecom
21
0
0
0
Pipex
25
2
0
0
Node4
4
0
0
0
Tiscali
249
0
4
0
Orange
218
87
0
12
Zen Internet
4
0
0
0
Tabl 4 - Cyfnewidfeydd LLU yng Nghymru a'r DU, www.samknows.com, Gorffennaf 2006
 
Ar hyn o bryd, gan Bulldog ac Easynet y mae'r rhwydwaith mwyaf o gyfnewidfeydd dadfwndeledig, ond ymddengys fod hyn ar fin newid pan fydd Be a Carphone Warehouse yn dadfwndelu eu cyfnewidfeydd disgwyliedig. Erbyn diwedd Awst 2006, roedd Bulldog wedi dadfwndelu 626 o gyfnewidfeydd, ond nid oes ganddo unrhyw gynlluniau i ddadfwndelu cyfnewidfeydd eraill. Dadfwndelodd Easynet 416 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd Awst 2006 ac mae'n bwriadu dadfwndelu 75 arall erbyn diwedd mis Hydref 2006.
 
Erbyn hyn, mae Be wedi cyflwyno ei rwydwaith i 180 o gyfnewidfeydd, gyda 769 arall wedi'u cynllunio – y caiff 267 ohonynt eu dadfwndelu erbyn diwedd 2006. Estynnir hyn ymhellach i gynnig gwasanaeth i 70% o'r boblogaeth erbyn diwedd 2007. Bydd hyn yn gwneud Be yn un o ddarparwyr band eang mwyaf y DU trwy osod cyfnewidfeydd dolenni lleol a ddadfwndelwyd (LLU). Ym mis Mehefin 2006, cyhoeddwyd bod 02 wedi prynu Be.
 
Cyn bo hir, disgwylir i Carphone Warehouse gychwyn dadfwndelu 1,045 o gyfnewidfeydd trwy gydol y DU, er nad oes unrhyw ddyddiadau 'parod i wasanaethu' ar gael ar hyn o bryd. Ym mis Ebrill 2006, cyhoeddodd y byddai'n cynnig band eang "am ddim" i ddefnyddwyr terfyn sy'n byw yn ardal ei gyfnewidfeydd. I fanteisio ar y cynnig, rhaid i gwsmeriaid danysgrifio i wasanaeth ffôn sefydlog TalkTalk Carphone Warehouse am £9.99 y mis a chofrestru am gontract o 18 mis o leiaf. Bydd cost rhentu llinell o £11.00 yn gymwys hefyd, gan olygu mai £20.99 y mis fydd cyfanswm cost rhentu llinell, galwadau a band eang.
 
Ym mis Mehefin 2006, dadfwndelodd AOL 200 o gyfnewidfeydd, gan ddadfwndelu mwy na 100,000 o linellau. Ym mis Chwefror 2006, cadarnhaodd AOL ei fwriad i fuddsoddi £120m mewn LLU, gyda'r nod o ddadfwndelu rhyw 1,000 o gyfnewidfeydd.
 

ADSL2+

 
Mae UKOnline, Bulldog, Be a Sky i gyd yn cynnig gwasanaethau ADSL2+ ar eu rhwydweithiau dadfwndeledig. Bydd argaeledd y gwasanaethau hyn, â chanddynt gyfradd lawrlwytho uchaf o 24Mbps, yn cynyddu yn unol â chyfraddau cyflwyno LLU y gweithredwyr unigol, er y bydd y cyflymderau sydd ar gael i bob cartref yn dibynnu ar hyd eu dolen leol unigol.
 

Rhwydwaith yr 21ain Ganrif

 
Bydd Rhwydwaith yr 21ain (21CN) Ganrif BT yn rhwydwaith ac isadeiledd systemau hollgynhwysol sy'n seiliedig ar IP a fydd yn sicrhau y cyflwynir y genhedlaeth nesaf o wasanaethau cydgyfeiriedig yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn fwy cost effeithiol na'r rhwydwaith presennol.
 
Disgwylir y cychwynnir mudo llinellau cwsmeriaid y DU i 21CN ym mis Tachwedd 2006. Defnyddwyr terfyn preswyl a busnesau yng Nghaerdydd a'r cylch fydd y cyntaf yn y DU i gael eu cysylltu pan fydd BT yn mudo rhyw 350,000 o linellau cwsmeriaid yn ardal de Cymru.
 
Yn ôl BT, bydd 21CN yn cyflwyno gwasanaethau band eang sy'n cynnig cyfradd lawrlwytho uchaf o 24Mbps ar sail technoleg ADSL2+ o fis Ionawr 2008. Er y bydd hyn yn cynyddu cyrhaeddiad gwasanaethau band eang â chanddynt led band uchel yng Nghymru, bydd y cyflymder sydd ar gael i bob cartref yn dibynnu ar hyd eu dolen leol unigol. Yn ogystal, ni ddisgwylir cwblhau cyflwyno 21CN tan 2011, sy'n awgrymu na fydd llawer o gartrefi yng Nghymru yn cael manteision y rhwydwaith newydd am beth amser.
 

Cyrhaeddiad Band Eang Modem Cebl

 
Yn ôl NTL Incorporated, mae ei rwydwaith yn mynd heibio i fwy na 12 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU. Yn hynny o beth, mae gwasanaethau band eang cebl ar gael i 50% o gartrefi yn y DU ac 85% o fusnesau yn y DU.
6
Ffigur 6 - Map o gyrhaeddiad band eang modem cebl yn y DU yn Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 
 
Mae gwasanaethau band eang trwy loeren ar gael i fwy na 99% o safleoedd yn y DU.
 

Cyrhaeddiad Band Eang Di-wifr

 
Yn ôl ffigurau gan Ovum, mae gwasanaethau band eang trwy dechnoleg mynediad di-wifr sefydlog (FWA) yn parhau i fod ar gael i 11.2% o boblogaeth y DU.
7
Ffigur 7 - Map o gyrhaeddiad band eang di-wifr yn y DU yn Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006

 


 

8
Ffigur 8 - Cyrhaeddiad gwasanaeth band eang i lawr y genhedlaeth gyntaf fel canran o gartrefi, Ch1 2006, Analysys Consulting Limited
 
Mae cyrhaeddiad band eang 'y genhedlaeth newydd' i wledydd, fel y dangosir yn Ffigur 8, yn dangos bod gan Gymru a'r DU gyfan y lefelau uchaf o gyrhaeddiad o blith y gwledydd a restrir. Mae gan y mwyafrif o'r gwledydd a restrir rwydweithiau band eang sy'n gallu cynnig gwasanaeth â lleiafswm o 0.5Mbps i fwy na 90% o gartrefi.
9
Ffibl 3 – Cyrhaeddiad band eang y farchnad dorfol i Gartrefi'r DU yn ôl math o ardal, Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 
O ran lled band uwch gwasanaethau band eang 'yr ail genhedlaeth', mae'r lefelau cyrhaeddiad yn amrywio'n fawr rhwng gwledydd. Mae ffigur 9 yn dangos bod gan y DU argaeledd cymharol uchel o wasanaethau 4 ac 8Mbps, ond ei bod y tu ôl i bob gwlad arall a restrir bron ar gyfer cyrhaeddiad cyflymderau uwch. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yng Nghymru, heb unrhyw gyrhaeddiad gwasanaethau uwch nag 8Mbps yn Ch1 2006. Mae'r graff yn dangos yn eglur bod y DU a llawer o'r prif wledydd eraill o ran band eang o hyd ymhell y tu ôl i'r cenhedloedd sy'n arwain y ffordd, sef Siapan a Corea, o ran argaeledd gwasanaethau lled band uchel iawn.

 
Mae ymchwil a wnaed gan ABEC yn dangos bod cost gwasanaethau band eang sylfaenol, i gwsmeriaid preswyl a busnes fel ei gilydd, yr un peth yng Nghymru ag yng ngweddill y DU. Er bod isafswm y gwariant gan gwsmeriaid erbyn hyn yn prynu gwasanaethau 'hyd at' 8Mbps ym mhob ardal, mae'r cyflymderau gwasanaeth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn is na'r rheiny sydd ar gael yn Llundain a De Orllewin Lloegr.
 
 
Cwsmer
Busnes
 
Cyflymder Isaf
Cyflymder Uchaf
Cyflymder Isaf
Cyflymder Uchaf
 
£
 
£
 
£
 
£
 
Llundain
9.75
8Mbps
14.00
24Mbps
13.61
8Mbps
75.00
24Mbps
De Ddwyrain Lloegr
9.75
8Mbps
14.75
16Mbps
13.61
8Mbps
75.00
24Mbps
Dinasoedd yng Nghymru
9.75
8Mbps
14.75
16Mbps
13.61
8Mbps
45.00
16Mbps
Trefi yng Nghymru
11.99
8Mbps
11.99
8Mbps
13.61
8Mbps
13.61
8Mbps
Pentrefi yng Nghymru
11.99
8Mbps
11.99
8Mbps
13.61
8Mbps
13.61
8Mbps
Tabl 5 - Isafswm/Uchafswm Gwariant Misol i Fusnesau a Gwasanaethau Defnyddwyr, Ch1 2006, ABEC.
 
Nid yw'r cyflymder uchaf sydd ar gael yn y farchnad ddefnyddwyr (h.y. 24Mbps) ar gael yng Nghymru naill ai i fusnesau na chwsmeriaid cartref, a dim ond i nifer cyfyngedig o gyfnewidfeydd yn y DU y mae ar gael. Y cyflymder uchaf sydd ar gael yng Nghymru yw gwasanaeth 16Mbps a gynigir gan Bulldog.  Fodd bynnag, dim ond mewn naw cyfnewidfa yng Nghymru y mae'r rhain ar gael – yn ardaloedd Caerdydd a Wrecsam.
 
 
 
Gwerth mynegai Ch4 2005
Safle G7 Ch4 2005
Gwerth mynegai Ch3 2005
Safle G7
Ch3 2005
Safle G7
Ch1 2005
Siapan
0.97
1
0.98
1
1
Ffrainc
0.86
2
0.85
2
2
Canada
0.79
3
0.80
3
3
DU
0.77
4
0.76
4
4
Iwerddon
0.75
 
0.75
 
 
Yr Eidal
0.71
5
0.70
5
6
Awstralia
0.69
 
0.69
 
 
Sweden
0.64
 
0.65
 
 
UDA
0.63
6
0.62
6
5
De Corea
0.53
 
0.54
 
 
Yr Almaen
0.44
7
0.46
7
7
Tabl 6 – Mynegai prisiau yn ystod Ch4 2005, Ovum International Broadband Market Comparisons Update, Mawrth 2006
 
Yn ôl Ovum, mae'r DU yn y pedwerydd safle ym mynegai prisiau'r G7. Cyfrifir y mynegai prisiau fel pris y 5 ISP adwerthu uchaf, a bwysolir yn ôl eu cyfran o'r farchnad. Mae'r prisiau a ddefnyddir yn gysylltiedig â chynhyrchion preswyl y brif ffrwd ac maent yn cynnwys ffioedd cysylltu amorteiddiedig dros gyfnod o dair blynedd ac fe'u haddasir ar gyfer cydraddoldeb pŵer prynu (PPP)[2]. Gwnaed gwelliannau bach yn y mynegai prisiau gan y DU, Ffrainc, yr Eidal a'r UDA er Ch3 2005, tra bod y safleoedd cyffredinol yn parhau heb newid.
 
Cynorthwywyd gwelliant y DU yn y mynegai prisiau gan y ffaith i AOL ostwng ei brisiau yn ystod chwarter olaf 2005.  Mae'r Almaen wedi gweld gostyngiad bach yn ei mynegai prisiau, yn bennaf o ganlyniad i newidiadau PPP.
 
Yn Ch2 2006, yn ôl Point Topic, cwympodd pris gwasanaethau lefel mynediad DSL o 9.3%, dwywaith cymaint â'r gostyngiad pris (4.5%) mewn gwasanaethau modem cebl.  O ganlyniad, mae'r bwlch pris rhwng DSL a chebl wedi cynyddu i UDA$4.27.  Ymhlith y 18 o weithredwyr a gynhwysir yn arolwg Point Topic, lleihaodd 5 ohonynt (yn bennaf yng Ngogledd America ac Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica) eu tariffau misol o hyd at 50%.  Yn gyffredinol, UDA$27.44 oedd y tariff DSL misol cyfartalog, gyda Thaiwan yn cynnig y tariff DSL rhataf.  Yn y farchnad FTTx, mae prisiau wedi parhau'n gyson er Ch2 2005.

Treiddiad

 
 
Mae ABEC yn amcangyfrif bod 31.1% o linellau tir BT yng Nghymru yn defnyddio band eang DSL ym mis Mehefin 2006. Nid yw gwybodaeth sy'n ymwneud â'r nifer sy'n derbyn band eang cebl ar gael ar gyfer Cymru yn benodol, ond mae amcangyfrif o dreiddiad cebl yng Nghymru ar sail ffigurau'r DU yn dangos bod gan ryw 10.4% o gartrefi gysylltiad band eang cebl. Byddai'r cyfanswm hwn yn awgrymu ffigur treiddiad o ryw 41.5% ar gyfer Cymru ar ddiwedd Mehefin 2006. Mae hyn yn gyfwerth â 19.4 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion yng Nghymru. Mae'r ffigur hwn yn unol â'r DU ac mae'n ffigur cyfartalog o'i gymharu â gweddill yr UE.
10
Ffigur 10 -Nifer sy'n defnyddio band eang yn ôl poblogaeth yn yr UE ac yng Nghymru, Ch2 2006, Analysys Consulting Limited ac ABEC
 
Adroddodd Arolwg Trigolion Band Eang Cymru fod y nifer sy'n derbyn band eang yn parhau i gynyddu yng Nghymru wedi Mehefin 2006, a bod gan 43% o gartrefi yng Nghymru gysylltiad band eang erbyn diwedd Gorffennaf 2006.
 
Yn ogystal, adroddodd rhyw 7% o'r trigolion a wyddai gyflymder eu cysylltiad band eang bod ganddynt gysylltiad a oedd yn gyflymach na 2Mbps, sy'n dangos bod y mwyafrif o gartrefi yng Nghymru yn defnyddio gwasanaethau band eang 'y genhedlaeth gyntaf' o hyd.

Band Eang xDSL

 
Mae ABEC yn amcangyfrif bod y nifer sy'n derbyn xDSL wedi parhau i gynyddu yn ystod y chwarter diwethaf a bod gan ryw 31% o gartrefi a busnesau yng Nghymru a oedd yn gallu cael mynediad at gyfnewidfa a alluogwyd ar gyfer ADSL gysylltiad band eang ADSL ar ddiwedd mis Mehefin 2006. Mae hyn yn dangos cynnydd o 13% yn y nifer sy'n defnyddio band eang yn ôl cartrefi a busnesau yng Nghymru er mis Mehefin 2005.
 
 
DU
CYMRU
 
Cysylltiadau band eang ADSL  
Cysylltiadau band eang ADSL 
Canran y cartrefi a'r busnesau [3]
Canran o'r boblogaeth [4]
Rhagfyr 04
4m [5]
208,000 [6]
14.9%
6.9%
Mawrth 05
5m 3
245,000 [7]
17.5%
8.2%
Mehefin 05
5.6m 3
250,000 4
17.9%
8.3%
Medi 05
6m [8]
302,000 5
21.6%
10.1%
Rhagfyr 05
6.9m 6
370,000 5
26.3%
12.3%
Mawrth 06
7.9m 6
395,000 5
28.2%
13.2%
Mehefin 06
8.7m 6
435,000 5
31.1%
14.5%
Tabl 7 - Treiddiad band eang ADSL yng Nghymru, Ch4 2004 – Ch2 2006, ABEC
Band eang cebl
 
Er gwaethaf gostyngiad yng nghyfran gymharol y farchnad, mae'r cynnydd parhaus mewn treiddiad band eang yn y DU wedi galluogi twf parhaus yn y nifer sy'n defnyddio band eang cebl. Yn absenoldeb ffigurau penodol ar gyfer Cymru ar gyfer Mehefin 2006, mae ABEC yn amcangyfrif i dreiddiad cebl yng Nghymru barhau i gynyddu a bod ganddo ryw 145,000 o gysylltiadau, sy'n gyfwerth â rhyw 10% o'r cartrefi a'r busnesau yng Nghymru (h.y. 5% o gyfanswm y cysylltiadau band eang cebl yn y DU).
 
 
DU
Cymru
 
Nifer y llinellau cebl
Cysylltiadau band eang cebl
Canran y cartrefi
Canran o'r boblogaeth
Rhagfyr 04
2.2m[9]
110,000
7.8%
3.7%
Mawrth 05
2.1m1
105,000
7.5%
3.5%
Mehefin 05
2.3m1
115,000
8.2%
3.8%
Medi 05
2.5m[10]
125,000
8.9%
4.2%
Rhagfyr 05
2.6m[11]
130,000
9.3%
4.3%
Mawrth 06
2.8m3
140,000
10.0%
4.7%
Mehefin 06
2.9m3
145,000
10.4%
4.8%
Tabl 8 – Treiddiad band eang cebl yng Nghymru, Ch4 2004-Ch2 2006, ABEC
 
Adroddodd Arolwg Trigolion Band Eang Cymru, ym mis Gorffennaf 2006, bod 28% o'r holl ymatebwyr yr oedd ganddynt gysylltiad band eang yn defnyddio cebl. Mae hyn yn awgrymu y gall fod treiddiad cebl ychydig yn uwch nag a ragwelwyd a bod rhyw 12% o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn defnyddio cebl i gael mynediad at fand eang.

 
Erbyn diwedd mis Mawrth 2006, yn ôl Ofcom, roedd rhyw 11.1 miliwn o gysylltiadau band eang yng nghartrefi a busnesau bach y DU. Erbyn hyn, mae rhyw 40 y cant o holl gartrefi'r DU yn tanysgrifio i wasanaethau band eang.
11
Ffigur 11 - Tanysgrifiadau ar gyfer cysylltiadau deialu a band eang i'r rhyngrwyd, Ch2 2006, SYG
 
Mae cysylltiadau band eang yn parhau i gyfrif am gyfran gynyddol o danysgrifiadau band eang yn y DU. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dangos bod cysylltiadau band eang erbyn hyn yn cyfrif am bron i dri chwarter o'r holl gysylltiadau i'r rhyngrwyd. Mae ffigurau a gyflenwir gan SYG yn cael eu hadolygu a'u diwygio'n gyson i optimeiddio cywirdeb ac, felly, nid ydynt yn cydberthyn yn union i'r rheiny a ddangosir yn yr adroddiadau meincnodi blaenorol.
 
Mae cysylltiadau deialu yn parhau'n boblogaidd mewn rhai cartrefi oherwydd argaeledd gwasanaethau 'talu wrth ddefnyddio' ar sail amser sy'n codi tâl yn ôl faint o amser a dreulir ar-lein ac nid oes iddynt ffi fisol. Mae'r gwasanaethau hyn yn arbennig o addas i'r rheiny sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn afreolaidd neu'r rheiny sy'n ddefnyddwyr 'ysgafn' ar y rhyngrwyd, ac maent hefyd yn addas i gartrefi isel eu hincwm sy'n amharod i dalu ffi fisol unffurf. Mewn rhai marchnadoedd Ewropeaidd, goresgynnwyd y rhwystr hwn i ddefnyddio band eang trwy gyflwyno gwasanaethau band eang ar sail amser ag iddynt ffi fisol isel neu sydd heb unrhyw ffi. Ar hyn o bryd, cynigir yr unig wasanaeth band eang llinell sefydlog ar sail amser yn y DU gan Bulldog, sydd â chyrhaeddiad cyfyngedig yn y DU, yn enwedig yng Nghymru. Yn hynny o beth, efallai y bydd angen gwasanaeth band eang ar sail amser sydd ar gael yn genedlaethol i ddwyn perswâd ar y defnyddwyr deialu sy'n weddill i newid i fand eang.
 
12
Ffigur 12 – Nifer sy'n defnyddio band eang yn y DU yn ôl canran y cartrefi, Point Topic, Awst 2006
[Key for above map:
 
Household take-up = Nifer y cartrefi sy'n defnyddio 
 
41.2 to 51.1 (87) = 41.2 i 51.1 (87)
34.5 to 41.2 (86) = 34.5 i 41.2 (86)
30.5 to 34.5 (85) = 30.5 i 34.5 (85)
26.9 to 30.5 (87) = 30.5 i 34.5 (85)
12.9 to 26.9 (89) = 12.9 i 26.9 (89)]
 
 
Mae ymchwil gan Point Topic wedi datgelu mai yn Swindon y mae'r treiddiad band eang uchaf yn ôl cartrefi o holl drefi a dinasoedd y DU, gyda ffigur amcangyfrifedig o 51.1%. Y rhesymau a roddwyd am y lefelau treiddiad uchel hyn oedd cyfran gymharol uchel Swindon o deuluoedd ifanc â phlant a'r ffaith ei fod wedi'i gynnwys yn dda gan rwydwaith cebl yn ogystal â DSL.  Dangoswyd bod cyfanswm y nifer sy'n defnyddio band eang lawer yn uwch lle mae'r ddau rwydwaith yn cystadlu, gan bwysleisio pwysigrwydd cystadleuaeth isadeiledd wrth yrru treiddiad.
 
I'r gwrthwyneb, roedd mwy na 50 o ardaloedd Awdurdodau Lleol lle'r oedd gan lai nag un o bob pedwar cartref gysylltiad band eang. Roedd y mwyafrif o'r ardaloedd hyn mewn rhannau gwledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, ond roeddent yn cynnwys rhai ardaloedd trefol, fel Merthyr Tudful. Mae'r ardaloedd hyn yn dioddef ffactorau sydd i'r gwrthwyneb i'r rhai a geir yn Swindon, fel diffyg cynnig cebl ym Merthyr Tudful.
 
 
Ar ddiwedd Mehefin 2006, roedd gan BT 8.7 miliwn o gysylltiadau band eang cyfanwerthol, gan gynnwys 580,000 o linellau dolen leol a ddadfwndelwyd, sef cynnydd o 2.9 miliwn cysylltiad o flwyddyn i flwyddyn ac o 535,000 cysylltiad yn ystod y chwarter.
 
 
Llinellau
Llinellau
Cyfanswm y
 
Preswyl
Treiddiad
Busnes[12]
Treiddiad
Llinellau
Trefol
4,530,738
28%
737,663
91%
5,268,401
Maestrefol
986,657
20%
194,743
80%
1,180,401
Gwledig
558,706
13%
176,493
55%
735,198
Tabl 9 – Cysylltiadau a threiddiad ADSL o gyfanswm posibl oddi mewn i'r sectorau preswyl a busnes yn y DU, Ch4 205, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006

Band Eang Cebl

 
Ym mis Awst 2006, adroddodd NTL fod ganddo 2.9 miliwn o danysgrifwyr band eang, sy'n golygu mai ef yw'r chwaraewr adwerthu mwyaf ym marchnad band eang y DU.
 
 
Llinellau
Llinellau
Cyfanswm y
 
Preswyl
Treiddiad
Busnes[13]
Treiddiad
Llinellau
Trefol
2,216,495
14%
43,421
5%
2,259,916
Maestrefol
305,928
6%
7,706
3%
313,634
Gwledig
55,956
1%
794
0.2%
56,750
Tabl 10 – Tanysgrifwyr a threiddiad modem cebl yn y sectorau preswyl a busnes yn y DU, Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 

Band Eang Lloeren a Di-wifr

 
Nid adroddwyd unrhyw newidiadau yn y nifer sy'n defnyddio band eang di-wifr a thrwy loeren yn ystod y chwarter yn y DU, gyda nifer y tanysgrifwyr di-wifr yn parhau'n ffigur amcangyfrifedig o 8,000 a nifer y tanysgrifwyr lloeren yn parhau'n ffigur amcangyfrifedig o 3,000.

Cyfran o'r Farchnad Adwerthu

13
Ffigur 13 - Cyfran o'r farchnad darparwyr gwasanaethau band eang yn y DU, Ch2 2006, Analysys Consulting Limited
 
Cwympodd cyfran BT Wholesale o gyfanswm marchnad band eang y DU ychydig yn ystod hanner cyntaf 2006 ac, erbyn hyn, saif ychydig yn llai na 70% o gyfanswm y farchnad gyfanwerthu. Mae cyfran band eang cebl o'r farchnad hefyd wedi parhau i ostwng yn ystod yr hanner blwyddyn diwethaf. Ar ddiwedd 2005, roedd NTL a Telewest yn rheoli 26.4% o'r farchnad band eang. Fodd bynnag, roedd cyfran y grŵp NTL/Telewest newydd eu huno wedi cwympo i 25.0% ar ddiwedd Mehefin 2006.
14
Ffigur 14 - Cyfran o'r farchnad band eang gyfanwerthol yng ngwledydd Gorllewin Ewrop, 2004 - 2006, Analysys Consulting Limited
 
Mae cyfran BT o'r farchnad gyfanwerthu yn parhau'n gymharol uchel o'i chymharu â deiliaid eraill yng ngorllewin Ewrop. Fodd bynnag, cwympodd cyfran y deiliad o'r farchnad gyfanwerthu DSL o 97% i 9% yn ystod hanner cyntaf 2006. Er i hyn ymddangos yn dolc gweddol fach yn ei oruchafiaeth o'r farchnad DSL, mae'r cwymp hwn yn dangos yn eglur bod gweithredwyr LLU yn cychwyn cynyddu eu cyfran o'r farchnad ac, wrth i weithredwyr LLU ehangu cyrhaeddiad eu rhwydweithiau, mae'r duedd hon yn debygol o barhau yn y dyfodol rhagweladwy.

15

Ffigur 15 - Newid yng nghyfran farchnad band eang y DU, 2001-2006, Analysys Consulting Limited
 
Bu gweithredwyr LLU yn dangos cyfran gynyddol o'r farchnad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf ar draul y sector cebl. Er gwaethaf colli cyfran o'r farchnad DSL i weithredwyr LLU yn ystod y misoedd diwethaf, mae cyfran BT Wholesale o'r farchnad gyfanwerthu wedi parhau'n gymharol gyson oherwydd erydiad y gyfran o'r farchnad oddi mewn i'r sector cebl.
 

Cyfran o'r Farchnad Adwerthu

 
16
Ffigur 16 - Cyfran adwerthu prif ISPau y DU, Ch2 2006, Analysys Consulting Limited
 
Mae uno NTL a Telewest wedi creu'r gweithredwr band eang adwerthu mwyaf yn y DU gyda chyfran gwerth 27% o'r farchnad adwerthu, gan oddiweddyd BT yr oedd ganddo gyfran gwerth 24% ar ddiwedd Mehefin 2006. Yn ogystal â chael gweithredwr arweiniol newydd, mae nifer o weithredwyr llai hefyd sydd wedi cynyddu eu cyfrannau ac wedi dod yn weithredwyr pwysig yn y farchnad adwerthu, gan gynnwys Tiscali, Pipex a The Carphone Warehouse.
 
Gyda chymaint o chwaraewyr arwyddocaol, mae marchnad band eang adwerthu'r DU yn un o'r rhai mwyaf cystadleuol yng ngorllewin Ewrop ac, yn hynny o beth, mae gan y deiliad un o'r cyfrannau adwerthu isaf o blith holl ddeiliaid gorllewin Ewrop. Wrth i weithredwyr LLU gynyddu ôl troed eu rhwydweithiau, disgwylir y bydd y farchnad adwerthu hynod gystadleuol yn trosi'n farchnad gyfanwerthu gynyddol gystadleuol.
17
Ffigur 17 - Cyfran adwerthu'r deiliad o gyfanswm y farchnad band eang, 2004-2006, Analysys Consulting Limited
 

 
18
Ffigur 18 - Treiddiad band eang i gartrefi ledled y byd, Point Topic, Ch1 2006
 
[text in caption:
Source: Point Topic = Ffynhonnell: Point Topic
Broadband Households = Cartrefi Band Eang
% penetration = % treiddiad
45.1 to 83.4 = 45.1 i 83.4
20 to 45.1 = 20 i 45.1
9.2 to 20 = 9.2 i 20
2.8 to 9.2 = 2.8 i 9.2
0 to 2.8 = 0 i 2.8]
 
 
Yn ôl y cwmni dadansoddi Point Topic, tyfodd cyfanswm byd eang y cysylltiadau band eang i 229 miliwn o linellau yn ystod Ch1 2006, sy'n cynrychioli cynnydd o 36% o 168.5 miliwn o linellau yn ystod Ch1 2005.
19
Ffigur 19 – Treiddiad band eang yn ôl canran y cartrefi a safleoedd mentrau bach a chanolig, Analysys Consulting Limited ac ABEC, Mehefin 2006
 
Fel y dangosir yn ffigur 20, mae'r DU wedi symud uwchben yr Unol Daleithiau ar gyfer treiddiad band eang yn ôl cartrefi, ac mae mewn sefyllfa dda o'i chymharu â'r gwledydd a restrir. De Corea sy'n arwain y gwledydd a restrir o gryn bellter, gyda chyfradd treiddio o bron i 70%.
 

LLU

20
Ffigur 20 - Cyfrannau LLU o farchnadoedd DSL Ewrop, ECTA Broadband Scorecard, Ch1 2006
 
Yn ôl ECTA, mae'r DU wedi gweld twf sylweddol yng nghyfran LLU o'r farchnad DSL, a gynyddodd o gyfran 2.7% ar ddiwedd 2005 i gyfran 4.4% ar ddiwedd Ch1 2006. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn, mae'r DU yn parhau i feddu ar un o'r cyfraddau LLU isaf yn Ewrop, ymhell y tu ôl i'r prif genhedloedd LLU fel Ffrainc, yr Iseldiroedd a Sweden. Fodd bynnag, mae twf mewn cyfrannau LLU yn y gwledydd hyn wedi sefyll yn stond, a fydd yn caniatáu i'r DU gau'r bwlch rhyngddi a'r cenhedloedd hyn.
 
Mae'r arafu hwn yn nhwf cyfran LLU o'r farchnad DSL mewn cenhedloedd band eang datblygedig yn awgrymu y gellir cael cydbwysedd o amgylch 25-30%. Fodd bynnag, mae hyn yn debygol o amrywio'n fawr rhwng marchnadoedd unigol oherwydd cryfder amrywiol y deiliad-weithredwyr a'r gweithredwyr amgen ym mhob marchnad.

Defnydd o Fand Eang

 
 
Yn Ch1 2006 cynhaliodd Ofcom arolwg i bennu'r gwahaniaeth rhwng y defnydd o gymwysiadau ar-lein yn ôl defnyddwyr deialu a defnyddwyr band eang. Er bod yr arolwg yn dangos defnydd uwch ym mhob maes ar gyfer defnyddwyr band eang, gwelwyd y gwahaniaethau mwyaf sylweddol ar gyfer lawrlwytho ffeiliau a gwybodaeth, a chwarae gemau ar-lein, lle'r oedd y defnydd yn sylweddol uwch ar gyfer defnyddwyr band eang.
 

21

Ffigur 21 - Cymwysiadau a ddefnyddir gan ddefnyddwyr deialu a band eang, ymchwil Ofcom, Ch1 2006
 
Yn ôl astudiaeth gan wefan Directgov y llywodraeth, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2006, roedd mwy na hanner yr ymatebwyr yn ystyried mai safleoedd bancio ar-lein oedd y math mwyaf gwerthfawr o wefan, wedi'u dilyn gan siopa (50%) a gwyliau (47%). Roedd 37% o ymatebwyr yn ystyried mai gwefannau newyddion oedd nodwedd fwyaf gwerthfawr y rhyngrwyd. Er gwaethaf yr amrywiaeth eang o wefannau sydd ar gael, canfu'r un astudiaeth fod mwy na hanner defnyddwyr rhyngrwyd y DU yn ymweld â chwe gwefan neu lai yn rheolaidd.
 
Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol arolwg hefyd i bennu'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd, gan amlygu'r gwahaniaethau mewn defnydd rhwng dynion a merched. Canfuwyd mai'r gweithgaredd mwyaf poblogaidd oedd chwilio am wybodaeth a gwasanaethau (84%), a gwnaed hyn yn fwy gan ddynion (88%) na chan ferched (79%). E-bost oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd i ferched (80%) ac ail weithgaredd mwyaf poblogaidd dynion (81%). O'r gweithgareddau a arolygwyd, dim ond mewn dwy achos yr oedd defnydd merched yn uwch na defnydd dynion. Yr achosion hyn oedd chwilio am wybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd a gweithgareddau sy'n ymwneud â chwrs ysgol, coleg neu brifysgol.
 
22
Ffigur 22 - Gweithgareddau Rhyngrwyd defnyddwyr y rhyngrwyd yn y DU, SYG, Ch1 2006
 
Siopa Ar-lein
 
Mae arolwg a gomisiynwyd gan Gyngor Defnyddwyr Cymru ym mis Mawrth 2006 yn dangos bod bron i 3 o bob 10 (28%) oedolyn 16 oed ac yn hŷn wedi siopa ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf. Fel cyfran o'r rheiny sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, mae hyn yn gyfwerth â rhyw 3 o bob 5 (60%) person. Dangosodd ymatebwyr bod cyfleustra (78%); gwerth am arian (46%); a'r gallu i siopa am y fargen orau (30%) yn ffactorau a wnâi siopa ar-lein yn gynnig deniadol.  Mae'r ffigur isod yn dangos y mathau o gynhyrchion y mae defnyddwyr yng Nghymru yn eu prynu ar-lein. CDau, tapiau a recordiau cerddoriaeth a DVDau (42%) yw'r pethau sy'n cael eu prynu amlaf, wedi'u dilyn yn agos gan lyfrau (40%).
 
23
 
Ffigur 23 - Prynu ar-lein gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sy'n oedolion, Cyngor Defnyddwyr Cymru, Mawrth 2006
 
Dangosodd arolwg Ystadegau Gwladol a wnaed yn Ch1 2006 bod 44% o oedolion y DU wedi prynu nwyddau neu wasanaethau dros y rhyngrwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda 79% o'r rhain yn eu prynu yn ystod y tri mis diwethaf. O'r rhain, roedd canran uwch o ddynion (81%) na merched (77%) wedi prynu pethau ar-lein. O'r rheiny a oedd wedi prynu pethau ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf, y pethau mwyaf poblogaidd i'w prynu oedd ffilmiau a cherddoriaeth (53%) wedi'u dilyn yn agos gan deithiau neu lety gwyliau (51%).

24

Ffigur 24 - Prynu ar-lein gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn y DU sy'n oedolion, SYG, Ch1 2006
 
Er bod y gwahaniaeth rhwng yr arolygon a wnaed ar gyfer Cymru a'r DU gyfan yn golygu ei bod yn anodd tynnu unrhyw gymariaethau uniongyrchol, mae'n bosibl o leiaf tynnu rhai cymariaethau bras. Yn gyffredinol, gwelwn fod defnyddwyr yn y DU yn prynu mwy o bethau ar-lein nag yng Nghymru. Mae defnyddwyr yng Nghymru yn prynu nifer sylweddol mwy o nwyddau electronig ar-lein (35%) na defnyddwyr yn y DU (25%). Mae'n syndod bod nifer sylweddol mwy o ddefnyddwyr y DU (53%) yn prynu ffilmiau a cherddoriaeth ar-lein na defnyddwyr yng Nghymru (42%).
 
Mae bygythiadau i ddiogelwch ar-lein a thwyll hunaniaeth yn rhwystro rhai defnyddwyr rhyngrwyd rhag siopa ar-lein.  Er bod hyder cynyddol ymysg y rheiny sy'n siopa ar-lein, darganfu arolwg gan Gyngor Defnyddwyr Cymru ym mis Mawrth 2006 bod canfyddiadau o ddiogelwch ar-lein wedi dirywio ers y flwyddyn flaenorol, gydag 41% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd nad ydynt yn siopa ar-lein yn bryderus am ddiogelwch, o'u cymharu â 35% ym mis Mawrth 2005. 
 
Lawrlwytho
 
Mae data gan Sefydliad Ffonograffig Prydain (BPI) yn dangos bod nifer y traciau a lawrlwythwyd yn gyfreithlon yn y DU wedi tyfu'n gyflym yn ystod 2005 ac yn gynnar yn 2006. Yn ystod Ch1 2006, lawrlwythwyd 11.5 miliwn o draciau yn y DU. Gellir priodoli hyn i'r twf mewn safleoedd lawrlwytho cyfreithlon a lleihau nifer y ffeiliau hawlfraint sydd ar gael ar safleoedd rhannu ffeiliau.
25
Ffigur 25 – Nifer y traciau cerddoriaeth sengl a lawrlwythwyd yn gyfreithlon yn y DU, BPI/OCC, Ch1 2006
 
Mae lawrlwytho cerddoriaeth yn debygol o dyfu ymhellach oherwydd poblogrwydd cynyddol gwefannau sy'n cynnwys llyfrgelloedd enfawr o gerddoriaeth y gellir eu lawrlwytho am bris isel neu am ddim, fel YouTube.  Mae YouTube yn wefan sy'n caniatáu i ddefnyddwyr llwytho clipiau fideo i fyny, eu rhannu a'u gwylio. Mae ei lyfrgell yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr yn ogystal â chlipiau o'r teledu a ffilmiau a fideos cerddoriaeth. Ym mis Awst 2006, cyhoeddodd YouTube ei fod yn trafod â chwmnïau recordio ynghylch cynnig fideos cerddoriaeth cyfredol ac archif. Cyn pen 18 mis, ei obaith yw cynnig pob fideo cerddoriaeth a grëwyd erioed, tra'n parhau'n rhad ac am ddim.
 
Rhwydweithio Cymdeithasol a Blogio 
 
Un o'r tueddiadau a fu'n tyfu gyflymaf ar gyfer defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fu twf cynyddol yn nefnydd safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a blogio. Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel MySpace, Bebo, Friends Reunited a Piczo yn caniatau i ddefnyddwyr greu eu tudalennau cartref neu broffiliau eu hunain, lle maent yn postio gwybodaeth amdanyn nhw'u hunain, eu hobïau a'u diddordebau, eu hoff fandiau ac ati, ynghyd â chysylltiadau â gwefannau eraill maent yn hoff ohonynt, a dyddlyfrau ar-lein. Yna, gall defnyddwyr gysylltu eu proffiliau â defnyddwyr eraill ar yr un safle. Efallai y bydd y cysylltiadau hyn â chyfeillion sy'n bodoli eisoes, neu â defnyddwyr â diddordebau tebyg ganddynt, i adeiladu rhwydwaith o gyfeillion/cysylltiadau. Yna, bydd defnyddwyr yn defnyddio'r safle i gadw mewn cysylltiad â'u cysylltiadau a rhannu gwybodaeth a chynnwys.
 
Yn ôl ystadegau Nielsen/Netrating, yn y DU, MySpace oedd y safle rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd ym Mai 2006, gyda 5.1 miliwn o ddefnyddwyr unigryw yn ymweld â'r safle (17.32% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd).  Mae safleoedd poblogaidd eraill yn cynnwys Friends Reunited gyda 4.5 miliwn o ddefnyddwyr unigryw (15.48%), Bebo gyda 3.9 miliwn (13.39%) a Piczo gyda 3.7 miliwn (12.48%).
 
Yn ôl ymchwil defnyddwyr a wnaed gan Ofcom ym mis Mehefin 2006, safleoedd sy'n galluogi defnyddwyr i ailsefydlu hen gysylltiadau a chynnal cysylltiadau sy'n bodoli eisoes yw'r mathau mwyaf poblogaidd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, gyda rhyw 41% o oedolion y DU â mynediad ganddynt at y rhyngrwyd yn eu defnyddio, a rhyw hanner y rhain yn eu defnyddio yn wythnosol. Mae safleoedd sy'n caniatau i ddefnyddwyr gadw mewn cysylltiad yn arbennig o boblogaidd gan ddefnyddwyr iau, gyda 70% o bobl 16-24 oed yn gwneud hynny, a mwy na'u hanner yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos. Mae bron i hanner o holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n 25-30 oed, a rhyw draean o'r rheiny sy'n hŷn na 35 yn defnyddio'r safleoedd hyn hefyd.
 
Mae safleoedd blogio yn wefannau lle gall defnyddwyr greu eu tudalen gartref eu hunain, a enwir yn 'gweflog', neu'n fwy cyffredin yn 'blog', sy'n cynnwys cofnodion dyddlyfr cronolegol.  Mae defnyddwyr yn postio gwybodaeth am eu bywyd o ddydd i ddydd neu am bynciau sydd o ddiddordeb arbennig, sydd yna ar gael ar y rhyngrwyd i ddefnyddwyr eraill eu darllen. Blogger.com, sy'n berchen i Google, yw'r safle blogio mwyaf, gyda mwy na 15 miliwn o ddefnyddwyr unigryw ym mis Mawrth 2006, wedi'i ddilyn gan livejournal.com a oedd yn cynnal mwy na 200,000 o flogwyr gweithredol yn y DU yn 2006.
 
Roedd ymchwil Ofcom a wnaed ym mis Mehefin 2006 yn dangos bod mwy na thraean (37%) o holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd 18-24 oed yn y DU wedi cyfrannu at wefan neu flog. Yn gyffredinol, honnai 14% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd 16 oed neu'n hŷn eu bod wedi cyfrannu at wefan neu flog trwy bostio cynnwys neu sylwadau. Mae'r ymchwil yn dangos hefyd fod gan ryw ddwywaith cymaint o ddynion wefannau neu weflogiau o'u cymharu â merched.
 
Safleoedd yr Ymwelwyd â Nhw Fwyaf
 
Ym mis Awst 2006, yn ôl Nielsen-Netratings, gan wefannau a oedd yn berchen i Microsoft oedd y nifer uchaf o ymweliadau unigryw gyda mwy nag 20 miliwn o ymwelwyr yn y DU. Google oedd yr ail safle mwyaf poblogaidd, gyda bron i 19.5 miliwn o ymwelwyr.
 
26
Ffigur 26 - Y 10 gwefan yr ymwelir â nhw amlaf yn y DU gan ymwelwyr, Nielsen/NetRatings, Awst 2006
 
Defnydd yn y Dyfodol
 
Yn ystod mis Mai 2006, cyhoeddodd y Grŵp Rhanddeiliaid Band Eang adroddiad ar ofynion lled band y dyfodol gan gartrefi'r DU. Daeth yr astudiaeth at y casgliad y byddai'r galw am led band yn y dyfodol yn cael ei ddominyddu gan ffrydio fideo a throsglwyddo ffeiliau mawr ac:
 
  • erbyn 2008, y gallai'r galw am led band ar gyfer y cartrefi dwysaf o ran lled band gyrraedd 18Mbps i lawr a 3Mbps i fyny;
  • erbyn 2012, y gallai'r galw am led band ar gyfer y cartrefi dwysaf o ran lled band gyrraedd 23Mbps i lawr a 14Mbps i fyny.
 
Wrth ystyried hyd cyfartal dolenni lleol yn y DU a gallu technegol y technolegau DSL presennol, mae'n amlwg na fydd y technolegau hyn yn gallu bodloni'r galw am led band a amlinellir uchod ar gyfer cartrefi'r DU. Efallai bod hyn yn awgrymu bod angen ystyried technolegau eraill i gyflwyno band eang yn y dyfodol. Fodd bynnag, efallai y bydd ffactorau eraill, fel datblygiadau mewn technolegau cywasgu, yn effeithio ar y galw am led band ac yn caniatáu i DSL barhau'n ddatrysiad band eang hyfyw am gyfnod hirach nag y rhagwelir.

 
Mae ffigurau Ofcom yn dangos bod twf mewn cysylltiadau band eang ymysg MBChau yn y DU wedi dilyn tuedd gyffredinol y nifer sy'n defnyddio band eang. Ar ddiwedd 2005, roedd gan 84% o'r holl MBChau yn y DU gysylltiad â'r rhyngrwyd ac roedd gan 73% o'r rhain gysylltiad band eang. Mae Ofcom yn rhagweld y bydd nifer yr MBChau sy'n defnyddio cysylltiad deialu i gysylltu â'r rhyngrwyd yn parhau i gwympo yn ystod y ddwy flynedd nesaf am fod cost gwasanaethau band eang yn gostwng a nifer y cymwysiadau busnes ar-lein sy'n gofyn am gysylltedd band eang.
27
Ffigur 27 - Mynediad at y rhyngrwyd gan MBChau yn ôl dull o gysylltu, Ofcom, Rhagfyr 2005[14]
 
Mae Eurostat, sef swyddfa ystadegol y Comisiwn Ewropeaidd, wedi olrhain y defnydd o fand eang a'r rhyngrwyd ymysg aelod-wladwriaethau'r UE. Mae treiddiad band eang ymysg MBChau yn yr UE wedi cynyddu o 50% yn 2004 i 62% yn 2005. Mae'r nifer sy'n defnyddio band eang yn arbennig o uchel yn Sweden lle'r oedd gan 80% o MBChau fynediad at fand eang yn 2005, a lle'r oedd gan 95% rhyw fath o fynediad at y rhyngrwyd. O gymharu â hyn, yn y DU, roedd gan 61% fynediad band eang ac roedd gan 88% fynediad at y rhyngrwyd.

Cymwysiadau a Gyrwyr

 

VoIP

 
Mae gwasanaethau Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) yn caniatau i ddefnyddwyr wneud galwadau ffôn dros eu cysylltiad band eang.  Mae ar rai gwasanaethau angen cyfrifiadur personol â'r feddalwedd briodol, tra bo eraill yn caniatáu i'r defnyddiwr gysylltu ffôn cyffredin â'i gysylltiad band eang. Ar wahân i ffi tanysgrifio misol a godir gan rai gweithredwyr, mae galwadau i ddefnyddwyr VoIP eraill sy'n tanysgrifio i'r un gwasanaeth am ddim ac yn ddiderfyn. Fel arfer, caiff tâl galwadau i linellau tir neu rwydweithiau ffôn symudol eu codi ar gyfraddau isel o'u cymharu â gwasanaethau ffôn confensiynol.
 
Erbyn mis Mai 2006, yn ôl amcangyfrifon Ofcom, roedd mwy nag 1.8 miliwn o gartrefi preswyl VoIP actif yn y DU.  O'r rhain, roedd rhyw 300,000 yn defnyddio cynhyrchion VoIP BT, roedd rhyw 150,000 yn defnyddio gwasanaeth Orange/Wanadoo, ac roedd y gweddill yn defnyddio gwasanaethau fel Skype, Vonage, PlusNet a VoIP Cheap.
 
Yn ystod mis Mehefin 2006, datgelodd Tiscali ei wasanaeth Ffôn Rhyngrwyd VoIP wedi'i seilio ar feddalwedd newydd. Bydd y gwasanaeth ar gael ar holl linellau band eang Tiscali yn y DU; rhyw filiwn ar ddiwedd Mehefin 2006. Mae cynigion eraill a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnwys Google Talk, Tesco VoIP a Dixons Freetalk.
 
Fodd bynnag, mae Ofcom yn rhybuddio y bydd yn rhaid ymdrin â rhai materion allweddol eto er mwyn i VoIP ddod yn rhan wirioneddol o'r farchnad dorfol. Mae'r rhain yn cynnwys rheoleiddio, datblygu rhanbarthol, dibynadwyedd, integreiddio â systemau cartref eraill, materion diogelwch a phreifatrwydd, mynediad at rifau brys a chyfartaledd galwadau.
 

Fideo ar Alw

 
Roedd fideo ar alw ar gael i ryw 80% o danysgrifwyr teledu digidol NTL ar ddiwedd Mehefin 2006. Yn ystod y 12 mis diwethaf, gwyliwyd rhyw 10 miliwn o ffilmiau a rhaglenni teledu ar wasanaeth 'ar alw' NTL gan ei gwsmeriaid.
 
Mae gan wefan Band Eang y BBC ystod eang o gynnwys 'dal i fyny' ar-lein sy'n caniatau i ddefnyddwyr wylio rhaglenni maent wedi'u colli.
 
Lansiodd MTV ei wasanaeth Overdrive yn y DU ym mis Ebrill 2006. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys fideos cerddoriaeth, newyddion a hysbysluniau ffilmiau.
 

IPTV

 
Nod BT yw lansio ei wasanaeth teledu cenhedlaeth nesaf, sef 'BT Vision', yn ystod hydref 2006.  Bydd BT Vision yn cyfuno teledu daearol digidol (Freeview) â ffilm, teledu, rhaglenni cerddoriaeth, a gwasanaethau rhyngweithiol ar alw a ddarperir trwy rwydwaith DSL BT.  Ni fydd tanysgrifio gorfodol i'r gwasanaeth.
 
Lansiodd Namesco, ISP o'r DU, ei becyn tvMax ym mis Ebrill 2006.  Mae'r gwasanaeth yn ymgorffori blwch top teledu sy'n cyfuno Freeview a Recordio Fideo Digidolgyda chysylltiad band eang i gynnig mynediad at wasanaethau tvMax.  Mae'r rhain yn cynnig mynediad at e-bost, newyddion ac orielau ffotograffau ar-lein drwy'r teledu.  Bydd y gwasanaeth yn esblygu i gynnig cynnwys ychwanegol (e.e. Fideo ar Alw).
 
Rhwystr posibl i lwyddiant IPTV yw bod fideo ansawdd teledu safonol yn gofyn am 3Mbps cyson am bob sianel, tra bo HDTV yn gofyn am fwy na 6Mbps, a gall cyfyngiadau'r ddolen leol achosi problemau o ran ei gyflwyno'n eang, yn enwedig ar y fformat HDTV. Fodd bynnag, wrth i dechnolegau DSL a thechnolegau cywasgu ddatblygu, bydd gofynion lled band ffrydio teledu yn lleihau ac efallai y daw hyn yn llai o rwystr yn y dyfodol.
 

Teledu Symudol

 
Mae diddordeb cynyddol mewn cyflenwi teledu i ddefnyddwyr ar daith drwy setiau llaw ffonau symudol.  Mae nifer o dechnolegau yn cael eu harchwilio, gan gynnwys 3G, DAB a DVB-H.
 
Mae nifer o wasanaethau ar gael i gwsmeriaid 3G, sy'n cynnig teledu ar setiau llaw cydnaws â Nokia.  Mae Orange TV yn rhoi mynediad i danysgrifwyr at 19 sianel.  Pris y gwasanaeth yw £10 y mis ac mae'n cynnwys 20 awr o wylio.  Mae MobiTV ar gael i danysgrifwyr 3 ac Orange.  I gwsmeriaid 3, mae MobiTV yn cynnig 7 sianel am £4.99 a'i becyn 'ychwanegol' o 19 sianel am £9.99.  I danysgrifwyr Orange, mae MobiTV yn cynnig mynediad at bob un o'r 19 sianel, ond mae'n defnyddio munudau data ac, o ganlyniad i hyn, mae'r gost yn dibynnu ar faint y defnyddir y gwasanaeth.  Argymhellir bod defnyddwyr y gwasanaeth hwn yn tanysgrifio i fwndel data.
 
Mae cynnyrch BT Movio, a ddatblygwyd gan BT, wedi ennill sylw gan amrywiaeth o weithredwyr, gan gynnwys Virgin Mobile ac RTE yn Iwerddon, ac mae'r ddau ohonynt yn cynnal treialon.  Mae BT Movio yn defnyddio'r rhwydwaith DAB i ddarlledu cynnwys i setiau llaw cydnaws. Bu'r adborth cychwynnol yn gadarnhaol, gyda mwyafrif y defnyddwyr mewn astudiaeth beilot (mwy na dwy ran o dair) yn nodi eu bod yn barod i danysgrifio i'r gwasanaeth ar eu rhwydwaith presennol petai'r gwasanaeth yn cael ei brisio'n gystadleuol.
Mae O2 hefyd o'r farn bod "galw amlwg gan gwsmeriaid" am wasanaeth sy'n darlledu cynnwys digidol yn uniongyrchol i ffonau symudol.  Cynhaliwyd treialon yn Rhydychen gan ddefnyddio DVB-H, fersiwn symudol o'r dechnoleg a ddefnyddir ar gyfer teledu digidol Freeview.
 

Band Eang 'Am Ddim'

 
Erbyn hyn, mae nifer o weithredwyr yn cynnwys yr hyn y maent yn ei alw'n 'rhyngrwyd am ddim' i'w tanysgrifwyr.  Mae hwn yn wasanaeth gwerth ychwanegol ac, er ei fod am ddim, mae angen tanysgrifio i becyn priodol o wasanaethau eraill.  Ar hyn o bryd, mae Sky, Orange a Talk Talk yn cynnig rhyngrwyd am ddim i rai neu bob un o'u tanysgrifwyr.  Mae ar y gwasanaethau hyn angen i'r tanysgrifiwr feddu ar linell tir BT, felly efallai na fydd ar gael i bawb.  Mae ar Orange a Talk Talk angen tanysgrifiad 18 mis, tra 12 mis yw cyfnod tanysgrifio lleiaf Sky. 
 
Mae Sky yn cynnig rhyngrwyd am ddim i'w holl danysgrifwyr. Yn ogystal â'r pecyn rhyngrwyd sylfaenol am ddim, mae Sky yn cynnig nifer o wasanaethau a wellwyd sy'n gofyn am dâl bach.  Mae Orange yn cynnig band eang am ddim i'w gwsmeriaid sydd â chynlluniau ffôn symudol tâl misol 18 mis sy'n werth £30 neu fwy.  Maent yn cynnig gwasanaeth hyd at 8Mbps gyda chyfyngiad defnydd o 2GB y mis.  Mae Talk Talk yn cynnig band eang am ddim os byddwch yn tanysgrifio i'w cynllun galwadau Talk3 am bris o £8.99 y mis (yn ogystal â phris rhentu llinell o £11).  Maent yn cynnig gwasanaeth hyd at 8Mbps gyda lwfans defnyddio o 40GB.
 

3G

 
Bydd T-Mobile yn lansio ei wasanaeth lawrlwytho HSPDA cyflym ym mis Awst 2006.  Ar y cychwyn, bydd technoleg HSPDA yn cynnig cyflymderau lawrlwytho hyd at 1.8Mbps, er bod perfformiad go iawn o ryw 1Mbps yn fwy tebygol.  Bydd yr uchafswm damcaniaethol yn cynyddu i 3.6Mbps yn 2007, yna i 7.2Mbps a 10Mbps yn 2008/2009.  Barn T-Mobile yw y gall hyn danbrisio gweithredwyr band eang y DU am y gall cwsmeriaid gadw rhif ffôn heb yr angen i dalu pris sefydlog am rentu llinell.  Cred T-Mobile y bydd hyn yn arbennig o ddeniadol i'r cartrefi yn y DU sydd â ffôn symudol yn unig.  Mae 14% o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar ffonau symudol fel unig ddull y cartref o ffonio, o'i gymharu ag 8% ar gyfer y DU ar gyfartaledd.
 
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu trwy dariff data proffesiynol Web 'n' Walk T-Mobile, am bris o £17 y mis, neu £8.50 i ddefnyddwyr â chontract T-Mobile.  Mae'n ofynnol cael cyfrifiadur personol â cherdyn data cydnaws iddo, y bydd T-Mobile yn ei gyflenwi am ddim yn amodol ar gontract 18 mis, i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.  Mae setiau llaw ffonau symudol a alluogwyd ar gyfer HSDPA yn debygol o fod ar gael yn gynnar yn 2007.
 

Chwarae Triphlyg/Chwarae Pedwarplyg/Gwasanaethau sydd wedi'u Bwndelu

 
Ar hyn o bryd, mae 37.1% o gwsmeriaid NTL sydd ar y we yn tanysgrifio i wasanaeth chwarae triphlyg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, bydd mwy na 50% o'r cartrefi yn Ewrop wedi'u cysylltu â gwasanaeth chwarae triphlyg erbyn diwedd y degawd.  Ym Mehefin, cyhoeddodd NTL wasanaeth Chwarae Pedwarplyg cyntaf y DU sy'n cyfuno gwasanaethau teledu, band eang, llinell sefydlog a ffôn symudol.  Prynodd NTL Virgin Mobile ym mis Gorffennaf 2006.
 
Er bod gwasanaethau sydd wedi'u bwndelu, hyd yn hyn, wedi cynnwys teleffoni llinell sefydlog, mae'n bosibl cynnig bwndelau nad ydynt yn cynnwys teleffoni llinell sefydlog trwy ddefnyddio NDSL (DSL noeth). Mae NDSL yn caniatáu i ddefnyddwyr terfyn gael mynediad at wasanaethau band eang DSL heb orfod cymryd gwasanaeth teleffoni, a thrwy hynny waredu'r gofyn i dalu'r ffi rhentu llinell misol am wasanaeth ffôn. Gallai hyn alluogi gweithredwyr i gyflwyno bwndelau newydd a gwahaniaethol i'r farchnad. Er enghraifft, byddai'n bosibl cynnig pecyn ffôn symudol a band eang neu chwarae triphlyg sy'n cynnwys ffôn symudol, band eang a theledu digidol.
 
Efallai y bydd goblygiadau i hyn ar gyfer marchnad band eang Cymru oherwydd bod lefelau uchel o gartrefi sydd â ffôn symudol yn unig yng Nghymru o'i chymharu â'r DU gyfan (14% o'i chymharu ag 8%). Mae'r lefel uchel o gartrefi heb linell ffôn yn creu rhwystr i'r nifer sy'n defnyddio band eang yng Nghymru.
 
Mae gwledydd Ewropeaidd lle mae gwasanaethau NDSL ar gael eisoes yn cynnwys Sweden a'r Iseldiroedd.
 
Awgrymwyd bod lefelau uchel o gartrefi yng Nghymru sydd â ffôn symudol yn unig yn ganlyniad i lefelau uchel o deuluoedd isel eu hincwm, ac y byddai'r teuluoedd hyn yn llai tebygol o danysgrifio i wasanaethau band eang. Fodd bynnag, mae treiddiad teledu digidol sylweddol uwch yng Nghymru o'i gymharu â'r DU gyfan yn dangos bod gan drigolion Cymru archwaeth mawr am dechnolegau newydd. Felly, gallai'r gallu i dderbyn band eang NDSL heb gost ychwanegol rhentu llinell misol gynnig gyrrwr newydd ar gyfer twf band eang yng Nghymru, yn enwedig gyda chymwysiadau newydd fel IPTV (math arall o deledu digidol) yn cael eu cyflwyno.
 

Chwarae Gemau Ar-lein

 
Mewn arolwg diweddar a wnaed ar gyfer adroddiad Deutschland Online 3, atebodd 41% o'r arbenigwyr Ewropeaidd a holwyd y byddai chwarae gemau ar-lein yn rym gyrru pwysig yn nhreiddiad mynediad at y Rhyngrwyd drwy fand eang yn y dyfodol.  Mae astudiaeth gan y cwmni ymchwil ac ymgynghori Parks Associates yn dangos y bydd y farchnad chwarae gemau ar-lein yn yr UDA yn cyrraedd US$4.4 biliwn erbyn 2010, i fyny o $1.1 biliwn mewn refeniw y llynedd.
 

 
Mae DSL yn parhau i gynyddu ei gyfran o'r farchnad fyd eang ar draul cebl a thechnolegau amgen. Yn ôl Point Topic, roedd gan gebl a darparwyr technoleg eraill gyfran 34.5% o'r farchnad yn Ch1 2005 ond bod hyn wedi cwympo i 32.8% erbyn Ch1 2006.
 
Er bod DSL yn parhau'n gryf ar raddfa fyd eang, mae arwyddion y gallai gychwyn colli ei gyfran o'r farchnad mewn rhai o'r cenhedloedd band eang mwy datblygedig. Yn Ne Corea, mae DSL yn cael ei fygwth gan y ffaith bod y farchnad bron wedi cyrraedd pwynt dirlawnder. Mae niferoedd DSL wedi gostwng o 4.6% rhwng Ch1 2005 a Ch1 2006 wrth i ddefnyddwyr terfyn geisio'r lled band uwch a gynigir gan wasanaethau cebl a ffibr. Fodd bynnag, gan mai De Corea yw'r unig wlad sydd wedi profi'r ffenomen hon hyd yn hyn, mae'n parhau'n debygol y bydd DSL yn parhau'n dechnoleg ddewisol ar raddfa fyd eang am beth amser.
 
Fodd bynnag, mae profiad De Corea yn cynnig mewnwelediad i ddatblygu marchnadoedd yn y dyfodol, a bydd yn cynnig gweledigaeth werthfawr i weithredwyr a llunwyr polisïau mewn cenhedloedd eraill i gyfeiriad posibl datblygu eu marchnadoedd eu hunain yn y dyfodol.
 

Casgliadau

 
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod lefelau'r nifer sy'n defnyddio band eang yn gyfartal â'r rheiny ar gyfer y DU gyfan. Ar ddiwedd Mehefin 2006, roedd gan 41.5% o gartrefi yng Nghymru gysylltiad band eang, o'i chymharu ag ychydig yn fwy na 40% ar gyfer y DU gyfan. O ystyried hyn yn nhermau poblogaeth, mae'r ffigurau hyn yn trosi'n 19.4 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion yng Nghymru a 19.3 o gysylltiadau am bob 100 o drigolion yn y DU gyfan.
 
O ran cyrhaeddiad, mae argaeledd gwasanaethau band eang sylfaenol yng Nghymru a'r DU ymysg yr uchaf yn y byd ac, yn raddol, maent yn nesáu at gyrhaeddiad 100%. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae Cymru'n dioddef argaeledd isel iawn o ran gwasanaethau'r 'ail genhedlaeth' ag iddynt led band uwch. Ym Mawrth 2006, dim ond 33% o gartrefi a allai gael mynediad at wasanaeth a gyflwynai 8Mbps, tra nad oedd unrhyw wasanaethau a gynigiai lled band uwch ar gael yn fasnachol ar y pryd. Rhaid ystyried y sefyllfa hon yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw cartrefi yng Nghymru dan anfantais oherwydd y cyfyngiadau rhwydwaith hyn.
 
Bydd cyflwyno 21CN BT yn golygu bod gwasanaethau ag iddynt led band uwch ar gael yng Nghymru, ond ni fydd y rhain ar gael i Gymru gyfan tan 2011 a bydd y lled band gwirioneddol y gall cartrefi unigol eu derbyn yn dibynnu ar hyd eu dolenni lleol unigol.
 
Yn ogystal, rhaid ystyried yn ofalus y bwlch cynyddol mewn cystadleuaeth isadeiledd rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig ac, i ryw raddau, rhwng Cymru a'r DU gyfan. Mae gweithredwyr LLU yn parhau i ganolbwyntio eu hadnoddau ar ardaloedd trefol poblogaeth ddwys, sy'n arwain at ymraniad yn y gwasanaethau sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol a hyd yn oed at wahaniaeth yng nghost gwasanaethau rhwng yr ardaloedd hyn. Mae hefyd yn amlwg bod galluogi cyfnewidfeydd gan weithredwyr LLU yn tyfu ar gyfradd gyflymach ar gyfer y DU gyfan nag ar gyfer Cymru, lle mae nifer gweddol gyfyngedig o gyfnewidfeydd wedi'u clustnodi ar gyfer dadfwndelu ac mae nifer hyd yn oed yn fwy cyfyngedig wedi'u dadfwndelu eisoes.
 
Mae'r galw cynyddol am led band uwch ac argaeledd isel gwasanaethau lled band uwch yn dod yn faterion cynyddol bwysig yn y maes band eang. Amcangyfrifwyd y bydd y galw am led band yn cynyddu i lefelau y tu hwnt i'r hynny y gellir ei fodloni gan dechnolegau DSL presennol yn y DU erbyn 2012, neu hyd yn oed mor gynnar â 2008. Yn ogystal, mae tystiolaeth bod y galw am led band eisoes wedi mynd y tu hwnt i alluoedd DSL yn Ne Corea, lle mae defnyddwyr terfyn yn amnewid eu cysylltiadau DSL am ddatrysiadau cebl a ffibr cyflymach.

 


Rhestr byrfoddau

 
ABEC – Arsyllfa Band Eang Cymru
OECD – Y Sefydliad ar gyfer Cydweithredu a Datblygu Economaidd
DSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol
ADSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur
Mbps – Megabeitiau yr eiliad  
ADSL2+ - Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur 2+
LLU – Dadfwndelu Dolenni Lleol
ISP – Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd
SDSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol Gymesur
FWA – Mynediad Di-wifr Sefydlog
Wi-Fi – Cywirdeb Di-wifr
3G – Cyfathrebu symudol y drydedd genhedlaeth
Ofcom – Y Swyddfa Gyfathrebiadau
MBCh – Mentrau Bach a Chanolig
IEEE – Sefydliad y Peirianwyr Trydan ac Electroneg
G7 – Grŵp y saith gwlad ddiwydiannol fawr
PPP – Cydraddoldeb Pŵer Prynu
LlCC – Llywodraeth Cynulliad Cymru 
UE - Yr Undeb Ewropeaidd
SYG – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
ECTA - Cymdeithas Telathrebu Cystadleuol Ewrop
OTA – Swyddfa'r Dyfarnwr Telathrebu
ARCEP – Autorité des Régulation des Communications Electroniques et des Poste
TGCh – Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
PC – Cyfrifiadur Personol
PDA – Cynorthwy-ydd Digidol Personol
GSM – System Fyd-eang ar gyfer Cyfathrebu Symudol
ISDN – Rhwydwaith Digidol Gwasanaethau Integredig
TV – Teledu
IPTV – Teledu Protocol Rhyngrwyd
VoD – Fideo ar alw
VoIP – Protocol Llais dros y Rhyngrwyd
HSDPA – Mynediad drwy becynnau lawrgysylltu cyflym iawn
NDSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol Noeth
WiMax – Rhyngweithredoldeb byd-eang ar gyfer mynediad di-wifr
FTTH – Ffibr i'r cartref
FTTP – Ffibr i'r mangre

[1] Er nad oes ffigur pendant ar gael ar gyfer cyrhaeddiad FWA yng Nghymru, mae ABEC yn cydnabod bod nifer cyfyngedig o ddarparwyr arbenigol yn cynnig gwasanaethau yng Nghymru ac, yn hynny o beth, nid yw ABEC yn cytuno â'r ffigur hwn
[2] Trosir prisiau o arian cyfredol i ddoleri'r Unol Daleithiau gan ddefnyddio'r gyfradd gyfnewid o'r un pryd â'r ffactorau PPP i sicrhau cysondeb.
[3] Ar sail rhyw 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru.
[4] Ar sail poblogaeth o ryw 3 miliwn yng Nghymru.
[5] Ffynhonnell: Ofcom DU
[6] Ffynhonnell: datganiadau i'r wasg gan BT Wholesale rhwng Ebrill a Gorffennaf 2005.
[7] Ffynhonnell: amcangyfrif ABEC sy'n deillio o ffigurau Ofcom/BT/dadansoddiad y diwydiant.  Rhagdybiaethau: poblogaeth Cymru, ac felly treiddiad, yn rhyw 5% o ffigur gweddill y DU
[8] Ffynhonnell: BT Wholesale
[9] Ffynhonnell: Ofcom DU
[10] Ffynhonnell: Point Topic
[11] Ffynhonnell: NTL
[12] Efallai y bydd gan fusnesau fwy nag 1 llinell
[13] Efallai y bydd gan fusnesau fwy nag 1 llinell
[14] Canran yr MBChau sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd