Broadband Wales Observatory banner
Dewis Iaith EnglishCymraeg
Hafan > Adroddiadau & Erthyglau Eraill >

Band Eang yng Nghymru: Adroddiad Cyflwr Genedl (Mehefin/Gorffennaf 2006) Tachwedd 2006


 
Neidio I:
 
 

Diben y Ddogfen yma


Diben yr adroddiad, Band Eang yng Nghymru: Cyflwr y Genedl yw cynnig trosolwg ar farchnad band eang Cymru fel y mae ym mis Mehefin/Gorffennaf 2006.
 
Caiff y farchnad ei dadansoddi yn nhermau Argaeledd, Fforddiadwyedd a Mabwysiadu yn achos gwahanol fathau o wasanaethau band eang ledled Cymru gan gymharu â gweddill y DU ac yn rhyngwladol lle bo modd. Bydd hyn yn dangos rhychwant a phris band eang yng Nghymru a'r niferoedd sydd wedi'i fabwysiadu, a hynny mewn cyd-destun cenedlaethol.
 
Bydd yr adroddiad yn edrych hefyd ar Gymwysiadau a Gyrwyr band eang sy'n gweddnewid y modd y mae gwasanaethau band eang yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio gan ddefnyddwyr a busnesau ac ar y Tueddiadau Technolegol sy'n debyg o effeithio ar y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn edrych hefyd ar unrhyw rwystrau a allai atal band eang rhag tyfu ymhellach yng Nghymru.
 
Mae strwythur yr adroddiad wedi'i ddylunio i ganiatáu i gynnydd wrth ddarparu gwasanaethau band eang ledled Cymru gael ei asesu'n glir pan gaiff adroddiad ei gyhoeddi ar ddiwedd Rhaglen Band Eang Cymru ym mis Mawrth 2007.
 
Mae'r adroddiad wedi'i seilio ar adroddiadau ymchwil Arsyllfa Band Eang Cymru a'r adroddiadau gan drydydd partïon sydd wedi'u rhestru yn y cyfeiriadau. Does dim rhagor o arolygon nac ymchwil farchnad wedi'u cynnal yn unswydd at y cyhoeddiad yma.
 
 
 
Mae'r adroddiad yma yn cael ei gyhoeddi gan Arsyllfa Band Eang Cymru www.abec.org.uk  yng Nghanolfan Arloesi e-Fasnach (eCIC) www.ecommerce.ac.uk Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd www.caerdydd.ac.uk.
 
Mae Arsyllfa Band Eang Cymru yn rhan anhepgor o raglen pum mlynedd, gwerth miliynau o bunnoedd, o'r enw Band Eang Cymru, a lansiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2002. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar: www.abec.org.uk
 
Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan Rhodri Davies, Cynorthwyydd Ymchwil, gyda chymorth a chyfraniadau gan y Dr James B. Waddell, Rheolwr Project Arsyllfa Band Eang Cymru a'r Dr Leigh Hodge, Cydymaith Ymchwil eCIC.

 

 


Crynodeb Gweithredol


 
Mae'r adroddiad Band Eang yng Nghymru: Cyflwr y Genedl (Mehefin/Gorffennaf 2006) yn cynnig trosolwg ar Argaeledd, Fforddiadwyedd a Mabwysiadu gwasanaethau band eang yng Nghymru. Mae cymariaethau wedi'u gwneud er mwyn asesu safle Cymru mewn perthynas â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU, a gwledydd eraill yn rhyngwladol. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys adolygiad ar y prif Gymwysiadau a Gyrwyr ar gyfer band eang a'r Tueddiadau Technolegol sy'n debyg o effeithio ar y farchnad band eang yn y tymor byr i'r tymor canol.
 
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau bod bron pob cyfnewidfa ffôn yng Nghymru, sef 432 o 434, wedi'u galluogi bellach ar gyfer ADSL fel rhan o broject RIBS Rhaglen Band Eang Cymru. Mae'r ddwy gyfnewidfa arall i fod i gael eu galluogi fel rhan o'r project. Wedyn bydd ffocws project RIBS yn symud tuag at ddarparu gwasanaethau band eang mewn ardaloedd eraill lle nad ydyn nhw ar gael eto. Gan mai nifer fach yn unig o aelwydydd sy'n dal yn methu â chael gwasanaeth band eang, mae argaeledd band eang y 'genhedlaeth gyntaf' bron â chyrraedd 100%.
 
Er hynny, pur wahanol yw'r sefyllfa o ran band eang yr 'ail genhedlaeth'. Ar hyn o bryd mae Cymru'n dioddef argaeledd isel iawn yn achos gwasanaethau ar led band uwch, am mai dim ond 33% o'r aelwydydd sy'n gallu cael gwasanaeth sy'n cynnig hyd at 8Mbps. Dim ond yn ddiweddar y mae gwasanaethau sy'n cynnig lled band uwch byth wedi'u lansio a dim ond yn gyfyngedig iawn y mae'r rhain ar gael.
 
Mae'r galw cynyddol am led band uwch ac argaeledd isel gwasanaethau ar led band uwch yn dod yn broblemau mwyfwy pwysig ym maes band eang. Amcangyfrifwyd bod y galw am led band wedi cynyddu i lefelau sydd y tu hwnt i'r lefelau y gall technolegau cyfredol DSL yn y DU eu bodloni. Bydd darpariaeth 21CN BT yn sicrhau bod gwasanaethau ar led band uwch ar gael yng Nghymru, ond fydd y rhain ddim ar gael i Gymru gyfan tan 2011 a bydd yr union led band y gall aelwyd unigol ei sicrhau yn dibynnu ar hyd eu dolen leol unigol.
 
Mae Cymru hefyd yn dioddef lefelau isel o gystadleuaeth ym maes seilwaith o'i chymharu â'r DU gyfan. Mae rhwydwaith cebl NTL ar gael i 25% yn unig o'r aelwydydd yng Nghymru ac mae'r cyfle i gael LLU gryn dipyn yn llai yng Nghymru nag mewn rhai ardaloedd eraill yn y DU. Er hynny, mae gweithredwyr LLU yn dechrau buddsoddi yng Nghymru er ei bod yn debyg y caiff hyn ei gyfyngu i'r ardaloedd trefol dwys eu poblogaeth.
 
Drwy LLU y mae'r gwasanethau rhataf 'hyd at' 8Mbps yn y DU yn cael eu cynnig ac mae'r rhain ar gael i nifer cyfyngedig o aelwydydd yng Nghymru, yn y dinasoedd yn bennaf. Oherwydd hynny, mae'n rhaid i'r mwyafrif o aelwydydd Cymru dalu rhyw £2 y mis yn fwy am eu gwasanaeth band eang na'r rhai mewn ardaloedd LLU. Mae hyn yn awgrym o'r effaith ar brisiau a gaiff cystadleuaeth ym maes seilwaith ac mae'n dangos y bydd y rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle nad oes gweithredwyr LLU yn parhau i dalu mwy am eu gwasanaeth band eang. Mae'r sefyllfa'n wahanol yn y farchnad busnes lle mae costau gwasanaethau band eang i fusnes at ei gilydd yn gyson ledled y DU.
 
Erbyn hyn, mae gan ryw 43% o aelwydydd Cymru gysylltiad band eang, sy'n debyg i'r ffigurau ar gyfer y DU gyfan. O'u hystyried yn nhermau'r boblogaeth, mae'r ffigurau yma'n gyfystyr â rhyw 20 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion. Mae hyn yn cymharu'n dda yn rhyngwladol ac mae'n gosod Cymru ar y blaen i genhedloedd fel yr Unol Daleithiau, Ffrainc a'r Almaen o ran y lefelau sydd wedi mabwysiadu cysylltiad band eang. Yng Nghymru, yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg y gwelir lefelau uchaf treiddiad band eang, ac yn ardaloedd Ceredigion, Caerfyrddin a Blaenau Gwent y ceir y lefelau isaf.
 
O ran tueddiadau, mae mwy o weithredwyr yn hoelio sylw ar wasanaethau cyfun lle mae cwmnïau'n cynnig cyfuniadau o ffôn dros linell ddaearol, ffôn symudol, band eang a theledu er mwyn rhoi gwasanaeth cyfan i'w cwsmeriaid. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at gyfnod o gydgyfnerthu yn y farchnad gyda llawer o gwmnïau llai yn cael eu prynu gan gwmnïau mwy.
 
Mae nifer sylweddol uwch o aelwydydd sydd â ffôn symudol yn unig yng Nghymru nag yn y DU yn ei chrynswth ac mae hyn yn gallu atal band eang rhag tyfu oherwydd y diffyg llinell ffôn yn y cartref. Fe allai'r broblem yma gael ei datrys drwy gyflwyno NDSL, sy'n ffordd i ddod â band eang dros linell ffôn heb fod angen tanysgrifio i wasanaeth ffôn, gan arbed cost rhentu llinell. Gallai hyn fod yn atyniadol i weithredwyr hefyd ar gyfer pecynnau sy'n bwndelu cysylltiad band eang â gwasanaeth ffôn VoIP neu ffôn symudol.
 
Eisoes mae cyfyngiadau'r technolegau DSL cyfredol wedi peri i rai gwledydd eraill edrych ar dechnolegau amgen i ateb eu hangen ym maes band eang. Mae De Corea yn benodol wedi gweld tystiolaeth gref o symud o linellau DSL i atebion sydd wedi'u seilio ar ffibr. Mae yna dystiolaeth hefyd fod gwledydd yn Ewrop yn dechrau edrych ar atebion sydd wedi'u seilio ar ffibr yn y tymor canol. Dyma faes a ddylai gael ei fonitro'n fanwl er mwyn sicrhau na fydd Cymru'n syrthio y tu ôl i farchnadoedd band eang eraill.
 
Mae marchnad band eang Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd o'i chymharu â chenhedloedd a rhanbarthau eraill y DU, ac o'i chymharu â llawer o wledydd yn rhyngwladol. Er hynny, bydd angen i ddatblygiadau newydd mewn technolegau band eang a sut maen nhw'n cael eu defnyddio gael eu monitro'n barhaus er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yma'n parhau.

 

 


Argaeledd


 
 
Erbyn hyn mae pob un o'r 434 o gyfnewidfeydd yng Nghymru wedi'u galluogi ar gyfer ADSL ac eithrio cyfnewidfeydd y Rhos a Llanhuadain, sydd i'w galluogi fel rhan o gynllun RIBS Uned Band Eang Cymru. Mae'r ddwy gyfnewidfa yma yn gwasanaethu cyfanswm o 241 o fangreoedd. Gan hynny, mae DSL yng Nghymru ar gael erbyn hyn i bron 100% ac mae bron pob mangre wedi'i chysylltu â chyfnewidfa sydd wedi'i galluogi ar gyfer DSL. Ond, oherwydd materion technegol lleol fel pellter o'r gyfnewidfa neu ansawdd wael rhwydweithiau, dydy rhai o'r mangreoedd yn ardaloedd y cyfnewidfeydd yma ddim yn addas at wasanaethau band eang, neu dim ond ar gyflymder isel iawn y gallan nhw gyrchu gwasanaethau. Un enw ar y safleoedd yma yw 'mannau gwael'.

Figure 1

Ffigur 1 – Amcangyfrif o gyflenwad aelwydydd yn ôl y cyflymder lawrlwytho isaf, Analysys Consulting Limited, Ch1 2006
 
Yn ôl Analysys Consulting Limited, roedd 98% o aelwydydd Cymru yn gallu cael gwasanaeth ac iddo gyflymder lawrlwytho o 0.5Mbps o leiaf ym mis Mawrth 2006. Ymhellach, mae 95% yn gallu cael gwasanaeth ac iddo gyflymder lawrlwytho o 1Mbps o leiaf a gall 92% gael gwasanaeth ac iddo gyflymder lawrlwytho o 2Mbps o leiaf.
 
 

Y cyflenwad yng nghefn gwlad

 
Mae cyflenwad band eang yng nghefn gwlad y DU bron â chyrraedd lefelau'r cyflenwad yn y DU yn ei chrynswth. Er hynny, mae'r cystadlu rhwng darparwyr seilwaith gryn dipyn yn is mewn ardaloedd gwledig, sy'n arwain at lai o ddewis ac yn y pen draw at gostau uwch ar gyfer gwasanaethau yn yr ardaloedd hynny
 
 
DSL
Cebl
FWA
Cyfanswm
Trefol
99.9%
62.9%
15.9%
99.9%
Maestrefol
99.8%
36.6%
5.4%
99.9%
Gwledig
99.2%
7.4%
1.0%
99.2%
 
Tabl 1 - Cyflenwad aelwydydd y DU yn ôl band eang y farchnad dorfol, fesul math o ardal, Ch4 2005, Ovum UK Broadband Status Report, Mawrth 2006
 
Mater arwyddocaol arall sy'n wynebu ardaloedd gwledig yw argaeledd isel gwasanaethau sydd â lled band uwch; a hynny oherwydd bod y dolenni lleol yn hirach ar gyfartaledd ac oherwydd cyfyngiadau technolegau DSL cyfredol.

Rhaglen galluogi RIBS
 
Mae'r gwaith i alluogi cyfnewidfeydd band eang RIBS yn cyd-redeg â'r amserlen a chafodd 17 o gyfnewidfeydd eu galluogi yn gynt na'r amserlen.
 
Enw'r gyfnewidfa
Awdurdod lleol
Y dyddiad y bydd yn barod i roi gwasanaeth
Dyddiad galluogi gwirioneddol
Gwynfe
Sir Gaerfyrddin
30 Mehefin 06
30 Mehefin 06
Llangurig
Powys
30 Mehefin 06
30 Mehefin 06
Llanarmon
Wrecsam
30 Mehefin 06
30 Mehefin 06
Trewyddel
Sir Benfro
30 Mehefin 06
30 Mehefin 06
Llanwddyn
Powys
07 Gorffennaf  06
07 Gorffennaf  06
Penmaen
Abertawe
07 Gorffennaf  06
07 Gorffennaf  06
Cynghordy
Sir Gaerfyrddin
14 Gorffennaf  06
14 Gorffennaf  06
Merthyr Cynog
Powys
21 Gorffennaf  06
14 Gorffennaf  06
Pant-y-dŵr
Powys
21 Gorffennaf  06
21 Gorffennaf  06
Rhandir-mwyn
Sir Gaerfyrddin
22 Gorffennaf  06
21 Gorffennaf  06
Angle
Sir Benfro
22 Gorffennaf  06
21 Gorffennaf  06
Capel Curig
Conwy
28 Gorffennaf  06
24 Gorffennaf  06
Castell Caereinion
Powys
28 Gorffennaf  06
28 Gorffennaf  06
Llanfair Llythynwg
Powys
28 Gorffennaf  06
24 Gorffennaf  06
Abergynolwyn
Gwynedd
28 Gorffennaf  06
28 Gorffennaf  06
Whitton
Powys
28 Gorffennaf  06
14 Gorffennaf  06
Ynysgynwraidd
Sir Fynwy
28 Gorffennaf  06
28 Gorffennaf  06
Tremarchog
Sir Benfro
28 Gorffennaf  06
28 Gorffennaf  06
Llangynllo
Powys
05 Awst 06
04 Awst 06
Bryneglwys
Sir Ddinbych
05 Awst 06
28 Gorffennaf  06
Cyffylliog
Sir Ddinbych
05 Awst 06
28 Gorffennaf  06
Llandeilo
Sir Fynwy
05 Awst 06
28 Gorffennaf  06
Pennal
Gwynedd
11 Awst 06
11 Awst 06
Rhyd-y-main
Gwynedd
11 Awst 06
04 Awst 06
Ganllwyd
Gwynedd
11 Awst 06
04 Awst 06
Glandyfi
Ceredigion
19 Awst 06
11 Awst 06
Bugeildy
Powys
25 Awst 06
28 Gorffennaf  06
Llanefydd
Conwy
01 Medi 06
01 Medi 06
Y Bont-ddu
Gwynedd
02 Medi 06
01 Medi 06
Hundred House
Powys
08 Medi 06
25 Awst 06
Llanbedr Castell-paen
Powys
22 Medi 06
22 Medi 06
Cross Ash
Sir Fynwy
22 Medi 06
08 Medi 06
Rhiw
Gwynedd
22 Medi 06
22 Medi 06
Llanhuadain
Sir Benfro
I'w gadarnhau
 
Y Rhos
Sir Benfro
I'w gadarnhau
 
 
Tabl 2 - Amserlen ar gyfer galluogi cyfnewidfeydd RIBS, Uned Band Eang Cymru, Medi 2006
 
Ychydig yn unig o effaith a gafodd galluogi'r cyfnewidfeydd o dan RIBS ar gyflenwad cyffredinol DSL yng Nghymru. Roedd y cynnydd yn ddibwys am mai poblogaeth fach iawn sy'n cael ei gwasanaethu gan y cyfnewidfeydd yma. Er hynny, mae RIBS wedi galluogi DSL mewn ardaloedd gwledig a fyddai fel arall yn gorfod dibynnu ar ffynonellau eraill i ateb eu gofynion band eang ac fellymae wedi lleihau unrhyw 'raniad digidol' sy'n bodoli rhwng ardaloedd gwledig a threfol Cymru.
 
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cael cwyn am broject y Cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â BT i gyflwyno project RIBS, sydd wedi'i ddylunio'n unswydd i ganiatáu i ardaloedd yng Nghymru sydd wedi'u disgrifio fel mannau gwael ar gyfer band eang gael gwasanaethau band eang y genhedlaeth gyntaf (512kbps i 2Mbps i lawr a 256kbps i 512kbps i fyny), am brisiau sy'n fforddiadwy o'u cymharu ag ardaloedd trefol Cymru.
 
Tra bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried a ddylid ymchwilio'n ffurfiol i'r gŵyn, mae BT wedi penderfynu atal dros dro y gwaith peiriannu sy'n gysylltiedig â galluogi mannau gwael band eang ledled Cymru. Er hynny, fe fydd BT yn parhau i ddod o hyd i atebion ac i gynllunio gwaith[1] ar gyfer unrhyw fannau gwael y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu trosglwyddo iddyn nhw.
 
Bydd y gwaith peiriannu'n ailgychwyn i alluogi mannau gwael band eang cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dal i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid sy'n methu cael band eang er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth i BT cyn gynted ag y caiff y gwaith barhau.
 
Mae'r honiadau yn y gŵyn wedi'u gwadu ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithredu'n llwyr â'r Comisiwn i gael ateb cyflym i'r mater.  
 
Dylai trigolion yng Nghymru sy'n dal yn methu â chael cysylltiad band eang hyd yn oed ar ôl i'w cyfnewidfa ffôn leol gael ei galluogi yn ystod cyfnod cyntaf y cynllun gofrestru eu manylion drwy ddefnyddio ffurflen mannau gwael Arsyllfa Band Eang Cymru sydd ar gael yn www.abec.org.uk/mannaugwael neu www.bbwo.org.uk/not-spots. Caiff y manylion a roddir yn y ffurflenni eu defnyddio i ddod o hyd i'r ardaloedd yng Nghymru lle nad yw band eang ar gael o hyd ac, ar ôl iddyn nhw gael eu nodi, gall gwaith ddechrau i alluogi band eang yn yr ardaloedd hynny.
 
ADSL Max o gyfnewidfeydd RIBS
 
Bydd pob cyfnewidfa sydd wedi'i galluogi drwy broject RIBS yn gallu darparu ADSL Max ac yn cael ei chynnwys hefyd mewn unrhyw raglenni uwchraddio cenedlaethol yn y dyfodol fel ADSL 2/2+.
 

Y Cyflenwad Rhyngwladol

 
O'i chymharu'n rhyngwladol, erbyn hyn y DU sydd â'r cyflenwad band eang 'cenhedlaeth gyntaf' mwyaf helaeth yn y byd. Oherwydd hynny, mae Cymru hefyd yn cymharu'n ffafriol â phrif genhedloedd band eang y byd.
Figure 2
Ffigur 2 – Cyflenwad gwasanaethau band eang lawrlwytho y genhedlaeth gyntaf fel canran o'r aelwydydd, Analysys Consulting Limited, Ch1 2006
 
Roedd gan y mwyafrif o'r gwledydd sydd wedi'u rhestru yn Ffigur 2 rwydweithiau band eang a oedd yn cynnwys mwy na 90% o'r aelwydydd a gwasanaeth band eang a oedd yn cynnig cyflymder lawrlwytho o 0.5Mbps o leiaf ar ddiwedd mis Mawrth 2006. Roedd Awstralia (85%) ac Iwerddon (80%) gryn dipyn y tu ôl i hynny ar y pryd. Mae cyflenwad y gwasanethau 1Mbps a 2Mbps yn uchel hefyd, sef ychydig bwyntiau canran yn unig y tu ôl i'r cyflenwad 0.5Mbps at ei gilydd.

 


 

Cyflenwad llwytho i fyny

Figure 3
Ffigur 3 - Amcangyfrif o gyflenwad aelwydydd yn ôl y cyflymder llwytho i fyny isaf, Analysys Consulting Limited, Ch1 2006
 
Rhywbeth tebyg sy'n wir o ran cyflymder y gwasanaethau o safbwynt llwytho i fyny. Mae gwasanaethau sy'n cynnig cyflymder o 0.5Mbps i fyny o leiaf ar gael i 98% o aelwydydd Cymru, sy'n agos at yr argaeledd o bron 100% yn aelwydydd y DU. Ar y llaw arall, dim ond 27% o aelwydydd Cymru sy'n gallu cyrchu gwasanaethau sydd â chyflymder llwytho i fyny o 1Mbps, o'i gymharu â 50% ar gyfer y DU. Ar ben hynny, dim ond 26% o aelwydydd Cymru sy'n gallu cyrchu gwasanaethau sydd â chyflymder llwytho i fyny o 2Mbps, o'i gymharu â 48% ar gyfer y DU.
 
 

Cyflenwad SDSL

 
Does dim rhagor o wasanaethau SDSL wedi'u cyflwyno. Oherwydd hynny, mae argaeledd SDSL wedi aros yn ei unfan, sef rhyw 25% o'r mangreoedd annomestig. Mae hyn yn debyg o barhau, gan fod argaeledd ADSL Max wedi effeithio ar yr achos busnes o blaid cyflwyno SDSL.
 
 

Cyflenwad cebl

 
Mae'r rhwydwaith cebl heb dyfu yng Nghymru na gweddill y DU ers nifer o flynyddoedd ac nid yw'n debyg o wneud yn y dyfodol hyd y gellir rhag-weld am ei bod yn gostus ac yn anghyfleus gosod ceblau, hynny yw tyllu ffyrdd. Yn y tymor hir, mae NTL yn debycach o ddefnyddio LLU i gynyddu eu hôl troed nhw gan y byddai hynny'n gynt ac yn broses fwy cost-effeithiol na datblygu'r rhwydwaith cebl.
 
 

Cyflenwad diwifr

 

FWA

Mae band eang drwy Fynediad Diwifr Sefydlog yn cael ei gynnig gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr arbenigol yng Nghymru. Er hynny, does dim ffigurau ar gyfer cyflenwad cyffredinol y gwasanaethau yma ar gael ar hyn o bryd.
 
Mae Rhwydwaith Diwifr Cymunedol Reynoldston yn gynllun diwifr cymunedol sy'n defnyddio cynhyrchion FWA 2.4GHz i gyflenwi band eang i ryw 40% o'r cartrefi ym mhentref Reynoldston ym Mhenrhyn Gŵyr.
 
Mae Band Eang Cymru yn defnyddio safleoedd ar dyrau sy'n cael eu darparu gan y TFL Group er mwyn hwyluso cysylltiad band eang FWA a WiFi. Mae'r safleoedd sy'n cael eu cynnal yn cynnwys Llanhuadain, y Rhos, Gerddi Botanegol Cymru, Maes Awyr Abertawe a rhannau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
 
Mae rhwydwaith diwifr FWA 2.4GHz Gaia Technologies yn darparu band eang ar gyfer Rhos-y-bol, Amlwch, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Bodedern, Valley, Caergybi, Bethesda, Tregarth, Llanfairfechan, Rhiwlas, Porthaethwy, Llandegfan, Llandudno, Pen-y-sarn, Bangor a Bae Colwyn Uchaf. Mae'r rhwydwaith 5.8GHz sydd wedi'i alluogi ganddyn nhw yn ddiweddar yn rhychwantu ardal ddaearyddol enfawr, sy'n ehangu'r maes i'w cynhyrchion. Gaia Technologies fu'n darparu'r gwasanaethau rhyngrwyd diwifr i ymwelwyr ac arddangoswyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006.
 
Nod Project y Dyffryn Digidol (Deudraeth Cyf) yw cynnig mynediad cyflym drwy'r amser ar un gyfradd mewn ardaloedd gwledig a hynny am bris fforddiadwy. Cafodd y project ei ddatblygu mewn partneriaeth â Gaia Technologies Ltd, ac mae'n targedu tua 1,500 o gartrefi i ddechrau yn ardaloedd Blaenau Ffestiniog, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Talsarnau, Harlech a Phorthmadog.
 
Mae rhwydwaith FWA bach ar waith yn Lawrenny, Sir Benfro.  Ar hyn o bryd, does dim rhagor o fanylion ar gael.
 

Mannau poeth WiFi

 

 
Cymru
Lloegr
Yr Alban
Gogledd Iwerddon
DU
BT Openzone
99
1328
138
130
1695
Orange
3
73
4
0
80
The Cloud
410
5737
315
0
6462
T-Mobile
40
932
77
7
1056
Total
552
8070
534
137
9293
 
Tabl 3 – Mannau poeth WiFi yn y DU, ABEC, Gorffennaf 2006
 
Ym mis Gorffennaf 2006, roedd 552 o fannau poeth WiFi yn cael eu gweithredu gan BT Openzone a'i bartneriaid yng Nghymru o gyfanswm o 9,293 i gyd yn y DU. BT Openzone a'r rhwydweithiau sy'n bartneriaid iddo sy'n gweithredu 95% o holl fannau poeth y DU.
 

3G

 
Mae gwasanaethau data 3G yn gallu darparu amrywiaeth o gyflymderau lawrlwytho i'r defnyddwyr, o 153kbps hyd at 2Mbps. Dydy cyflenwad rhwydwaith 3G yng Nghymru ddim cystal ag yn y DU gyfan. Yn ôl Ofcom, roedd gan 75.9% o'r ardaloedd post yng Nghymru lle'r oedd cyflenwad ar gael i 25% o'r ardal o leiaf un gweithredwr o leiaf, o'i gymharu â 90.5% yn achos y DU gyfan yn 2005. Ymhellach, dim ond 10.1% o'r ardaloedd post yng Nghymru lle'r oedd cyflenwad ar gael i 25% o'r ardal o leiaf oedd â 4 neu fwy o weithredwyr o'i gymharu â 46.2% yn achos y DU gyfan.
 
Figure 4
Ffigur 4 – Cyflenwad gwasanaethau ffôn 3G yng Nghymru yn ôl nifer y gweithredwyr (ardaloedd post sydd â chyflenwad i 25% o'r ardal o leiaf), data Ofcom am weithredwyr, Ch3-Ch4 2005
 
Hyd yn hyn, does dim ffigurau penodol ar gael i Gymru ar gyfer 2006. Er hynny, ar sail y mapiau sydd ar gael o gyflenwad y gweithredwyr mae'n hawdd gweld bod cyflenwad 3G ymhell o fod yn gynhwysfawr yng Nghymru. Does dim cynlluniau i'w gyflwyno ar gael yn hwylus ond mae'n debyg y byddan nhw'n canolbwyntio'n bennaf ar yr ardaloedd dwysaf eu poblogaeth. Oherwydd hyn, does neb yn barnu bod rhwydweithiau 3G yn ateb sydyn i fannau gwael band eang.
 
 

Y cyflenwad lloeren

 
Mae band eang drwy gyfrwng lloeren ar gael i fwy na 99% o'r mangreoedd yng Nghymru.
 
 
O ran gwasanaethau band eang yr 'ail genhedlaeth' sydd â lled band uwch, mae'r cyflenwad yng Nghymru yn amlwg yn is nag mewn rhai o ranbarthau eraill y DU. Er bod cyflenwad y gwasanaethau sy'n cynnig cyflymder lawrlwytho o 4Mbps o leiaf yn debyg i'r mwyafrif o'r ardaloedd eraill, mae'r gwahaniaeth yn y cyflenwad ar gyflymder uwch yn cynyddu'n sylweddol. Mae gwasanaethau lle mae'r cyflymder lawrlwytho yn 4Mbps o leiaf ar gael i 81% o aelwydydd Cymru, o'i gymharu ag 86% o aelwydydd y DU. Mae gwasanaethau o 8Mbps ac yn well ar gael i 33% o aelwydydd Cymru, o'i gymharu â 53% o aelwydydd y DU.
Figure 5
Ffigur 5 - Cyflenwad gwasanaethau band eang lawrlwytho yr ail genhedlaeth yn rhanbarthau'r DU fel canran o'r aelwydydd, Analysys Consulting Limited, Ch1 2006
 
O ran gwasanaethau sy'n cynnig cyflymder lawrlwytho o 16Mbps neu'n well, doedd dim gwasanaethau o'r fath ar gael yng Nghymru yn ystod mis Mawrth 2006, sy'n golygu bod Cymru'n un o ddau ranbarth, gyda Gogledd Iwerddon, lle nad oedd y gwasanaethau yma ar gael o gwbl. Mae'r sefyllfa yma wedi newid wedyn, yn sgil cyflwyno gwasanaeth ADSL2+ gan Bulldog. Er hynny, dim ond yn ardaloedd nifer cyfyngedig iawn o gyfnewidfeydd y mae'r gwasanaeth yma ar gael ac oherwydd hyd y llinellau a chyfyngiadau technolegol dim ond nifer cymharol fach o aelwydydd a fydd yn gallu cael gwasanaeth ac iddo gyflymder lawrlwytho o 16Mbps o leiaf. Mae cyflenwad y gwasanaethau yma yn debyg o gynyddu wrth i weithredwyr LLU barhau i gyflwyno ADSL2+ ac wrth i BT gyflwyno ADSL2+ fel rhan o ddatblygu 21CN. Er hynny, mae'n annhebyg y bydd lefelau'r cyflenwad ar gyfer gwasanaethau o'r fath yn uchel drwy ddefnyddio'r dechnoleg yma am rai blynyddoedd eto.
 
Figure 6  
Ffigur 6 - Gwasanaethau band eang lawrlwytho yr ail genhedlaeth yn y cenhedloedd band eang mawr fel canran o'r aelwydydd, Analysys Consulting Limited, Ch1 2006
 
Er bod gan y DU un o'r rhwydweithiau helaethaf yn y byd o ran band eang y 'genhedlaeth gyntaf', does dim modd dweud yr un peth am fand eang yr 'ail genhedlaeth'. Mae cyflenwad gwasanaethau sy'n cynnig cyflymder lawrlwytho o 4Mbps o leiaf yn cymharu'n ffafriol iawn â chenhedloedd band eang pwysig eraill ac mae cyflenwad y gwasanaethau 8Mbps yn cymharu'n weddol dda. Er hynny, wrth bwyso a mesur cyflenwad gwasanaethau ar led band uwch, mae'n eglur bod y DU yn llusgo'n bell y tu ôl i rai o brif genhedloedd band eang y byd.
 
Mae gwasanaethau sydd â chyflymder lawrlwytho o 32Mbps o leiaf ar gael i fwy na 40% o aelwydydd De Corea, Canada a Sweden ac mae'r cyflenwad mor uchel ag 80% yn Japan. Yn y cyfamser, does dim gwasanaethau tebyg o gwbl yn y DU.
 
Ymhellach, hyd yn oed mewn rhai o'r cenhedloedd band eang llai amlwg, fel Iwerddon, mae cyflenwad y gwasanaethau 16Mbps a 24Mbps yn well nag yn y DU. Oherwydd hyn, os yw'r DU yn bwriadu cynnal y flaenoriaeth y mae wedi'i sicrhau drwy ei chyflenwad helaeth o fand eang y 'genhedlaeth gyntaf', mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau ar led band uwch yn y dyfodol agos. 

 


 

 
Roedd 13 o gyfnewidfeydd yng Nghymru wedi'u dadfwndelu gan weithredwyr LLU hyd at fis Mehefin 2006. Bulldog yw'r gweithredwr LLU mwyaf yng Nghymru o hyd, ar ôl dadfwndelu naw cyfnewidfa yn ardaloedd Caerdydd a Wrecsam ym mis Mai 2005, a Tiscali oedd yr ail weithredwr LLU i ddod i'r farchnad yng Nghymru ar ôl dadfwndelu pedair cyfnewidfa ym Mangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwmbrân a Llanelli yn ystod mis Mawrth 2006.
 
Mae ABEC yn amcangyfrif bod rhyw 16.5% o holl aelwydydd Cymru a rhyw 17.3% o'r mangreoedd annomestig yn gallu cael eu gwasanaethau band eang gan weithredwyr LLU ym mis Gorffennaf 2006.
 
 
Cyflenwad LLU
Gwlad
Domestig
Annomestig
Cymru
17%
17%
Lloegr
58%
56%
Yr Alban
33%
31%
Gogledd Iwerddon
0%
0%
DU
52%
51%
 
Tabl 4 - Y cyflenwad LLU ar gyfer mangreoedd domestig ac annomestig, ABEC, Gorffennaf 2006
 
Bydd mwy o wasanaethau LLU ar gael yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf yn sgil cyhoeddiadau gan weithredwyr LLU eu bod am ymestyn eu rhwydweithiau i Gymru:
 
  • Roedd Carphone Warehouse i fod i ddadfwndelu 30 o gyfnewidfeydd erbyn diwedd mis Awst 2006. (Er hynny, nid yw statws y cyfnewidfeydd yma a'r dyddiadau galluogi sydd wedi'u darogan ar eu cyfer yn hysbys ar hyn o bryd);
 
  • Mae Be Un Limited i fod i ddadfwndelu 21 o gyfnewidfeydd rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2007;
 
  • Mae Orange (Wanadoo cynt) i fod i ddadfwndelu 12 cyfnewidfa erbyn diwedd mis Medi 2006.
 
Yn sgil y cynlluniau yma, amcangyfrifir y bydd cyflenwad LLU yng Nghymru yn cynyddu i 39% o'r mangreoedd domestig a 35% o'r mangreoedd annomestig.
Nid yw ffigurau'r DU ar gyfer cyflenwad LLU yn dangos graddfa lawn y gweithgarwch LLU gan nad ydyn nhw'n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod mwy nag un presenoldeb LLU yn y cyfnewidfeydd mwyaf ymarferol, hynny yw mae nifer o weithredwyr LLU wedi'u lleoli yn yr un gyfnewidfa. Nid yw'r sefyllfa yma wedi codi eto yng Nghymru gan fod y prif weithredwyr LLU yn hoelio'u sylw ar farchnadoedd ar wahân. Hyd yn hyn, mae'r gweithredwyr LLU yng Nghymru wedi canolbwyntio ar y cyfnewidfeydd mwyaf proffidiol heb gystadlu â'i gilydd am yr un cwsmeriaid. Er hynny, yn sgil y cynlluniau sydd wedi'u crybwyll, fe fydd nifer o gyfnewidfeydd blaenllaw lle ceir dau neu fwy o weithredwyr LLU yn cynnig gwasanaethau a fydd yn arwain at amgylchedd cystadleuol iawn yn yr ardaloedd hynny.

 

 


Fforddiadwyedd


 
O ran fforddiadwyedd, yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr y tueddir i gael y lefelau argaeledd a'r lefelau cystadlu uchaf, ac felly prisiau is yn gyffredinol. Yng Nghymru, mae dwysedd y boblogaeth yn effeithio ar argaeledd ac felly fe all y costau fod yn is ar gyfer gwasanaethau ar rai cyflymderau yn y dinasoedd.  Mewn rhai achosion, does dim gwasanaethau ar gael ar bob cyflymder y tu allan i ddinasoedd Cymru.
 
 
Gwerth Mynegai Ch4 2005
Safle G7 Ch4 2005
Gwerth Mynegai
Ch3 2005
Safle G7
Ch3 2005
Gwerth Mynegai Ch1 2005
Safle G7
Ch1 2005
Japan
0.97
1
0.98
1
0.98
1
Ffrainc
0.86
2
0.85
2
0.94
2
Canada
0.79
3
0.80
3
0.77
3
DU
0.77
4
0.76
4
0.72
4
Iwerddon
0.75
 
0.75
 
0.67
 
Yr Eidal
0.71
5
0.70
5
0.5
6
Awstralia
0.69
 
0.69
 
0.63
 
Sweden
0.64
 
0.65
 
0.63
 
Yr Unol Daleithiau
0.63
6
0.62
6
0.62
5
De Corea
0.53
 
0.54
 
0.53
 
Yr Almaen
0.44
7
0.46
7
0.41
7
 
Tabl 5 - Mynegai prisiau Ch4 2005, Ovum International Broadband Market Comparisons Update, Mawrth 2006
 
Yn ôl Ovum, mae'r DU yn y pedwerydd safle yn y G7 o ran ei mynegai prisiau. Mae'r mynegai prisiau yn cael ei gyfrifo fel pris y pum ISP manwerthol uchaf, wedi'u pwysoli yn ôl eu cyfran o'r farchnad. Y prisiau sy'n cael eu defnyddio yw prisiau cynhyrchion preswyl y brif ffrwd ac mae'r rhain yn cynnwys ffioedd cysylltu wedi'u hamorteiddio dros gyfnod o dair blynedd ac maen nhw'n cael eu haddasu ar gyfer cydraddoldeb pŵer prynu (PPP)[2]. Mae mân welliannau yn y mynegai prisiau wedi'u gwneud gan y DU, Ffrainc, yr Eidal a'r Unol Daleithiau ers Ch3 2005, ond mae'r safleoedd cyffredinol heb newid.
 
Cafodd y gwelliant ym mynegai prisiau'r DU ei hybu pan ostyngodd AOL eu prisiau yn chwarter olaf 2005. Mae'r Almaen wedi gweld eu mynegai prisiau nhw'n gostwng ychydig, o ganlyniad i newidiadau yn y PPP yn bennaf.
 
Yn ôl Point Topic, yn Ch2 2006 gostyngodd pris cyfartalog gwasanaethau DSL ar y lefel sylfaenol 9.3%, sef dwywaith yn fwy na'r gostyngiad prisiau (4.5%) mewn gwasanaethau modem cebl. Oherwydd hynny, mae'r bwlch rhwng prisiau DSL a chebl wedi cynyddu i US$4.27. O'r 18 o weithredwyr yn arolwg Point Topic, gostyngodd pump (yng Ngogledd America ac EMEA yn bennaf) eu tariff misol hyd at 50%.  At ei gilydd, roedd tariff misol cyfartalog DSL yn US$27.44 a Taiwan oedd yn cynnig y tariff DSL rhataf. Yn y farchnad FTTx, mae'r prisiau heb eu newid ers Ch2 2005.

 
Mewn llawer o achosion, mae'r costau yr un fath ar gyfer yr holl leoliadau sydd wedi'u hastudio. Lle mae'r prisiau'n wahanol, maen nhw fel arfer yn uwch yn nhrefi a phentrefi Cymru.
 
Rhanbarth
512kbps
1Mbps
2Mbps
3-4Mbps
8-10Mbps
Hyd at 24Mbps
Llundain
£13.97
£9.99
£14.99
£22.99
£9.75
£14.00
De-ddwyrain Lloegr
£13.97
£9.99
£14.99
£24.99
£9.75
£14.75
Dinasoedd Cymru
£13.97
£14.99
£14.99
£24.99
£9.75
£14.75
Trefi Cymru
£13.97
£14.99
£14.99
-
£11.99
-
Pentrefi Cymru
£13.97
£14.99
£14.99
-
£11.99
-
Y gwahaniaeth rhwng y pris uchaf a'r pris isaf
£0.00
£5.00
£0.00
£2.00
£2.24
£0.75
 
Tabl 6 – Y pris misol isaf i ddefnyddwyr am bob cyflymder ym mhob lleoliad, ABEC, Gorffennaf 2006
 
Y gwasanaeth band eang isaf ei gost sydd ar gael yn y DU yw'r gwasanaeth 8Mbps sy'n cael ei ddarparu gan Bulldog: dim ond yn ardaloedd rhwydwaith LLU Bulldog y mae hwn ar gael. Mae rhai sy'n byw yn ninasoedd Cymru yn gallu cael y gwasanaeth yma ond mae'n rhaid i weddill Cymru dalu tua £2 y mis yn fwy am wasanaeth tebyg. Bid a fo am hynny, erbyn hyn mae'r isafswm y bydd y defnyddiwr yn gorfod ei wario yn prynu gwasanaethau hyd at 8Mbps ym mhob ardal. Y rheswm am hyn yw bod gwasanaethau ADSL Max wedi'u cyflwyno drwy gyfrwng BT Wholesale. Nid yw'r cyflymder uchaf sydd ar gael yn y farchnad i ddefnyddwyr (sef 24Mbps) ar gael yng Nghymru, a dim ond i nifer cyfyngedig o gyfnewidfeydd yn y DU y mae ar gael. Y cyflymder uchaf sydd ar gael yng Nghymru yw gwasanaeth 16Mbps sy'n cael ei ddarparu gan Bulldog. Er hynny, dim ond mewn naw cyfnewidfa yng Nghymru y mae'r gwasanaeth yma i'w gael - yn ardaloedd Caerdydd a Wrecsam.
 
 
Cost isaf unrhyw
wasanaeth band eang
Y cyflymder
sydd ar gael
Y cyflymder
uchaf sydd ar gael
yn y lleoliad
Y gost isaf am
y cyflymder yma
Llundain
£9.75
8Mbps
24Mbps
£14.00
De-ddwyrain Lloegr
£9.75
8Mbps
16Mbps
£14.75
Dinasoedd Cymru
£9.75
8Mbps
16Mbps
£14.75
Trefi Cymru
£11.99
8Mbps
8Mbps
£11.99
Pentrefi Cymru
£11.99
8Mbps
8Mbps
£11.99
 
Tabl 7 - Y costau isaf i'r defnyddwyr a'r gwasanaethau uchaf eu cyflymder sydd ar gael am y pris isaf ym mhob lleoliad, ABEC, Gorffennaf 2006
 
 
 
Erbyn hyn, mae nifer o weithredwyr yn cynnig yr hyn y maen nhw'n ei alw yn 'rhyngrwyd am ddim' i'w tanysgrifwyr. Gwasanaeth gwerth ychwanegol yw hwn ac, er ei fod yn rhad ac am ddim, mae'n golygu bod rhaid tanysgrifio i becyn priodol o wasanaethau eraill. Ar hyn o bryd, mae Sky, Orange a Talk Talk yn cynnig rhyngrwyd am ddim i rai neu'r cyfan o'u tanysgrifwyr.  Mae'r gwasanaethau yma'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y tanysgrifiwr linell ddaearol BT, ac felly mae'n bosibl nad ydyn nhw ar gael i bawb. Mae Orange a Talk Talk yn mynnu eich bod yn codi tanysgrifiad 18 mis, a'r tanysgrifiad byrraf ar gyfer Sky yw 12 mis.
 
Mae Sky yn cynnig rhyngrwyd am ddim i'w holl danysgrifwyr. Yn ychwanegol at y pecyn rhyngrwyd sylfaenol di-dâl, mae Sky yn cynnig nifer o wasanaethau gwell sy'n golygu bod rhaid gwneud taliad bach. Mae gwasanaeth Sky Connect ar gael i'r cwsmeriaid hynny nad yw rhwydwaith Sky wedi'u cyrraedd eto.
 
Mae Orange yn cynnig band eang am ddim i gwsmeriaid sydd â chynllun tâl misol ar gyfer ffôn symudol o £30 y mis a mwy ar gontract 18 mis. Maen nhw'n cynnig gwasanaeth hyd at 8Mbps a chyfyngiad o 2GB y mis ar y defnydd.
 
Mae Talk Talk yn cynnig band eang am ddim os ydych yn tanysgrifio i'w cynllun galwadau Talk3 am gost o £8.99 y mis (yn ychwanegol at rentu llinell am £11).  Maen nhw'n cynnig gwasanaeth hyd at 8Mbps a lwfans defnyddio o 40GB. Mae cynllun galwadau Talk3 yn caniatáu galwadau digyfyngiad am hyd at dair awr i gwsmeriaid eraill Talk Talk a galwadau digyfyngiad am hyd at 70 munud yr alwad i linellau daearol lleol a chenedlaethol yn y DU.
 
Gweithredwr
Math o gyfnewidfa
Pecyn
Isafswm misol
Cyflymder lawrlwytho
Cyfyngiad defnydd
Ffi gychwyn
Ffi fisol ychwanegol
Orange
d/g
 
£30
Hyd at 8Mbps
2GB
Am ddim
Am ddim
Sky
LLU
Base
£15
Hyd at 2Mbps
2GB
£40
Am ddim
Mid
£15
Hyd at 8Mbps
40GB
£20
£5
Max
£15
Hyd at 16Mbps
Unlimited
Am ddim
£10
Nid LLU
Connect
£15
Hyd at 8Mbps
40GB
£40
£17
Talk Talk
LLU
Talk3
£19.99
Hyd at 8Mbps
40GB
Am ddim
Am ddim
Nid LLU
Talk3
-
Hyd at 8Mbps
40GB
Am ddim
£9.99
 
Tabl 8 – Gwasanaethau band eang am ddim heb ffi, ABEC, Gorffennaf 2006
 
Mae'n anodd cymharu cynigion band eang am ddim heb ffioedd, oherwydd yr amrywiadau rhwng y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn y pecynnau gwahanol. Er hynny, ar sail yr wybodaeth yn Nhabl 8, bernir y bydd:
 
  • Orange a Sky yn benodol yn debyg o apelio at bobl sydd eisoes yn defnyddio'u gwasanaethau.

 

  • defnyddwyr Orange a Sky yn debycach o bosibl o gymryd cynnig Orange ar yr amod nad oes arnyn nhw angen defnyddio llawer iawn arno.

 

  • defnyddwyr cyfnewidfeydd heb LLU o bosibl yn gorfod talu taliadau ychwanegol.
 
 
 
Yn yr adran yma, rydym yn ystyried gwasanaethau penodol ar gyfer busnes fel SDSL a gwasanaethau ADSL penodol ar gyfer busnesau sydd â chymarebau ymryson wedi'u cyhoeddi. Lle mae'r prisiau'n wahanol rhwng y mannau a gafodd eu hastudio, maen nhw fel arfer yn uwch yng Nghymru oherwydd diffyg darpariaeth LLU.
 
Rhanbarth
512kbps
1Mbps
2Mbps
3-4Mbps
8-10Mbps
Hyd at 24Mbps
Llundain
£15.99
£9.99
£14.99
£49.00
£13.61
£45.00
De-ddwyrain Lloegr
£15.99
£9.99
£14.99
£49.00
£13.61
£45.00
Dinasoedd Cymru
£15.99
£19.99
£24.95
£49.00
£13.61
£45.00
Trefi Cymru
£15.99
£19.99
£24.95
£49.00
£13.61
-
Pentrefi Cymru
£15.99
£19.99
£24.95
£49.00
£13.61
-
Y gwahaniaeth rhwng y pris uchaf a'r pris isaf
£0.00
£10.00
£9.96
£0.00
£0.00
£0.00
 
Tabl 9 – Y pris misol isaf i fusnes am bob cyflymder ym mhob lleoliad, ABEC, Gorffennaf 2006
 
Mae'r gwasanaeth band eang rhataf sydd ar gael i fusnesau yn costio £9.99 y mis ac nid yw ar gael yng Nghymru am nad oes darpariaeth LLU. Mae gwasanaeth uwch 8Mbps ar gael yng Nghymru (a phob man arall) am lai na £4 y mis yn fwy. Ar ben hynny, does dim gwasanethau busnes 24Mbps ar gael y tu allan i Lundain. Y gwasanaeth cyflymaf sydd ar gael yng Nghymru yw gwasanaeth 16Mbps sy'n cael ei gynnig gan Bulldog. Er hynny, nid yw'r gwasanaeth yma ar gael y tu allan i ddinasoedd Cymru. Oherwydd y diffyg darpariaeth LLU, mae'n rhaid i fusnesau Cymreig sydd heb eu lleoli yn y dinasoedd fodloni ar wasanaeth 8Mbps sy'n costio £13.61 y mis.
 
 
 
 
Cost isaf unrhyw
wasanaeth band eang
Y cyflymder
sydd ar gael
Y cyflymder
uchaf sydd ar gael
yn y lleoliad
Y gost isaf am
y cyflymder yma
Llundain
£9.99
1Mbps
24Mbps
£75.00
De-ddwyrain Lloegr
£9.99
1Mbps
16Mbps
£45.00
Dinasoedd Cymru
£13.61
8Mbps
16Mbps
£45.00
Trefi Cymru
£13.61
8Mbps
8Mbps
£13.61
Pentrefi Cymru
£13.61
8Mbps
8Mbps
£13.61
 
Tabl 10 – Y costau misol isaf i fusnes a'r gwasanaethau uchaf eu cyflymder sydd ar gael am y pris isaf ym mhob lleoliad, ABEC, Gorffennaf 2006
 
 
 
 
Mae SDSL yn wahanol i ADSL gan ei fod yn defnyddio'r un lled band ar gyfer llwytho i fyny ac i lawr (cymesur), lle mae gan ADSL led band is i lwytho i fyny (anghymesur). Mae cost uchel cynhyrchion SDSL yn adlewyrchu'r gwasanaeth gwell sy'n cael ei gynnig gan led band cymesur, cyfraddau ymryson isel a dim cyfyngiadau ar ddefnydd. Mae SDSL ar gael yn Llundain, de-ddwyrain Lloegr, dinasoedd Cymru a rhai o drefi Cymru. 
 
Mae prisiau misol SDSL yr un fath ar gyfartaledd ar draw syr holl ranbarthau lle mae ar gael.
 
Lleoliad
512kbps
1Mbps
2Mbps
Llundain
£178.72
£223.40
£278.72
De-ddwyrain Lloegr
£178.72
£223.40
£278.72
Dinasoedd Cymru
£178.72
£223.40
£278.72
Trefi Cymru
£178.72
£223.40
£278.72
Pentrefi Cymru
 D/G
D/G 
D/G 
Y gwahaniaeth rhwng y pris uchaf a'r pris isaf
£0
£0
£0
 
Tabl 11 – Pris misol cyfartalog SDSL ar bob cyflymder ym mhob lleoliad, ABEC, Gorffennaf 2006



 
 
Mae gwaith ymchwil gan ORC yn dangos bos treiddiad band eang yng Nghymru wedi cyrraedd 43% o'r holl aelwydydd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2006. Mae hyn yn gynnydd o 39% ar ddiwedd 2005, sy'n dangos bod twf cysylltiadau newydd yn dal yn gryf yng Nghymru. Ar ben hynny, mae hyn yn cyfateb i ryw 20.1 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion Cymru.
Figure 7
Ffigur 7 – Treiddiad band eang yn ôl aelwydydd ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, ORC, Gorffennaf 2006
 
Yr awdurdod lleol sydd â threiddiad uchaf band eang yng Nghymru yw Casnewydd, lle mae gan 51% o'r aelwydydd gysylltiad band eang. Mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn dilyn yn agos (mae gan 50% o'r aelwydydd gysylltiad band eang), ac mae lefelau isaf treiddiad band eang yng Nghymru i'w gweld ym Mlaenau Gwent. Dim ond 34% o'r aelwydydd yno sydd â band eang.
 
 

Band eang xDSL

 
Mae ymchwil ORC yn dangos bod gan ryw 30% o aelwydydd Cymru gysylltiad band eang ADSL ar ddiwedd mis Gorffennaf 2006. Mae hyn yn gynnydd o 28% ar ddiwedd 2005.
 

Band eang cebl

 
Mae ymchwil ORC yn dangos bod gan ryw 12% o aelwydydd Cymru gysylltiad band eang cebl ar ddiwedd mis Gorffennaf 2006. Mae hyn yn gynnydd o 9% ar ddiwedd 2005.
 

LLU

 
Does dim ffigurau penodol ar gyfer nifer y llinellau LLU sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru. Er hynny, gan fod argaeledd y gwasanaethau yma yn is yng Nghymru nag yn y DU yn ei chrynswth, y disgwyl yw y bydd niferoedd sy'n mabwysiadu gwasanaethau LLU rywfaint yn is hefyd.
Figure 8
Ffigur 8 - Nifer y llinellau wedi'u dadfwndelu yn y DU, OTA, Hydref 2006
 
Yn ôl yr OTA (Swyddfa'r Dyfarnydd Telathrebu), aeth y DU heibio i 1 miliwn o linellau LLU yn gynnar ym mis Tachwedd 2006 ac, wrth iddi wneud hynny, cyrhaeddodd yr OTA eu prif darged nhw o sicrhau miliwn o linellau wedi'u dadfwndelu erbyn diwedd 2006.
 
 

Band eang vs. Deialu

 
Roedd mwy na saith ym mhob deg aelwyd rhyngrwyd yng Nghymru yn defnyddio cysylltiadau band eang ym mis Gorffennaf 2006. Yn yr un modd, yn ôl SYG, yn achos y DU gyfan roedd ychydig o dan 73% o'r cysylltiadau rhyngrwyd yn wasanaethau band eang ym mis Mehefin 2006.
 
Mae cysylltiadau deialu'n dal yn boblogaidd ymhlith rhai aelwydydd am fod gwasanaethau 'talu-wrth-fynd' ar gael, sy'n codi tâl ar sail faint o amser yr ydych wedi'i dreulio ar-lein ac am nad oes ffi fisol. Mae'r gwasanaethau yma'n arbennig o addas i'r rhai nad ydyn nhw'n defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd neu nad ydyn nhw'n ddefnyddwyr trwm, ac maen nhw'n addas hefyd i aelwydydd isel eu hincwm sy'n anfodlon talu ffi fisol. Mae'r rhwystr yma sy'n atal twf band eang wedi'i oresgyn mewn rhai marchnadoedd Ewropeaidd drwy gyflwyno gwasanaethau band eang sydd wedi'u seilio ar amser ac sydd â ffi fisol isel neu sydd heb ffi fisol o gwbl. Ar hyn o bryd, Bulldog sy'n cynnig yr unig wasanaeth band eang ar linell osod sydd wedi'i seilio ar amser yn y DU, ac mae eu cyflenwad nhw yn gyfyngedig yn y DU, yn enwedig yng Nghymru. Oherwydd hynny, gall fod angen gwasanaeth band eang cenedlaethol wedi'i seilio ar amser i berswadio gweddill y defnyddwyr deialu i newid i fand eang.
 
 

Treiddiad gwasanaethau lled band uwch

 
Un o nodweddion allweddol y farchnad band eang yng Nghymru yn ystod 2006 oedd cynnydd yn argaeledd gwasanaethau band eang cyflymach a'r niferoedd sy'n mabwysiadu'r gwasanaethau hynny. Mae gwasanaethau sy'n cynnig 'hyd at 8Mbps' ar gael yn helaeth dros ADSL, ac mae gwasanaethau sy'n cynnig 'hyd at 10Mbps' ar gael mewn ardaloedd penodol drwy gyfrwng cebl. O'r bobl a arolygwyd ym mhedwaredd don adroddiad trigolion yr ORC a oedd yn gwybod cyflymder eu cysylltiad band eang, dywedodd mwy na dau ym mhob deg fod ganddyn nhw wasanaeth cyflymach na 2Mbps.
 

Treiddiad band eang yn rhyngwladol

Figure 9
Ffigur 9 – Treiddiad band eang yn ôl aelwydydd, Analysys Consulting Limited a'r ORC, Mehefin 2006[3]
 
Mae ffigurau treiddiad band eang Cymru yn cyd-fynd â ffigurau'r DU yn ei chrynswth. Oherwydd hyn, mae'r niferoedd sydd wedi manteision ar fand eang yng Nghymru yn cymharu'n weddol ffafriol â chenhedloedd eraill.
Figure 10
Ffigur 10 – Cysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion yn ôl y dechnoleg gyrchu, OECD, Mehefin 2006[4]
 
Roedd y DU yn y 10fed safle o'r 30 o genhedloedd yr OECD o ran treiddiad band eang ym mis Mehefin 2006, gyda 19.5 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion. Roedd y ffigur yma ymhell ar y blaen i gyfarteledd yr OECD, sef 15.5 o gysylltiadau am bob 100 o drigolion ar y pryd.

 


 

 
Mae ffigurau Ofcom yn dangos bod y twf yn y cysylltiadau band eang ymhlith mentrau bach a chanolig (MBCh) y DU wedi dilyn y duedd gyffredinol o ran y niferoedd sy'n mabwysiadu band eang. Ar ddiwedd 2005, roedd gan 84% o holl MBCh y DU gysylltiad rhyngrwyd ac roedd gan 73% o'r rheiny gysylltiad band eang. Doedd dim ffigurau ar gyfer Cymru yn benodol ar gael bryd hynny ond dywedodd astudiaeth olrhain MBCh Ofcom, a gafodd ei seilio ar ddata treigl dros y naw mis rhwng Ionawr a Medi 2005, fod gan 83% o MBCh Cymru gysylltiad rhyngrwyd (79% yn y DU) a bod 42% o'r rheiny'n defnyddio band eang (68% yn y DU)[5].
Figure 11
Ffigur 11 – Cysylltiadau MBCh â'r rhyngrwyd yn ôl y prif ddull cysylltu, Ofcom, Rhagfyr 2005
[6]
 
Mae Ofcom yn darogan y bydd nifer yr MBCh sy'n defnyddio cysyltliad deialu i gysylltu â'r rhyngrwyd yn parhau i ostwng dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd y gostyngiad yng nghostau gwasanaethau band eang a'r nifer cynyddol o gymwysiadau busnes ar-lein y mae angen cysyltliad band eang ar eu cyfer.
 

Cymwysiadau a Gyrwyr


Treiddiad cyfrifiaduron personol a'r rhyngrwyd

Figure 12
Ffigur 12 – Treiddiad PCs, y rhyngrwyd a band eang yn yr UE, Y Comisiwn Ewropeaidd a'r ORC, Rhagfyr 2005 - Ionawr 2006
[7]
 
Ceir tuedd gyffredinol rhwng treiddiad sylfaenol TGCh a threiddiad band eang. Adroddodd yr arolwg o e-gyfathrebu aelwydydd a gafodd ei gynnal ar ran y Comisiwn Ewropeaidd fod diffyg cyfrifiadur personol (PC) yn rhwystro cysylltu â'r rhyngrwyd ac felly hefyd yn rhwystro treiddiad band eang.

Figure 13

Ffigur 13 – Dyfeisiau cyrchu yn cael eu defnyddio gan ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio'r rhyngrwyd yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf, ORC, Gorffennaf 2006
 
Fel y gwelir yn Ffigur 13, y PC yw'r hoff ddyfais ar gyfer cyrchu'r rhyngrwyd o bell ffordd yng Nghymru a dywedodd 97% o'r rhai a arolygwyd gan yr ORC a oedd wedi defnyddio'r rhyngrwyd dros y 12 mis yn arwain at fis Gorffennaf 2006 mai PC a ddefnyddiwyd. Gan hynny, efallai y bydd angen ysgogi twf yn nhreiddiad PCs er mwyn cynnal twf band eang. Er hynny, mae cynnydd o ran defnyddio rhwydweithiau ffôn symudol i gyrchu'r rhyngrwyd yn dangos y gallai'r gallu i gyrchu'r rhyngrwyd ar ddyfeisiau symudol fod yn hwb ar gyfer defnyddio'r rhyngrwyd yn y dyfodol.
 
Mae twf mewn cyrchu'r rhyngrwyd drwy gonsolau gemau fideo a thrwy setiau teledu hefyd yn awgrymu y gall PCs fod yn llai amlwg fel dyfais gyrchu yn y dyfodol ac y bydd amrywiaeth o ddyfeisiau yn y cartref ac wrth symud o gwmpas yn cael eu defnyddio i gyrchu'r rhyngrwyd.
 
 
Yn ôl amcangyfrifon Ofcom, erbyn mis Mai 2006 roedd mwy nag 1.8 miliwn o aelwydydd preswyl wrthi'n defnyddio VoIP yn y DU. O'r rhain, roedd tua 300,000 yn defnyddio cynhyrchion VoIP BT, rhyw 150,000 yn defnyddio gwasanaeth Orange/Wanadoo, a'r gweddill yn defnyddio gwasanethau fel Skype, Vonage, PlusNet a VoIP Cheap. Yn ôl Point Topic, roedd ychydig o dan 24 miliwn yn talu ffi i ddefnyddio VoIP ledled y byd erbyn diwedd 2005.
 
 
 
Roedd fideo ar alw (VoD) ar gael i ryw 80% o danysgrifwyr teledu digidol NTL ar ddiwedd mis Mehefin 2006. Dros y 12 mis diwethaf, mae dros 10 miliwn o ffilmiau a rhaglenni teledu wedi'u gwylio 'ar alw' gan gwsmeriaid. Mae darparwyr eraill VoD yn cynnwys BT, BSkyB ac MTV.
 
 
 
Mae BT yn anelu at lansio'u gwasanaeth teledu cenhedlaeth nesaf, 'BT Vision', yn hydref 2006. Mae hwn yn cyfuno teledu daearol (drwy Freeview), â rhaglenni ar alw a gwasanaethau rhyngweithiol sy'n cael eu darparu drwy rwydwaith DSL BT. Fydd dim tanysgrifiad gorfodol ynglŷn â'r gwasanaeth.
 
 
 
Mae yna ddiddordeb cynyddol mewn cyflenwi teledu ar gyfer defnyddwyr wrth iddyn nhw symud o gwmpas, drwy ddefnyddio setiau llaw ffonau symudol. Mae nifer o dechnolegau'n cael eu hystyried gan gynnwys 3G, DAB a DVB-H. Mae nifer o wasanaethau tanysgrifio ar gael i gwsmeriaid 3G Orange a Three sy'n cynnig teledu ar setiau llaw cydnaws. Mae pecyn BT Movio sydd wedi'i ddatblygu gan BT wedi denu sylw amryw o weithredwyr gan gynnwys Virgin Mobile ac RTE yn Iwerddon, y mae'r ddau ohonyn nhw'n cynnal treialon. Mae BT Movio yn defnyddio'r rhwydwaith DAB i ddarlledu deunyddiau i setiau llaw cydnaws. Mae O2 hefyd wedi bod yn cynnal treialon gan ddefnyddio DVB-H, sef fersiwn symudol o'r dechnoleg sy'n cael ei defnyddio ar gyfer teledu digidol Freeview.
 
 
 
Erbyn hyn, mae nifer o weithredwyr yn cynnig yr hyn y maen nhw'n ei alw yn 'rhyngrwyd am ddim' i'w tanysgrifwyr. Gwasanaeth gwerth ychwanegol yw hwn ac er ei fod ar gael am ddim, mae angen ichi danysgrifio i becyn priodol o wasanaethau eraill. 
 
 
 
Bydd T-Mobile yn lansio'u gwasanaeth lawrlwytho cyflym HSPDA ym mis Awst 2006. I ddechrau, bydd technoleg HSPDA yn cynnig cyflymderau lawrlwytho hyd at 1.8Mbps, gan godi i 3.6Mbps yn 2007, ac wedyn i 7.2Mbps a 10Mbps yn 2008/2009. Mae T-Mobile yn credu eu bod yn gallu codi llai na gweithredwyr band eang y DU am y bydd y cwsmeriaid yn cadw rhif ffôn heb fod angen talu am rentu llinell osod. Mae T-Mobile yn credu y bydd hyn yn arbennig o ddeniadol i aelwydydd yn y DU sydd â ffon symudol yn unig. Ymhellach, mae 14% o'r aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar ffôn symudol fel unig ffôn yr aelwyd, o'i gymharu ag 8% ar gyfer y DU ar gyfartaledd.
 
 
 
Ar hyn o bryd, mae 37.1% o gwsmeriaid NTL sydd ar y rhyngrwyd yn tanysgrifio i wasanaeth chwarae triphlyg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae disgwyl y bydd mwy na 50% o gartrefi Ewrop yn cysylltu â gwasanaeth chwarae triphlyg erbyn diwedd y degawd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd NTL wasanaeth chwarae pedwarplyg cyntaf y DU, gan gyfuno gwasanethau teledu, band eang, llinell osod a ffôn symudol. Prynodd NTL Virgin Mobile ym mis Gorffennaf 2006.
 
 
 
Mewn arolwg diweddar ar gyfer adroddiad Deutschland Online 3, atebodd 41% o'r arbenigwyr Ewropeaidd a holwyd y byddai gemau ar-lein yn yrrwr pwysig ar gyfer treiddiad cysylltiadau â'r rhyngrwyd drwy gyfrwng band eang yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae astudiaeth gan y cwmni ymchwilio ac ymgynghori, Parks Associates, yn dangos y bydd gwerth y farchnad gemau ar-lein yn yr Unol Daleithiau yn cyrraedd US$4.4 biliwn erbyn 2010, i fyny o $1.1 biliwn y llynedd.
 
 
 
Yn ôl adroddiad gan Point Topic a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2006, teleweithio yw un o'r prif yrwyr y tu ôl i fabwysiadu band eang. Mae hyn wedi'i gadarnhau gan Astudiaeth Defnyddwyr Band Eang cyntaf Point Topic, a gynhaliwyd yng nghanol 2005, ac a welodd fod rhyw 3.8 miliwn o bobl yn y DU yn defnyddio'r rhyngrwyd i weithio o'u cartrefi. O'r rhain, teleweithwyr oedd 1.6 miliwn.
 
 
 
O ran rhwystrau sy'n atal cynnydd yn nhreiddiad y rhyngrwyd yn y DU, diffyg diddordeb yn y rhyngrwyd yw'r prif reswm o hyd dros beidio â sicrhau cysylltiad rhyngrwyd gartref. Er hynny, er bod pobl yn dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y rhyngrwyd, mae'n ddigon posibl nad yw llawer yn deall yr hyn y gall y rhyngrwyd ei gynnig ac y byddai lefelau diddordeb, a threiddiad band eang hefyd, yn cynyddu pe baen nhw'n cael eu haddysgu ar sut i ddefnyddio a chymhwyso'r rhyngrwyd.
Figure 14
Ffigur 14 - Canran y bobl a arolygwyd ac a atebodd y cwestiwn: Dywedsoch nad oes gennych gysylltiad rhyngrwyd gartref. Pa reswm yw'r esboniad gorau pam nad oes cysylltiad rhyngrwyd gan eich aelwyd chi? (DU), Y Comisiwn Ewropeaidd, Rhagfyr 2005 - Ionawr 2006
 
Mae Ffigur 14 hefyd yn tanlinellu bod diffyg PC neu ddyfais arall sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd a'r gost yn rhwystrau eraill sy'n atal pobl rhag cysylltu â'r rhyngrwyd yn y DU.

Figure 15

Ffigur 15 – Canran y bobl a arolygwyd ac a atebodd y cwestiwn: Pam nad oes gan eich aelwyd chi gysylltiad rhyngrwyd? (UE-25), Y Comisiwn Ewropeaidd, Rhagfyr 2005 – Ionawr 2006
 
Wrth ystyried rhesymau dros beidio ag uwchraddio o fand cul i fand eang, adroddodd yr arolwg ar e-gyfathrebu aelwydydd mai'r faith y bernir bod band eang yn rhy ddrud yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros beidio ag uwchraddio i fand eang yn yr UE-25. Rhwystrau eraill oedd bod pobl yn fodlon ar gyflymder eu gwasanaeth band cul ac nad oedden nhw'n defnyddio digon ar y rhyngrwyd. Mae'r rhain yn rhwystrau eraill a allai gael eu goresgyn drwy addysgu pobl ynglŷn â galluoedd a dibenion band eang. 

Figure 16

Ffigur 16 - Canran y bobl a arolygwyd ac a atebodd y cwestiwn: Fyddech chi'n fodlon newid i fand eang o fand cul ...? (UE-25), Y Comisiwn Ewropeaidd, Rhagfyr 2005 – Ionawr 2006
 
Mae'n ddiddorol bod mwy o bobl yn yr arolwg wedi dweud y bydden nhw'n debyg o newid o wasanaeth band cul i fand eang pe gallen nhw gael gwasanaeth band eang fel rhan o fwndel a fyddai'n cynnwys gwasanaeth teledu na phe bai cost band eang hyd at 20% yn rhatach. Mae hynny'n dangos bod modd i rwystrau ariannol band eang gael eu goresgyn drwy gynnwys band eang fel rhan o becyn ac fe fydd hyn yn arwydd calonogol i weithredwyr chwarae triphlyg. Er hynny, dywedodd bron hanner y bobl a oedd â gwasanaeth band cul y bydden nhw'n fodlon uwchraddio i fand eang pe na bai'n rhaid iddyn nhw dalu am linell ffôn. Mae'n glir bod hyn yn dangos bod taliadau rhent llinell ffôn yn rhwystr o bwys sy'n atal rhagor o bobl rhag manteisio ar fand eang a bod yna alw clir am wasanaethau DSL noeth (NDSL) lle gall gwasanaeth band eang DSL gael ei gynnig dros linell ffôn heb fod rhaid talu am wasanaeth ffôn.

Figure 17

Ffigur 17 - Canran y bobl a arolygwyd ac a atebodd y cwestiwn: Fyddech chi'n fodlon uwchraddio'ch cysylltiad band eang i gyflymder uwch ...? (UE-25), Y Comisiwn Ewropeaidd, Rhagfyr 2005 - Ionawr 2006
 
Mae'r pethau sy'n atal pobl rhag mabwysiadu gwasanaethau band eang ar gyflymder uwch hefyd yn tanlinellu'r angen am wasanaethau NDSL, gan fod 38% o'r rhai yr oedd gwasanaeth band eang ganddyn nhw yn dweud y bydden nhw'n uwchraddio i wasanaeth cyflymach pe na bai'n rhaid iddyn nhw dalu am linell ffôn. Roedd bwndelu gwasanaethau band eang a theledu hefyd yn cael ei weld fel rhywbeth a fyddai'n hybu gwasanaethau cyflymach.
 
Bernid bod cost gwasanaethau yn rhwystr mawr i atal gwasanaethau cyflymach gan mai dim ond 10% o'r rhai a holwyd a ddywedodd y bydden nhw'n uwchraddio i wasanaeth cyflymach pe bai hwnnw 20% yn ddrutach na'u gwasanaeth cyfredol. Gallai hyn fod yn broblem i weithredwyr sydd wedi gyrru cost gwasanaethau band eang i lawr dros y blynyddoedd diwethaf ac sy'n gweld bellach nad yw'r defnyddwyr yn fodlon talu dim mwy am wasanaethau cyflymach er bod y rheiny o bosibl yn costio mwy i'rwdarparu. Os na all y gweithredwyr ddarbwyllo'r defnyddwyr i dalu mwy am y gwasanaethau cyflymach yma, yna fe allai fynd yn anodd cyfiawnhau buddsoddi mewn seilwaith cyflym newydd ac, o ganlyniad i hynny, efallai na fydd yna achos busnes dros ddarparu rhwydweithiau VDSL neu FTTB.
 
 

Ffactorau cymdeithasol ac economaidd

 
Mae lefelau uchel o boblogaeth wledig, trigolion hŷn ac aelwydydd isel eu hincwm i gyd yn rhwystrau sy'n llyffetheirio lefelau treiddiad TGCh ac, yn y pen draw, lefelau treiddiad band eang. Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd boblogaeth wledig fwy na Lloegr ac mae gan Gymru a Gogledd Iwerddon boblogaethau gwledig arbennig o uchel, sef 22% a 35% o'u poblogaeth yn y drefn honno. Er hynny, adroddodd yr arolwg o e-gyfathrebu aelwydydd a gynhaliwyd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd nad oedd lefelau mabwysiadu band eang yn dibynnu ar drefoli yn achos y grŵp o wledydd sy'n ffurfio'r UE-15 yn ei grynswth.
 

Ar ben hynny, mae dadansoddiad yr arolwg yn dangos bod maint yr aelwyd yn dwyn mwy o ddylanwad ar fabwysiadu band eang; mwyaf yn y byd o bobl sydd ar yr aelwyd, mwyaf tebyg yw hi y bydd yna gysylltiad band eang.
 
 
Cymru
Yr Alban
Lloegr
Gogledd Iwerddon
Cyfanswm y DU
Poblogaeth wledig
22%
16%
13%
35%
12%
Pobl hŷn
(65 a throsodd)
18%
16%
16%
14%
16%
Incwm aelwydydd o dan £11,500
43%
32%
26%
29%
27%
 
Tabl 12- Proffil y grwpiau cymdeithasol ac economaidd yng nghenhedloedd y DU, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac 'Urban Indicator' Business Geographic, 2001
 
Mae gan Gymru nifer arbennig o uchel hefyd o aelwydydd sydd a'u hincwm yn llai nag £11,500 o'i chymharu â'r cenhedloedd eraill, sef 43% o'r holl aelwydydd, a nifer fawr o bobl sydd dros eu 65 oed o'i chymharu â chyfanswm y DU. Oherwydd hyn, o blith pedair cenedl y DU, gan Gymru y mae'r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd mwyaf i'w goresgyn o ran mabwysiadu band eang.
 
Aelwydydd sydd â ffôn symudol yn unig
Yng Nghymru, mae gan 14% o'r aelwydydd ffonau symudol yn unig, sy'n golygu nad oes llinell ddaearol ganddyn nhw. Mae dibyniaeth Cymru ar ffonau symudol fel unig ffôn yr aelwyd (dim ond 8% o aelwydydd y DU sydd â ffonau symudol yn unig), yn golygu y gallai'r diffyg llinell ddaearol atal pobl rhag archebu band eang. Gan mai ADSL yw'r dechnoleg band eang fwyaf poblogaidd yn y DU oherwydd prisiau a fforddiadwyedd, gallai hyn olygu y gallai 14% o'r aelwydydd gael problemau wrth sicrhau gwasanaeth band eang fforddiadwy.
 
Un ateb posibl i hyn fyddai DSL noeth (NDSL). Mae NDSL yn caniatáu i gysylltiad band eang gael ei dderbyn drwy linell ffôn heb i wasanaeth ffôn gael ei ddarparu hefyd.  A bwrw bod llinell ffôn ar gael i lawer o'r 14% o aelwydydd sydd heb wasanaeth ffôn dros linell ddaearol, sef llinell y maen nhw wedi dewis peidio â'i defnyddio, byddai hynny'n golygu bod band eang ar gael iddyn nhw.  Byddai hyn hefyd yn caniatáu i wahanol ddarparwyr band eang gynnig gwasanaethau wedi'u dadfwndelu ar y cyd â gwasanaethau ffôn VoIP heb fod angen buddsoddi yn y seilwaith y byddai ei angen i gynnal eu system ffôn PSTN eu hunain. Ynghyd â gwasanaethau IPTV digidol, gallai hynny fod yn hwb ar gyfer cystadleuaeth.
 
Felly, fe allai NDSL gynyddu'r niferoedd sy'n mabwysiadu band eang drwy ganiatáu i bobl archebu DSL wedi'i ddadfwndelu heb orfod cytuno i gael gwasanaeth ffôn dros linell ddaearol. 

 

 


Defnyddio band eang


 
Yn Ch1 2006, cynhaliodd Ofcom arolwg i ddod o hyd i'r gwahaniaeth rhwng defnyddio cymwysiadau ymhlith defnyddwyr deialu a defnyddwyr band eang. Er bod yr arolwg yn dangos bod y defnyddio ymhlith defnyddwyr band eang yn uwch ym mhob maes, cafodd y gwahaniaethau mwyaf arwyddocaol eu gweld wrth lawrlwytho ffeiliau (44% vs. 21%) a gwybodaeth (44% vs. 27%), a chwarae gemau ar-lein (35% vs. 16%).
 
Yn ôl astudiaeth gan wefan y llywodraeth DirectGov, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2006, roedd mwy na hanner yr ymatebwyr o'r farn mai gwefannau bancio ar-lein oedd y math mwyaf gwerthfawr o wefan, wedyn siopa (50%) a gwyliau (47%). Roedd 37% o'r ymatebwyr yn credu mai gwefannau newyddion oedd nodwedd fwyaf gwerthfawr y rhyngrwyd.

Figure 18

Ffigur 18 – Gweithgareddau rhyngrwyd defnyddwyr rhyngrwyd y DU, SYG, Ch1 2006
 
Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol arolwg hefyd i ddod o hyd i'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd, gan amlygu'r gwahaniaethau rhwng defnydd dynion a defnydd menywod. Chwilio am wybodaeth a gwasanaethau (84%) oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd, ac roedd hynny'n cael ei wneud yn fwy gan ddynion (88%) na menywod (79%). E-bostio oedd gweithgaredd mwyaf poblogaidd menywod (80%) a'r ail fwyaf poblogaidd ymhlith dynion (81%). O'r gweithgareddau a arolygwyd, dim ond mewn dau achos yr oedd defnydd menywod yn uwch na dynion, sef chwlio am wybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwrs ysgol, coleg neu brifysgol.
 

Ym mis Mai 2006, cynhyrchodd Analysys Consulting Limited adroddiad ar ran y DTI sy'n edrych ar boblogrwydd gwahanol wasanaethau band eang ar draws y G7, Awstralia, Iwerddon, De Corea a Sweden. Ar gyfer pob cymhwysiad, mae'r gwledydd wedi'u gosod yn eu trefn ar sail poblogrwydd y cymhwysiad ymhlith defnyddwyr a busnes. Roedd y DU yn uchel o safbwynt e-fasnach ac archebu ar-lein, sy'n awgrymu bod busnesau'r DU wedi bod yn gyflym i ddefnyddio'r maes yma. Er hynny, isel yw defnydd VoIP ac e-lywodraeth a dylai'r rhain gael eu hybu'n fwy yn y dyfodol.
 
Safle
Archebu ar-lein
VoIP
Talu'r llywodraeth
Refeniw e-fasnach
1
DU
Japan
Awstralia
Yr Unol Daleithiau
2
Yr Almaen
De Corea
Sweden
Japan
3
Yr Unol Daleithiau
Iwerddon
Ffrainc
DU
4
Canada
Yr Unol Daleithiau
Iwerddon
De Corea
5
Iwerddon
Sweden
De Corea
Sweden
6
Sweden
DU
Canada
Iwerddon
7
De Corea
Ffrainc
DU
Yr Almaen
8
Awstralia
Awstralia
Yr Eidal
Ffrainc
9
Japan
Yr Eidal
Yr Unol Daleithiau
Canada
10
Ffrainc
Canada
Yr Almaen
Yr Eidal
11
Yr Eidal
Yr Almaen
Japan
 
 
Tabl 13 – Defnyddio cymwysiadau band eang ymhlith busnesau, Analysys Consulting Limited, Ch4 2005
 
 
Safle
Lawrlwytho clipiau teledu, ffilmiau neu fideo
Gemau ar-lein
VoIP
Gwario ar e-fasnach
1
De Corea
De Corea
Japan
De Corea
2
Yr Unol Daleithiau
Sweden
Ffrainc
DU
3
Ffrainc
Japan
Sweden
Ffrainc
4
Awstralia
Awstralia
Yr Eidal
Yr Almaen
5
DU
Yr Unol Daleithiau
Yr Unol Daleithiau
Yr Eidal
6
Yr Almaen
Canada
Yr Almaen
Yr Unol Daleithiau
7
Yr Eidal
Yr Eidal
Canada
Canada
8
Sweden
DU
De Corea
Japan
9
Japan
Ffrainc
Awstralia
Iwerddon
10
Iwerddon
Yr Almaen
Iwerddon
 
11
 
Iwerddon
DU
 
 
Tabl 14 - Defnyddio cymwysiadau band eang ymhlith defnyddwyr, Analysys Consulting Limited, Ch4 2005
 
Mae'r defnyddio ar VoIP ymhlith defnyddwyr y DU gryn dipyn yn is na gwledydd eraill ac, oherwydd hyn, gellir barnu ei fod yn ffordd i hybu band eang yn y dyfodol agos wrth gael ei ddefnyddio'n ehangach yn y DU.
 
 
 
Mae arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Defnyddwyr Cymru ym mis Mawrth 2006 yn dangos bod 28% o'r oedolion 16 a throsodd (tua 60% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd) wedi siopa ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd yr ymatebwyr fod cyfleuster (78%), gwerth am arian (46%), a'r gallu i chwilio o le i le (30%) yn ffactorau a oedd yn golygu bod siopa ar-lein yn ddeniadol. Y mathau mwyaf cyffredin o gynhyrchion sy'n cael eu prynu ar-lein gan ddefnyddwyr yng Nghymru yw CDs, tapiau, recordiau a DVDs cerddoriaeth (42%), wedyn llyfrau (40%) a theithio a llety (36%).
 
Dangosodd arolwg gan yr Ystadegau Gwladol a gynhaliwyd yn Ch1 2006 fod 44% o'r oedolion yn y DU wedi prynu nwyddau neu wasanaethau dros y rhyngrwyd yn ystod y 12 mis blaenorol, a bod 79% o'r rheiny wedi prynu yn ystod y tri mis diwethaf. O'r rhain, roedd canran uwch o ddynion (81%) na menywod (77%) wedi prynu ar-lein. O'r rhai a oedd wedi prynu ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf, y pethau mwyaf poblogaidd i'w prynu oedd ffilmiau a cherddoriaeth (53%) ac wedyn teithio neu lety at wyliau (51%).
 
Er bod y gwahaniaethau rhwng yr arolygon a gynhaliwyd ar gyfer Cymru ac ar gyfer y DU yn ei chrynswth yn golygu ei bod yn anodd cymharu'n uniongyrchol, mae'n ymddangos bod defnyddwyr y DU yn prynu mwy ar-lein na defnyddwyr yng Nghymru. Mae'r defnyddwyr yng Nghymru yn prynu cryn dipyn yn fwy o nwyddau electronig ar-lein (35%) na defnyddwyr yn y DU (25%). Prynodd cryn dipyn yn fwy o ddefnyddwyr y DU (53%) nag o ddefnyddwyr Cymru (42%) ffilmiau a cherddoriaeth ar-lein.
 
Mae bygythiadau i ddiogelwch ar-lein a thwyll manylion adnabod yn atal rhai o ddefnyddwyr y rhyngrwyd rhag siopa ar-lein.  Er bod yna gynnydd yn hyder y rhai sy'n siopa ar-lein, darganfu arolwg ym mis Mawrth 2006 gan Gyngor Defnyddwyr Cymru fod y farn am ddiogelwch ar-lein wedi dirywio ers y flwyddyn cynt, a bod 41% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd nad ydyn nhw'n siopa ar-lein yn poeni am ddiogelwch, i fyny o 35% ym mis Mawrth 2005.
 
 
 
Mae data Sefydliad Ffonograffig Prydain (BPI) yn dangos bod nifer yr eitemau a gafodd eu lawrlwytho'n gyfreithlon yn y DU wedi tyfu'n gyflym drwy gydol 2005 a dechrau 2006. Yn Ch1 2006 cafodd 11.5 miliwn o draciau eu lawrlwytho yn y DU. Mae hyn i'w briodoli i dwf yn y gwefannau lawrlwytho cyfreithlon a gostyngiad yn nifer y ffeiliau hawlfraint sydd ar gael ar wefannau rhannu ffeiliau.
 
Mae lawrlwytho cerddoriaeth yn debyg o dyfu ymhellach oherwydd cynnydd ym mhoblogrwydd gwefannau sy'n cynnig llyfrgelloedd anferth o ddeunyddiau a all gael eu lawrlwytho am ychydig bach neu heb dâl o gwbl, fel YouTube.  Mae YouTube yn wefan sy'n caniatáu i'r defnyddwyr lwytho, rhannu a gwylio clipiau fideo. Mae llyfrgell YouTube yn cynnwys deunyddiau sydd wedi'u paratoi gan y defnyddwyr yn ogystal â chlipiau teledu a ffilmiau, a fideos cerddoriaeth. Ym mis Awst 2006, cyhoeddodd YouTube eu bod mewn trafodaethau gyda chwmnïau recordiau am gynnig fideos cerddoriaeth cyfredol a fideos cerddoriaeth o'r archifau. O fewn 18 mis, maen nhw'n gobeithio cynnig pob fideo cerddoriaeth a gafodd ei greu erioed, a pharhau'n ddi-dâl. Yn ôl Comscore World Metrix, mae cynulleidfa fyd-eang YouTube wedi codi o 2.8 miliwn o ddefnyddwyr unigryw flwyddyn yn ôl i 72 miliwn o ddefnyddwyr ym mis Awst 2006.
 
 
 
Un o'r tueddiadau cyflymaf ei dwf wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yw defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol a blogio. Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn caniatáu i'r defnyddwyr greu eu tudalennau hafan neu eu proffiliau eu hunain, lle maen nhw'n postio gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain, eu hobïau a'u diddordebau, etc. Wedyn gall y defnyddwyr gysylltu eu proffiliau â defnyddwyr eraill ar yr un wefan. Gellir cysylltu â ffrindiau sy'n hysbys yn barod, neu â defnyddwyr sydd â diddordebau tebyg, i greu rhwydwaith o ffrindiau/cysylltiadau.
 
Yn ôl ystadegau Nielsen/Netrating, yn y DU, MySpace oedd y wefan rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd ym mis Mai 2006, gyda 5.1 miliwn o ddefnyddwyr unigryw yn ymweld â hi (17.3% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd). Mae'r gwefannau poblogaidd eraill yn cynnwys Friends Reunited gyda 4.5 miliwn o ddefnyddwyr unigryw (15.5%), Bebo gyda 3.9 miliwn (13.4%) a Piczo gyda 3.7 miliwn (12.5%).
 
Yn ôl ymchwil ar ddefnyddwyr a wnaed gan Ofcom ym mis Mehefin 2006, gwefannau sy'n caniatáu i'r defnyddwyr ailgyfarfod â hen gyfeillion a chadw cysylltiadau presennol yw'r math mwyaf poblogaidd o wefannau rhwydweithio ac mae rhyw 41% o'r oedolion yn y DU sydd â chysylltiad rhyngrwyd yn eu defnyddio, a rhyw hanner ohonyn nhw'n gwneud hynny bob wythnos. Mae gwefannau sy'n caniatáu i'r defnyddwyr gadw mewn cysyltliad yn arbennig o boblogaidd ymhlith defnyddwyr ifanc, gyda 70% o'r rhai 16-24 oed yn gwneud hynny, a mwy na'u hanner yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos. Mae bron hanner y rhai 25-30 oed sy'n defnyddio'r rhyngrwyd a rhyw un rhan o dair o'r rhai dros 35 oed hefyd yn defnyddio'r gwefannau yma.
 
Mae gwefannau blogio yn wefannau lle caiff y defnyddwyr greu eu tudalen hafan eu hunain, o'r enw gwelog, neu yn fwy cyffredin blog, sy'n cynnwys cofnodion dyddiadur cronolegol am eu bywyd bob dydd neu am bynciau penodol sydd o ddiddordeb.  Blogger.com sy'n perthyn i Google yw'r wefan flogio fwyaf gyda mwy na 15 miliwn o ddefnyddwyr unigryw ym mis Mawrth 2006.
 
Dangosodd ymchwil gan Ofcom ym mis Mehefin 2006 fod mwy na 37% o ddefnydwyr y rhyngrwyd yn y DU 18-24 oed wedi cyfrannu at wefan neu flog. At ei gilydd, haerodd 14% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd a oedd yn 16 a throsodd eu bod wedi cyfrannu at wefan neu flog drwy bostio deunyddiau neu sylwadau. Mae'r ymchwil yn dangos hefyd fod gan ddynion ryw ddwywaith yn fwy o wefannau neu welogiau na menywod.
 
Mae rhagor o dystiolaeth sy'n ategu'r cynnydd ym mhwysigrwydd gwefannau rhwydweithio i'w weld ym mharodrwydd Google i wario $1.65 biliwn (£883 miliwn) i brynu'r wefan rhannu fideos, YouTube.
 
 
 
Yn ôl Nielsen-Netratings, ym mis Awst 2006, gwefannau sy'n perthyn i Microsoft oedd â'r nifer uchaf o drawiadau unigryw, sef dros 20 miliwn o ymwelwyr o'r DU. Google oedd yr ail wefan fwyaf poblogaidd gyda bron 19.5 miliwn o ymwelwyr. Er gwaethaf y nifer aruthrol o wefannau sydd ar gael, canfu astudiaeth gan DirectGov a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2006 fod mwy na hanner ymwelwyr rhyngrwyd y DU yn ymweld â chwe neu lai o wefannau yn rheolaidd.

 
 
Mae DSL yn parhau i gynyddu ei gyfran o'r farchnad fyd-eang ar draul cebl a thechnolegau amgen. Yn ôl Point Topic, roedd gan ddarparwyr cebl a thechnolegau eraill 34.5% o gyfran farchnad yn Ch1 2005 ond bod hynny wedi gostwng i 32.8% yn Ch1 2006. Yn Ewrop, DSL yw'r dechnoleg drechaf o bell ffordd, gyda rhyw 80% o'r holl gysylltiadau band eang yn Ewrop.
 
Er bod DSL yn dal yn gryf ar y raddfa fyd-eang, mae yna arwyddion y gallai ddechrau colli cyfran o'r farchnad mewn rhai o'r cenhedloedd band eang mwyaf datblygedig. Yn Ne Corea, mae DSL yn cael ei daro am fod y farchnad bron yn orlawn. Mae niferoedd DSL wedi gostwng 4.6% rhwng Ch1 2005 a Ch1 2006 wrth i'r defnyddwyr chwilio am y lled band ehangach sy'n cael ei gynnig gan wasanaethau cebl a ffibr. Er hynny, gan mai De Corea yw'r unig wlad sydd wedi profi'r ffenomen yma hyd yn hyn, mae'n dal yn debyg y bydd DSL yn parhau fel y dewis amlycaf o blith y technolegau ar raddfa fyd-eang am beth amser.
 
Er hynny, mae profiad De Corea yn rhoi cip ar ddatblygiad y marchnadoedd yn y dyfodol a bydd yn rhoi golwg i weithredwyr a gwneuthurwyr polisi mewn cenhedloedd eraill ar gyfeiriad posibl datblygiad eu marchnad nhw eu hunain yn y dyfodol.
 
Tuedd ddiweddar arall yn y farchnad yn ôl pob golwg yw cydgyfeirio - lle mae cwmnïau sy'n ymwneud â thelathrebu symudol, telathrebu dros linellau daearol, band eang a theledu yn cyfuno neu'n ehangu eu portffolios cynhyrchion i gael rhoi gwasanaeth cyflawn i'w cwsmeriaid. Yn sgil hyn, cafwyd cynnydd mewn gwasanaethau wedi'u bwndelu, gan gynnwys pecynnau chwarae triphlyg. 
 
 
 
Bydd Rhwydwaith 21ain Ganrif BT (21CN) yn rhwydwaith o ben i ben ac yn seilwaith wedi'i seilio ar IP a fydd yn sicrhau y bydd gwasanaethau cyfun y genhedlaeth nesaf yn cael eu cyflwyno yn gynt, yn fwy effeithlon ac yn fwy cost-effeithiol na thros y rhwydwaith presennol.
 
Disgwylir y bydd llinellau cwsmeriaid yn y DU yn dechrau cael eu symud i 21CN yn ystod mis Tachwedd 2006. Bydd defnyddwyr preswyl a busnesau yng Nghaerdydd ymhlith y cyntaf yn y DU i gael eu cysylltu pan fydd BT yn symud tua 350,000 o linellau cwsmeriaid yn ardal y De.
 
Yn ôl BT, bydd 21CN yn cyflenwi gwasanaethau band eang a fydd yn cynnig cyflymder lawrlwytho hyd at 24Mbps wedi'i seilio ar dechnoleg ADSL2+ o fis Ionawr 2008 ymlaen. Er y bydd hyn yn cynyddu cyflenwad y gwasanaethau band eang ar led band uwch yng Nghymru, bydd y cyflymder a fydd ar gael i bob aelwyd yn dibynnu ar hyd eu dolen leol unigol nhw. Ar ben hynny, does dim disgwyl i 21CN gael ei gwblhau tan 2011 sy'n awgrymu na fydd llawer o aelwydydd yng Nghymru yn cael manteision y rhwydwaith newydd am beth amser.
 
 
 
Yn ystod mis Mai 2006, cyhoeddodd Grŵp Rhanddeiliaid Band Eang adroddiad ar ofynion aelwydydd y DU o safbwynt gofynion lled band yn y dyfodol. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad y bydd y galw am led band yn y dyfodol yn cael ei ddominyddu gan ffrydio fideo a throsglwyddo ffeiliau mawr a hefyd:
 
  • erbyn 2008, y gallai'r galw am led band ar yr aelwydydd dwysaf gyrraedd 18Mbps i lawrlwytho a 3Mbps i lwytho i fyny;
 
  • erbyn 2012, y gallai'r galw am led band ar yr aelwydydd mwyaf dwys gyrraedd 23Mbps i lawrlwytho a 14Mbps i lwytho i fyny.
 
Wrth ystyried hyd y dolenni lleol cyfartalog yn y DU a galluoedd technegol y technolegau DSL cyfredol, mae'n glir na fydd y technolegau yma'n gallu bodloni'r galw am led band ymhlith aelwydydd y DU sydd wedi'i amlinellu uchod. Gallai hyn awgrymu y bydd angen ystyried technolegau eraill i gyflwyno band eang yn y dyfodol. Er hynny, gallai ffactorau eraill, megis datblygiadau mewn technolegau cywasgu, effeithio ar y galw am led band a chaniatáu i DSL barhau'n ateb ymarferol yn hirach na'r disgwyl.

 

 


Casgliadau


 
Yng Nghymru, mae ymyriadau gan Lywodraeth y Cynulliad wedi sicrhau bod bron pob cyfnewidfa wedi'i galluogi ar gyfer ADSL ac, oherwydd hynny, bod band eang ar gael bellach i bron bob aelwyd yng Nghymru. Er hynny, er bod argaeledd y gwasanaethau band eang sylfaenol yng Nghymru ac yn y DU ymylith y gorau yn y byd, ar hyn o bryd mae Cymru'n dioddef argaeledd isel iawn o ran gwasanaethau'r 'ail genhedlaeth' ar led band uwch. Dim ond 33% o'r aelwydydd a allai gael gwasanaeth a oedd yn cynnig 8Mbps ym mis Mawrth 2006, a doedd yr un gwasanaeth a oedd yn cynnig lled band mwy na hynny ar gael yn fasnachol bryd hynny. Rhaid ystyried y sefyllfa yma yn ofalus er mwyn sicrhau na fydd aelwydydd Cymru o dan anfantais oherwydd y cyfyngiadau yma yn y rhwydweithiau.
 
Mae'r galw cynyddol am led band uwch a'r ffaith nad oes fawr o wasanaethau ar gael ar led band uwch yn dod yn faterion mwyfwy pwysig ym maes band eang. Amcangyfrifwyd y bydd y galw am led band yn cynyddu i lefelau uwchlaw'r hyn y gall technolegau cyfredol DSL eu bodloni yn y DU erbyn 2012 neu hyd yn oed mor gynnar â 2008. Ar ben hynny, mae yna dystiolaeth bod y galw am led band eisoes wedi mynd y tu hwnt i alluoedd DSL yn Ne Corea, lle mae'r defnyddwyr yn dewis atebion cyflymach ar ffurf cebl a ffibr yn lle eu cysylltiadau DSL.
 
Bydd 21CN BT yn golygu y bydd gwasanaethau ar gael yng Nghymru ar led band uwch, ond fydd y rhain ddim ar gael i Gymru gyfan tan 2011 a bydd yr union led band a fydd ar gael i aelwydydd unigol yn dibynnu ar hyd eu dolen leol unigol a chyfyngiadau technolegol eraill.
 
Fe allai rhagor o arloesi gan y diwydiant ysgogi rhagor o ddatblygiadau mewn band eang, megis cyflymder uwch a chymwysiadau arloesol. Er hynny, rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r bwlch cynyddol yn y gystadleuaeth seilwaith rhwng ardaloedd trefol a gwledig ac, i ryw raddau, rhwng Cymru a'r DU yn ei chrynswth. Mae gweithredwyr LLU yn parhau i ganolbwyntio'u hadnoddau nhw ar ardaloedd trefol dwys eu poblogaeth ac mae hynny'n arwain at fwlch yn y gwasanaethau sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig a threfol a hyd yn oed at wahaniaeth yng nghost y gwasanaethau rhwng yr ardaloedd hynny. Mae'n amlwg hefyd fod galluogi cyfnewidfeydd gan weithredwyr LLU yn tyfu'n gynt yn y DU yn ei chrynswth nag yng Nghymru, lle mae nifer cymharol gyfyngedig o gyfnewidfeydd wedi'u clustnodi i'w dadfwndelu a nifer fwy cyfyngedig byth wedi'i dadfwndelu yn barod. Oherwydd hyn, gall fod angen i Lywodraeth y Cynulliad ymyrryd mwy er mwyn sicrhau na fydd rhaniad digidol newydd yn codi yng Nghymru, lle bydd cyfran sylweddol o'r boblogaeth yn methu â defnyddio cymwysiadau sy'n gorfod cael band eang.
 
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod lefelau mabwysiadu band eang yn debyg i lefelau'r DU gyfan. Roedd gan ryw 43% o aelwydydd Cymru gysylltiad band eang ar ddiwedd mis Gorffennaf 2006, a oedd yn debyg i ffigurau'r DU gyfan. O'u hystyried yn nhermau'r boblogaeth, mae'r ffigurau yma yn gyfystyr â rhyw 20 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion.
 
Mae'n debyg y bydd amrediad cynyddol o ddyfeisiau cyrchu a sianeli cyfathrebu ar led band uchel yn peri y bydd band eang yn gyfleustod a fydd yn wirioneddol ar gael ym mhobman ac y bydd amrediad cynyddol o gymwysiadau, gwasanaethau a deunyddiau yn codi'r cyfraddau mabwysiadu i lefel newydd. Er hynny, mae'n debyg y bydd adran o'r boblogaeth a fydd yn parhau i lusgo y tu ôl o ran y cyfle i gysylltu â band eang a defnyddio band eang. Mae hyn yn debyg o fod yn wir oherwydd materion economaidd a materion llythrennedd cyfryngau. Mae'n bwysig deall bod yna adran o'r boblogaeth, yn ddefnyddwyr cartref ac yn ddefnyddwyr busnes, nad yw'n teimlo bod angen defnyddio band eang am nad ydyn nhw wedi'u haddysgu ynghylch y posibiliadau y mae'n eu cynnig. Oherwydd hynny, gall fod rhagor o le i Lywodraeth y Cynulliad godi ymwybyddiaeth yng Nghymru o'r materion llythrennedd cyfryngau yma er mwyn sicrhau bod manteision llawn y seilwaith band eang sydd ar gael yn cael eu gwireddu.
 
I gloi, mae marchnad band eang Cymru mewn safle da o'i chymharu â gweddill y DU gan ei bod yn gydradd o safbwynt y cyflenwad a'r niferoedd sy'n mabwysiadu band eang. Er hynny, mae gwaith arwyddocaol i'w wneud o hyd i sicrhau bod y sefyllfa yma'n parhau ac na fydd 'rhaniad digidol' newydd yn codi.

Cyfeiriadau


Analysys Consulting Limited (2006) Penetration of broadband technologies.
 
Analysys Consulting Limited (2006) Predicting UK Future Residential Bandwidth Requirements.
 
Analysys Consulting Limited (2006) Sophisticated broadband services.
 
Arsyllfa Band Eang Cymru (2006) Adroddiad Meincnodi Band Eang (Ch2) Ebrill-Mehefin 2006.
 
Arsyllfa Band Eang Cymru (2006) Adroddiad Meincnodi Band Eang (Ch1) Ionawr-Mawrth 2006.
 
Arsyllfa Band Eang Cymru (2006) Broadband Rollout and Affordability.
 
Y Comisiwn Ewropeaidd (2006) E-Communications Household Survey.
 
Cyngor Defnyddwyr Cymru (2006) Siopa ar y Rhyngrwyd yng Nghymru, Cyngor Defnyddwyr Cymru.
 
Deutschland Online (2006) Adroddiad Deutschland Online 3.
 
OECD (2006) Broadband Statistics to June 2006.
 
Ofcom (2006) The Communications Market – 2006.
 
Ofcom (2006) The Communications Market: Nations and Regions – Wales.
 
ORC (2006) Residents Report Wave 4.
 
Ovum (2006) International Broadband Market Comparisons Update – March 2006.
Ar gael yn
 
Ovum (2006) DU Broadband Status Report – March 2006.
 
Point Topic (2006) Broadband Analysis:Teleworking: Freelancers, Home SMEs and Employees at Home.
 
Point Topic (2006) Broadband User Study.
 
Sefydliad Ffonograffig Prydain (2006) Online Music and the UK Record Industry.
 
SYG (2006) Internet Access – Households and Individuals.
 
SYG (2006) Internet Connectivity.
[1] Mae'r gwaith cynllunio'n cynnwys: sicrhau'r caniatâd cynllunio perthnasol; cydgysylltu â'r Asiantaeth Briffyrdd; cydgysylltu â'r awdurdodau lleol; sicrhau bod gweithlu ar gael; archebu offer; cydgysylltu â gwneuthurwyr etc. Yn gyffredinol mae 6-8 wythnos o gynllunio'n cael ei wneud cyn unrhyw waith peiriannu mawr. 
[2] Mae'r prisiau'n cael eu trosi o'r arian lleol i US$ gan ddefnyddio'r gyfradd gyfnewid o'r un adeg â'r ffactorau PPP er mwyn sicrhau cysondeb.
[3] Ffigurau mis Gorffennaf 2006 yw'r ffigurau ar gyfer Cymru.
[4]* Amcangyfrifon rhagarweiniol yn bennaf yw data Mecsico a Sweden.
** Mae ystadegau'r OECD ar gyfer categori "Band eang arall" y Weriniaeth Tsiec yn cynnwys nifer fawr o gysylltiadau band eang diwifr sy'n cael eu darparu dros rwydweithiau ffonau symudol. Nid yw tanysgrifiadau band eang dros rwydweithiau 3G wedi'u cynnwys ar gyfer y gwledydd eraill ond cafodd eithriad ei wneud ar gyfer y Weriniaeth Tsiec am fod y cysylltiadau yn defnyddio offer "gosod" yn y cartref a'u bod yn cynnig cyflymderau o fwy na 256 kbps i'r defnyddwyr unigol. Mae'r farchnad Tsiec yn neilltuol oherwydd nifer uchel y cysylltiadau diwifr hynny fel canran o gyfanswm y cysylltiadau. Mae'n bwysig nodi bod yna ddadlau parhaus yn rhyngwladol ynghylch a ddylai'r math yma o gysylltiad diwifr (y ceir 188,000 ohonyn nhw yn y Weriniaeth Tsiec) gael ei gynnwys mewn cymariaethau rhyngwladol.
[5] Bach oedd y meintiau sylfaenol a dylid trin y ffigurau yma fel rhai dangosol yn unig
[6] Canran yr MBCh oedd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd
[7] Ffigurau mis Gorffennaf 2006 yw'r ffigurau ar gyfer Cymru.
 


 
 


 
Tabl 14 - Defnyddio cymwysiadau band eang ymhlith defnyddwyr, Analysys Consulting Limited, Ch4 2005  33