Meincnod Band Eang Diweddariad Chwarterol (Ch3)
Gorffennaf - Medi 2006
Dadlwytho'r Fersiwn PDF
(1.41MB)
Neidio I:
Crynodeb
Gweithredol
Yr adroddiad hwn yw'r seithfed mewn cyfres o adroddiadau
meincnodi band-eang sydd wedi'u llunio ar gyfer Uned Band Eang
Cymru Llywodraeth y Cynulliad, ac yn y rhifyn hwn rhoir sylw i'r
farchnad band-eang yng Nghymru, y DU a gweddill y byd. Seilir y
data, lle bônt ar gael, ar y sefyllfa hyd at ddiwedd Medi
2006.
Yn ôl amcangyfrifon a seiliwyd ar ffigurau'r gweithredyddion,
mae'r manteisio ar y band eang wedi dal i gynyddu yng Nghymru dros
y chwarter hwn, ac erbyn diwedd Medi 2006 yr oedd gan 44% o
gartrefi Cymru gysylltiad band-eang. Mae hynny'n cyfateb i 20.5 o
gysylltiadau band-eang am bob 100 o'r boblogaeth.
Mae argaeledd gwasanaethau band-eang yn dal i fod dros 99.5%
o'r holl gartrefi ac yn dal i dynnu at 100%. Mae cyrhaeddiad LLU
hefyd wedi dal i dyfu dros y chwarter wrth i drydydd gweithredwr
LLU fentro i'r farchnad band-eang yng Nghymru, ac erbyn hyn mae 23%
o'r holl gartrefi wedi'u cysylltu â chyfnewidfa sydd wedi'i
dadfwndelu. Ond er gwaetha'r twf hwnnw, mae cyrhaeddiad LLU yng
Nghymru yn dal i fod yn is nag ym mhob rhanbarth arall yn y DU, ar
wahân i Ogledd Iwerddon, ac fel y cyfryw mae'r gystadleuaeth o ran
isadeiledd, ac argaeledd gwasanaethau ADSL2+ ar led band uwch, yn
dal i fod yn is yng Nghymru nag yn y mwyafrif o'r rhanbarthau yn y
DU.
Cysylltiadau drwy'r band eang oedd yn cyfrif am fwy na
thri-chwarter yr holl gysylltiadau â'r rhyngrwyd yn y DU erbyn
diwedd Medi 2006, a dangosai hynny barhad yn y duedd i'r band eang
ddisodli cysylltiadau deialu.
Mae'r duedd i ddefnyddio lled band uwch wedi parhau dros y
chwarter, yn enwedig yn y cenhedloedd band-eang mwy datblygedig.
Gwelwyd twf mawr yn nifer y cysylltiadau band-eang drwy ffibr, yn
enwedig yng Ngogledd America ac Asia'r Môr Tawel, a hynny'n bennaf
ar draul cysylltiadau drwy fodem cebl.
Gan fod mwy a mwy o ddefnyddio ar y gwasanaethau â lled band
uwch a gynigir gan ADSL Max ac ADSL2+ yn y DU, fe ddeuir i'r
farchnad ag amryw o gymwysiadau a gwasanaethau sy'n defnyddio lled
band yn ddwys, gan gynnwys nifer o wasanaethau VoD ac IPTV. Mae'r
cymwysiadau a'r gwasanaethau hynny'n debyg o greu rhagor o alw am
gynnydd yn y lled band. Ceir tystiolaeth o'r duedd honno mewn
mannau eraill yn y byd lle mae cynnydd yn y twf mewn cysylltiadau
drwy ffibr a lle maent bellach hyd yn oed yn fwy niferus na
niferoedd y tanysgrifwyr drwy gebl yn rhanbarth Asia'r Môr
Tawel.
Argaeledd
Band Eang ADSL (Anghymesur)
Amcangyfrif Arsyllfa Band Eang Cymru yw mai prin iawn iawn fu
unrhyw gynnydd yng nghyrhaeddiad ADSL dros y chwarter diwethaf. Yn
ol BT, mae dros 99.5% o adeiladau yng Nghymru wedi'u cysylltu a
chyfnewidfa sydd wedi'i galluogi i gymryd DSL. Ond oherwydd
problemau technegol lleol fel y pellter o'r gyfnewidfa neu ansawdd
gwael y rhwydweithiau, nid yw rhai adeiladau yn nhiriogaethau'r
cyfnewidfeydd hynny yn addas i ddarparu gwasanaethau band-eang
iddynt, neu fe allant gyrchu gwasanaethau ar led band isel iawn yn
unig.
Nid yw galluogi cyfnewidfeydd RIBS wedi cael fawr o effaith ar
gyrhaeddiad cyffredinol DSL yng Nghymru. Bach iawn iawn o gynnydd a
welwyd am fod y cyfnewidfeydd hynny'n gwasanaethu poblogaethau bach
iawn. Er hynny, gan fod y rhaglen RIBS wedi galluogi DSL mewn
ardaloedd gwledig y byddai angen iddynt, fel arall, ddibynnu ar
ffynonellau eraill i ateb eu gofynion band-eang, mae'r rhaglen wedi
lleihau unrhyw 'fwlch digidol' sy'n bod rhwng ardaloedd gwledig a
threfol Cymru.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cael cwyn ynghylch prosiect
Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS). Mae Llywodraeth y
Cynulliad yn gweithio mewn partneriaeth â BT i gyflawni prosiect
RIBS, prosiect sydd wedi'i gynllunio'n benodol i alluogi ardaloedd
yng Nghymru nad yw'r band eang o fewn cyrraedd iddynt i gael
mynediad i'r genhedlaeth gyntaf o wasanaethau band-eang
(512kbps-2Mbps yn llifo i lawr a 256kbps-512kbps yn llifo i fyny)
am brisiau fforddiadwy sy'n debyg i'r rhai a geir yn ardaloedd
trefol Cymru.
Tra bo'r Comisiwn Ewropeaidd wrthi'n ystyried a ddylid
ymchwilio'n ffurfiol i'r gŵyn, mae BT wedi penderfynu y byddant yn
rhoi'r gorau dros dro i'r gwaith peirianyddol sy'n gysylltiedig â
galluogi ardaloedd di-fand-eang ledled Cymru. Er hynny, bydd BT yn
dal i geisio dod o hyd i atebion a chynllunio gwaith
[1] ar
gyfer unrhyw ardaloedd o'r fath y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn
tynnu eu sylw atynt.
Bydd y gwaith peirianyddol i alluogi'r ardaloedd hynny yn
ailgychwyn cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth y
Cynulliad yn dal i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid sy'n methu â
chael gwasanaeth band-eang ac fe drosglwyddant y wybodaeth honno i
BT cyn gynted ag y gall y gwaith barhau.
Mae'r honiadau yn y gŵyn wedi'u gwadu ac mae Llywodraeth y
Cynulliad yn cydweithio'n llawn â'r Comisiwn i ddatrys y broblem
hon yn gyflym.
Os yw pobl sy'n byw yng Nghymru yn dal i fethu â chael
cysylltiad band-eang hyd yn oed ar ôl i'w cyfnewidfa ffôn leol gael
ei galluogi yn ystod cam cyntaf y cynllun, dylent ddefnyddio
ffurflen Mannau Gwael Arsyllfa Band Eang Cymru, ffurflen y gellir
dod o hyd iddi yn
www.abec.org.uk/mannaugwael
neu
www.bbwo.org.uk/not-spots, i
gofrestru eu manylion. Caiff y manylion a roir ar y ffurflenni eu
defnyddio i ddod o hyd i'r ardaloedd yng Nghymru lle nad yw'r band
eang ar gael eto, a chyn gynted ag y gwneir hynny gall y gwaith
ddechrau i alluogi'r band eang yn yr ardaloedd hynny.
Amcangyfrif
ABEC yw nad
oes unrhyw newid wedi bod yn argaeledd gwasanaethau SDSL yng
Nghymru dros y chwarter diwethaf a bod SDSL yn dal i ddarparu
gwasanaeth i 25% o'r holl safleoedd domestig a 29% o'r holl
safleoedd annomestig yng Nghymru. Amcangyfrifir mai'r cyfartaledd
yn y DU yw 42% o safleoedd, a'r Alban yn unig sydd ag argaeledd
SDSL is na Chymru, sef 17%.
ADSL2+
Mae gwasanaethau ADSL2+ sy'n cynnig lled band o hyd at 16Mbps
ar gael mewn nifer cyfyngedig o gyfnewidfeydd yng Nghymru gan rai
gweithredyddion LLU, a'r rheiny'n bennaf yn ardaloedd Caerdydd,
Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Yn ôl BT, bydd eu 21CN hwy'n darparu
gwasanaethau band-eang ar sail ADSL2+ o fis Ionawr 2008 ymlaen. Ond
gan na ddisgwylir cwblhau gosod 21CN tan 2011, yr awgrym yw na
chaiff llawer cartref yng Nghymru fanteision y rhwydwaith newydd am
beth amser. At hynny, er y bydd 21CN yn cynyddu cyrhaeddiad
gwasanaethau band-eang â lled band uwch yng Nghymru, bydd y
cyflymderau a fydd ar gael i bob cartref yn dibynnu ar hyd ei
ddolen leol unigol ac ni fydd llawer cartref yn debyg o gael unrhyw
gynnydd yn y lled band a fydd ar gael iddo drwy ddefnyddio
ADSL2+.
21st Century Network
Bydd 21st Century Network (21CN) BT yn isadeiledd rhwydwaith a
systemau o-ben-i-ben a seilir ar Ddarparwr Rhyngrwyd, a bydd yn
sicrhau y bydd darparu'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau
cydgyfeiriedig yn gynt, yn fwy effeithlon ac yn fwy cost-effeithiol
na thros y rhwydwaith presennol.
Yn ôl BT, gwnaeth rhaglen y 21st Century Network gryn gynnydd
yn ystod y chwarter. Mae 10% o isadeiledd cyfathrebu creiddiol y DU
wedi'i adeiladu ac ar waith yn llawn. Mae'r gwaith o gynllunio a
pharatoi'r safleoedd wedi'i gwblhau ym mhob nod creiddiol a nod
metro yn y De ac mewn 100 safle arall ar hyd a lled y wlad. Yn y
De, mae naw cylch ffibr newydd, 2,100 o gilometrau ohonynt i gyd,
wedi'u gosod. Caerdydd a'r cylch fydd yr ardal gyntaf yn y DU i
gael ei chysylltu pan fydd BT yn symud rhyw 350,000 o linellau
defnyddwyr preswyl a llinellau busnes i'r rhwydwaith newydd.
Symudwyd y rhai cyntaf, yn y Wig ger Caerdydd, ddiwedd Tachwedd
2006.
Dywedodd BT yn wreiddiol y câi'r prosiect ei weithredu rhwng
2004 a 2009, ond ers hynny mae'r dyddiad cwblhau wedi llithro'n ôl
i 2011 ac mae unrhyw oedi yn 21CN hefyd yn debyg o beri oedi wrth
ledaenu ADSL2+.
At hynny, cafodd cyfleuster profi yn Abertawe, lle gall
darparwyr cyfathrebu eraill roi prawf ar eu gwasanaethau, ei agor
ar Hydref 25, 2006.
Bu i gynrychiolwyr o bob rhan o'r diwydiant lansio rhaglen
gyfathrebu i ddefnyddwyr, sef "Switched-On", ym mis Hydref 2006, i
helpu defnyddwyr a mentrau bach a chanolig eu maint sydd ar un
safle i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r genhedlaeth nesaf o
rwydweithiau, a darparu ffynhonnell unigol o fanylion a gwybodaeth
bellach. Gellir mynd i'r wefan yn
www.switchedonuk.org/.
Ffeibr
Ar hyn o bryd, nid oes yr un gwasanaeth band-eang preswyl
seiliedig-ar-ffibr ar gael yn fasnachol yng Nghymru.
Er hynny, lansiodd uned e-Gymru Llywodraeth y Cynulliad
gontract pwrcasu ar gyfer cysylltiadau band-eang y sector cyhoeddus
yn ystod Awst 2006. Cyhoeddwyd hysbysiad OJEU gan wahodd tendrau i
gyflenwi cysylltiadau cynhwysedd-uchel i safleoedd ledled y wlad
fel rhan o fenter Cyflymder Ffeibr - Rhwydweithiau Mynediad Agored
i Gymru.
Mae Cyflymder Ffeibr yn fenter allweddol yn Strategaeth Band
Eang Cymru 2005-2007 Llywodraeth y Cynulliad, ac yn ogystal â rhoi
sylw i geisio darparu cysylltedd band-eang 'cyflymder ffibr'
fforddiadwy (o leiaf 10Mbps cymesur ynghyd â gallu aml-Gbps a mwy
na hynny wrth i'r dechnoleg ddatblygu yn y dyfodol) i
barciau/lleoliadau busnes yng Nghymru, bydd hefyd yn cyflawni'r
amcan o sicrhau bod gan Gymru fynediad helaeth i isadeiledd
cyfanwerthu cystadleuol.
Mae'r rhwydwaith Cyflymder Ffeibr yn rhwydwaith 'mynediad
agored' a fydd yn cynnwys rhwydweithiau mynediad lleol yn y mannau
targed, rhwydwaith creiddiol a fydd yn cydgysylltu'r lleoliadau
hynny â rhwydweithiau telathrebu eraill, a phwyntiau presenoldeb ar
hyd a lled y rhwydwaith. Bydd Cyflymder Ffeibr yn golygu y bydd
amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau cyfanwerthu ar gael i
ddarparwyr gwasanaethau yn agored ac yn gyfartal.
Er na fydd Cyflymder Ffeibr yn pennu prisiau mân-werthu yn
uniongyrchol, fe bennir prisiau cyfanwerthu er mwyn i amcanion
prisio allweddol gael eu bodloni. Caiff prisiau eu meincnodi yn
erbyn y rhannau mwyaf cystadleuol o'r DU, sef Llundain a De
Ddwyrain Lloegr, ac yn achos y mwyafrif o'r cynhyrchion ni fydd y
prisiau cyfanwerthu yn amrywio o leoliad targed i leoliad
targed.
I gychwyn, bydd y prosiect yn darparu cysylltedd i 14 o
barciau busnes yn y Gogledd ac fe ddatblygir camau wedi hynny i'w
ddarparu i rannau eraill o Gymru. Amcangyfrifir y bydd cyfanswm o
50 safleoedd strategol ar hyd a lled Cymru.
Er mai busnesau ar safleoedd strategol yw'r sector a dargedir
i gychwyn, y disgwyl yw y bydd gan Gyflymder Ffeibr y potensial yn
y dyfodol i ateb gofynion dinasyddion, cymunedau a'r sector
cyhoeddus.
Band Eang Dolen Leol heb ei Bwndelu
(LLU)
Dros y chwarter, fe gododd nifer y gweithredyddion LLU sydd ar
waith yng Nghymru wedi i Orange (Wanadoo gynt) fentro i'r farchnad
yng Nghymru – y trydydd gweithredydd i wneud hynny. Ar ôl iddo
ddadfwndelu 12 cyfnewidfa yn ardaloedd Caerdydd, Casnewydd a Bro
Morgannwg erbyn diwedd Medi 2006, Orange hefyd oedd y gweithredydd
LLU mwyaf yng Nghymru gan ei fod yn curo Bulldog (9 cyfnewidfa) a
Tiscali (4 cyfnewidfa).

Ffigur 1 – Canran y cartrefi sydd
wedi'u cysylltu â chyfnewidfa sydd wedi'i galluogi ar gyfer LLU,
Ofcom, Hydref 2006
Er bod mwy a mwy o gyfnewidfeydd wedi'u dadfwndelu, mae
Cymru'n dal i fod yn un o'r rhanbarthau tlotaf yn y DU o ran
cyrhaeddiad LLU. Yn ôl Ofcom, 23% o gartrefi Cymru oedd wedi'u
cysylltu, ddiwedd mis Hydref 2006, â chyfnewidfa a oedd wedi'i
galluogi i gymryd LLU. Gogledd Iwerddon oedd yr unig ranbarth â
chyrhaeddiad is, sef dim ond 6% o gartrefi, ond ar ben arall y
raddfa yr oedd gan Lundain gyrhaeddiad o bron 100%.
|
Gweithredydd
|
Cyfnewidfeydd yn y DU
|
Cyfnewidfeydd yng Nghymru
|
|
Galluogwyd
|
Ar y gweill
|
Galluogwyd
|
Ar y gweill
|
|
Carphone Warehouse
|
0
|
1303
|
0
|
61
|
|
Be
|
433
|
677
|
0
|
23
|
|
Easynet
|
738
|
0
|
15
|
0
|
|
Bulldog
|
626
|
0
|
9
|
0
|
|
Orange
|
305
|
0
|
12
|
0
|
|
Tiscali
|
250
|
0
|
4
|
0
|
|
Homechoice
|
145
|
0
|
0
|
0
|
|
Pipex
|
51
|
0
|
0
|
0
|
|
Edge Telecom
|
21
|
0
|
0
|
0
|
|
Lumison
|
5
|
0
|
0
|
0
|
|
Zen Internet
|
4
|
0
|
0
|
0
|
|
Node4
|
4
|
0
|
0
|
0
|
|
WB Internet
|
1
|
0
|
0
|
0
|
Tabl 1 – Cyfnewidfeydd LLU yng
Nghymru a'r DU, www.samknows.com, Ionawr 2007
Mae cyrhaeddiad LLU yng Nghymru, fel mewn llawer rhan arall
o'r DU, yn debyg o gynyddu yn y dyfodol agos wrth i weithredyddion
LLU eraill roi eu cynlluniau ar waith:
Disgwylir i Easynet (sydd bellach yn eiddo i Sky) ddadfwndelu
15 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd 2006;
Disgwylir i Be (sydd bellach yn eiddo i O2) ddadfwndelu 23 o
gyfnewidfeydd rhwng Ionawr a Hydref 2007;
Bwriad Carphone Warehouse yw dadfwndelu 61 o gyfnewidfeydd.
Ond nid yw'n glir pryd y bydd hynny'n digwydd.
Cyrhaeddiad Band Eang drwy fodem Cebl
Amcangyfrif
ABEC yw nad
yw cyrhaeddiad cebl yng Nghymru wedi newid ers chwarter cyntaf
2005. Mae gan NTL, sef yr unig weithredydd cebl yn y DU ar ôl iddo
uno â Telewest, rwydwaith a allai gyrraedd o fewn 500m i
300,000-350,000 o gartrefi yng Nghymru.
Mae ffigurau Ovum yn awgrymu y gall rhyw 25.1% o gartrefi
Cymru gyrchu gwasanaethau band-eang drwy fodem cebl.
Cyrhaeddiad Band Eang Diwifr
Mynediad Diwifr Sefydlog
Nid oes ffigurau ar gyfer cyrhaeddiad cyffredinol gwasanaethau
band-eang Mynediad Diwifr Sefydlog (FWA) ar gael ar gyfer Cymru ar
hyn o bryd. Ond cynigir gwasanaethau FWA gan nifer cyfyngedig o
ddarparwyr 'niche' yng Nghymru.
Cynllun diwifr cymunedol yw rhwydwaith Diwifr Cymuned
Reynoldston, ac mae'n defnyddio cynhyrchion FWA 2.4GHz i gyflenwi'r
band eang i ryw 40% o'r cartrefi ym mhentref Reynoldston ar Benrhyn
Gŵyr.
Bydd Band Eang Cymru yn defnyddio safleoedd tŵr sydd wedi'u
darparu gan y TFL Group i hwyluso band eang FWA a mynediad i WiFi.
Ymhlith y safleoedd a gynorthwyir mae Llanhuadain, Rhos, Gardd
Fotanegol Cymru, Maes Awyr Abertawe ac ardaloedd yn siroedd Penfro,
Caerfyrddin a Cheredigion.
Mae rhwydwaith FWA 2.4GHz Gaia Technologies yn darparu'r band
eang i Ros-y-bol, Amlwch, Bae Colwyn, Hen Golwyn,
Llandrillo-yn-Rhos, Bodedern, y Fali, Caergybi, Bethesda,
Tre-garth, Llanfairfechan, Rhiwlas, Porthaethwy, Llandegfan,
Llandudno, Pen-y-sarn, Bangor a Bae Colwyn Uchaf. Mae'r rhwydwaith
5.8GHz sydd ganddynt, ac sydd newydd ei alluogi, yn cyrraedd
tiriogaeth ddaearyddol enfawr ac felly'n estyn cyrhaeddiad eu
cynhyrchion. Gaia Technologies a gyflenwodd y gwasanaethau
rhyngrwyd diwifr i'r ymwelwyr a'r arddangoswyr yn Eisteddfod
Genedlaethol 2006.
Nod Prosiect y Dyffryn Digidol (Deudraeth Cyf) yw darparu
mynediad cyflym a chyson i ardaloedd gwledig am bris sefydlog a
fforddiadwy. Mae'r prosiect, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Gaia
Technologies Cyf, yn targedu rhyw 1,500 o gartrefi yn ardaloedd
Blaenau Ffestiniog, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Talsarnau, Harlech
a Phorthmadog i gychwyn.
Gweithredir rhwydwaith FWA bach hefyd yn Lawrenny yn Sir
Benfro. Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o
bryd.
Mannau Poeth Wi-Fi
Amcangyfrif
ABEC yw bod
dros 500 o fannau poeth mynediad-cyhoeddus yng Nghymru.
Cyhoeddodd BT ym mis Mai 2006 y byddai'n darparu rhwydwaith o
fannau poeth Wi-Fi i'r cyfan o Ddinas Caerdydd. Caerdydd fydd un
o'r 12 dinas a gyrhaeddir gan Wi-Fi fel rhan o brosiect y Dinasoedd
Diwifr. Bwriedir cwblhau'r prosiect erbyn mis Mawrth 2008.
At hynny mae'r TFL Group wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu
mynediad Wi-Fi am ddim mewn nifer o leoedd yn Sir Benfro, gan
gynnwys Aberdaugleddau, Abergwaun, Neyland, Doc Penfro, Tyddewi ac
Arberth. Bwriedir lansio'r gwasanaeth ym mis Ionawr 2007, ac
Aberdaugleddau fydd yr ardal gyntaf i gael Porth Poeth Wi-Fi
Mynediad Agored.
3G
Ni chafwyd unrhyw wybodaeth newydd am gyrhaeddiad 3G dros y
chwarter.
Mae gwasanaethau band eang drwy loeren yn dal i fod ar gael i
fwy na 99% o'r holl safleoedd yng Nghymru.
Cyrhaeddiad Band-eang DSL
Band Eang ADSL (Anghymesur)
Amcangyfrif
ABEC yw mai
prin iawn iawn fu unrhyw gynnydd yng nghyrhaeddiad ADSL dros y
chwarter diwethaf. Mae gwasanaethau ADSL, felly, yn dal i fod ar
gael i ryw 99.7% o'r holl gartrefi yn y DU.
Band Eang SDSL (Cymesur)
Gan na chafwyd gwybod am unrhyw gynnydd yn argaeledd
gwasanaethau SDSL dros y chwarter, fe amcangyfrifir bod y
cyrhaeddiad yn dal i fod ychydig o dan 50% o gartrefi y DU.
ADSL2+
Mae UKOnline, Bulldog, Be a Sky i gyd yn cynnig gwasanaethau
ADSL2+ dros eu rhwydweithiau dadfwndeledig. Bydd argaeledd y
gwasanaethau hynny, sydd â chyfradd llwytho-i-lawr o 24Mbps ar y
mwyaf, yn cynyddu wrth i'r gwahanol weithredyddion raddol gyflwyno
LLU, ond bydd y cyflymderau a fydd ar gael i bob cartref yn dibynnu
ar hyd eu dolen leol unigol.
Cyrhaeddiad Band Eang drwy fodem Cebl
Amcangyfrif
ABEC yw nad
yw cyrhaeddiad cebl yng Nghymru wedi newid ers chwarter cyntaf
2005. Yn ôl NTL, mae ei rwydwaith yn mynd heibio i 12 miliwn a
rhagor o gartrefi a busnesau, ac felly mae gwasanaethau band-eang
drwy gebl ar gael i 50% o'r holl gartrefi ac 85% o'r holl fusnesau
yn y DU.
Cyrhaeddiad Band Eang drwy Loeren
Mae gwasanaethau band eang drwy loeren yn dal i fod ar gael i
fwy na 99% o'r safleoedd yn y DU.
Cyrhaeddiad Band Eang Diwifr
Ni chafwyd unrhyw wybodaeth bellach am wasanaethau mynediad
diwifr sefydlog (FWA) dros y chwarter. Yn ôl Ovum, yr oedd
gwasanaethau FWA ar gael i 11.2% o'r boblogaeth ar ddiwedd
2005.
Cyrhaeddiad Byd-eang
Ni chafwyd unrhyw wybodaeth newydd am gyrhaeddiad rhyngwladol
y band eang dros y chwarter.

Ffigur 2 - Y genhedlaeth gyntaf o
wasanaethau band-eang ffrydio-i-lawr yn y prif genhedloedd
band-eang fel canran o'r cartrefi, Analysys Consulting Cyfyngedig,
Ch1 2006
Yn ôl ffigurau Analysys Consulting Cyfyngedig, mae cyrhaeddiad
y gwasanaethau band-eang sylfaenol yng Nghymru a'r DU gyfan yn
cymharu'n ffafriol â'r hyn a geir ym mhrif genhedloedd band-eang y
byd, sef cyrhaeddiad o bron 100%.

Ffigur 3 - Yr ail genhedlaeth o
wasanaethau band-eang ffrydio-i-lawr yn y prif genhedloedd band
eang fel canran o'r cartrefi, Analysys Consulting Cyfyngedig, Ch1
2006
Er hynny, nid yw Cymru a'r DU gyfan yn cymharu'n ffafriol â
phrif genhedloedd band-eang y byd o ran argaeledd gwasanaeth lled
band uwch. Gallai llai na 10% o gartrefi y DU gyrchu gwasanaeth a
gynigiai isafswm o gyflymder llifo-i-lawr o 16Mbps yn ystod
chwarter cyntaf 2006, o'u cymharu â mwy nag 80% o'r cartrefi yn
Siapan a De Korea, a 50% o'r cartrefi yn Sweden.
Fforddiadwyedd
Mae ymchwil a wnaed gan
ABEC yn dangos mai'r un yw costau
gwasanaethau band-eang sylfaenol, i gwsmeriaid preswyl a
chwsmeriaid busnes, yng Nghymru ag yng ngweddill y DU. Er bod
isafswm gwariant y defnyddiwr yn awr yn prynu gwasanaethau 'hyd at'
8Mbps ym mhob ardal, mae'r cyflymderau gwasanaethu sydd ar gael i
fusnesau yng Nghymru yn is na'r rhai sydd ar gael yn Llundain a De
Ddwyrain Lloegr.
|
|
Defnyddiwr:
|
Busnes:
|
|
|
Isafswm
|
Uchafswm
|
Isafswm
|
Uchafswm
|
|
|
£
|
Cyflymder
|
£
|
Cyflymder
|
£
|
Cyflymder
|
£
|
Cyflymder
|
|
Llundain
|
9.75
|
8Mbps
|
14.00
|
24Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
75.00
|
24Mbps
|
|
De
Ddwyrain
Lloegr
|
9.75
|
8Mbps
|
14.00
|
24Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
75.00
|
24Mbps
|
|
Dinasoedd Cymru
|
9.75
|
8Mbps
|
14.75
|
16Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
45.00
|
16Mbps
|
|
Trefi Cymru
|
9.99
|
8Mbps
|
9.99
|
8Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
|
Pentrefi Cymru
|
9.99
|
8Mbps
|
9.99
|
8Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
13.61
|
8Mbps
|
Tabl 2 - Isafswm/Uchafswm y
Gwariant Misol ar Wasanaethau Busnes a Defnyddiwr, ABEC, Ch3
2006
Nid yw'r cyflymder uchaf sydd ar gael yn y farchnad
ddefnyddwyr (h.y. 24Mbps) ar gael i gwsmeriaid busnes na
chwsmeriaid cartref yng Nghymru, ac nid yw ar gael ond i nifer
cyfyngedig o gyfnewidfeydd yn y DU. Y cyflymder uchaf sydd ar gael
yng Nghymru yw gwasanaeth 16Mbps a gyflenwir gan Bulldog, ond nid
yw hwnnw ond ar gael mewn naw cyfnewidfa yng Nghymru, sef yn
ardaloedd Caerdydd a Wrecsam.
Mae ymchwil Point Topic i dariffau band-eang ledled y byd wedi
dangos bod cost gwasanaethau FTTx yn is na rhai'r gwasanaethau cebl
yn ystod trydydd chwarter 2006. Gostyngodd tariffau FTTx 12% i
US$28.1, ond ni ostyngodd cyfartaledd rhent misol gwasanaethau
modem cebl ond 2.1% i ryw US$29. Ond DSL yw'r dechnoleg rataf i'w
chyrchu o hyd gan fod cyfartaledd y rhent misol yn llai na US$25,
sef gostyngiad o 2.5% dros y chwarter.
Treiddiad
Nid oedd gwybodaeth am y niferoedd a ddechreuodd ddefnyddio'r
band eang ar gael yn benodol ar gyfer Cymru yn ystod y chwarter,
ond ar sail ffigurau'r DU fe amcangyfrifir bod gan 10.7% o'r holl
gartrefi gysylltiad band-eang drwy gebl ym mis Medi 2006. Mae
ABEC hefyd yn amcangyfrif bod
33.2% o linellau daear BT yng Nghymru yn defnyddio band eang DSL ym
mis Medi 2006. Amcangyfrif
ABEC, felly, yw bod cysylltiad
band-eang gan ryw 44% o'r holl gartrefi yng Nghymru ym mis Medi
2006, ffigur sydd wedi codi o 41.5% ym mis Mehefin 2006. Mae
hynny'n cyfateb i 20.5 o gysylltiadau band-eang am bob 100 o
drigolion Cymru
.

Ffigur 4 - Manteisio ar y band eang, yn ôl y
boblogaeth, Analysys Consulting Cyfyngedig ac
ABEC,
Medi 2006
Mae Cymru a'r DU gyfan yn cymharu'n ffafriol â llawer o brif
economïau'r byd, megis Siapan, Ffrainc, yr Almaen ac UDA, o ran y
ganran sy'n defnyddio'r band eang. Ond mae'r ffigurau am Gymru a'r
DU yn dal i fod gryn dipyn ar ei hôl hi o'u cymharu â chenhedloedd
band-eang blaenllaw. Yn ystod y chwarter diwethaf, yn ôl Analysys
Consulting Cyfyngedig, Denmarc oedd y wlad gyntaf erioed i fod â
thros 30 o gysylltiadau band-eang am bob 100 o'i phoblogaeth. Mae
cyfradd dechrau defnyddio'r band eang yno, felly, bron unwaith a
hanner cymaint ag yng Nghymru a'r DU gyfan.
Band Eang xDSL
Amcangyfrif
ABEC yw bod y
niferoedd sydd wedi dechrau defnyddio xDSL wedi dal i gynyddu dros
y chwarter diwethaf ac, erbyn diwedd Mehefin 2006, yr oedd
cysylltiad band-eang ADSL gan ryw 33% o'r cartrefi a'r busnesau
hynny yng Nghymru a allai gyrchu cyfnewidfa a oedd wedi'i galluogi
i gymryd ADSL. Hynny yw, yr oedd cynnydd o 11% wedi bod yn y
niferoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru a oedd wedi dechrau
defnyddio'r band eang ers Medi 2005.
|
|
Y DU
|
CYMRU
|
|
|
Cysylltiadau band-eang ADSL
|
Cysylltiadau band-eang ADSL
|
Y ganran o gartrefi a busnesau [2]
|
Y ganran o'r boblogaeth [3]
|
|
Rhagfyr 04
|
|
|
14.9%
|
6.9%
|
|
Mawrth 05
|
5m 3
|
|
17.5%
|
8.2%
|
|
Mehefin 05
|
5.6m 3
|
250,000 4
|
17.9%
|
8.3%
|
|
Medi 05
|
|
302,000 5
|
21.6%
|
10.1%
|
|
Rhagfyr 05
|
6.9m 6
|
370,000 5
|
26.3%
|
12.3%
|
|
Mawrth 06
|
7.9m 6
|
395,000 5
|
28.2%
|
13.2%
|
|
Mehefin 06
|
8.7m 6
|
435,000 5
|
31.1%
|
14.5%
|
|
Medi 06
|
9.3m 6
|
465,000 5
|
33.2%
|
15.5%
|
| |
|
|
|
|
|
Tabl 3 - Y band eang ADSL yng
Nghymru, ABEC, Ch4 2004 – Ch3 2006
Band Eang drwy gebl
Amcangyfrif
ABEC yw bod y
niferoedd sy'n dechrau defnyddio'r band eang drwy gebl wedi dal i
gynyddu a bod rhyw 150,000 o gysylltiadau erbyn hyn. Mae hynny'n
cyfateb i ryw 11% o'r holl gartrefi.
|
|
Y DU
|
CYMRU
|
|
|
Nifer y
llinellau cebl
|
Cysylltiadau
band-eang drwy gebl
|
Y ganran o
gartrefi
|
Y ganran o'r boblogaeth
|
|
Rhagfyr 04
|
|
110,000
|
7.8%
|
3.7%
|
|
Mawrth 05
|
2.1m1
|
105,000
|
7.5%
|
3.5%
|
|
Mehefin 05
|
2.3m1
|
115,000
|
8.2%
|
3.8%
|
|
Medi 05
|
|
125,000
|
8.9%
|
4.2%
|
|
Rhagfyr 05
|
|
130,000
|
9.3%
|
4.3%
|
|
Mawrth 06
|
2.8m3
|
140,000
|
10.0%
|
4.7%
|
|
Mehefin 06
|
2.9m3
|
145,000
|
10.4%
|
4.8%
|
|
Medi 06
|
3.0m9
|
150,000
|
10.7%
|
5.0%
|
Tabl 4 – Treiddiad y band eang drwy
gebl yng Nghymru, ABEC, Ch4 2004-Ch3 2006
Yn ôl Ofcom, yr oedd rhyw 12.2 miliwn o gysylltiadau band-eang
yn y DU ddiwedd Medi 2006. Felly, mae rhyw 43% o'r holl gartrefi a
busnesau yn y DU yn tanysgrifio i wasanaeth band-eang.
Ffigur 5 – Tanysgrifiadau ar gyfer
cysylltiadau deialu a band-eang â'r Rhyngrwyd, ONS, Ch3
2006
Yn ôl ffigurau'r ONS, yr oedd cysylltiadau band-eang yn cyfrif
am fwy na thri-chwarter yr holl gysylltiadau â'r rhyngrwyd ar
ddiwedd Medi 2006. Gan y caiff y ffigurau a roir gan yr ONS eu
hadolygu a'u diwygio'n rheolaidd i gynyddu eu cywirdeb hyd yr
eithaf, nid ydynt yn cydberthyn yn union â'r rhai a ddangoswyd mewn
adroddiadau meincnodi blaenorol.
Band Eang xDSL
Dywedodd BT ym mis Tachwedd 2006 fod ganddo 9.3 miliwn o
gysylltiadau band-eang cyfanwerth ar ddiwedd Medi 2006. Yr oedd y
ffigur hwnnw'n cynnwys 838,000 o linellau dolen-leol sydd wedi'u
dadfwndelu. Gwelwyd cynnydd o 2.8 miliwn o gysylltiadau o flwyddyn
i flwyddyn a 626,000 o gysylltiadau dros y chwarter.
LLU

Ffigur 6 - Nifer y llinellau LLU yn
y DU, OTA, Medi 2006
Yn ôl ffigurau Swyddfa'r Dyfarnwr Telathrebu (yr OTA), yr oedd
rhyw 850,000 o linellau dadfwndeledig yn y DU ddiwedd Medi 2006,
sef cynnydd o bron 730,000 o linellau dros y flwyddyn a 270,000 o
linellau dros y chwarter. Mae'r ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar
gan yr OTA yn dangos bod cyfanswm y llinellau dadfwndeledig bellach
dros filiwn a bod yr OTA, felly, wedi cyrraedd ei tharged sylfaenol
o sicrhau miliwn o linellau dadfwndeledig erbyn diwedd 2006.
Band Eang drwy gebl
Dywedodd NTL ym mis Tachwedd 2006 fod ganddo bron 3 miliwn o
danysgrifwyr band-eang ar ddiwedd Medi 2006.
Band Eang drwy Loeren a Band Eang Diwifr
Ni chafwyd gwybod am unrhyw newid yn y niferoedd a ddechreuodd
ddefnyddio'r band eang diwifr a'r band eang drwy loeren yn ystod y
chwarter yn y DU. Amcangyfrifir bod nifer y tanysgrifwyr diwifr yn
dal i fod yn 8,000, a bod nifer y tanysgrifwyr lloeren yn dal i fod
yn 3,000.
Mewn arolwg a wnaed ar ran AOL yn Awst 2006 gan Populus, cwmni
sy'n ymchwilio i ymddygiad pobl, fe ddatgelwyd y gall dros draean
(35%) o'r boblogaeth ar-lein yn y DU gyrchu cysylltiad diwifr. Mae
gan y mwyafrif ohonynt (84%) fynediad diwifr gartref, a bydd 12% yn
ei ddefnyddio yn y swyddfa. Mae'r gweddill yn defnyddio mannau
poeth y gall y cyhoedd gael mynediad iddynt. Ar ben hynny,
dechreuodd tri-chwarter y defnyddwyr diwifr ei ddefnyddio yn ystod
y flwyddyn ddiwethaf a dechreuodd 39% wneud hynny yn ystod y chwe
mis diwethaf. Dyna ddangos y twf cyflym sydd wedi bod yn y
niferoedd yn ddiweddar. Credai'r mwyafrif o'r bobl a arolygwyd
(63%) mai rhyddid y diwifr oedd y fantais fwyaf, er i bron un o bob
pedwar ohonynt (23%) deimlo mai'r brif fantais oedd ei fod yn fwy
taclus na chysylltiad drwy gebl.

Ffigur 7 - Treiddiad 3G, Analysys
Consulting Cyfyngedig, 2005
Er bod hyd a lled treiddiad y cysylltiadau symudol 3G yn y DU
yn debyg i'r hyn a geir yn Ffrainc a'r Almaen, sef rhyw 7.6% o'r
boblogaeth, mae hynny'n gosod ffigurau'r DU ymhell ar ôl y rhai a
geir yn y cenhedloedd 3G mwyaf blaenllaw, sef Siapan a'r Eidal. Mae
cyfran 3G o'r farchnad symudol yn arbennig o uchel yn Siapan, sef
32%, o'i chymharu â dim ond 7% yn y DU.
Cyfran y Prif Ddarparwyr o'r Farchnad Gyfanwerth

Ffigur 8 - Y newidiadau yn y
cyfrannau o'r farchnad band-eang yn y DU, Analysys Consulting
Cyfyngedig, 2001 - 2006
Mae NTL a BT Wholesale ill dau wedi gweld eu cyfrannau o'r
farchnad band-eang gyfanwerth yn gostwng ychydig bach dros y
chwarter, a hynny'n bennaf oherwydd y cynnydd yng nghyfran y
gweithredyddion LLU. Mae'r rheiny, gyda'i gilydd, wedi gweld eu
cyfran yn codi o 5% ddiwedd Mehefin 2006 i bron 7% ddiwedd Medi
2006. Mae'r parhad yn nhwf LLU yn debyg o weld y duedd honno'n
parhau yn y dyfodol agos.

Ffigur 9 - Cyfran darparwyr
gwasanaeth band-eang y DU o'r farchnad, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Ch3 2006
Er gwaetha'r gostyngiad bach bach yn ei gyfran o'r farchnad,
mae BT yn dal i fod yn brif ddarparwr cyfanwerth, o bell ffordd, ym
marchnad y DU. Gostyngodd cyfran BT o'r farchnad DSL o 92.8%
ddiwedd Mehefin 2006 i 90.4% ddiwedd Medi 2006. Gan i gyfran NTL
o'r farchnad ostwng ddwywaith mor gyflym, yr awgrym yw mai'r sector
cebl sydd fwyaf ar ei golled yn y frwydr am gyfran o'r farchnad â'r
gweithredyddion LLU.

Ffigur 10 - Cyfran y darparwyr
presennol o'r farchnad gyfanwerthu band-eang yng ngwledydd
Gorllewin Ewrop, Analysys Consulting Cyfyngedig, 2004 -
2006
Mae cyfran BT o'r farchnad gyfanwerth yn dal i fod yn gymharol
fawr o'i chymharu â chyfrannau'r prif ddarparwyr eraill yng
Ngorllewin Ewrop. Ond wrth i weithredyddion LLU gynyddu cyrhaeddiad
eu rhwydweithiau a thrwy hynny gynyddu'r gystadleuaeth gyfanwerth,
mae cyfran y prif ddarparwr o'r farchnad yn debyg o leihau. Yn
llawer o'r gwledydd lle mae cyfran y prif ddarparwr yn is, y duedd
yw i'r lefelau treiddio fod yn uwch, ond yn y gwledydd lle mae gan
y prif ddarparwr gyfran fawr iawn o'r farchnad, y duedd yw i'r
lefelau treiddio fod yn is, ond rhaid cofio bod ffactorau eraill
hefyd yn effeithio ar y sefyllfa hon.
Ffigur 11 - Cyfran fân-werthu prif
ddarparwyr gwasanaethau Rhyngrwyd y DU, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Medi 2006
Ers iddo ymuno â Telewest, NTL sydd wedi bod yn ISP mwyaf y DU
o fis Mawrth 2006 ymlaen. Ond dywed adroddiad gan Point Topic ym
mis Medi 2006 ar gyfran ISPs y DU o'r farchnad drwy ail chwarter
2006 fod cyfyngiadau daearyddol wedi llesteirio gallu'r
gweithredydd cebl i ychwanegu tanysgrifwyr band-eang newydd. O
ganlyniad, mae twf band eang NTL wedi arafu cryn dipyn. Os pery
hynny, yn ôl Point Topic, bydd BT yn adennill ei le fel y prif ISP
mân-werthu mwyaf blaenllaw erbyn diwedd 2006 am fod ganddo ryw 25%
o'r holl danysgrifiadau i'r band eang yn y DU.
Ffigur 12 – Cyfran y prif
ddarparwyr presennol o'r farchnad fân-werthu band-eang yng
ngwledydd Gorllewin Ewrop, Analysys Consulting Cyfyngedig, 2004 –
2006
Er bod gan BT gyfran enfawr o'r farchnad gyfanwerth, nid yw ei
safle yn y farchnad fân-werthu mor gryf. Yn wir, cyfran y prif
ddarparwr o'r farchnad band-eang fân-werthu yn y DU yw'r isaf yng
Ngorllewin Ewrop, a hynny oherwydd y nifer fawr o ISPs o bwys a'r
farchnad hynod gystadleuol sy'n deillio o hynny. Wrth i'r
gweithredyddion LLU gynyddu cyrhaeddiad eu gwasanaethau
dadfwndeledig, y disgwyl yw i'r farchnad fân-werthu hynod
gystadleuol droi'n farchnad gyfanwerth fwyfwy cystadleuol.
Treiddiad y band eang yng ngweddill y byd
Yn ôl Point Topic, yr oedd cyfanswm o 263.8 miliwn o linellau
band-eang yn y byd erbyn diwedd Medi 2006, sef cynnydd o 16.9
miliwn o linellau yn ystod y chwarter. Y twf blynyddol oedd 33.3%,
sy'n gryn ostyngiad o'i gymharu â'r twf o 41.5% rhwng ail chwarter
2004 ac ail chwarter 2005.
Ffigur 13 - Treiddiad y band eang
yn ôl nifer y cartrefi yn y 'deg uchaf' o'r gwledydd band-eang,
Point Topic, Medi 2006
Mae De Korea'n dal i arwain y byd o ran treiddiad y band eang
yn ôl nifer y cartrefi, ac erbyn hyn mae ganddi dros 90 o
gysylltiadau band-eang am bob 100 o gartrefi. Denmarc, yr
Iseldiroedd a'r Swistir sydd ar y blaen yng Ngorllewin Ewrop am fod
ganddynt rhwng 60 a 70 o gysylltiadau band-eang am bob 100 o
gartrefi. Mae'r ffigurau hynny'n awgrymu bod Cymru, sydd â rhyw 44
o gysylltiadau band-eang am bob 100 o gartrefi, yn dal i fod â'r
potensial i sicrhau twf pellach yn nifer y cysylltiadau band-eang
newydd.
Mae cwmni dadansoddi Arthur.D.Little wedi honni y bydd y
mwyafrif o wledydd Ewrop wedi cyrraedd cyfradd dreiddio band-eang o
80-90% o gartrefi erbyn 2012. Rhagwelai'r cwmni hefyd y bydd
cynnwys a gwasanaethau'n fwyfwy pwysig wrth i weithredyddion ymladd
am gwsmeriaid, a hynny am fod y band eang yn Ewrop yn cyrraedd y
pwynt lle nad oes modd cynyddu rhagor arno. Ar ben hynny, bydd y
genhedlaeth nesaf o rwydweithiau, sy'n cynnig lled band uchel a all
gynnal gwasanaethau band-eang newydd, yn fwyfwy pwysig. Yn ôl y
cwmni dadansoddi, y rhwydweithiau sy'n debyg o fod drechaf yw VDSL,
cebl, a ffibr i'r cartref.
Y gwasanaethau band-eang a fydd yn rhagori ar rai'r
genhedlaeth nesaf o rwydweithiau fydd gwasanaethau fideo pen-uchaf
fel ffrydio fideo digidol diffiniad-uchel a fideo ar alw, a
chydgyfeirio sefydlog-symudol.
Y Defnydd o'r Band Eang
Ffigur 14 - Y
% o bobl a arolygwyd ac a atebodd y cwestiwn: Pa mor aml y byddwch
chi'n gwylio fideo ar-lein/ar ddyfeisiau symudol? ICM/BBC, Tachwedd
2006
Yn ôl arolwg gan ICM, mae gwylio ar-lein a gwylio ar fideo
symudol ar gynnydd yn y DU. Dywedodd 9% o'r boblogaeth eu bod yn
gwneud hynny'n rheolaidd, 13% arall eu bod yn gwylio ambell waith,
a 10% arall eto eu bod yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y flwyddyn
sydd i ddod. Ar ben hynny, dywedodd rhyw 43% o'r rhai sy'n gwylio
fideo o'r rhyngrwyd neu ar ddyfais symudol o leiaf unwaith yr
wythnos eu bod hwy, felly, yn gwylio llai o deledu cyffredin. Er
hynny, dywedodd dau o bob tri o'r rhai a arolygwyd nad oeddent yn
gwylio fideo ar-lein ac na allent rag-weld y byddent yn gwneud
hynny yn ystod y 12 mis nesaf. Awgryma hyn fod cryn rwystr o hyd
rhag gwylio fideo ar-lein a thrwy ddyfeisiau symudol.

Ffigur 15 - Y % o'r grwpiau oedran
sy'n gwylio fideo ar-lein/ar ddyfeisiau symudol unwaith a rhagor yr
wythnos, ICM/BBC, Tachwedd 2006
Mae fideo ar-lein ac ar ddyfeisiau symudol yn llawer mwy
poblogaidd ymysg y grwpiau oedran iau. Dywedodd 28% o'r rhai 16-24
oed eu bod yn gwylio fideo ar-lein fwy nag unwaith yr wythnos. Ar
gyfartaledd, yr oedd 10% o'r rhai 25-44 oed yn defnyddio fideo
ar-lein yn rheolaidd, ond syrthiai'r ffigur hwnnw i ddim ond 4% yn
achos y rhai dros 45. Ar ben hynny, mae Ofcom wedi dweud bod nifer
y rhai 16-24 oed sy'n gwylio'r teledu ar ddiwrnod cyffredin wedi
gostwng 2.9% rhwng 2003 a 2005. Mae'r ystadegau hyn yn arwydd clir
o duedd gynyddol ymhlith y genhedlaeth iau i newid eu dull o
ddefnyddio'r cyfryngau a chael adloniant.
Defnyddio Dyfeisiau Symudol

Ffigur 16 - Y ganran o oedolion
sydd wedi defnyddio dyfeisiau diwifr i gyrchu newyddion a
gwybodaeth ar-lein, Ipsos, 2005 (*dynodir sampl drefol yn
unig)
O ran mynediad ar ddyfeisiau symudol i'r rhyngrwyd, yr oedd
cyfran uchel o'r boblogaeth mewn oed yn y DU yn cyrchu newyddion a
gwybodaeth ar-lein drwy gyfrwng dyfeisiau diwifr yn 2005. Yn ôl
arolwg gan Ipsos, yr oedd 29% o'r holl oedolion a arolygwyd yn
defnyddio dyfais ddiwifr i gyrchu newyddion a gwybodaeth ar-lein.
Gosodai hynny'r DU yn ail yn unig i Siapan (40%) o'r holl wledydd a
astudiwyd.
Cymwysiadau a Gyrwyr
VoIP
Ffigur 17 – Treiddiad VoIP y talwyd
amdano, fel canran o'r boblogaeth, Ofcom/OPTA/Rheoleiddwyr
Cenedlaethol/IDATE/Gweithredyddion, Rhagfyr
2005
O'r holl wledydd yr ymchwiliwyd iddynt gan Ofcom, gan y DU y
mae un o'r lefelau treiddio isaf o ran VoIP y telir amdano. Does
ond 0.4 o ddefnyddwyr ohono am bob 100 o'r boblogaeth. Ar y llaw
arall, mae cyfradd mabwysiadu VoIP yn uchel iawn yn Siapan (9%) a
Ffrainc (5.4%). Ond awgrym Ofcom yw bod nifer y bobl yn y DU sy'n
defnyddio VoIP, gan gynnwys ei ddefnyddio i wneud galwadau am ddim
o gyfrifiadur personol i gyfrifiadur personol, gryn dipyn yn uwch,
ac amcangyfrifir bod 1.8 miliwn o ddefnyddwyr ohono yn Mai
2006.
Fideo ar Alw
Yn ystod y chwarter, fe lansiodd Channel 4 wasanaeth ar-alw
o'r enw '4 on demand' neu '4oD' sy'n fodd i'r gwylwyr ddefnyddio
VoD i wylio'u hoff raglenni ar-lein. Gall gwylwyr lwytho i lawr y
mwyafrif o raglenni cyfredol y sianel, gan gynnwys sioeau brodorol
a gomisiynwyd ers Mehefin 2006, am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu
darlledu, neu ddewis rhaglenni o'i harchifau. Caiff pob rhaglen ei
dileu'n awtomatig o gyfrifiaduron y defnyddwyr 48 awr ar ôl iddynt
ddechrau ei gwylio. Y tâl cychwynnol am y gwasanaeth yw 99c y sioe,
a'r bwriad yw cyflwyno tanysgrifiadau misol yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Channel 4 wedi honni, felly, mai hi yw'r darlledwr mawr cyntaf
yn y byd i gynnig ei rhaglenni brodorol ar alw. Mae'r gwasanaeth
4oD ar gael ar deledu cebl a chyfrifiaduron, ond defnyddwyr
cyfrifiaduron personol sy'n rhedeg Windows XP a Media Player 10 ac
uwchlaw hynny yw'r unig rai sy'n gallu defnyddio'r
gwasanaeth.
Ar ben hynny, mae Channel 5 wedi lansio'i gwasanaeth
llwytho-i-lawr ei hun, sef 'fivedownload', sy'n fodd i'r defnyddwyr
lwytho i lawr nifer cyfyngedig o raglenni'r sianel i'w gwylio. Gall
y gwylwyr weld y rhaglenni y maent wedi'u llwytho i lawr, a hynny
am gynifer o weithiau ag y dymunant am hyd at 14 diwrnod ar ôl eu
llwytho i lawr, ac mae pob pennod ar gael am £1.49. Mae'r
gwasanaeth ar gael i holl ddefnyddwyr y band eang sy'n rhedeg
Windows Media Player 9 ac uwchlaw hynny.
Mae gan wefan BBC Broadband, hefyd, amrywiaeth o gynnwys
ar-lein sy'n fodd i'r gwylwyr weld rhaglenni y maent wedi'u
colli.
IPTV
Gan fod IPTV yn gymhwysiad cymharol newydd, isel iawn hyd yn
hyn yw lefelau'r defnyddio arno ar hyd a lled y byd. O'r gwledydd a
astudiwyd gan Ofcom, Sbaen a Ffrainc sydd â'r lefelau uchaf o
fanteisio arno hyd yn hyn, a'r DU sydd ag un o'r lefelau isaf. Barn
y dadansoddwyr ymchwil, Jupiter Research, yw mai gwasanaeth 'niche'
fydd IPTV, hyd yn oed erbyn 2011, a rhagwelant na fydd ond rhyw 6%
o'r cartrefi yn Ewrop wedi dechrau ei ddefnyddio erbyn yr adeg
honno, o'i gymharu â 2% yn 2006.
Ffigur 18 - Treiddiad IPTV,
Ofcom/Gweithredyddion/IDATE, Rhagfyr 2005
Ar ben hynny, mae rhagolygon gan Ovum fel petaent yn cyd-fynd
â'r gred mai cynnyrch 'niche' fydd IPTV am yr ychydig flynyddoedd
nesaf. Dywedant eu bod yn disgwyl i nifer y tanysgrifwyr i gyrraedd
y nifer cymedrol o 29.5 miliwn ledled y byd yn 2010, o'i gymharu â
5 miliwn yn 2006.
Gall y defnyddio ar IPTV gynyddu yn y DU wedi i BT lansio'i
wasanaeth IPTV newydd, BT Vision. Caiff y tanysgrifwyr i'r
gwasanaeth newydd hwnnw fynediad i sianelau teledu digidol Freeview
yn ogystal â chynnwys ar-alw fel ffilmiau, cerddoriaeth, chwaraeon,
rhaglenni plant a rhaglenni teledu poblogaidd. Cyflwynir y
gwasanaeth drwy gyfrwng blwch ar ben y set deledu. Ynddo bydd
gyriant caled o 160GB a fydd yn fodd i'r defnyddwyr recordio hyd at
80 awr o deledu. Mae'r blwch hefyd yn caniatáu i bobl recordio ac
oedi rhaglenni teledu byw, a'u rhedeg yn ôl.
Er hynny, un o'r prif ystyriaethau sy'n rhwystro IPTV rhag
tyfu yw bod rhaid wrth lawer o led band i anfon y signalau teledu
dros y rhyngrwyd, ac ni all isadeiledd cyfredol y dolenni lleol
ddarparu'r lled band angenrheidiol i'r mwyafrif o'r defnyddwyr.
Bydd y broblem honno'n dwysáu wrth i ddefnyddwyr fynnu cael
rhaglenni diffiniad-uchel sy'n gofyn lled band llawer mwy na
theledu arferol. Ond fe ellid goresgyn y rhwystr hwnnw drwy redeg
ceblau ffibr-optig i'r cartref neu ddefnyddio uwch-gysylltiadau
cyflymder-mawr, fel VDSL, a allai oresgyn cyfyngiadau'r isadeiledd
presennol. Ond mae'r cysylltiadau hynny'n ddrud i'w gosod a bydd
gweithredyddion yn ei chael hi'n anodd llunio achos busnes a fydd
yn peri bod gosod y mathau hynny o gysylltiadau yn hyfyw yn
economaidd.
3G
Lansiodd y gweithredydd symudol '3' wasanaeth data
ffi-sefydlog ar gyfer ffonau symudol ar 1af Rhagfyr
2006. Bydd y gwasanaeth, a elwir yn 'X-series', yn fodd i
ddefnyddio data di-gyfyngiad, yn amodol ar bolisi defnydd teg, ar
gyfer cymwysiadau a gwasanaethau fel pori'r we, ffonio dros VoIP,
teledu symudol, cael mynediad o bell i ben desg cyfrifiadur
personol, e-bostio a negeseua ar amrantiad. Mae rhestr '3' o
bartneriaid ar gyfer yr X-series yn cynnwys: Skype, Sling Media,
Yahoo, Nokia, Google, eBay, MSN Microsoft, Orb a Sony Ericsson.
Cost y tanysgrifiad sylfaenol i'r X-series yw £5 y mis yn ogystal â
chontract ffôn symudol, a chodir £5 y mis yn ychwanegol am
wasanaethau Orb a Slingbox.
Teledu Symudol
Dywed y cwmni ymchwil eMarketer fod 44.5 miliwn o danysgrifwyr
3G ledled y byd yn gwylio teledu symudol ar eu ffôn, a rhagwelant y
bydd y nifer hwnnw'n dyblu bob blwyddyn ac yn cyrraedd 520.9 miliwn
erbyn 2009. Ond er gwaetha'r twf hwnnw, mae'r dadansoddwyr Informa
Telecoms and Mobile yn rhag-weld na fydd ond 10% o'r holl setiau
llaw a werthir ledled y byd erbyn 2011 yn gallu derbyn darllediadau
teledu.
Rhwystr posibl i deledu dros 3G yw'r ffaith mai cyfyngedig yw
gallu'r rhwydweithiau 3G. O fewn cell 3G, rhagwelir y byddai rhyw
10-15 o ddefnyddwyr teledu yn defnyddio'r holl led band a fyddai ar
gael ac nid yw 3G felly, yn ateb y gellir ei ehangu i ddarparu
teledu symudol i'r farchnad dorfol. O ganlyniad, gellir ystyried
bod technolegau amgen, fel HSDPA (a elwir hefyd yn 3.5G) a WiMAX,
yn atebion mwy hyfyw ar gyfer dosbarthu gwasanaethau teledu symudol
ar raddfa fawr.
Yn ôl Point Topic, DSL yw'r brif dechnoleg yn y farchnad
band-eang o hyd gan iddi fod â chyfanswm o 65.6% o gyfran o'r
farchnad fyd-eang ym mis Medi 2006. Ond yn sgil y galw cynyddol am
led band, mae FTTx yn fwyfwy poblogaidd: fe dyfodd dros 12.6% yn
ystod y chwarter, sef bron dwywaith mor gyflym â modem cebl, a
chyrraedd 27 miliwn o danysgrifwyr erbyn diwedd trydydd chwarter
2006. Mae twf FTTx yn arbennig o amlwg mewn rhanbarthau fel Asia'r
Môr Tawel a Gogledd America, lle mae twf chwarterol FTTx ymhell
dros 20%, ac mae cyfanswm y tanysgrifwyr FTTx yn rhanbarth Asia'r
Môr Tawel 320,000 yn fwy na nifer y tanysgrifwyr i fodem cebl.
Gwledydd fel Siapan a De Korea sy'n ysgogi'r twf mewn ffibr am fod
y mwyafrif o'r tanysgrifwyr yno'n byw mewn blociau uchel o fflatiau
lle mae'n haws rhoi FTTB ar waith.
Yn y DU, nid yw FTTx eto wedi cael effaith ar y farchnad
band-eang am nad oes unrhyw wasanaeth preswyl masnachol ar gael. Yn
absenoldeb FTTx ac oherwydd cyfyngiadau daearyddol y rhwydweithiau
cebl, mae DSL yn arbennig o flaenllaw yn y DU: yr oedd ganddi
gyfran o 75.8% o gyfanswm y farchnad band-eang ym mis Medi
2006.
Bydd yr angen am led band uwch i gynnal gwasanaethau band-eang
datblygedig newydd, fel chwarae gemau, IPTV, fideo-ar-alw a
gwasanaethau teledu diffiniad-uchel, yn helpu i gynyddu'r galw am
gynnydd yn y farchnad FTTH.
Yn y DU, ar y llaw arall, mae BT wedi cyhoeddi iddynt roi'r
gorau i dreialu FTTH (ffibr-i'r-cartref) gan ddweud y bydd ADSL2+,
a gyflwynir yr un pryd â 21CN, yn darparu digon o led band yn ei
lle. Yr un pryd ag y dechreuodd gynllunio 21CN, cychwynnodd BT
dreialon lle darperir mynediad ffibr i gartrefi a busnesau. Pe
defnyddid y cyfrwng hwnnw i gyrraedd y farchnad dorfol, byddai wedi
rhoi mynediad i led band hyd at 100Mbps i adeiladau'r defnyddwyr
ledled y DU. Ar ôl gweithio'n helaeth ar brofi a defnyddio ffibr yn
weithredol i'r cabinet ac FTTH, ni fydd BT mwyach yn cynnig
ffibr-i'r-cartref neu ffibr-i'r-busnes ond os bydd cludwyr eraill
yn mynnu hynny. O ran gosod ffibr yn helaeth, dywed BT nad ydynt
eto wedi gweld achos busnes a fyddai'n talu am hynny.
Yn ôl ymchwil strategaeth a gomisiynwyd gan UPC, y duedd i
weithredyddion band-eang yn Ewrop yn y dyfodol fydd i farchnad y
band eang droi, yn y pen draw, yn frwydr dros y defnyddiwr. Ni fydd
yn frwydr dros fynediad, ond dros y cynnwys a'r gwasanaethau. Ar
ben hynny, bydd gwasanaethau aml-chwarae yn esblygu o ran eu
hansawdd, eu hargaeledd, eu cydgyfeiriant a'u symudedd, a hwy fydd
yn bennaf cyfrifol am gynyddu'r gofyn am led band uwch. Y disgwyl
yw y bydd gwasanaethau band-eang arloesol, ffrydio fideo digidol
diffiniad-uchel a fideo-ar-alw, a chydgyfeiriant sefydlog-symudol,
yn cynyddu.
Casgliadau
Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae'r nifer sy'n dechrau
defnyddio gwasanaethau band-eang yng Nghymru yn dal i gynyddu.
Erbyn mis Medi 2006 yr oedd rhyw 44% o'r holl gartrefi yng Nghymru
yn tanysgrifio i wasanaeth band-eang, ffigur a oedd wedi codi o
41.5% ym Mehefin 2006. Mae 44% yn cyfateb i 20.5 o gysylltiadau
band eang am bob 100 o drigolion Cymru.
O ran cyrhaeddiad, mae argaeledd gwasanaethau band-eang
sylfaenol yn dal i dynnu at 100% oherwydd prosiect RIBS Uned Band
Eang Cymru. Ar ben hynny, mae argaeledd gwasanaethau â lled band
uwch hefyd yn cynyddu wrth i ragor o weithredyddion LLU ddechrau
buddsoddi mewn defnyddio rhwydweithiau ADSL2+ yng Nghymru a chynnig
gwasanaethau sy'n darparu hyd at 24Mbps. Ar ddiwedd y chwarter, yr
oedd tri gweithredydd LLU yn weithgar ym marchnad band-eang Cymru
ac mae tri arall wedi cyhoeddi eu bwriad i gystadlu yn y farchnad
honno cyn hir. Ond er gwaetha'r cynnydd hwnnw, Cymru, o hyd, yw un
o'r rhanbarthau tlotaf yn y DU o ran cyrhaeddiad LLU. Ar ddiwedd
mis Hydref 2006, dim ond 23% o holl gartrefi Cymru a oedd wedi'u
cysylltu â chyfnewidfa ddadfwndeledig, o'i gymharu â 99.9% o'r holl
gartrefi yn Llundain ac 85% o'r holl gartrefi yng Ngogledd Orllewin
Lloegr, sef y rhanbarthau â'r cyrhaeddiad helaethaf. Er y bydd
buddsoddi cynyddol gan weithredyddion LLU yn cynyddu cyrhaeddiad
ADSL2+ yng Nghymru, nid yw'n debyg y gwelir lefelau helaeth o
gyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd prinnach eu poblogaeth, tan
i BT gyflwyno gwasanaethau ADSL2+ wrth weithredu eu rhaglen 21CN.
Er hynny, nid yw'r gwasanaethau â lled band uwch yn debyg o fod ar
gael i Gymru gyfan tan 2011, a bydd yr union led band y gall
cartrefi unigol ei gael yn dibynnu ar hyd eu dolen leol
unigol.
Mae tueddiadau rhyngwladol diweddar yn golygu y bydd mater
argaeledd isel gwasanaethau lled band uwch yng Nghymru yn debyg o
fod yn fwyfwy pwysig. Mae gwasanaethau band-eang drwy ffibr yn
fwyfwy poblogaidd, yn enwedig yng Ngogledd America ac Asia'r Môr
Tawel, wrth i ddefnyddwyr chwilio am led band ehangach.
O ran cyflwyno cynnwys, mae amryw o wasanaethau VoD ac IPTV
wedi'u lansio yn ystod y chwarter, a'r gwasanaethau dwys hynny sy'n
debyg o hybu'r gofyn am wasanaethau ar led band uwch. Caiff y
gofynion hynny hefyd eu dwysáu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf
gan wasanaethau aml-chwarae wrth i'w hansawdd, eu hargaeledd, eu
cydgyfeiriant a'u symudedd esblygu.
Mae'r ffaith fod y gweithredydd symudol '3' ar fin lansio
pecyn ffôn symudol sy'n defnyddio data'n ddigyfyngiad yn tystio i'r
galw cynyddol am symudedd band-eang. Gall tanysgrifwyr ddefnyddio
amryw o gymwysiadau band-eang pan fyddant o fewn cyrraedd i
rwydwaith 3G y gweithredydd hwnnw.
I gloi, mae'r farchnad band-eang yng Nghymru wedi gweld y twf
yn parhau yn ystod y chwarter, yn ogystal â chynnydd yng
nghyrhaeddiad gwasanaethau LLU – cynnydd a welwyd ledled y DU. Gan
fod nifer y gwasanaethau lled-band dwys sy'n cael eu cynnig ym
marchnad band-eang y DU wedi codi, mae'n debyg mai dal i gynyddu
wnaiff y galw am wasanaethau band-eang â lled band uwch yn y
dyfodol agos.
Rhestr o'r byrfoddau
ABEC – Arsyllfa Band Eang Cymru
OECD – Y Gymdeithas Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd
DSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol
ADSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol
Anghymesur
Mbps – Megabitiau'r eiliad
ADSL2+ – Llinell Danysgrifio Ddigidol
Anghymesur 2+
LLU – Dadfwndelu Dolen Leol
ISP – Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd
SDSL – Llinell Tanysgrifiwr Digidol
Gymesurol
FWA – Mynediad Diwifr Sefydlog
Wi-Fi – Cywirdeb Diwifr
3G – Y drydedd genhedlaeth o gyfathrebu
symudol
Ofcom – Y Swyddfa Gyfathrebiadau
IEEE – Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac
Electronig
G7 – Y grŵp o'r saith prif wlad
ddiwydiannol
PPP – Grym Pwrcasu Cydradd
UE – Yr Undeb Ewropeaidd
ONS – Y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol
ECTA – Cymdeithas Cystadleuwyr Telathrebu
Ewrop
OTA – Swyddfa'r Dyfarnydd Telathrebu
ARCEP – Autorité de Régulation des
Communications Electroniques et des Postes
TGCh – Technoleg Gwybodaeth a
Chyfathrebu
PDA – Cynorthwyydd Digidol Personol
GSM – System Fyd-eang Cyfathrebu
Symudol
ISDN - Rhwydwaith Digidol Gwasanaeth
Integredig
IPTV – Protocol Rhyngrwyd Teledu
VoD – Fideo ar Alw
VoIP – Protocol Rhyngrwyd Troslais
HSDPA – Mynediad cyflym i becyn
cyswllt-i-lawr
NDSL – Llinell Danysgrifio Ddigidol
Noeth
WiMax – Rhyngweithiadwyedd byd-eang mynediad
drwy ficrodon
FTTH – Ffeibr i'r cartref
FTTP – Ffeibr i'r adeilad
[1]
Mae'r gwaith cynllunio'n cynnwys: cael y caniatâd cynllunio
perthnasol; cysylltu â'r Asiantaeth Briffyrdd; cysylltu â'r
Awdurdodau Lleol; sicrhau bod gweithwyr ar gael; archebu offer;
cysylltu â gweithgynhyrchwyr ac ati. Fel rheol, rhaid gwneud 6-8
wythnos o waith cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith peirianyddol
mawr.
[2] Ar
sail rhyw 1.4 miliwn a gartrefi a busnesau yng Nghymru.
[3] Ar
sail poblogaeth Cymru o ryw 3 miliwn.
[4]
Ffynhonnell: Ofcom UK
[5]
Ffynhonnell: Datganiadau BT Wholesale i'r wasg rhwng Ebrill a
Gorffennaf 2005.
[6]
Ffynhonnell: Amcangyfrif ABEC ar sail ffigurau Ofcom/BT/dadansoddwr
y diwydiant. Tybiaethau: mae poblogaeth Cymru, ac felly'r
treiddiad, yn rhyw 5% o weddill y DU
[7]
Ffynhonnell: BT Wholesale
[8]
Ffynhonnell: Ofcom UK
[9]
Ffynhonnell: Point Topic